Agenda, decisions and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Iau, 20fed Hydref, 2022 10:00

Lleoliad: Hybrid yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr/O Bell trwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Time STC 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

6.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

 

7.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 179 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 07/07/2022

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  

 

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 07/07/2022 fel cofnod gwir a chywir.

 

8.

Rhaglenni Sefydlu a Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 440 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd (DSM) yr adroddiad i'r pwyllgor.

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn am adborth gan ei gr?p yngl?n â'r cyfnod sefydlu, a rhannodd fod yr Aelodau wedi dweud wrtho eu bod wedi gweld profiad y farchnad yn ddefnyddiol iddynt.

Codwyd mater presenoldeb cyfnewidiol aelodau yn y sesiynau datblygu ac awgrymodd y cadeirydd y dylid ailedrych ar yr amserau y cynhelir hyfforddiant arnynt a chynigiodd gynnal arolwg. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod arolwg ar Ddatblygiad Aelodau wedi cael ei amserlennu eisoes.

Rhoddodd aelod o'r pwyllgor adborth am ddigwyddiad y Farchnad a gwnaeth awgrymiadau ar gyfer gwella digwyddiadau a hyfforddiant o'r fath yn y dyfodol.

Cafwyd trafodaeth rhwng Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ac aelodau eraill ynghylch y modd y cynhelir hyfforddiant, gydag awgrymiadau ar gyfer gwella.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, gyda golwg ar y sylwadau a wnaed gan Aelodau ynghylch y rhaglen waith i'r dyfodol, y bu sôn y câi Aelodau adroddiad ar Borth y Cynghorwyr. Roeddent yn ceisio cael y data ond nid oedd ar gael ar hyn o bryd. Roedd tîm y porth drwy'r tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid a TGCh yn cael trafferth i ddarparu'r data.

 

Sicrhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr Aelodau eu bod yn dilyn y mater a bod Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth wedi ei sicrhau y byddent yn ceisio gwneud yn si?r bod yr adroddiad ar gael mewn pryd ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Chwefror 2023.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y cafwyd cynnig yn un o'r cyfarfodydd, yr oedd rhai Aelodau efallai wedi ei fynychu, i gael gweithgor o aelodau i edrych ar y porth a rhoi prawf ar y gwahanol gamau, gan ei fod yn dal i gael ei ddatblygu a bod angen monitro. Soniodd ei bod wedi awgrymu i Bennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth a'r Rheolwr Gr?p – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gallai'r gweithgor gael ei gynrychioli gan aelodau Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

Yna cafwyd trafodaeth rhwng yr aelodau yngl?n â'r ffordd orau i symud y cynnig hwn yn ei flaen.

 

PENDERFYNWYD : Bod y pwyllgor yn nodi’r adroddiad a’r atodiadau.

 

Cytunodd y pwyllgor i nodi pynciau ychwanegol ar gyfer Datblygu Aelodau i'w cynnwys a'u blaenoriaethu yn y cynllun datblygu cyffredinol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol:

       Bod arolwg yr Aelodau yn gofyn am farn ynghylch amseriad y sesiynau Datblygu Aelodau hyn yn ogystal â phriodoldeb yr hyfforddiant hyd yma, hygyrchedd ac unrhyw fylchau posibl;

       Byddai cael digwyddiad y Farchnad yn gynt yn ddefnyddiol yn dilyn etholiadau yn y dyfodol;

       Ystyried technegau a dulliau amrywiol o hyfforddi i annog yr Aelodau i gymryd rhan;

       Ystyried Cadeiryddion ar gyfer yr holl hyfforddiant i sicrhau strwythur i'r sesiwn a chadw'r Aelodau ar y trywydd iawn;

       Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn edrych i weld a oes modd monitro pan fydd cofnodion sesiynau hyfforddi wedi cael eu gwylio ar gyfer y rheiny nad ydynt efallai'n gallu mynychu'r sesiwn ei hun.

 

9.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023/24 pdf eicon PDF 413 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a chrynhoi'r pwyntiau i'r pwyllgor.

Bu’r Cadeirydd ac aelodau eraill yn trafod eu pryderon ynghylch cynnwys yr adroddiad, yn enwedig gyda golwg ar y cynnydd arfaethedig mewn cyflog i Aelodau a'r argraff y gallai hyn ei gadael ar eu hetholwyr yng ngoleuni’r argyfwng costau byw.

 

PENDERFYNWYD : Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a’r atodiadau.

                        Cytunodd y Pwyllgor i ddarparu'r ymateb a ganlyn, mewn perthynas ag Adroddiad Blynyddol Drafft IRPW 2023-2024, i’r IRPW a CLlLC i’w gyflwyno erbyn y 1af o Ragfyr 2022:

 

‘Mae’r Pwyllgor yn cydnabod, o ystyried yr argyfwng costau byw a’r anawsterau di-ddadl y mae llawer o bobl yn y Fwrdeistref Sirol yn eu profi ar hyn o bryd ac yn debygol o’u profi yn y dyfodol agos, ei bod yn ymddangos braidd yn amhriodol i Aelodau Etholedig gael codiadau cyflog ar gyfer 2023-2024. Fodd bynnag, derbynnir hefyd fod angen ystyried amgylchiadau personol Aelodau ac felly y dylai fod yn fater personol i’r Aelodau benderfynu drostynt eu hunain a fyddant yn derbyn y codiad cyflog ynteu’n dewis peidio.’

 

10.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. 

Cofnodion:

Dim