Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Pitman
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cyng. John Spanswick fuddiant rhagfarnus yngl?n â thudalen 17 yr adroddiad mewn cysylltiad â gofal yn y cartref i bobl h?n gan fod ei wraig yn gweithio yn y maes gwasanaeth hwn. Gadawodd y Cyng. Spanswick y cyfarfod wrth i hyn gael ei drafod. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 77 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 26/06/2019
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019 fel cofnod gwir a chywir o'r cyfarfod. |
|
Monitro Cyllideb 2019-20 - Rhagolwg Refeniw Chwarter 2 PDF 171 KB Pob Cabinet a CMB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Dirprwy Swyddog Adran 151 yr adroddiad i'r Aelodau gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol y Cyngor ar 30 Medi 2019. Esboniodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £270.809 miliwn ar gyfer 2019-20 ar 20 Chwefror 2019.
Cododd yr Aelodau y pryderon canlynol:
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd a'r Arweinydd fod y sefyllfa'n gymhleth a bod costau yn cynyddu yn y maes hwn, fodd bynnag, lluniwyd rhestr o ostyngiadau. Fe wnaethant ddweud y byddai'r aelodau'n cael adborth ar adolygiad o Gludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol ddechrau'r flwyddyn nesaf. Ailadroddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn dal yn bryderus am y gorwariant yn y maes hwn
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hyn oherwydd bod ffioedd rheoli a chyfleusterau llyfrgelloedd teithiol yn parhau i fod yn destun ymgynghoriad
Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'n ystyried y pwynt uchod ac yn archwilio a oes modd mynd i'r afael â'r problemau gyda'r peiriannau talu fel mater o flaenoriaeth.
Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y trefniant hwn yn un ffurfiol ar hyn o bryd ond y gellid ei archwilio. Cytunodd y byddai'n cadarnhau'r trefniadau ac yn adrodd yn ôl i’r Aelodau.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr nad oedd yr Awdurdod yn cael bwrw ymlaen â'r cynllun heb ganiatâd Llywodraeth Cymru a bod posibilrwydd o gyflwyno cynllun cenedlaethol felly byddai'n cael ei ohirio nes gwybod canlyniad y cynllun cenedlaethol.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod 88% o gyllideb y Prif Weithredwr yn cynnwys staff. Ychwanegodd, ar adeg pan fo cymaint o doriadau, fod ofn pe byddai swydd yn cael ei llenwi y gallai'r gyfarwyddiaeth orfod diswyddo ac ysgwyddo costau yn gysylltiedig â hynny ymhen blwyddyn. Ychwanegodd fod hyn yn cael effaith anochel ar gadernid a chapasiti ym mhob agwedd ar waith y Gyfarwyddiaeth.
|
|
Trosolwg a Chraffu - Adborth o Gyfarfodydd PDF 74 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu i’r aelodau yr adborth o gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 25 Medi ynghylch yr eitemau Trawsnewid Digidol a Rhagolwg Refeniw Monitro'r Gyllideb Ch1.
Diolchodd yr Aelodau i'r swyddogion am yr adborth ac fe wnaethant gytuno i nodi'r camau gweithredu yn rhai oren. Byddai’r camau gweithredu yn cael eu hailystyried wedyn ymhen 6 mis.
|
|
Y Diweddaraf am y Blaenraglen Waith PDF 100 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr adroddiad i'r Aelodau a gofynnodd am gadarnhad o'r wybodaeth a oedd yn ofynnol ar gyfer y cyfarfodydd dilynol ar 13 Ionawr 2020 a 13 Chwefror 2020
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i’r dyddiadau canlynol:
24 Ionawr 2020 – Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 13 Chwefror 2020 – Monitro'r Gyllideb – Rhagolwg Ch3 2019/20 Cynllun comisiynu ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont
23 Mawrth 2020 - Y Gwasanaeth Cyd-reoleiddio
|
|
Eitemau brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |