Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 1 - Dydd Llun, 13eg Mawrth, 2023 11:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Johanna Llewellyn-Hopkins, Y Cynghorydd Ellie Richards a’r Cynghorydd Tim Thomas.

 

Cynrychiolydd Cofrestredig

Lyndsey Morris.

11.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y canlynol ddatgan buddiant personol:

 

Y Parch Ganon Edward Evans fel Llywodraethwr Cymunedol yn Ysgol Gyfun Bryntirion;

Y Cynghorydd Melanie Evans fel Llywodraethwr Cymunedol yn Ysgol Gyfun Pencoed ac Ysgol Gynradd Croesty;

Y Cynghorydd Richard Collins fel Llywodraethwr Cymunedol yn Ysgolion Cynradd y Santes Fair a Sant Padrig;

Y Cynghorydd Martyn Jones fel Cadeirydd Bwrdd Gweithredol Dros Dro Ysgol Gynradd Cwm Ogwr; a’r

Cynghorydd Alex Williams gan fod ei bartner yn athrawes mewn ysgol yn gweithredu peilot Cwricwlwm Cymru mewn awdurdod lleol arall.   

 

12.

Adroddiad Craffu Awdurdod Lleol Blynyddol Consortiwm Canolbarth y De 2021-22 pdf eicon PDF 124 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jon-Paul Blundell – Aelod Cabinet Addysg

 

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Nicola Echanis - Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

Susan Roberts - Rheolwr Gr?p (Cymorth i Ysgolion)

 

Clara Seery - Rheolwr Gyfarwyddwr - Consortiwm Canolbarth y De

Louise Blatchford - Dirprwy Reowr Gyfarwyddwr - ConsortiwmCanolbarth y De

Darren Jones – Prif Bartner Gwella - Consortiwm Canolbarth y De

 

Kathryn John – Prifathro - Ysgol Gynradd Brackla - Cadeirydd Ffederasiwn Cynradd Pen-y-bont ar Ogwr

Ravi Pawar - Prifathro - Ysgol Gyfun Bryntirion

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Addysg a Chymorth i Deuluoedd y Cynrychiolwyr o Gonsortiwm Canolbarth y De (CSC) a chyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr CSC yr adroddiad, a'i bwrpas oedd rhoi trosolwg ar waith CSC a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cyfraniad yr oedd CSC yn ei wneud, gan weithio mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol, i godi safonau mewn ysgolion ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Rheolwr Gyfarwyddwr CSC a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

·       Y fformiwla ar gyfer y cyfraniad blynyddol oedd yn cael ei wneud i CSC, y defnyddio o gronfeydd a sut yr oedd yr awdurdod yn mesur canlyniadau pendant mewn perthynas â'r buddsoddiad refeniw.

·       Digonolrwydd cefnogaeth gan CSC o ystyried y gostyngiad mewn cyllid ac arbedion effeithlonrwydd yng nghyllidebau ysgolion, effaith llai o gyllid ar bartneriaid gwella CSC o fewn Pen-y-bont ar Ogwr a thargedu blaenoriaethau awdurdodau lleol unigol i leihau effaith unrhyw newidiadau.  

·       Systemau i olrhain a dadansoddi perfformiad disgyblion er mwyn sicrhau bod ysgolion yn gwella, a oedd ysgolion yn ddigon tryloyw drwy hunanasesu, a data cyson arall o brofion a gynhaliwyd, yn unol â'r fframwaith asesu yr oeddent yn ei ddatblygu i gyd-fynd â'r cwricwlwm i Gymru.

·       Ffynonellau cyllid cydweithredu/clystyrau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys cyllid grant a grantiau dysgu proffesiynol sy'n mynd i mewn i CSC, a roddir i ysgolion yn lwmp swm i'w ddefnyddio'n ystyrlon ar unrhyw fath o gydweithrediad.

·       Themâu allan o werthusiadau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn a gyflwynwyd gan y 9 clwstwr, yn cadarnhau system o hunan-wella a'r clwstwr yn cytuno ynghylch yr hyn yr hoffai ganolbwyntio arno, e.e. asesu a dilyniant gyda dull cyson yn unol â'r cwricwlwm ar gyfer Cymru.

·       Rhesymau pam yr ystyriwyd bod 16% o glystyrau yn aneffeithiol, pryderon nad oedd pob ysgol yn cymryd rhan yng nghefnogaeth CSC a dysgu proffesiynol a rôl y Gr?p Gwella Ysgolion wrth bennu blaenoriaethau strategol mewn ysgolion penodol.

·       Partneriaid Gwella sy'n gweithio gydag ysgolion i integreiddio argymhellion allan o arolygiadau Estyn i'w cynlluniau datblygu ysgolion a'r posibilrwydd y bydd Estyn yn cynyddu rheoleidd-dra eu harolygiadau.

·       Nid yw Ysgol yr Archesgob McGrath bellach yn cael ei hadolygu gan Estyn ar ôl gwneud cynnydd priodol yn erbyn pob argymhelliad a wnaed yn yr arolygiad gwreiddiol.

·       Rhoddodd cynrychiolwyr yr ysgolion yr adborth canlynol am yr agweddau allweddol o'u profiad o weithredu a pharhau i gyflwyno'r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru;

-        Y dysgwyr a llais dysgwyr wrth wraidd yr hyn y maent yn ei wneud.

-        Pwysigrwydd sefydlu’r pedwar pwrpas yng nghyfnod allweddol 5, cyn eu bod yn orfodol

-        Ymreolaeth staff i benderfynu ar y dulliau gweithredu gorau ynghyd ag addysgeg addysgu a dysgu

-        Sicrhau bod llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn rhan annatod o wersi

-        Rhannu ymarfer ag ysgolion eraill.

-        Gwella mewn canlyniadau meddal - meddwl, datrys problemau, sgiliau llythrennedd a rhifedd

-        Cyfraddau presenoldeb yn uwch na'r flwyddyn flaenorol

a rhai heriau, yn cynnwys:

-        Y Model yn gwrthdaro  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.

13.

Fframwaith newydd ar gyfer Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd i gefnogi'r Cwricwlwm ar gyfer Cymru pdf eicon PDF 157 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Jon-Paul Blundell – Aelod Cabinet Addysg

 

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Nicola Echanis - Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

Susan Roberts - Rheolwr Gr?p (Cymorth i Ysgolion)

 

Clara Seery - Rheolwr Gyfarwyddwr - Consortiwm Canolbarth y De

Louise Blatchford - Dirprwy Reowr Gyfarwyddwr - ConsortiwmCanolbarth y De

Darren Jones – Prif Bartner Gwella - Consortiwm Canolbarth y De

 

Kathryn John - Prifathro, Ysgol Gynradd Brackla - Cadeirydd Ffederasiwn Cynradd Pen-y-bont ar Ogwr

Ravi Pawar - Prifathro - Ysgol Gyfun Bryntirion

 

Ryan Davies – Prifathro – Ysgol Gyfun Brynteg

Tracey Wellington – Prifathro – Coleg Cymunedol Y Dderwen

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p, Cymorth i Ysgolion, yr adroddiad, a'i bwrpas oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y ‘Canllaw Gwella Ysgolion: Fframwaith ar gyfer Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd’ (Llywodraeth Cymru, 2021) a’r goblygiadau i’r awdurdod lleol a phrosesau a systemau Rhanbarthol.

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Gr?p, Cymorth i Ysgolion, a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

·       Mae tystiolaeth hunanarfarnu yn cael ei defnyddio i ganolbwyntio ar welliannau ysgolion a chynnydd dysgwyr unigol, yn symud i ffwrdd oddi wrth y mesurau cul, gan ganolbwyntio ar gynnydd yn hytrach na chyrhaeddiad, sy'n golygu bod y data, yr oedd yr ysgolion yn ei ddefnyddio eu hunain yn canolbwyntio ar ba gynnydd a wnaeth y plant ers dechrau'r ysgol neu'r flwyddyn.

·       Mae ysgolion yn cyhoeddi crynodeb o'u cwricwlwm ar wefan yr ysgol ynghyd â'u cynllun datblygu ysgol i rieni / darpar rieni gael ei weld. Symud i ffwrdd oddi wrth set ddata gul ac edrych ar y cwricwlwm y bydd y plant yn ei dderbyn, blaenoriaethau strategol yr ysgol yn seiliedig ar hunanarfarniad yr ysgol a sut maent yn diwallu anghenion y dysgwyr bregus hynny.

·       Hyfforddiant a ddarperir ar gyfer Cyrff Llywodraethu ysgolion:

-        Hyfforddiant Sefydlu Llywodraethwyr Newydd;

-        Hyfforddiant Sefydlu Cadeirydd;

-        Hyfforddi fel rhan o'r rôl;

-        Sesiynau cwestiwn ac ateb ar y Cwricwlwm ar gyfer Cymru;

-        Rhannu profiadau o arolygiadau Estyn;

-        Cyflwyniad i'r Pecyn Cymorth Hunanwerthuso;

-        Lles.

·       Gohiriwyd cefnogaeth tymor byr i Gyrff Llywodraethu ac nid oedd Partneriaid Gwella eto wedi mynychu cyfarfodydd corff llywodraethu i gefnogi'r broses honno. Byddai'n mynd ymlaen yn barhaus ac wedi cael ei ddatblygu'n llawn yn ystod y misoedd nesaf.

·       Cyfrifoldeb ysgolion oedd gweithio ar sicrhau bod pob swydd wag Llywodraethwr Ysgol wedi cael ei llenwi. Awgrymwyd gan Aelodau y gallai rhestr o swyddi heb eu llenwi gael ei rhannu â Chynghorau Tref a Chymuned lleol.

·       Cefnogaeth ychwanegol i ysgolion wrthi’n cael ei benderfynu; roedd y Fframwaith Gwella Ysgolion yn datgan y byddai ysgolion fel rhan o'u cynllun datblygu yn nodi o ble roeddent yn derbyn cefnogaeth, p'un a oedd hynny gan ddarparwr allanol, CSC neu gefnogaeth bwrpasol. Yna câi unrhyw gefnogaeth ychwanegol ei thrafod gyda'r Partneriaid Gwella fel rhan o'u cyfarfodydd yn nhymor yr hydref.

·       Roedd y cyllid ar gyfer Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ddileu ac er na châi ei gydlynu’n uniongyrchol gan yr Awdurdod Lleol wrth symud ymlaen, gallai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Swyddogion fod yn bresennol i gynrychioli’r Awdurdod a rhoi mewnbwn pe bai angen.

·       Sicrhau y ceid ymatebion i bob Argymhelliad Craffu.

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau’r Pwyllgor oedd yn dymuno gofyn cwestiynau i gyd wedi siarad ac felly, gan nad oedd cwestiynau pellach i’r Gwahoddedigion, diolchodd iddynt am eu presenoldeb a dweud eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.

PENDERFYNWYD:   Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:

1.     Gyda Hyfforddiant Llywodraethwyr Ysgolion yn cael ei ddiwygio yn unol â'r cwricwlwm newydd, gallai fod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.

14.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu y Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fynychu. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 4.3 a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed mewn cyfarfod blaenorol yn Atodiad B a gofynnodd i’r Pwyllgor nodi yr adroddid am y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor a’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.

Gofynnodd y Pwyllgor am i'r eitemau canlynol gael eu hystyried i'w hychwanegu at y Flaenraglen Flynyddol yn y Cyfarfod Cynllunio Craffu nesaf ar gyfer SOSC 1:

1.     Cludiant o’r cartref i’r ysgol / llwybrau diogel i'r ysgol

2.     Oedi mewn Cynlluniau Cyfalaf - Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol; edrych ar ysgolion i weld a ydynt yn barod.

3.     Cyrff Llywodraethu - Cefnogi a Chyllid. Gwahoddiad i'w ymestyn i gynrychiolwyr a Chymdeithas y Llywodraethwyr.

Ni nodwyd eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan ystyried y meini prawf dewis ym mharagraff 4.3, a gellid ailedrych ar hyn yn y cyfarfod nesaf.

Nid oedd ceisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

PENDERFYNWYD:   1. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am i lwybrau gael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu mewn cydweithrediad â'r Gyfarwyddiaeth Addysg ar sut i symud ymlaen gyda monitro cynnydd dysgwyr yn y dyfodol. Gwnaed awgrymiadau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i; sicrwydd ynghylch y cyfeiriad teithio, arolygiadau Estyn, ffynonellau gwybodaeth a thystiolaeth sydd eu hangen i benderfynu ynghylch cynnydd dysgwyr, gweithgareddau gwella a hunanarfarniadau.  

2.           Cytunodd y Pwyllgor i fonitro ar ffurf adroddiad canlyniadau ynghylch sut mae arweinyddiaeth a diogelu yn cael ei archwilio, yn benodol mewn perthynas â'r cydweithredu o fewn yr awdurdod rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Lles, yn gweithio'n agos gyda'i gilydd, i sicrhau bod ysgolion yn derbyn cefnogaeth arbenigol yn amserol. 

Bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo'r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn amodol ar gynnwys y ceisiadau uchod, yn nodi’r Daflen Weithredu Monitro  Argymhellion yn Atodiad B ac yn nodi yr adroddid am y Flaenraglen Waith, y Daflen Weithredu Monitro  Argymhellion ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor yng nghyfarfod nesaf COSC.

15.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.