Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Y Cabinet Dros Faterion Rhieni Corfforaethol - Dydd Mercher, 11eg Gorffennaf, 2018 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman  Business Administrative Apprentice

Eitemau
Rhif Eitem

172.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr HJ David, CE Smith ac RE Young

173.

Datgan buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

174.

Cymeradwyo’r cofnodion pdf eicon PDF 68 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/04/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod Pwyllgor y Cabinet dros faterion Rhieni Corfforaethol a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2018 fel cofnod cywir.     

 

175.

Arolygiad o’r Gwasanaethau Plant – Cynllun Gweithredu pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu’n gysylltiedig ag Arolygiad o’r gwasanaethau plant a gynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru fis Mehefin 2017. Soniodd hefyd am y cynnydd a wnaed i roi’r argymhellion ar waith ac i fonitro unrhyw gamau nad oeddent wedi’u cwblhau. Hwn oedd yr adroddiad diweddaru y cytunodd i’w gyflwyno bob chwe mis ar ôl trafod yr adroddiad ym mis Ionawr 2018.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles grynodeb o’r casgliadau ac eglurodd fod y tîm Cymorth Cynnar a’r Bwrdd Diogelu yn monitro’r Cynllun Gweithredu. Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymorth i Deuluoedd yn cyd-gadeirio’r Bwrdd. Cynhaliwyd yr Arolygiad hwn flwyddyn yn ôl ac mae cynnydd da wedi’i wneud, ond roedd rhai meysydd yr oedd angen eu gwella.    

 

Nododd un aelod fod y rhan fwyaf o’r camau gweithredu’n wyrdd, ac roedd rhai yn felyn, a gofynnodd a oedd unrhyw beth na fyddai’n debygol o gael ei gwblhau ymhen amser rhesymol neu unrhyw feysydd lle nad oedd y cynnydd disgwyliedig wedi’i wneud. Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant y byddai unrhyw feysydd sy’n peri pryder yn cael eu lliwio’n goch. Roedd y rhan fwyaf o’r camau gweithredu melyn yn ddarnau o waith hirdymor a fyddai’n cymryd amser i’w cyflawni. Dywedodd un aelod ei fod yn falch o weld bod nifer o gamau gweithredu glas wedi’u cwblhau. 

 

Gofynnodd un aelod a oedd cynlluniau ar y gweill i baratoi ar gyfer y newidiadau yn ardal Cwm Taf. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddai rhan Pen-y-bont ar Ogwr o’r cynllun ardal yn cael ei throsglwyddo i Gwm Taf. Roedd Cwm Taf wedi sefydlu Bwrdd Pontio ac roedd Bwrdd Iechyd ABMU a staff yn aelodau o’r Bwrdd hwnnw ac yn ystyried ffrydiau gwaith yn ymwneud â phartneriaethau. Roedd yn bwysig parhau i ddarparu gwasanaeth o safon ac roedd y Swyddog Comisiynu eisoes yn creu cysylltiadau â Chwm Taf. Gofynnwyd sut roedd staff yn ymdopi â’r gwaith ychwanegol. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y timau’n ymdopi ar hyn o bryd ond roedd yn pryderu na fyddent yn gallu parhau i ysgwyddo’r llwyth gwaith ychwanegol yn y tymor hir. Byddai’r llwyth gwaith yn parhau i gynyddu a byddai angen adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Roedd angen adnoddau ychwanegol ar y Byrddau Iechyd hefyd ac roedd cyfarfod wedi’i drefnu i drafod hyn. Byddai hyn yn waith enfawr i’r Byrddau Iechyd ac roedd yn bwysig bod y trefniadau rhwng y partneriaethau’n parhau a bod grantiau’n cael eu dadgyfuno’n briodol. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y byddai angen yr adnoddau ychwanegol ar ôl cwblhau’r broses drosglwyddo er mwyn ymwreiddio’r systemau newydd.

 

Gofynnodd un aelod sut roedd y camau gweithredu’n cael eu gwerthuso. Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod y swyddogion yn diweddaru’r Cynllun Gweithredu ac yn cyflwyno adroddiad i’r Cyfarwyddwyr a’r Bwrdd i’w herio. Cyflwynir adroddiadau cynnydd hefyd i Arolygaeth Gofal Cymru

 

Cyfeiriodd un aelod at  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 175.

176.

Cymeradwyo Datganiadau o Fwriad Gwasanaethau Preswyl pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Rheoleiddio Plant adroddiad ar y datganiadau o fwriad diwygiedig ar gyfer gwasanaethau preswyl presennol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Esboniodd ei bod yn ofynnol, o dan gyfansoddiad y Cyngor, i gyflwyno’r rhain i’r Pwyllgor dros faterion Rhieni Corfforaethol.

 

Esboniodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Rheoleiddo Plant fod gan y Cyngor bedair uned preswyl i blant ar hyn o bryd a bod y rhain yn darparu gwasanaethau i 47 o blant a phobl ifanc rhwng 0 a 19 oed. Diben Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2018 oedd adeiladu ar lwyddiant rheoleiddio yng Nghymru ac adlewyrchu’r newidiadau ym maes gofal cymdeithasol. Byddai rheoliadau’n symud y tu hwnt i faterion cydymffurfio ac yn canolbwyntio mwy ar ansawdd gwasanaethau a’r effaith roeddent yn ei chael ar bobl. Esboniodd y byddai pob Awdurdod Lleol yn cael tystysgrif cofrestru ac y bydd pob Datganiad o Fwriad yn cael ei gyflwyno mewn ffordd fwy unffurf.   

 

Esboniodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Rheoleiddo Plant nad oedd dim newidiadau yn y datganiad o fwriad ar gyfer Newbridge House a Harwood House. Yn achos Sunnybank, roedd newid yn y gwasanaeth a oedd yn cynnig lleoliadau tymor canolig/hir i blant a phobl ifanc rhwng 8 ac 17 oed ac, yn achos Bakers Way, roedd newidiadau yn oriau gweithredu’r gwasanaeth yn dilyn proses o ad-drefnu a newidiadau yn y strwythur staffio. Byddai datganid o fwriad newydd yn cael ei baratoi ym mis Medi 2018 ar gyfer y gwasanaeth preswyl newydd yn Newbridge House gan mai hwn fydd yr uned frys a’r uned asesu erbyn mis Hydref 2018.

 

Gofynnodd un aelod am ragor o wybodaeth am newid yr oriau gweithredu yn Bakers Way. Esboniodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Plant fod plant a phobl ifanc yn aros yno’r un mor aml ond bod yr oriau wedi’u gostwng gan nad oedd yr uned yn llawn. Roedd y gyfradd llenwi wedi codi i 92% ac roedd hyn yn dilyn proses ymgynghori eang. Roedd yr adborth a gafwyd yn dilyn y newidiadau wedi bod ffafriol iawn. Roedd Bakers Way yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd ac roedd trafodaethau’n cael eu cynnal â phob teulu i sicrhau eu bod yn gwybod am hynt y datblygiadau.  

 

PENDERFYNWYD:             Bod yr aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad ac yn cymeradwyo’r datganiad o fwriad ar gyfer pob un o’r unedau preswyl.             

177.

Adolygiad o’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch Plant sy’n Derbyn Gofal pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant adroddiad y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ar yr adolygiad a’r cynllun gweithredu cysylltiedig. Esboniodd bod y gwaith o oruchwylio a rheoli plant sy’n derbyn gofal yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor ac roedd wedi ymrwymo i wella ymhellach y gwasanaethau ymyrraeth gynnar a’r gwasanaethau statudol i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. 

 

Ym mis Tachwedd 2017, cynhaliodd y Sefydliad Gofal Cyhoeddus adolygiad o’r llwybrau a oedd ar gael i blant a phobl ifanc yr oedd angen gofal arnynt dros y flwyddyn ddiwethaf. Y diben oedd adolygu penderfyniadau, dadansoddi arfer yn eu gofal, archwilio ymyriadau a sut y gellid gwneud penderfyniadau mwy effeithiol. Cyfeiriodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant at argymhellion yr adroddiad ac at y cynllun gweithredu sydd ynghlwm yn Atodiad 2. Cafodd y cynllun gweithredu ei ddatblygu er mwyn rhoi’r argymhellion ar waith ac roedd yn cael ei fonitro gan y gwasanaeth Cymorth Cynnar a’r Bwrdd Diogelu a oedd cael ei gyd-gadeirio gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, ac Addysg a Chymorth i Deuluoedd.  

 

Cyfeiriodd un aelod at yr argymhelliad i sicrhau mwy o gysondeb yn asesiadau’r gwasanaethau cymdeithasol gan ofyn beth oedd yn digwydd yn y cyswllt hwn. Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod gweithwyr cymdeithasol wedi cael hyfforddiant gorfodol a bod y canllawiau asesu wedi’u diwygio. Byddai’r system newydd yn cael ei lansio dros yr wythnosau nesaf a’i hadolygu ar ôl 12 mis.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant at gynllun peilot yng Nghasnewydd i deuluoedd mewn amgylchiadau anodd. Roedd y gwasanaeth hwn i’w weld yn llwyddo ac roedd menter debyg yn cael ei datblygu yng Nghwm Taf gyda Barnardos. Mae nifer o deuluoedd wedi’u cyfeirio at y gwasanaeth a bydd adroddiad ar lwyddiant y cynllun yn cael ei gynhyrchu maes o law. 

 

PENDERFYNWYD:           Nododd y Pwyllgor adroddiad y Sefydliad Gofal Cyhoeddus a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig.

 

                       

178.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim