Agenda, decisions and minutes

Cyngor - Dydd Mercher, 21ain Mehefin, 2023 16:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB /remotely via Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

139.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd E Winstanley fuddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda, oherwydd bod Neuadd y Dref Maesteg yn cael ei gweithredu gan Ymddiriedolaeth Awen a hithau gyflogai i’r ymddiriedolaeth.

 

140.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 398 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 12/04/2023 a 17/05/2023

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                  Bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir:-

 

                                                  12 Ebrill 2023

                                                  17 Mai 2023

 

141.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Rhestrodd y Maer gyfres o ddigwyddiadau yr oedd wedi’u mynychu’n ddiweddar, gan gynnwys:

 

  • Sioe Ffasiwn Coleg Penybont           
  • G?yl y Lluoedd Arfog Pen-y-bont ar Ogwr:
  • G?yl Lenyddiaeth i Blant - Magic Gareth, Y Pafiliwn Mawr (Esplanade Avenue, Porthcawl, Cymru, CF36 3YW)
  • Gwobrau Arwr Tawel Pen-y-bont ar Ogwr 2023, ddydd Gwener 2 Mehefin yng Ngwesty Heronston   
  • Garddwest Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr
  • Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, 87 Stryd y Parc, CF31 4AZ.
  • Gwobrau Stêm Coleg Pencoed ddydd Iau 8 Mehefin
  • Cwis Sirol Diwrnod y Llyfr Llyfrgelloedd, Y Pafiliwn Mawr, Porthcawl, ar ran Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ddydd Mercher 14 Mehefin

 

Tynnodd sylw hefyd at ddigwyddiad Cymdeithas Cyn-filwyr y Pîl a Mynydd Cynffig a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, 10 Mehefin 2023 ym mhencadlys y gymdeithas yng Nghlwb y Lleng Brydeinig Frenhinol yn y Pîl, yn ogystal â’r gwahoddiad iddo fynd i Sul Dinesig y Maer a gynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd ddydd Sul 11 Mehefin.

 

Yn olaf, dywedodd y Maer fod Sarah Murphy, yr Arweinydd, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, cydweithwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cydweithwyr CCD, Llywodraethwyr, aelodau PFA, cynrychiolwyr Cadwch Gymru’n Daclus a gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen at gael eu gwahodd i Seremoni Agoriadol Ysgol Gerddi Cefn Glas, gan dynnu sylw at y grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sydd wedi helpu i wneud y tir hyd yn oed yn fwy ‘hardd yn fwriadol’. Yn ddiweddar, mae’r Ysgol wedi ennill ‘Gwobr Arloesedd Eco Sgolion’ yng Ngwobrau ‘Cymru Daclus’. 

 

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd ei bod yn anrhydedd iddi gynrychioli pob un o’r 22 awdurdod lleol yn y Senedd ddoe. Roedd hyn ar gyfer lansio’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol neu’r hyn sydd bellach yn cael ei alw y Ffordd Gymreig. Bydd hyn yn cryfhau cyfraniad ein gweithlu a’n hundebau llafur. Byddai hyn hefyd yn caniatáu i gymunedau fod wrth galon yr hyn a wnawn, er mwyn hyrwyddo lles ein cymunedau.

 

Cafodd y Gwobrau Cydnabod Maethu cyntaf eu cynnal yn ddiweddar, gan nodi pythefnos Gofal Maeth, a dod ag awdurdodau lleol ynghyd â Thimau Maethu’r Cyngor, i ddathlu eu holl waith caled a’u hymrwymiad sy’n rhoi cychwyn buddiol mewn bywyd i bobl ifanc.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd yn fawr iawn i ofalwyr a oedd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ac wedi gwella ansawdd bywyd y rhai mewn gofal yn fawr, drwy eu gwaith diflino mewn cymunedau.

 

Aelod Cabinet - Tai, Cynllunio ac Adfywio

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio ddiweddariad cryno i’r Aelodau ar y datblygiadau diweddaraf gyda’r rhaglen adfywio ym Mhorthcawl. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr amddiffynfeydd môr newydd, yn ogystal â’r datblygiad Cosy Corner newydd sy’n cynnwys ardal chwarae newydd ar lan y môr.

 

Aelod Cabinet - Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

 

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar agor yn awr ynghylch cynlluniau ar gyfer sut y gellid mynd i’r afael â phobl anghyfrifol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 141.

142.

I dderbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad am dref antur gwerth £250 miliwn yng Nghastell-nedd Port Talbot yng Nghwm Afan uchaf sydd ar y ffin â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar gyrion cwm Llynfi uchaf. Bwriad y cynllun yw sbarduno ton newydd o gyflogaeth a thwristiaeth yn y cymoedd, ac mae gwaith mawr yn cael ei wneud i baratoi’r safle, a bydd tua £20 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn y prosiect erbyn hydref 2023.

 

Rhoddodd yr Arweinydd y wybodaeth ddiweddaraf am gau llwybrau troed dros dro a fyddai’n ofynnol, yr ymgysylltu â thrigolion lleol a oedd wedi digwydd yn ogystal â’r cyfleoedd cyflogaeth a fyddai’n cael eu creu yn sgil y datblygiad.

 

Trefnir cyfarfod safle gyda holl Aelodau Cwm Llynfi, Aelodau Cwm Afan a Wildfox Resorts, ac mae aelodau Caerau wedi cael eu gwahodd fel yr aelodau lleol i fforwm rhanddeiliaid chwarterol newydd.

 

Rhoddodd yr Arweinydd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd am y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau, sydd wedi cael ei datblygu fel rhan o gydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a’r diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus.  Mae’r gronfa’n darparu cymorth ariannol ar unwaith i gwmnïau bysiau yng Nghymru fel bod gwasanaethau hanfodol wedi gallu parhau.

 

Mae cynlluniau’n cael eu hadolygu wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu model cyllido cynaliadwy tymor hwy sy’n pontio’r bwlch rhwng masnachfreinio gwasanaethau.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y digwyddiad diweddar pan blymiodd awyren ysgafn i ddyfroedd bas dim ond 50 llath oddi ar Draeth Tref Porthcawl yn ogystal â’r darnau mawr o dir yn Nyffryn Garw a ddinistriwyd gan danau gwyllt, gan gydnabod a diolch i’r gwahanol wasanaethau brys a oedd wedi ymateb yn gyflym yn y ddau achos.

 

Yn olaf, tynnodd yr Arweinydd sylw at natur fwriadol y tân gwyllt a natur dros 400 o rai eraill, a soniodd am y gwaith roedd yr Awdurdod Lleol yn ei wneud ochr yn ochr â Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn annog trigolion i roi gwybod am unrhyw weithgarwch amheus i Crimestoppers ar 0800 555 111, ac i ddilyn rheolau syml iawn sydd wedi’u cynllunio i gadw pawb yn ddiogel drwy osgoi tanau damweiniol.

 

143.

Cyflwyniad gan Brif Gomisiynydd Heddlu De Cymru pdf eicon PDF 106 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn cyflwyno Prif Gomisiynydd Heddlu De Cymru, Alun Michael a’r Dirprwy Gomisiynydd, Emma Wools, i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar waith yr Heddlu, gan gynnwys rhai cynlluniau newydd.

 

Rhoddodd y Prif Gomisiynydd gyflwyniad a chyfeiriodd at y Cynllun Heddlu a Throseddu a gyflwynwyd nifer o flynyddoedd yn ôl ac sydd wedi cael ei ddatblygu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers hynny. Roedd hyn yn adlewyrchu’r hyn roedd yr Heddlu’n ei gael o ran adborth gan y cyhoedd a Chynghorwyr lleol, a sut roedd Heddlu De Cymru yn bwriadu ymateb i newid.

 

Pwysleisiodd fod gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth galon gwaith yr Heddlu. Ychwanegodd fod hyder mewn plismona wedi dod yn broblem yn ddiweddar, yn dilyn digwyddiadau yn yr Heddlu Metropolitanaidd, a oedd wedi taflu cysgod tywyll dros blismona yn gyffredinol. Fodd bynnag, roedd yn dymuno gwneud y pwynt bod gan Heddlu De Cymru enw gwahanol o ran diogelu’r cyhoedd ar lefel uchel.

 

Roedd am dynnu sylw at y ffaith bod lefelau troseddu yn yr ardal wedi gostwng, a bod y rhain yn cymharu’n ffafriol ar lefel Cymru gyfan.

 

Yn y cyflwyniad heddiw, byddai’r Dirprwy Gomisiynydd ac yntau yn rhoi cipolwg ar 3 prif agwedd ar waith, sef Plismona yn y Gymdogaeth, gyda chyllid gan y Llywodraeth Ganolog ar gyfer rhagor o Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, nifer ohonynt wedi cael eu dyrchafu i fod yn Gwnstabliaid yr Heddlu gan fod cyllid ychwanegol wedi’i roi ar gyfer y swyddi hyn. Hefyd, byddai pynciau trafod yn ymwneud â Thrais yn erbyn Menywod, gan gynnwys trais rhywiol, a gwaith yn mynd rhagddo i leihau Hiliaeth.

 

Yna, rhannodd y Dirprwy Gomisiynydd rai sleidiau â’r Aelodau a oedd yn rhoi sylw i’r meysydd uchod o waith parhaus yr Heddlu, ac ar ôl hynny gwahoddodd y Maer gwestiynau gan Aelodau.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd ei bod yn falch o weld y camau a gymerwyd mewn perthynas â Thrais yn y Cartref yn erbyn menywod yn benodol, a bod profiadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio i lunio polisïau, ond gofynnodd am rywfaint o eglurhad ynghylch sut roedd hyn yn cael ei rhoi ar waith. Gofynnodd hefyd a fyddai Dangosyddion Perfformiad yn cael eu rhoi ar waith i fesur llwyddiant y gwaith hwn. Gofynnodd hefyd a allai hi gael sicrwydd ynghylch sut roedd yr Heddlu’n mynd ati i ddelio ag unrhyw atgyfeiriadau a wnaed iddynt mewn perthynas â lles pobl ifanc. Dywedodd hefyd, os oedd llawer o droseddwyr mynych yn aildroseddu, onid oedd hyn yn adlewyrchu bod y prosesau a oedd ar waith ddim mor effeithiol ag y dylent fod.

 

O ran aildroseddu, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fod troseddwyr mynych yn cael eu haddysgu drwy waith Asiantaeth, hynny yw, gyda phartneriaid yn ogystal ag ymwneud drwy nifer o gyrff Cyfiawnder Troseddol allweddol, gan weithio ar hyn a phrofiadau uniongyrchol. Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu nad oedd materion fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 143.

144.

Alldro Cyllideb Refeniw 2022-23 pdf eicon PDF 407 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor am berfformiad ariannol refeniw’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023.

 

Dywedodd fod y Cyngor, ym mis Chwefror 2022, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £319.5m ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-2023. Oherwydd addasiad technegol yn y setliad terfynol, cafodd setliad y Cyngor ei gynyddu £4,336 a rhoddwyd gwybod i’r Cyngor am hyn ar 9 Mawrth 2022. 

 

Cafodd y sefyllfa alldro derfynol ar gyfer 2022/2023 ei dangos yn Nhabl 1 yr adroddiad. Yr alldro cyffredinol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf yw tanwariant net o £2.057m, ac mae hwn wedi cael ei ddefnyddio i ategu’r cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi, yn bennaf i ategu’r gronfa costau byw ar gyfer pwysau y gwyddom amdanyn nhw yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae’r tanwariant yn fach o’i gymharu â’r gyllideb net gyffredinol (0.6%) ar gyfer 2022/2023, ac felly ni wnaed unrhyw drosglwyddiadau i gronfa’r cyngor.

 

O fewn y sefyllfa alldro, roedd cyllidebau cyfarwyddiaethau wedi gorwario swm net o £8.2 miliwn ond roedd tanwariant net o £9.5 miliwn yng nghyllidebau’r cyngor cyfan. Mae’r sefyllfa alldro hefyd yn ystyried yr incwm ychwanegol o’r dreth gyngor a gasglwyd dros y gyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Roedd blwyddyn ariannol 2022/23 yn un anodd i’r Cyngor yn ôl y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid. Roedd y tanwariant cyffredinol yng nghyllideb y cyngor yn cuddio’n sylweddol y pwysau sylfaenol ar y gyllideb a gofnodwyd yn ystod y flwyddyn. Mae’r prif bwysau ariannol ym meysydd gwasanaeth gwasanaethau cymdeithasol a lles, digartrefedd, a chludiant rhwng y cartref a’r ysgol.

 

Yn ystod 2022-2023 gwelodd y gwasanaethau cymdeithasol bwysau sylweddol i gyflawni dyletswyddau statudol yn erbyn cynnydd cyflym yn y galw am ofal cymdeithasol i blant a chynnydd yn nifer y lleoliadau preswyl annibynnol mewn gwasanaethau plant, ochr yn ochr â phwysau mewn anableddau dysgu a lleoliadau preswyl i bobl h?n. Bydd angen i’r cyngor roi ystyriaeth bellach i’r adnoddau cynaliadwy sydd eu hangen yn benodol mewn gwasanaethau plant i wella ansawdd y canlyniadau i blant a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae’r cyngor wedi gweld cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth llety dros dro i gefnogi unigolion sy’n ddigartref. Cafodd gyllid grant gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf i gefnogi’r gwasanaeth hwn, ond roedd £2.5m o hyn yn swm a oedd ond yn cael ei roi unwaith. Mae hwn yn wasanaeth arall lle bydd angen monitro ariannol gofalus yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

Ar ben hynny, roedd yn rhaid i’r cyngor fynd i’r afael â phwysau cyllido yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf mewn perthynas â chostau cyflogau a phrisiau na ragwelwyd yn gynharach yn y flwyddyn. Cafodd aelodau etholedig eu briffio ar y pwysau yn ystod y flwyddyn yn ystod tymor yr hydref y llynedd. Mae’r pwysau hyn yn debygol o barhau yn y flwyddyn gyfredol ac felly mae arian wedi cael ei gario ymlaen i gwrdd â’r pwysau hynny.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 144.

145.

Alldro Rhaglen Gyfalaf 2022-23 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am sefyllfa alldro cyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-2023 ac i nodi’r dangosyddion Darbodus a dangosyddion Eraill gwirioneddol ar gyfer 2022/2023.

 

Dywedodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo cyllideb gyfalaf o £69.9m ar gyfer 2022/23 ar 23 Chwefror 2023 fel rhan o’r rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2022/23 i 2031/32. Mae’r rhaglen hon wedi cael ei diwygio a’i chymeradwyo gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn, ac roedd cyfanswm y rhaglen a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2023 yn £58.4m.

 

Roedd y rhaglen i gael ei chyflawni gyda £21.8m o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys defnyddio derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi, a benthyciadau. Byddai balans o £36.5m yn cael ei gyllido o ffynonellau allanol.

Nodwyd manylion y cynlluniau unigol a oedd yn dangos y gyllideb a oedd ar gael y llynedd o’i gymharu â’r gwariant gwirioneddol yn Atodiad A yr adroddiad. Ers i’r adroddiad diwethaf gael ei ystyried gan yr aelodau ym mis Mawrth 2023, gwnaed rhai mân newidiadau i’r rhaglen a nodwyd y rhain ym mharagraff 3.1.2 yr adroddiad. Felly, esboniodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid mai’r gyllideb ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 oedd £58.76m.

 

Cyfanswm y gwariant cyfalaf yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf oedd £29.2m, ac ar ôl llithriant o £27.9m yn 2023/24 a rhai addasiadau i gynlluniau a ariennir gan grantiau, roedd hyn yn golygu tanwariant o £795,000.

 

Esboniodd fod llithriant wedi digwydd am nifer o resymau, gan gynnwys oedi cyn dechrau prosiectau er mwyn gallu cwblhau gwaith arolygu manylach, materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi, a thrafodaethau gyda chyllidwyr allanol. Cafodd aelodau wybod am y materion hyn yn ystod y flwyddyn. Rhoddwyd manylion y prif feysydd lle gwelwyd llithriant i’r Cyngor ym mharagraff 3.1.4 yr adroddiad.

Bydd y rhan fwyaf o’r tanwariant yn cael ei ddychwelyd i ddarpariaeth cyllid cyfalaf y Cyngor i gyfrannu at gynlluniau cyfalaf yn y dyfodol, ychwanegodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Strategaeth Cyfalaf yn rhoi trosolwg o sut mae gwariant cyfalaf, cyllid cyfalaf a gweithgarwch rheoli’r trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau, ynghyd â throsolwg o sut mae risg gysylltiedig yn cael ei rheoli, a’r goblygiadau ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau ein bod yn monitro hyn, cafodd nifer o ddangosyddion darbodus eu cynnwys yn y Strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor. Yn unol â gofynion y Cod Materion Ariannol ar gyfer Cyllid Cyfalaf, mae’n ofynnol i’r Cyngor sefydlu gweithdrefnau i fonitro perfformiad yn erbyn yr holl ddangosyddion sy’n edrych tua’r dyfodol a’r gofynion a nodir.

 

Daeth i ben drwy nodi bod Atodiad B yr adroddiad yn manylu ar y gwir ddangosyddion ar gyfer 2022/2023 ar sail alldro’r rhaglen gyfalaf. Roedd y rhain yn cadarnhau bod y cyngor yn gweithredu yn unol â'r dangosyddion cymeradwy.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 80 yr adroddiad a’r £1.115m o Gronfa Ffyniant  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 145.

146.

Alldro Rheoli’r Trysorlys 2022-23 pdf eicon PDF 521 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a’i bwrpas yw cydymffurfio â gofyniad Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, i ddarparu trosolwg o weithgareddau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac adrodd ar Ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23.

 

Dywedodd mai gwaith Rheoli’r Trysorlys yw rheoli llifoedd arian, benthyciadau a buddsoddiadau’r cyngor, a’i risgiau cysylltiedig. Mae’r Cyngor yn agored i risg ariannol ac felly mae adnabod, monitro a rheoli’r risg honno’n llwyddiannus yn ganolog i reolaeth ariannol ddarbodus y Cyngor.

 

Cadarnhaodd fod strategaeth rheoli’r trysorlys ar gyfer 2022/2023 wedi’i chymeradwyo gan y Cyngor ar 23 Chwefror y llynedd.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cyd-destun economaidd a oedd yn sail i weithgarwch Rheoli’r Trysorlys y llynedd. Roedd y materion yn cynnwys:

 

  • Y rhyfel yn Wcráin a oedd yn cadw cyfraddau chwyddiant byd-eang yn uchel;
  • Roedd y cefndir economaidd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 wedi’i nodweddu gan brisiau ynni a nwyddau uchel, chwyddiant uchel sydd wedi effeithio ar wariant a chyllidebau aelwydydd. Cododd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr i 10.1% yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2023;
  • Codwyd cyfraddau llog ar sawl achlysur yn ystod y flwyddyn er mwyn ceisio lleihau chwyddiant. Ar ddechrau’r flwyddyn roedd cyfraddau banc ar 0.75% gan gynyddu 8 gwaith yn ystod y flwyddyn i 4.25%, ar 31 Mawrth 2023.

 

Mae gweithgarwch Rheoli’r Trysorlys y Cyngor yn cael ei gyflawni yn unol â gofynion Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth , a chafodd ein gweithgarwch Rheoli’r Trysorlys eu hadrodd i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, y Cabinet a'r Cyngor drwy gydol 2022/2023.

 

Dangoswyd crynodeb o weithgareddau Rheoli’r Trysorlys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn Atodiad A yr adroddiad, ac roedd Tabl 1 yn yr adroddiad yn crynhoi sefyllfa’r Cyngor o ran Dyledion a Buddsoddiadau Allanol.

 

Felly, yn gryno, esboniodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid:

 

           Na chymerwyd dyledion hirdymor yn ystod y flwyddyn;

           Ni ailstrwythurwyd telerau unrhyw ddyledion yn ystod y flwyddyn gan nad oedd unrhyw fudd ariannol i’r Cyngor wrth wneud hyn. Byddai hyn yn cael ei adolygu yn ystod y flwyddyn gyfredol;

          Bu cynnydd bychan yn nifer y benthyciadau di-log Salix sydd gan y Cyngor;

           Cyfanswm gwerth y benthyciadau allanol y mae'r Cyngor yn ei reoli oedd £99.93m ar ddiwedd mis Mawrth 2023;.

           Roedd balans y buddsoddiadau ar ddiwedd y flwyddyn yn £74.5m, sy’n ostyngiad o £10 miliwn o’i gymharu â mis Mawrth 2022;

           Mae’r incwm sy’n cael ei ennill drwy’r buddsoddiadau’n cynyddu wrth i’r gyfradd sylfaenol gynyddu.

 

Wrth fuddsoddi arian y Cyngor, rhoddir sylw dyladwy i sicrhau diogelwch a hylifedd y buddsoddiadau cyn ceisio’r gyfradd enillion uchaf.

 

Yn olaf, eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod Cod Rheoli’r Trysorlys yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor osod ac adrodd ar nifer o ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys. Roedd y dangosyddion naill ai’n crynhoi’r gweithgarwch disgwyliedig neu’n cyflwyno terfynau ar y gweithgarwch hwnnw. Roedd Atodiad A yr adroddiad yn dangos manylion yr amcangyfrifon ar gyfer 2022/23 a nodwyd yn Strategaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 146.

147.

Deddf Trwyddedu 2003 - Cymeradwyo cyhoeddi Asesiad Effaith Gronnol - canol tref Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir adroddiad, yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo cyhoeddi Asesiad Effaith Gronnol ar gyfer Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Adroddwyd ar y mater hwn i’r Cabinet i’w nodi ar 20 Mehefin 2023.

 

Yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr 2019, cymeradwyodd y Cyngor gyhoeddi Asesiad Effaith Gronnol ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr i lywio’r broses o wneud penderfyniadau yn Natganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor.  Daeth yr Asesiad i ben ym mis Rhagfyr 2022.

 

Mae effaith cyhoeddi’r asesiad yn bwysig, ac mae’n ei gwneud yn glir i ddarpar ymgeiswyr fod yr awdurdod trwyddedu o’r farn bod nifer y lleoliadau mewn ardal benodol yn golygu ei bod yn debygol y byddai rhoi trwyddedau pellach yn anghyson â dyletswydd yr awdurdod i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. 

 

Cafodd copi o’r asesiad ar gyfer 2019 i 2022 ei atodi yn Atodiad A yr adroddiad.  Dechreuodd adolygiad yn 2022 ac mae Heddlu De Cymru wedi gofyn bod yr asesiad yn aros ar ei ffurf bresennol, ac mae’r manylion wedi’u hatodi yn Atodiad B. Mae enwau’r lleoliadau wedi cael eu tynnu o’r Atodiad hwn.

 

Dechreuodd adolygiad yn dilyn cais gan Heddlu De Cymru.  Roedd yn cynnwys ymgynghoriad statudol yn unol ag Adran 5 Deddf Trwyddedu 2003 ac ymgynghoriad cyhoeddus.  Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 14 Rhagfyr 2022 a 8 Mawrth 2023.  Pwrpas yr ymgynghoriad oedd casglu tystiolaeth ar y problemau a geir er mwyn llywio’r broses o fabwysiadu’r asesiad effaith gronnol ar gyfer y cyfnod nesaf o dair blynedd.  Gan fod gan yr asesiad y potensial i atal unrhyw eiddo trwyddedig newydd mewn ardal, rhaid i’r Cyngor nodi’r sail dystiolaethol dros fabwysiadu polisi o’r fath.  Rhaid iddo fod yn fodlon bod nifer yr eiddo trwyddedig yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyrraedd pwynt mor gritigol y byddai rhoi trwyddedau pellach yn anghyson â dyletswydd yr awdurdod i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu.  

 

Ar hyn o bryd mae’r asesiad yn berthnasol i’r strydoedd canlynol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr

 

           Stryd y Farchnad;

           Heol y Dderwen;

           Stryd Wyndham;

           Stryd Nolton (o’i chyffordd â Heol Ewenni, i’w chyffordd â Heol Merthyr Mawr, ond nid yr ardal rhwng Heol Merthyr Mawr a’r gyffordd â Heol y Llys Pen-y-bont ar Ogwr).

 

Roedd Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod cynnydd o 34% mewn troseddu ac anhrefn yn ystod cyfnod economi’r nos yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dylai fformat yr asesiad gynnig tystiolaeth, gan nodi’r ystadegau a’r dystiolaeth o’r problemau drwy ymgynghori lleol.   Cafodd asesiad drafft ei atodi yn Atodiad C yr adroddiad.  Roedd hyn yn cynnwys data Heddlu De Cymru a oedd yn cynnwys troseddau a gofnodwyd yn yr ardal, a digwyddiadau yn yr ardal.

 

Gofynnodd Aelod sut roedd yr Awdurdod Trwyddedu wedi sicrhau bod deiliaid trwyddedau mewn safleoedd yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir fod hyn yn cael ei fonitro drwy archwiliad gan Swyddogion Gorfodi’r Cyngor ar y cyd â thîm Gorfodaeth Heddlu De Cymru.

 

Gofynnodd Aelod a oedd gan staff Rheoli Drysau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 147.

148.

Adolygiad o Drefniadau Cymunedol pob Cyngor Tref a Chymuned pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad er mwyn ceisio cytundeb y Cyngor i gymeradwyo’r Cylch Gorchwyl ar gyfer adolygu Trefniadau Cymunedol yr holl Gynghorau Tref a Chymuned yn ardal Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, a sefydlu Panel Aelodau i oruchwylio’r adolygiad.

 

I roi cefndir, dywedodd fod yr adolygiad Cymunedol llawn diwethaf wedi’i gwblhau’n derfynol yn 2009 ac y byddai fel arfer yn dilyn cylch 10 mlynedd. Roedd yr oedi cyn cwblhau Adolygiad Etholiadol Pen-y-bont ar Ogwr a’r pandemig wedi golygu nad oedd digon o amser i gynnal adolygiad llawn mewn pryd ar gyfer yr Etholiadau Lleol ym mis Mai 2022, er bod adolygiadau wedi cael eu cynnal mewn tri lleoliad yn y Fwrdeistref Sirol cyn y dyddiad hwn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y gall adolygiad ystyried un neu fwy o’r opsiynau canlynol:

 

           creu, uno, newid neu ddiddymu cymunedau;

           enwi cymunedau ac arddull cymunedau newydd a chreu cynghorau tref;

           y trefniadau etholiadol ar gyfer cymunedau (er enghraifft, maint y cyngor; nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol i’r cyngor, a wardiau cymunedol);

           grwpio cymunedau o dan gyngor cymuned cyffredin neu ddad-grwpio cymunedau

 

Er nad yw cael Cylch Gorchwyl ar gyfer yr adolygiad yn ofyniad statudol, mae’n sicr yn arfer gorau. Byddai hyn yn nodi cwmpas yr adolygiad, ac yn cynnwys amserlen ar gyfer cynnal yr adolygiad, gan gynnwys dyddiadau ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd.  Cafodd y Cylch Gorchwyl arfaethedig ei atodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Wrth i’r Cyngor fabwysiadu’r Cylch Gorchwyl, bydd hyn yn dechrau’r adolygiad. Pe byddai’r Cyngor yn dewis derbyn argymhellion terfynol yr adolygiad, ar ôl ymgynghori â’r cyhoedd, byddai angen cyflwyno’r argymhellion i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a fydd, yn dilyn cyfnod terfynol o 6 wythnos ar gyfer sylwadau, yn paratoi Gorchymyn i weithredu’r newidiadau.

 

Cynigiwyd bod y Cyngor yn gofyn i Arweinwyr Gr?p bennu pa Aelodau i eistedd ar y Panel, gyda’r Panel yn cynnwys 9 Aelod (5 Aelod Llafur a 4 Aelod o’r Wrthblaid), gan gynnwys cynrychiolaeth o’r 4 tref a’r 3 chwm. Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei fod yn gobeithio y byddai’r Panel yn gytbwys yn wleidyddol ac o ran rhyw, cyn belled ag y bo modd.

 

Daeth ei gyflwyniad i ben drwy gadarnhau y bydd unrhyw newidiadau i drefniadau cymunedau yn dod i rym yn yr etholiadau Tref a Chymuned nesaf ym mis Mai 2027.

 

Gofynnodd yr aelodau nifer o gwestiynau, a rhoddwyd ymateb iddynt gan y Prif Weithredwr a/neu Reolwr y Gr?p – Cymorth Busnes, ac ar ôl hynny,

 

PENDERFYNWYD:                             Bod y Cyngor yn cytuno i:

 

(1)   Mabwysiadu Cylch Gorchwyl ar gyfer Adolygiad o Drefniadau Cymunedol pob Cyngor Tref a Chymuned yn ardal Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

 

(2)   Sefydlu Panel Aelodau’r Adolygiad Cymunedol i adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad a chytuno ar y cynigion drafft a’r cynigion terfynol ar gyfer unrhyw newidiadau. Bydd y Panel Aelodau yn cyflwyno eu hargymhellion i’r Cyngor eu cymeradwyo’n derfynol.

 

(3)   Dirprwyo’r dasg o bennu aelodau’r Panel i’r Arweinwyr Gr?p.

 

149.

I dderbyn y Cwestiynau canlynol gan:

Cyng Eugene Caparros i’r Arweinydd

 

Rwyf yn deall bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth fydd yn newid y terfyn cyflymder arferol o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adeiledig o’r 17eg o Fedi eleni. Er bod yr aelodau wedi derbyn gwybodaeth am hyn ym mis Mawrth eleni, a oes modd i chi amlinellu’r cynnydd hyd yma yn CBSP, os gwelwch yn dda, sut dderbyniad gafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ac a fyddwn yn barod ar gyfer cyflwyno’r ddeddfwriaeth ym Mhen-y-bont ym mis Medi?

 

 

Cyng Tim Thomas i'r Arweinydd

 

A wnaiff yr Arweinydd amlinellu’n gryno ei gynigion polisi i fabwysiadu ‘trefi 15 munudyn y Fwrdeistref Sirol?

 

 

Cyng Maxine Lewis i'r Aelod Cabinet - Tai, Cynllunio ac Adfywio

 

Bleydym ni o ran datblygu Strategaeth Adfywio'r Cymoedd, fel y'i nodir yn y cynllun corfforaethol newydd.

 

 

Cyng Ian Williams i Aelod y Cabinet – Diogelwch Cymunedol a Lles

 

A all Aelod y Cabinet roi rhyw syniad imi, os gwelwch yn dda, ynghylch y ddarpariaeth sy’n cael ei gwneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer cyfleusterau chwarae awyr agored a hamdden i blant h?n yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr a phryd? Mewn cyfarfod fis Rhagfyr y llynedd cytunwyd i ddarparu man chwarae yng Nghaeau Trecelyn ar gyfer plant h?n ond mewn e-bost diweddar dywedwyd wrthyf nad oedd hyn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ond y gallai fod yn ddewis yn y dyfodol.

 

A gaf i ofyn felly pryd y bydd y ddarpariaeth bwysig hon yn digwydd?

 

 

Cyng Mark John i'r Aelod Cabinet - Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

 

A gaf i adroddiad cynnydd ar Rwydwaith Gwres Pen-y-bont ar Ogwr.

Cofnodion:

Y Cynghorydd E Caparros i’r Arweinydd

 

Rwy’n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn newid y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adeiledig o 17 Medi eleni ymlaen.  Er bod yr Aelodau wedi cael gwybodaeth am hyn ym mis Mawrth eleni, a allech amlinellu’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sut groeso a gafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus, ac a fyddwn yn barod i gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Medi?

 

Ymateb

 

Mae adran Rheoli Traffig yr awdurdodau wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynhyrchu mapiau sy’n rhoi manylion am ffyrdd a fyddai’n cydymffurfio â Chynllun Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r ffyrdd hynny y gellid eu hystyried fel eithriad i’r broses gyflwyno gyffredinol.

 

Mae modd gweld y mapiau ar wefan Map Data Cymru:

https://mapdata.llyw.cymru/maps/roads-affected-by-changes-to-the-speed-limit-on-re/view#/

 

Er mwyn paratoi ar gyfer y newidiadau i’r terfyn cyflymder, mae’n rhaid prynu cannoedd o arwyddion a’u codi cyn y newid, a bydd angen eu cuddio tan y dyddiad newid cyflymder.

 

Yn ogystal ag arwyddion terfyn cyflymder newydd, bydd arwyddion newydd hefyd mewn perthynas ag ardaloedd lle mae traffig wedi’i dawelu ac ardaloedd lle bydd y terfyn o 30mya yn aros. Yn ogystal â’r oddeutu 1,400 o arwyddion i’w codi, mae hefyd angen tynnu nifer debyg o arwyddion a marciau ffordd sy’n bodoli ar hyn o bryd. Bydd yn rhaid i hyn ddigwydd ar 17 Medi 2023 neu’n fuan ar ôl hynny.

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddylunio arwyddion i leoliadau newydd a chytuno ar leoliadau felly bydd aelodau a’r cyhoedd yn gweld pyst yn cael eu gosod ac arwyddion yn cael eu codi ond eu bod yn cael eu gorchuddio tan y dyddiad hwnnw.

 

Wrth ddefnyddio canllawiau Llywodraeth Cymru ar eithriadau i’r terfyn diofyn o 20mya, nodir lleoliadau sy’n bodloni’r meini prawf eithrio ac sy’n gwella diogelwch ar y ffyrdd. Mae’r ymgysylltu cychwynnol yn awgrymu bod cefnogaeth i gynigion ar gyfer ffyrdd sy’n bodloni’r meini prawf eithrio yn ogystal ag awgrymu mân newidiadau i’r cynigion gwreiddiol.  Ar wahân i’r eithriadau, bydd angen dilyn proses statudol er mwyn dirymu gorchmynion traffig penodol a gorfodi’r terfyn diofyn newydd o 20mya ar ffyrdd.

 

Er mwyn symud yr eithriadau a’r dirymu i’r cam ymgynghori statudol, mae data’n cael ei gasglu sy’n ofynnol er mwyn i’r adran gyfreithiol ddechrau’r broses o wneud Gorchmynion Traffig gan fod y lleoliadau penodol yn cael eu mesur ar yr amod bod safleoedd addas yn cael eu nodi ar gyfer lleoli arwyddion priffyrdd.

 

Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn 17 Medi pan fydd y newid yn digwydd. Fodd bynnag, oherwydd bod miloedd o arwyddion dan sylw, rhagwelir y bydd gwaith yn mynd rhagddo ar ôl y dyddiad hwnnw, a newidiadau’n bosibl yn amodol ar sut mae’r cynigion yn gweithio’n ymarferol.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Caparros

 

Mae’r newid arfaethedig i’r terfynau cyflymder wedi bod yn bwnc llosg ar y cyfryngau cymdeithasol. Roeddwn yn croesawu ymgynghoriad ar-lein  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 149.

150.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.