Agenda, decisions and minutes

Pwyllgor Y Cabinet Dros Faterion Rhieni Corfforaethol - Dydd Iau, 20fed Gorffennaf, 2023 10:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan yr Aelod canlynol:

 

Y Cynghorydd J C Spanswick

28.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

29.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 218 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/04/23

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Bod cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet dyddiedig 19 Ebrill 2023, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

30.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol 2022- 2023 pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) a Diogelu adroddiad oedd yn disgrifio’r gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, yn unol â Chanllawiau Swyddogion Adolygu Annibynnol (Cymru) 2004.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi'r fframwaith deddfwriaethol sy'n rheoli'r gwaith a wneir gan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol.

 

Eglurodd mai rôl y Swyddog Adolygu Annibynnol (IRO) yn bennaf yw sicrhau bod cynllun gofal y plentyn yn addas ac yn cwrdd â’i anghenion datblygol a herio unrhyw faterion o oedi wrth gyflawni amcanion y cynllun gofal a/neu unrhyw broblemau oedi. Rhydd y rôl bwyslais cryf ar sicrhau ansawdd a herio'r awdurdod lleol pan na fydd yn fodlon mewn meysydd gwneud penderfyniadau.

 

Mae’r Swyddogion Adolygu Annibynnol ym Mhen-y-bont ar Ogwr hefyd yn cadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant, a’u rôl yn y fan honno yw sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn gwneud penderfyniadau pwysig ar sail tystiolaeth a gweithdrefnau diogelu. Yn bwysicaf oll, esboniodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu, mae’n rhaid i Wasanaeth yr IRO sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog wrth wneud penderfyniadau a’i fod yn cael gwybod am ei hawliau a’i amgylchiadau.

 

Mae pwyslais cryf ar ddata ansoddol yn yr adroddiad blynyddol a chyfraddau cydymffurfio, ond hefyd, prosesau cryfach a’r ffordd y mae'r gwasanaeth wedi cwrdd ag amcanion y cynllun blynyddol.

 

Mae'r adroddiad yn ystyried ymhellach sut mae'r gwasanaeth wedi ymateb i’r cynnydd yn y galw a’r niferoedd cynyddol o blant sy'n destun cofrestriad Amddiffyn Plant, a’r hyn sy'n cael ei wneud i leihau'r ffigwr hwn.

 

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r gwelliannau a wnaed o ran sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog i wneud penderfyniadau a’r ffordd y mae’r cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau at y gwasanaeth eiriol yn cefnogi hyn.

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu y gellid darllen y Cynllun Blynyddol wedi'i ddiweddaru yn adran olaf yr adroddiad yn Atodiad 1 i'r adroddiad eglurhaol, a bod hwn yn tynnu sylw at y nodau ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf.

 

Felly, roedd Atodiad 1 yn ymdrin â gwaith gwasanaeth yr IRO rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad o ran adolygiad statudol plant sydd wedi cael Profiad o Ofal, gan gynnwys plant â chynlluniau ar gyfer Mabwysiadu a Phobl Ifanc â Chynlluniau Llwybr Gadael Gofal (dan 18 oed) gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am blant oedd yn destun cynllun amddiffyn plant ac adolygiadau o'r cynlluniau hyn mewn Cynadleddau Achos Amddiffyn Plant.

 

Roedd yr adroddiad hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth oedd yn ymwneud â gofynion rheoleiddiol o ran datrys anghydfod mewn achosion, llwythi achosion yr IRO, cyfranogiad pobl ifanc yn eu Hadolygiadau ac ymgynghori â hwy, yr heriau a’r cyflawniadau yn ystod y cyfnod adrodd, a blaenoriaethau’r gwasanaeth ar gyfer 2023-2024.

 

Amlinellodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu fod y Swyddogion Adolygu Annibynnol, fel y disgrifiwyd yn yr adroddiad, wedi cadeirio/adolygu 406 (cynnydd o 51%) o Gynadleddau Achos Amddiffyn Plant Cychwynnol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 30.

31.

Diweddariad ynghylch Datblygiad Rhianta Corfforaethol. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi adroddiad diweddaru, i roi gwybod i Bwyllgor y Cabinet am y cynnydd o ran gweithgaredd rhianta corfforaethol. Dywedodd mai’r pwyntiau neilltuol i’w nodi oedd bod y Strategaeth Rhianta Corfforaethol wedi cael ei lansio a bod digwyddiad ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol wedi cael ei gynnal hefyd i gynllunio camau gweithredu ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

 

Fel peth cefndir, hysbysodd yr Aelodau fod diweddariadau i'r Pwyllgor wedi cael eu darparu mewn cyfarfodydd ar y meysydd allweddol a ganlyn, ers iddo fod yn ei swydd:-

 

        Sefydlu gweledigaeth gyffredin ar gyfer Cyfrifoldebau Rhianta Corfforaethol.

        Sefydlu strwythur llywodraethu sy'n cefnogi'r dull strategol a gweithredol o gyflawni Rhianta Corfforaethol.

        Sefydlu Fframwaith Perfformiad Rhianta Corfforaethol.

        Sefydlu fforymau ar gyfer rhai â phrofiad o ofal i roi llais cyfunol i'n plant a'n pobl ifanc.
 

Yna rhoddodd y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi grynodeb o'r gwaith a wnaed mewn perthynas â'r meysydd hyn fel y cyfeiriwyd yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y gwaith yr oedd y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi wedi bod yn ei wneud ers iddo fod yn ei swydd, wedi cael ei gydnabod fel arfer da o fewn Llywodraeth Cymru ac y byddai’n datblygu canllawiau, fyddai’n cyd-fynd â’n Strategaeth Rianta Corfforaethol, a gâi eu defnyddio gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn gobeithio, gan fod yr uchod wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru, y byddai'r gwaith a ddatblygwyd fel rhan o'r canllawiau hyn yn cael ei gefnogi'n ariannol ganddynt. Gofynnodd hefyd am sicrwydd bod plant a phobl ifanc yn y Fwrdeistref Sirol yn cael ‘llais’ pan fyddai CBS Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartneriaid yn ystyried newidiadau polisi. Roedd yn si?r mai felly yr oedd hi, gan fod hynny wedi dod i’r amlwg yn uchel ac yn glir mewn Lansiad yr oedd wedi bod yn bresennol ynddo’n ddiweddar.

 

Sicrhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yr Aelodau fod hyn yn wir fel y gwelwyd yn Fforwm Llais Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Ychwanegodd y byddai’r Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi yn sicrhau, yn ystod cyfnod yr haf, y byddai ymgysylltiad ystyrlon yn cael ei gynnal gyda phlant a phobl ifanc, ar y Cynllun Cynaladwyedd drafft ar gyfer Plant a Theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rhywbeth a godwyd yn flaenorol drwy’r Broses Trosolwg a Chraffu'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:          Bod Pwyllgor y Cabinet ar Rianta Corfforaethol yn nodi’r cynnydd a wnaed, a nodwyd yn yr adroddiad, a’i fod yn cytuno i fuddsoddi yn natblygiad gweithgarwch Rhianta Corfforaethol yn y dyfodol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i'w blant a phobl ifanc.

32.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Eiriol Rhanbarthol 2022- 2023 pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu adroddiad, a’i ddiben oedd tynnu sylw at agweddau allweddol ar y gwasanaeth a ddarperid gan Tros Gynnal Plant, sef darparwr rhanbarthol CBSP. Roedd Rheolwr Tîm Tros Gynnal Plant gyda hi yn y cyfarfod.

 

Roedd adroddiadau perfformiad manwl wedi eu cynnwys fel atodiadau i’r adroddiad eglurhaol fel a ganlyn:

 

Atodiad 1:      Adroddiad Eiriolaeth Blynyddol Pen-y-bont ar Ogwr 2022- 2023

Atodiad 2:      Adroddiad Eiriolaeth Blynyddol Rhanbarthol CTM  2022- 2023

 

Mae Tros Gynnal Plant (TGP) yn darparu gwasanaeth eiriol rhanbarthol yng Nghwm Taf Morgannwg (CTM). Mae TGP wedi darparu gwasanaethau eiriol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers blynyddoedd lawer ac mae’n ddarparwr sefydledig yn lleol, yn ogystal â bod y darparwr eiriolaeth mwyaf i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

 

Roedd gwybodaeth gefndir yr adroddiad yn cadarnhau bod Tros Gynnal Plant (TGP) yn darparu gwasanaeth eiriol rhanbarthol yng Nghwm Taf Morgannwg (CTM). Mae TGP wedi darparu gwasanaethau eiriol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers blynyddoedd lawer ac roedd yn ddarparwr sefydledig yn lleol, yn ogystal â bod y darparwr eiriolaeth mwyaf i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu fod TGP yn darparu adroddiadau perfformiad chwarterol manwl, yn ogystal â bod y darparwr hwn hefyd yn darparu adroddiad blynyddol ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr a rhanbarth CTM. Roeddent yn ymdrin ag agweddau gwasanaeth allweddol Eiriolaeth Seiliedig ar Faterion, a’r Cynnig Rhagweithiol o eiriolaeth.

 

Roedd Atodiad 1 i'r adroddiad yn gweld bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl oedd wedi defnyddio gwasanaeth yr IBA eleni o gymharu â'r llynedd, gan gynnwys rhai unigolion oedd wedi ei ddefnyddio am y tro cyntaf. Y dulliau mwyaf poblogaidd o ddefnyddio’r gwasanaeth oedd drwy’r llwybr ‘hunangyfeirio’, ac yna atgyfeiriadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Roedd ‘Cynnig Rhagweithiol’ (AO) o eiriolaeth yn elfen graidd o’r gwasanaeth statudol, ac roedd mwyafrif y bobl ifanc a atgyfeiriwyd ar gyfer AO ym Mhen-y-bont ar Ogwr y llynedd, rhwng blynyddoedd 6 ac 11.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod TGP yn parhau i fod yn gyfrifol am hwyluso cyfranogiad pobl ifanc a grwpiau ymgynghori ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a elwir bellach yn Fforwm Llais Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, neu Fforwm ‘BYV’. Nod y gr?p oedd galluogi pobl ifanc â phrofiad o ofal a’r rhai sy’n gadael gofal i gael llais mewn fforymau ehangach ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys Bwrdd Rhianta Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Pwysleisiodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu fod TGP yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol i bobl ifanc ddarparu adborth i fod o gymorth i wella’r gwasanaeth eiriol, er enghraifft, drwy ddefnyddio cod QR y gallant ei sganio o’u ffonau symudol ac sy'n cysylltu â holiadur byr.

 

Roedd TGP wedi nodi nad yw gweithwyr cymdeithasol bob amser yn gallu ymateb i rai cyfathrebiadau achos, gan olygu bod achosion eiriolaeth rhai pobl ifanc yn aros ar agor yn hwy nag y mae angen iddynt fod. Nodir hyn yn adroddiad lleol Pen-y-bont ar Ogwr (Atodiad 1 yr adroddiad) a'r adroddiad rhanbarthol (Atodiad 2).  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 32.

33.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.