Agenda item

Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd Sir Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Roedd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd yn ymofyn creu Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan Argyfwng Hinsawdd ym mis Ebrill 2019.

 

Adroddodd fod Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), ym mis Hydref 2018, wedi llunio adroddiad ar gyflwr cynhesu byd-eang, gan nodi y bydd cynhesu parhaus yn nhymereddau’r byd yn cynyddu’n sylweddol y tebygolrwydd y bydd llifogydd, sychderau a gwres eithafol, a’u heffaith o ganlyniad.  Datganodd yr adroddiad bwysigrwydd cyfyngu ar gynhesu byd-eang a gofyniad am weithredu ar raddfa ac ar gyflymder digynsail.  Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ym mis Ebrill 2019 ac, yn dilyn hyn, eu bod wedi ymrwymo i gyflawni sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030.  Yn ogystal, mae ymrwymiad i gydlynu gweithredu er mwyn helpu meysydd eraill yr economi i gamu’n bendant rhag tanwyddau ffosil, yn cynnwys academia, diwydiant a’r trydydd sector.

 

Adroddodd Rheolwr Gr?p – Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd fod gan y Cyngor ran hanfodol i’w chwarae trwy reoli ei adnoddau a’i asedau ei hun a’r ffordd y mae’n gweithio gyda phreswylwyr, sefydliadau a busnesau lleol, ac yn eu cynorthwyo, i ymateb i’r heriau yn adroddiad yr IPCC.  I gefnogi hyn, ac amlinellu rhai camau gweithredu uniongyrchol, cynigiwyd bod Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd yn cael ei datblygu i gynnwys y canlynol:

 

  • Pwyllgor o aelodau trawsbleidiol i oruchwylio’r Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd;
  • Creu rôl swyddog bwrpasol i arwain:
    • Cydlynu holl wasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
    • Cydweithredu â phartneriaid sector cyhoeddus, preifat a thrydydd sector allweddol.
    • Ymgysylltu â phreswylwyr lleol.

 

  • Datblygu Cynulliad Dinasyddion Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar yr Argyfwng Hinsawdd;
  • Datblygu Strategaeth Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd Sir Pen-y-bont ar Ogwr a chynllun gweithredu â blaenoriaethau, gan gynnwys costau a gweithdrefnau monitro ac adrodd ar berfformiad;
  • Cynnal Uwchgynhadledd flynyddol Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar Gynaliadwyedd.

 

Adroddodd y bydd yr adnoddau blynyddol sy’n ofynnol i arwain y Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd, sef £215,000, yn cael eu hariannu o’r gyllideb £2 filiwn sydd newydd ddod ar gael yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Bydd y £215,000 ar gyfer rhaglen blwyddyn lawn, sef costau staff o £65,000 a chyllideb refeniw o £150,000. 

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y cynigion a oedd yn cynnwys creu rôl bwrpasol, Pwyllgor o aelodau trawsbleidiol a chydweithredu â phartneriaid allweddol i gyflwyno’r strategaeth.  Dywedodd yr Arweinydd y bydd gan y prosiectau ysgogiad cyllidol a bod Pen-y-bont ar Ogwr mewn lle da i fanteisio ar gyfleoedd a fydd yn codi yn y dyfodol.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ei bod yn credu bod y prosiectau yn gyflawnadwy ac yn arloesol, fel prosiect Ynni D?r Pwll Glo Caerau.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y byddai prosiect Ynni D?r Pwll Glo Caerau yn ysgogi llai o ddibyniaeth ar danwyddau ffosil i gynhesu cartrefi pobl ac, o bosibl, ar safleoedd partneriaid y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:         Bod y Cabinet yn cymeradwyo creu Rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd fel y’i hamlinellir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad, ei dyraniad adnoddau cychwynnol fel yr amlinellir ym mharagraffau 8.1 – 8.3 a chael adroddiadau yn y dyfodol ar ei chynnydd.   

Dogfennau ategol: