Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu (A) - Dydd Mawrth, 5ed Mehefin, 2018 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman  Business Administrative Apprentice (Democratic Services)

Eitemau
Rhif Eitem

108.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

109.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Mae Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth wedi cyflwyno adroddiad a ofynnodd i’r is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer cerbyd hurio preifat.

 

Gwnaethpwyd y cais gan Peyton Travel i drwyddedu Volkswagen Transporter (rhif cofrestru: HK65 EOP) yn gerbyd llogi preifat ar gyfer 8 person. Nid oedd y cerbyd yn newydd a chafodd ei gofrestru yn y DVLA am y tro cyntaf ar 24 Tachwedd 2015.

 

Cafodd y cyfarfod ei ohirio am gyfnod byr i aelodau archwilio’r cerbyd.

 

Ar ôl ailddechrau’r cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr aelodau fod y cerbyd wedi teithio 32,324 milltir hyd yn hyn. Ychwanegodd nad oedd y cais yn berthnasol i’r Polisi Cerbydau Llogi Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu Cerbydau Llogi Preifat am y tro cyntaf nad oeddent yn cyd-fynd â’r canllawiau polisi wedi’u nodi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. Er gwybodaeth yr aelodau, cyflwynwyd hanes gwasanaeth y cerbyd ar 23 Mai 2017 a nododd fod y filltiredd yn 21,107. Roedd y cerbyd yn ymddangos mewn cyflwr da heb unrhyw namau neu broblemau gweladwy.

 

Gofynnodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) i’r ymgeisydd roi braslun o hanes y cerbyd i’r aelodau.

 

Nododd yr ymgeisydd ei fod yn defnyddio’r cerbyd at ddiben trafnidiaeth ddyddiol yn ogystal â chludo pobl i feysydd awyr ac ar gyfer teithiau pellter hir. Nododd hefyd ei fod yn bwriadu prynu cerbyd newydd yn y dyfodol fel y gall darparu ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn fwy effeithiol.

 

PENDERFYNWYD:       Ystyriodd yr is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd â’r rhif cofrestru HK65 EOP yn gerbyd llogi preifat.

 

                                       Nododd aelodau fod y cais y tu allan i’r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                       Ychwanegodd aelodau fod y polisi ym mharagraff 2.2 yn caniatáu llacio hyn mewn amgylchiadau eithriadol a bod enghreifftiau o’r rhain wedi’u nodi ym mharagraff 2.4 y polisi.

 

                                      Wedi archwilio’r cerbyd, roedd yr is-bwyllgor o’r farn bod y cerbyd yn eithriadol o ran ei ansawdd mewnol ac allanol, yn ogystal â bod yn rhagorol o ran ei nodweddion diogelwch.Felly cyflwynodd yr is-bwyllgor y drwydded.

110.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Mae Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth wedi cyflwyno adroddiad a ofynnodd i’r is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer cerbyd llogi preifat.

 

Gwnaethpwyd y cais gan Peyton Travel i drwyddedu Dacia Logan (rhif cofrestru: PK65 FFE) yn gerbyd llogi preifat ar gyfer 4 person. Nid oedd y cerbyd yn newydd a chafodd ei gofrestru yn y DVLA am y tro cyntaf ar 23 Tachwedd 2015.

 

Cafodd y cyfarfod ei ohirio am gyfnod byr er mwyn i’r aelodau a’r swyddogion fynd i faes parcio islawr siambr y Cyngor i archwilio’r cerbyd.

 

Ar ôl ailddechrau’r cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr aelodau fod y cerbyd wedi teithio 47,093 milltir hyd yn hyn. Ychwanegodd nad oedd y cais yn berthnasol i’r Polisi Cerbydau Llogi Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol mewn perthynas â thrwyddedu Cerbydau Llogi Preifat am y tro cyntaf nad oeddent yn cyd-fynd â’r canllawiau polisi wedi’u nodi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. Er gwybodaeth yr aelodau, cyflwynwyd hanes gwasanaeth y cerbyd ar 18 Awst 2016 a nododd fod y filltiredd ar y pryd hwnnw yn 15,336. Cafodd y cerbyd ei archwilio’n ddiweddar gan swyddog gorfodi ar 25 Mai 2018 a gadarnhaodd mai’r filltiredd ar y pryd oedd 47,083. Roedd y cerbyd yn ymddangos mewn cyflwr da heb unrhyw namau neu broblemau gweladwy.

 

Gofynnodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) i’r ymgeisydd roi braslun o hanes y cerbyd i’r aelodau.

 

Nododd yr ymgeisydd ei fod yn defnyddio’r cerbyd yn bennaf at ddibenion trafnidiaeth pellter hir yn ogystal â thrafnidiaeth i feysydd awyr yn aml. Byddai’r cerbyd hwn yn cymryd lle cerbyd 9 oed a byddai’n cynnig ansawdd gwell, llai o filltiredd a mwy o gysur.

 

Nododd yr ymgeisydd hefyd y darganfuwyd sychwr ffenestr gefn diffygiol yn yr archwiliad blaenorol; roedd hwn oherwydd ffiws sydd wedi’i newid ers hynny ac mae’r sychwr bellach yn gweithio. Nododd hefyd y caiff pant diweddar ar y boned ei atgyweirio yn yr wythnosau nesaf.

 

PENDERFYNWYD:       Ystyriodd yr is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd â’r rhif cofrestru PK65 FFE yn gerbyd llogi preifat.

 

                                       Nododd aelodau fod y cais y tu allan i’r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                       Ychwanegodd aelodau fod y polisi ym mharagraff 2.2 yn caniatáu llacio hyn mewn amgylchiadau eithriadol a bod enghreifftiau o’r rhain wedi’u nodi ym mharagraff 2.4 y polisi.

 

                                      Wedi archwilio’r cerbyd, roedd yr is-bwyllgor o’r farn bod y cerbyd yn eithriadol o ran ei ansawdd mewnol ac allanol, yn ogystal â bod yn rhagorol o ran ei nodweddion diogelwch.

 

                                      O ystyried hyn, felly, rhoddodd yr is-bwyllgor y drwydded ar yr amod y byddai’r pant ar y boned ei atgyweirio cyn gynted â phosib.

111.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad a ofynnodd i’r is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer cerbyd llogi preifat.

 

Gwnaed y cais gan David Llewellyn sy’n masnachu fel Executive Cars Wales (rhif cofrestru’r cerbyd yn ôl yr adroddiad: YY64 TAV) am drwydded cerbyd llogi preifat ar gyfer 4 person. Nid oedd y cerbyd yn newydd a chafodd ei gofrestru yn y DVLA am y tro cyntaf ar 27 Tachwedd 2014.

 

Cafodd y cyfarfod ei ohirio am gyfnod byr er mwyn i’r aelodau a’r swyddogion fynd i faes parcio islawr siambr y Cyngor i archwilio’r cerbyd.

 

Ar ôl ailddechrau’r cyfarfod, dywedodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) wrth yr aelodau fod y cerbyd wedi teithio 31,298 milltir hyd yn hyn.

Cafodd yr aelodau eu hysbysu hefyd bod y plât rhif wedi cael ei newid am un arall. Y plât rhif presennol yw S40 DKL a rhoddwyd yr holl waith papur angenrheidiol i ategu’r newid hwn. Nodir manylion yr hanes MOT a gwasanaethu yn yr adroddiad o dan adran 4.3.

 

Gofynnwyd i Mr Llewellyn roi peth cefndir am y cerbyd a’i ddefnydd.

 

Nododd yr ymgeisydd ei fod yn defnyddio’r cerbyd yn bennaf at ddibenion trafnidiaeth pellter hir yn ogystal â thrafnidiaeth i feysydd awyr. Roedd y cerbyd yn un o saith cerbyd yr oedd yn berchen arnynt ac roedd pob un yn cael ei ddefnyddio at yr un diben.

 

 PENDERFYNWYD:                  Ystyriodd yr is-bwyllgor y cais i drwyddedu’r cerbyd â’r rhif cofrestru S40 DKL yn gerbyd llogi preifat.

 

                                       Nododd aelodau fod y cais y tu allan i’r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                       Ychwanegodd aelodau fod y polisi ym mharagraff 2.2 yn caniatáu llacio hyn mewn amgylchiadau eithriadol a bod enghreifftiau o’r rhain wedi’u nodi ym mharagraff 2.4 y polisi.

 

                                      Wedi archwilio’r cerbyd, roedd yr is-bwyllgor o’r farn bod y cerbyd yn eithriadol o ran ei ansawdd mewnol ac allanol.

 

                                      O ystyried hyn felly, rhoddodd yr is-bwyllgor y drwydded.

 

112.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 Adnewyddu'r Drwydded Sefydliad Rhyw The Private Shop, 72 Bridgend Road, Aberkenfig pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) adroddiad i roi gwybod bod cais wedi cael ei dderbyn gan Darker Enterprises Ltd i adnewyddu’r Drwydded Sefydliad Rhyw ar gyfer yr eiddo uchod, a gyflwynwyd gerbron yr is-bwyllgor i’w ystyried, gan nad oedd pwerau wedi’u dirprwyo o dan y Cynllun Dirprwyo i Swyddogion.

 

Rhoddodd wybod i’r aelodau fod yr ymgeisydd wedi hysbysu’r Is-adran Drwyddedu cyn y cyfarfod na fyddai’n gallu dod i’r cyfarfod heddiw.

 

Amlinellodd yr adroddiad wybodaeth gefndir benodol, ac yn sgil hyn cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol) fod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio â’r gofynion statudol i hysbysebu’r cais ac nad oedd unrhyw ymatebion wedi’u derbyn ar ôl hyn i’r hysbysiad cyhoeddus ac na chyflwynwyd unrhyw sylwadau gan ymgyngoreion statudol yngl?n â’r cais. Roedd y drwydded bresennol yn destun amodau safonol y Cyngor, yn ogystal â’r amodau arbennig a nodir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Nododd hefyd y cynhaliwyd archwiliad o’r eiddo gan Swyddog Gorfodi’r Cyngor ac ni ddaethpwyd ar draws unrhyw achosion o dorri amodau’r drwydded bresennol. Nid oes unrhyw bolisi gan y Cyngor sy’n ymwneud â rhoi trwyddedau ar gyfer y categori hwn o sefydliadau.

 

Yna amlinellodd paragraff 4.7 yr adroddiad ganllawiau i’r aelodau o ran y cais, a nododd paragraff 4.8 y byddai gan yr ymgeisydd yr hawl i apelio  i’r Llys Ynadon pe byddai’r is-bwyllgor yn gwrthod y fath gais am adnewyddu.

 

PENDERFYNWYD:                Cymeradwyo’r cais a wnaed gan Darker Enterprises Ltd am adnewyddu’r Drwydded Sefydliad Rhyw ar gyfer yr eiddo uchod.

113.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

None

114.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                Gwahardd y cyhoedd, dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, rhag y cyfarfod tra bod yr eitemau busnes hyn yn cael eu hystyried gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi'i heithrio fel y diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A y ddeddf hon.

                                    

Yn dilyn y  prawf o fuddiant y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gan wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrid y byddai buddiant y cyhoedd mewn cynnal yr eithriad, ym mhob amgylchiad sy’n ymwneud â’r eitemau, yn drech na fuddiant y cyhoedd mewn datgelu’r wybodaeth, gan y byddai’r wybodaeth yn niweidiol i’r ymgeiswyr a grybwyllwyd.       

115.

Ceisiadau i Gymeradwyo Trwyddedau

116.

Gwrandawiad Disgyblu ar gyfer Gyrwyr Tacsi Presennol