Agenda a Phenderfyniadau

Cyngor - Dydd Mercher, 12fed Ebrill, 2023 16:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

2.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o fuddiant personol a rhagfarnus gan Aelodau/Swyddogion yn unol â’r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

3.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 282 KB

Derbyn cofnodion 1/3/23 a 15/3/23 i'w cymeradwyo

 

 

Dogfennau ychwanegol:

4.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu'r sawl sy'n llywyddu)

(ii) Aelodau'r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

5.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

6.

Y Cynllun Llesiant ar gyfer Cwm Taf Morgannwg pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

Derbyn y cwestiynau canlynol gan:

Cwestiwn gan y Cyng Tim Wood i Aelod y Cabinet dros Adfywio

 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwario swm sylweddol o arian cyhoeddus, yn gyntaf yn cynnal ymgynghoriad ac yna'n llunio adroddiad ac wedyn cynnal proses ymchwilio i’r posibilrwydd o agor rhan fechan o Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr i draffig unwaith eto.

 

Yr ymgynghoriad hwn, yn ôl yn 2016, ysgogodd yr ymgysylltiad cyhoeddus mwyaf yn hanes y cyngor hwn ac roedd y cyhoedd yn frwd eu cefnogaeth i ail-agor canol y dref yn rhannol.

 

Fel y cyfryw, a wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio gytuno ein bod ni fel cyngor yma i wasanaethu’r cyhoedd, i fod yn stiwardiaid da o’r pwrs cyhoeddus a’n bod yma i galonogi a chynnal canol ein trefi, nid eu rhwystro?

 

Felly, a wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio roi manylion i mi am eu cynlluniau i wneud Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn hygyrch i bawb?

 

 

Cwestiwn gan y Cyng Alex Williams i Aelod y Cabinet dros y Cymunedau 

 

A wnaiff Aelod y Cabinet dros y Cymunedau ddatganiad am y cymorthdaliadau y mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn eu rhoi ar hyn o bryd i gefnogi'r llwybrau bysiau hynny a gafodd eu hystyried yn fasnachol anhyfyw; a wnaiff amlinellu pa ystyriaeth a roddwyd i leihau'r cymorthdaliadau hyn neu eu tynnu'n ôl yn llwyr; a pha ddadansoddiad gafodd ei wneud o’r hyn y byddai gostyngiad o'r fath, neu dynnu'r cymorthdaliadau yn ôl, yn ei olygu o bosibl i’r bobl yn y cymunedau oedd yn arfer derbyn llwybrau cymorthdaledig o’r blaen?

 

 

Cwestiwn gan y Cyng Tim Thomas i Aelod y Cabinet dros y Cymunedau

 

Beth mae Aelod y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod ffyrdd a phriffyrdd CBSP yn hygyrch i’r henoed a’r anabl?

 

 

Cwestiwn gan y Cyng Ian Williams i Aelod y Cabinet dros Adfywio

 

A wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am ba fesurau sy’n cael eu cymryd i adfer yr adeiladau adfeiliedig niferus yng nghanol ein tref a beth yw’r amserlen ar gyfer y gwaith adfer hwn?

8.

Eitemau brys

Ystyried unrhyw eitem(au) o fusnes y mae hysbysiad wedi’i roi yn ei gylch yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor ac y mae’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod o’r farn y dylai oherwydd amgylchiadau arbennig fod. a drafodwyd yn y cyfarfod fel mater o frys.