Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 23ain Hydref, 2018 14:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

251.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd H Williams ddiddordeb personol yn eitem agenda 11, agoriad Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer plant sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD) yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd oherwydd bod ei wyrion yn mynd i'r ysgol honno. 

252.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 99 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/09/2018

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Bod cofnodion cyfarfod y Cabinet dyddiedig18 Medi 2018 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.   

253.

Adroddiad Blynyddol 2017-18 pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 adroddiad i'r Cabinet i ystyried Adroddiad Blynyddol 2017-18 a'i anfon at y Cyngor i'w gymeradwyo. Eglurodd y byddai'n rhaid i'r awdurdod gyhoeddi ei asesiad o berfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol cyn 31 Hydref, o dan adran 15 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ac yn unol â'r canllawiau statudol perthnasol. 

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 fod yr Adroddiad Blynyddol yn gwerthuso perfformiad y Cyngor yn 2017-18 wrth gyflawni ei ymrwymiadau a'r canlyniadau arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol, gan ddefnyddio mesurau llwyddiant a thystiolaeth arall. Lle bynnag na lwyddwyd i gyrraedd y targed, rhoddwyd esboniadau.

 

Gwnaeth y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 ddweud fod y Cyngor wedi perfformio'n dda yn ystod 2017-18 ar y cyfan ac o'r 37 ymrwymiad a ddygwyd ymlaen, cyflawnwyd 29 gan y Cyngor gyda chwech arall bron wedi'u cwblhau. Roedd y Cyngor yn brin o gyrraedd y targed a osodwyd ar gyfer dau ymrwymiad, sef gwella'r canlyniadau ar gyfer plant agored i niwed a'r Strategaeth Da i Wych ar gyfer pobl mwy abl a thalentog. Cafwyd rhywfaint o gynnydd yn y maes hwn a pharhawyd â’r gwaith i gyflawni’r rhain.

 

Amlinellodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 berfformiad y Cyngor yn erbyn ei ymrwymiadau a'i dargedau yn ogystal â pherfformiad y Cyngor yn genedlaethol fel y'u nodir yn atodiad A o'r adroddiad. Eglurodd unwaith iddo gael ei gymeradwyo, y byddai’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor ac yn cael ei rannu â rhanddeiliaid. Byddai copïau caled o'r adroddiad yn cael eu cynhyrchu hefyd a'u rhoi yn llyfrgelloedd cyhoeddus y Cyngor. 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig myfyrio ar y cynnydd a wnaed y llynedd a’i bod yn braf gweld bod 79% o gamau wedi'u cyflawni. Roedd 16% pellach bron wedi'u cwblhau a rhoddwyd esboniadau ar gyfer y ddau oedd yn weddill. Roedd hon hefyd yn ddogfen allweddol o ran y rheolyddion ac yn adlewyrchu'r Cynllun Corfforaethol a ystyriwyd trwy graffu. 

 

PENDERFYNWYD:      Bod y Cabinet yn ystyried Adroddiad   Blynyddol    2017-18 a'i anfon at y Cyngor i'w gymeradwyo.   

254.

Cynllun Adsefydlu Pobl sy'n Agored i Niwed pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet i ailsefydlu pum teulu arall o ffoaduriaid o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl sy'n Agored i Niwed neu'r Cynllun Adsefydlu Plant sy'n Agored i Niwed. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cabinet, ceisiodd yr adroddiad hepgoriad o dan baragraff 3.2.9.2 o Reolau Gweithdrefnol Contract y Cyngor rhag y gofyniad i gael dyfynbrisiau neu dendrau trwy gystadleuaeth agored o dan y Cynllun Dirprwyo er mwyn amrywio'r contract presennol â Chymdeithas Tai Hafod ar gyfer y pum uned ychwanegol. 

 

Eglurodd yr Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ailsefydlu 20,000 o ffoaduriaid o Syria erbyn 2020 a oedd yn ffoi o Syria o ganlyniad i'r rhyfel cartref.  Eglurodd ei bod yn debygol y byddai Cymru yn derbyn 1,000 i 1,500 o ffoaduriaid dros y pum mlynedd nesaf fel rhan o raglen y Cynllun Adsefydlu Pobl sy'n Agored i Niwed. Fodd bynnag, ategodd fod cymryd rhan yn wirfoddol.

Eglurodd yr Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol fod unigolion yn derbyn statws ffoaduriaid gan roi caniatâd iddynt aros am bum mlynedd gyda mynediad llawn i gyflogaeth ac arian cyhoeddus.  Pe na baent wedi dychwelyd i Syria ar ôl pum mlynedd, gallent fod yn gymwys i wneud cais i aros yn y DU. Erbyn diwedd mis Mawrth 2018, dywedodd fod 10,500 o ffoaduriaid yn y DU gyda 645 ohonyn nhw yng Nghymru. 

 

Eglurodd yr Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol fod y Cabinet wedi rhoi ei gymeradwyaeth ym mis Gorffennaf 2016 ac wedi amlinellu ymrwymiad Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Tai Hafod. Eglurodd i'r teulu cyntaf o Syria gyrraedd yn y fwrdeistref sirol ar 2 Tachwedd 2016. Mae'r chwe theulu nawr wedi ymgartrefu, a chyrhaeddodd y teulu olaf ar 12 Medi 2017. Dywedodd i'r teuluoedd ymgartrefu ar draws y fwrdeistref sirol a bod ganddynt fynediad da i ysgolion ac amwynderau lleol.  Cafodd yr holl deuluoedd groeso cynnes gan aelodau'r gymuned ac eglwysi lleol. 

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol wrth y Cabinet fod Cydgadeirydd Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyd-lefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Gydraddoldeb, Diwygio Lles a Gwrthdlodi wedi ysgrifennu at yr Awdurdodau Lleol yn gofyn am eu hymrwymiad i’r broses adsefydlu fynd rhagddi ym mis Mawrth 2018. Mewn ymateb i'r llythyr hwn, adolygwyd blynyddoedd dilynol y rhaglen a chynigiwyd bod yr Awdurdod yn adsefydlu pum teulu arall yn ystod gweddill y rhaglen yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cabinet. I sicrhau cysondeb gwasanaeth, byddai hepgoriad i'r Rheolau Gweithdrefnol Contract yn ofynnol.  

 

Eglurodd yr Uwch-swyddog Strategaeth - Tai ac Adfywio Cymunedol fod arian y flwyddyn gyntaf ar gael gan y Gyllideb Cymorth Datblygu Dramor at gostau uniongyrchol yr awdurdod lleol a bod cymorth ychwanegol ar gyfer anghenion addysgol a meddygol.  Byddai arian blwyddyn dau i bump yn cael ei ddyrannu ar sail tariff graddedig dros bedair blynedd. 

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod y rhain yn achosion cymhleth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 254.

255.

Monitro Cyllideb 2018-19 - Rhagolwg Chwarter Dau pdf eicon PDF 411 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151  adroddiad i'r Cabinet yn cynnwys diweddariad ar sefyllfa ariannol y Cyngor ar 30 Medi 2018.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151fod y Cyngor, ar 28 Chwefror 2018, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £265.984 miliwn ar gyfer 2018-19, ynghyd â rhaglen cyfalaf gwerth £33.693 miliwn ar gyfer y flwyddyn, a gafodd ei diweddaru ers hynny i ystyried cymeradwyaethau newydd a llithriant rhwng blynyddoedd ariannol. Eglurodd fod y sefyllfa ragamcanol gyffredinol ar 30 Medi 2018 yn danwariant net o £2.551 miliwn, yn cynnwys gorwariant net o £738,000 ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net gwerth £5.269 miliwn ar gyllidebau corfforaethol, wedi'i wrthbwyso gan gronfeydd net newydd wrth gefn wedi'u clustnodi o £1.98 miliwn.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 fod y Cyngor wedi derbyn ei setliad dros dro yn ddiweddar ar gyfer 2019-20 gan Lywodraeth Cymru a’i bod yn amlwg y byddai pwysau i’w hwynebu wrth symud ymlaen. 

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 na fu unrhyw drosglwyddiadau rhwng cyllidebau ond bod nifer o addasiadau technegol wedi’u gwneud rhwng cyllidebau ers i ragolwg chwarter un gael ei adrodd i'r Cabinet ym mis Gorffennaf 2018. Yn dilyn hyn, rhoddodd esboniad cryno ar bob addasiad technegol.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 fod nifer o ddarparwyr ynni wedi cyhoeddi y byddai prisiau'n codi yn 2018 ac felly, roedd arian ychwanegol ar gyfer cynnydd mewn prisiau ynni yn 2018-19 o tua 9% ar gyfartaledd, wedi'i roi yn ystod chwarter dau.  Roedd y dyfarniad cyflog i athrawon o fis Medi 2018 wedi'i gytuno yng nghanol mis Medi. Roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y byddai'n rhoi £23.5 yn ychwanegol i Gymru tuag at dâl i athrawon ond nid oedd yn glir faint y byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn ei dderbyn.  

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 fod y gyllideb net ar gyfer y flwyddyn ariannol wedi’i gosod gan dybio y byddai gofynion lleihau cyllideb y flwyddyn bresennol yn cael eu cyflawni’n llawn. Pe bai cynigion yn cael eu gohirio neu nad oeddent yn gyraeddadwy, roedd yn rhaid i gyfarwyddiaethau gyflwyno cynigion eraill i gyflawni eu gofynion.    

Yn ystod 2016-17 a 2017-18 roedd £2.982 miliwn o gynigion cyllideb nad oeddent wedi'u cyflawni’n llawn gyda chyfanswm cyllideb sy’n weddill o £2.523 miliwn. Rhoddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 y sefyllfa ddiweddaraf gyda chrynodeb ar gyfer pob cyfarwyddiaeth.   O'r £2.604 miliwn o ostyngiadau a oedd yn weddill, roedd £1.411 miliwn yn debygol o gael ei gyflawni yn 2018-19 gan adael diffyg cyllid o £1.193 miliwn.     

 

Gwnaeth y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 roi diweddariad ar raglen cyfalaf y Cyngor ar gyfer 2018-19 ac esbonio'r sefyllfa ynghylch y cronfeydd wrth gefn a oedd wedi'u clustnodi.  Y swm cronnol a dynnwyd i lawr gan y Cyfarwyddiaethau oedd £2.688 miliwn o gronfeydd penodol wrth gefn a oedd wedi'u clustnodi a bu ychwanegiadau net o £1.980 fel y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 255.

256.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) Adran 65 Pŵer i osod prisiau ar gyfer cerbydau hacni – ceisiadau i amrywio’r tariff prisiau ar gyfer cerbydau hacni. pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir adborth ar yr ymgynghoriad masnach a gynhaliwyd mewn perthynas â thabl prisiau cerbydau hacni Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hyn yn dilyn cynigion i'r Adran Drwyddedu i ddiwygio'r tabl prisiau. Gofynnwyd i'r Cabinet ystyried y cynigion a’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac i benderfynu a ddylai un o'r cynigion fynd ymlaen i'r broses hysbysiad cyhoeddus.   

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol y cyflwynwyd tri chynnig i amrywio'r tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacni, yng nghyfarfod y Cabinet ym Medi 2017. Penderfynodd y Cabinet wrthod y tri chynnig ac argymhellodd y dylid ystyried cyfreithlondeb ac ymarferoldeb ymgynghori ar ffioedd cerbydau hacni gyda’r fasnach tacsis a'r cyhoedd. Gofynnwyd i ymgeiswyr  gyflwyno cais pellach gyda chefnogaeth gan yr holl bartïon. Fodd bynnag, ni ellid dod i unrhyw gytundeb ac felly anfonwyd llythyr a holiadur at bob gyrrwr cerbyd hurio preifat/cerbyd hacni trwyddedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gofyn am ei safbwyntiau a’i ddewis opsiwn. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol fod 653 o lythyrau wedi'u hanfon a derbyniwyd 67 o ymatebion. Cynnig 1 oedd y dewis opsiwn fel y nodwyd yn yr adroddiad. Darparodd hefyd gymhariaeth gyda'r pris a gynigiwyd a'r prisiau a awdurdodwyd gan awdurdodau trwyddedu eraill.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod ardaloedd gwledig a threfol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac y defnyddiwyd y cerbydau hyn fel rhan o fywyd bob dydd. Byddai'n ddefnyddiol bod mewn sefyllfa ble y gallem symud ymlaen ac ymateb i’r pwysau a chostau cynyddol.  

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol y gwahaniaethau rhwng cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat. Dywedodd mai Uber sy'n llywio’r gystadleuaeth ym Mro Morgannwg a Chaerdydd yn ôl pob golwg. 

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod yr ymateb yn siomedig ond rhoddwyd y cyfle i bawb roi sylwadau. Roedd yn ymddangos bod y gyrwyr yn credu y dylai fod cynnydd bychan ac roedd y mwyafrif yn cefnogi cynnig 1. Byddai'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i'r teithwyr roi eu sylwadau.

 

Cymeradwyodd Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol  y sylwadau hyn a dywedodd fod cynnig 1 yn is na'r cynigion eraill. Roedd y gyrwyr wedi gweld cynnydd sylweddol mewn premiymau yswiriant ond ni chafwyd unrhyw gynnydd o ran ffioedd ers 2011 

 

PENDERFYNWYD:              Bod yr Aelodau yn argymell bod cynnig 1 yn mynd ymlaen i'r broses hysbysiad cyhoeddus ac mai 3 Rhagfyr 2018 fyddai’r dyddiad gweithredu (ar yr amod nad oes unrhyw wrthwynebiadau).   

257.

Polisi Diogelu Data a Datgelu Categorïau Arbennig o Ddata Personol - Protocol Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio a'r Swyddog Monitro y Polisi Diogelu Data wedi’i ddiweddaru i’r Cabinet er mwyn ei gymeradwyo. Roedd wedi cael ei adolygu'n anffurfiol gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd i nodi'r Datgeliad o Gategorïau Arbennig o Ddata Personol - Protocol Aelodau Etholedig  

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio a'r Swyddog Monitro fod y Cabinet wedi derbyn adroddiad ar ddarpariaethau’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018 yn Ebrill 2018, a ddaeth i rym ym mis Mai 2018. Eglurodd fod yr awdurdod wedi adolygu ei holl weithdrefnau a pholisïau diogelu data i sicrhau eu bod yn addas i’r diben a bod y Polisi Diogelu Data a ddiweddarwyd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad.

 

Esboniodd Aelod y Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod angen diweddaru'r polisi ac atgoffodd aelodau fod hyfforddiant ar-lein ar gael ac yn orfodol. 

 

Atgoffodd yr Arweinydd yr aelodau ei fod yn drosedd  dileu gwybodaeth y gofynnwyd amdani ac ailadroddodd y byddai hyfforddiant gorfodol i aelodau.

 

Cymeradwyodd Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei sylwadau ac ychwanegodd fod hyfforddiant yn angenrheidiol a dylai gael ei drefnu cyn gynted â phosibl.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cabinet:

 (1)     Yn cymeradwyo'r Polisi Diogelu Data a    ddiweddarwyd sydd wedi'i atodi yn Atodiad 1.

                                 (2)      Yn nodi'r Datgeliad o Gategorïau Arbennig o   Ddata Personol - Protocol Aelodau Etholedig sydd wedi'i atodi yn Atodiad 2.      

258.

Adroddiadau Gwybodaeth i'w Nodi pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad yn hysbysu'r Cabinet am yr Adroddiadau Gwybodaeth i'w Nodi a gyhoeddwyd ers y cyfarfod diwethaf a drefnwyd:-

 

1.    Adroddiad Hanner Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2018-19

2.    Eithriad, o dan Reol 3.1.1 o'r Rheolau Trefniadaeth Contract (Cprs) - Gwaith Brys, Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig 

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cabinet yn cydnabod cyhoeddi’r dogfennau a restrwyd yn yr adroddiad.

259.

Estyniad prosiect ar y rhaglenni Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio, a ariannwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop pdf eicon PDF 156 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i estyn y prosiectau Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio a arweinir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop o dan Flaenoriaeth 3 (Cyflogaeth a Chyrhaeddiad Pobl Ifanc). Gofynnodd yr adroddiad hefyd i'r Cabinet ddirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn amodol ar gymeradwyaeth Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i ymrwymo i’r llythyrau ariannu angenrheidiol gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a'r cytundebau cysylltiedig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a buddiolwyr ar y cyd eraill ar ran y Cyngor.  

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd gefndir i'r rhaglenni gwaith ac esboniodd y byddai’r broses o gyflwyno’r ddau brosiect yn dod i ben yn ôl y bwriad ar ddiwedd Rhagfyr 2018, a byddai’r rhaglenni’n cau yn gyfan gwbl erbyn diwedd mis Mawrth 2019. Byddai’r estyniad arfaethedig ar gyfer y ddau brosiect yn gweld y gwasanaeth yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2022 gan barhau i gefnogi pobl ifanc nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), neu y gallent berthyn i’r categori hwnnw o bosibl. Roedd y gwaith hwn yn ganolog i alluogi'r awdurdod lleol i gyflawni’r gofynion a osodwyd yn Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Llywodraeth Cymru.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr amcanion ar gyfer pob rhaglen, crynodeb o’r bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, canlyniadau'r prosiect hyd yn hyn a'r cynigion ar gyfer proffil staff. Esboniodd y byddai’n rhaid dod o hyd i arian cyfatebol addas am gyfnod yr estyniad arfaethedig, un trwy gyfraniad gan ysgolion uwchradd yn defnyddio canran osodedig o'u Grant Gwella Addysg, ac un trwy Grant Cymorth Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y risg i'r awdurdod y gallai ffrydiau arian cyfatebol leihau neu beidio â bod ar gael mewn blynyddoedd i ddod a phe bai hyn yn digwydd, yr opsiwn i ddod o hyd i arian amgen neu i dynnu'n ôl o'r prosiect gyda'r risg o adfachu'r grant.

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod yr adroddiad yn gadarnhaol iawn a nododd  nifer y bobl yr oedd yr awdurdod wedi gweithio gyda nhw a sut roedd y lefel wedi lleihau. Dywedodd fod hwn yn gr?p pwysig i weithio gydag ef ac yn gyfle i sicrhau llwyddiant ar gyfer y dyfodol, ac roedd yn cefnogi'r cynigion.

 

Cefnogodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio yr argymhellion a dywedodd fod ganddo astudiaethau achos ar gyfer nifer o'r rheini a oedd wedi cael budd o’r rhaglenni.     

 

Dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn newyddion gwych a'i bod yn bwysig buddsoddi mewn pobl ifanc. Roedd y tabl yn dweud cyfrolau a dangosodd leihad o dros 50% ar draws yr awdurdod lleol yn nifer y myfyrwyr blwyddyn 11 sy’n gadael ysgol a oedd yn perthyn i’r categori NEET ar ôl gadael ysgol yn y flwyddyn academaidd gyntaf y daeth Ysbrydoli i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 259.

260.

Agor Canolfan Adnoddau Dysgu (LRC) Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD) yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd pdf eicon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymgynghori'n ffurfiol â rhieni, staff a chorff llywodraethu Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb ar y cynnig i sefydlu LRC i fyfyrwyr ag ASD yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd. Esboniodd fod y Cyngor yn cefnogi'r egwyddorion y dylai plant, lle bo’n bosib, gael eu haddysgu mewn amgylchedd ysgol brif ffrwd a mor agos i’w cartref â phosib. Byddai’r cynnig i agor ASD LRC arall yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn galluogi'r plant hynny ag ASD sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, i barhau eu haddysg yn eu hardal leol.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, effaith y cynigion a sut, o safbwynt y disgyblion, y byddent yn cael mynediad at brofiadau grwpiau bach unigol a dosbarth cyfan fel y bo’n briodol. Byddai disgyblion prif ffrwd eraill yn yr ysgol hefyd yn cael budd o'r cynnig gan y byddai'n anelu at ehangu'r cyfleusterau dysgu arbenigol o fewn yr ysgol.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod cefnogaeth aruthrol dros sefydlu hyn. 

 

Dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn rhywbeth newydd cyffrous ar gyfer ysgol gynradd. Byddai rhieni, llywodraethwyr a staff yn cael y cyfle i ddweud eu dweud yn y broses ymgynghori ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cabinet yn cytuno:

 

(1)       I ymgynghori'n ffurfiol ar y cynnig i sefydlu LRC i fyfyrwyr ag ASD yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd

(2)      Bod canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyfleu i'r Cabinet.     

261.

Darpariaeth i Fyfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol - Newidiadau i Ysgol Gynradd Betws pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymgynghori’n ffurfiol â rhieni, staff a chorff llywodraethu Ysgol Gynradd Betws a phartïon eraill â diddordeb ar y cynnig i roi'r gorau i ddarpariaeth anogaeth yr awdurdod lleol yn Ysgol Gynradd Betws. Esboniodd fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyflwyno darpariaeth cyfnod sylfaen yn Narpariaeth Amgen Y Bont (Y Bont). Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd effaith y cynigion, ac o safbwynt disgyblion, y byddai ganddynt fynediad at brofiadau grwpiau bach unigol a dosbarth cyfan, fel y bo'n briodol. Y nod fyddai eu helpu i ail-ymdoddi i ysgol brif ffrwd lle y bo'n briodol.

 

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio ddiolch i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd am yr adroddiad. Dywedodd fod hyn yn gyfle i bobl ddweud eu dweud yn ystod y broses ymgynghori. Cafwyd trafodaethau sylweddol eisoes rhwng Betws a’r Bont. Roedd darpariaeth Y Bont yn arbenigol iawn ac iddi enw da ac edrychodd ymlaen i glywed yr ymatebion.

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cabinet:

 

(1)       Yn cytuno i ymgynghori'n ffurfiol ar y cynnig i roi'r gorau i ddarpariaeth anogaeth yn Ysgol Gynradd Betws

Yn cytuno i ganlyniad yr ymgynghoriad gael ei gyfleu i'r Cabinet maes o law.

262.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet ar gyfer penodi llywodraethwyr awdurdod lleol i gyrff llywodraethu'r ysgol a restrwyd yn yr adroddiad. Esboniodd, ar gyfer y naw ysgol, bod y naw ymgeisydd wedi bodloni’r meini prawf cymeradwy ar gyfer eu penodi fel llywodraethwyr awdurdod lleol ac nad oedd unrhyw gystadleuaeth ar gyfer unrhyw un o’r swyddi gwag.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r penodiadau  a   restrwyd yn yr adroddiad.

263.

Cyfres 10km Porthcawl a Run4Wales pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i sefydlu trefniant partneriaeth gyda Run4Wales i gynnal ras 10k flynyddol ym Mhorthcawl am gyfnod o dair blynedd. Eglurodd fod Cynllun Rheoli Cyrchfan 2018-2022 cyfredol yn gosod y fframwaith ar gyfer rheoli’r weledigaeth twristiaeth hyd at 2022. Nod y Cynllun oedd denu digwyddiadau newydd o arwyddocâd rhanbarthol a chenedlaethol, a fyddai, fel rhan o bortffolio amrywiol o ddigwyddiadau, yn cefnogi’r broses o gyflawni’r flaenoriaeth i godi proffil a denu mwy o bobl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod cynnydd nas gwelwyd erioed o’r blaen mewn rhedeg cymdeithasol yn y DU ar hyn o bryd. Nododd yr Arolwg ar Oedolion Egnïol gynnydd yn nifer y rhedwyr yng Nghymru o 6.9% yn 2009 i 13.4% yn 2014. Byddai ras 10k newydd ym Mhorthcawl yn ffurfio rhan o'r gyfres 10k Run4Wales yn ogystal â Bae Caerdydd, Casnewydd ac Ynys y Barri. Byddai digwyddiad cyntaf Porthcawl yn cael ei gynnal yn 2019 gyda dau ddigwyddiad arall yn 2020 a 2021. Eglurodd fod goblygiadau ariannol, ac ar y cam hwn fod angen cyfraniad ariannol o £10,000 fesul digwyddiad. Byddai arian yn cael ei ddiogelu trwy gyllidebau presennol y Gyfarwyddiaeth Cymunedau. Amlinellodd agweddau eraill y gallai fod arnynt angen cefnogaeth staff amgen neu gyfraniad ariannol fel gwasanaethau rheoli traffig a stiwardio.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio na ddylid diystyru pwysigrwydd hyn ac y byddai'n dod â sylw i Borthcawl ar y teledu ac yn y cyfryngau, ac roedd yn ei gefnogi 100%.      

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau fod hyn yn gyfle i godi proffil Porthcawl. Roedd hwn yn lleoliad poblogaidd a byddai'n un o gyfres o ddigwyddiadau i godi proffil De Cymru yn gyffredinol.

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Cabinet:

 

(1)                                                                1.    Yn cefnogi sefydlu digwyddiad 10k Porthcawl mewn partneriaeth â Run4Wales am gyfnod cychwynnol o dair blynedd.

(2)                                                               

(3)                                                              2.      Yn dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, mewn cytundeb â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio a'r Pennaeth Cyllid Dros Dro, i gwblhau trafodaethau gyda Run4Wales, dod i gytundeb o ran trefniadau amgen a chefnogaeth ariannol ac ymrwymo i drefniant partneriaeth tair blynedd a chytundeb cysylltiedig gyda Run4Wales.       

 

264.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim