Agenda item

I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd mai nod y Cyngor oedd ail-agor mannau chwarae i blant erbyn 30 Gorffennaf.  Crybwyllodd na ellir agor pob safle ar unwaith, oherwydd bod rhaid cynnal asesiad risg priodol ac archwilio pob safle er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i’w defnyddio, nad yw’r offer chwarae wedi’i ddifrodi na’i fandaleiddio, ac y gallwn gymryd yr holl ragofalon angenrheidiol i gyfyngu’r potensial o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.  Er mwyn bodloni hyn, rhaid cyflwyno arwyddion newydd i gynghori pobl ar y gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol a defnyddio hylif diheintio dwylo yn y man chwarae, a mwy. 

 

Cyhoeddodd hefyd fod y canfasio etholiadol blynyddol yn mynd rhagddo, a bod y Cyngor yn annog cymaint â phosibl o breswylwyr cymwys i lenwi eu cofrestriadau ar-lein, fel rhan o’r ymdrechion i gyfyngu ar ledu’r coronafeirws.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor, ar ôl i Aelodau’r Senedd basio’r Bil ym mis Tachwedd y llynedd, y gall pobl ifanc 14 a 15 oed gofrestru ymlaen llaw er mwyn iddynt allu pleidleisio’n 16 oed.  Roedd yn gobeithio y bydd Aelodau’n annog preswylwyr lleol i gyflawni’r canfasio yn ôl yr angen, ac mae’r tudalennau etholiadol ar wefan y Cyngor yn cynnwys mwy o fanylion am sut y gallant wneud hynny. 

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd hefyd, drwy gydol y pandemig, y bu’r Cyngor yn ymgymryd ag ystod o fentrau a luniwyd i helpu clybiau chwaraeon lleol.  Mae hyn yn cynnwys sefydlu Cronfa Cymorth Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr i roi grantiau o hyd at £1,000 i glybiau.  Gwnaed penderfyniad yn ddiweddar i hepgor ffioedd ar gyfer tymor 2019-20 a rhoi cefnogaeth barhaus i glybiau sydd eisoes yn datblygu’r broses trosglwyddo asedau cymunedol.  Sicrhawyd bod mwy o gymorth ar gael drwy Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru.  Mae hyn yn galluogi clybiau i wneud cais am grantiau rhwng £300 a £50,000 i helpu i dalu am gyfleustodau, yswiriant a chostau sefydlog eraill a all fod ar waith ar gyfer llogi cyfleusterau neu offer.  Gall helpu clybiau i wneud addasiadau hefyd er mwyn sicrhau bod gweithgareddau’n ddiogel, fel cyflwyno system unffordd, darparu hylif diheintio dwylo a phlatfformau archebu ar-lein, neu osod arwyddion iechyd a diogelwch.  Os yw Aelodau’n ymwybodol o unrhyw glybiau lleol yn eu cymunedau a all elwa ar hyn, mae manylion llawn ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru, a byddem yn annog clybiau chwaraeon i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd ariannu sydd ar gael.

 

Roedd hefyd am roi gwybod i etholwyr, gan fod y pandemig yn bodoli o hyd, bod ystod o gymorth ariannol ar gael i unrhyw un sy’n cael trafferth talu’r Dreth Gyngor.  Anfonwyd dros 6,000 o lythyrau yn rhoi gwybod i breswylwyr am y balansau sy’n weddill ar eu cyfrifon.  Crybwyllodd fod hwn yn gyfnod heriol ac ansicr dros ben, a bod y Cyngor wedi ceisio cydweithio â phreswylwyr, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.  Mae ystod o opsiynau ar gael, gan gynnwys gostyngiadau, disgowntiau ac atgyfeiriadau, ac mae’n gobeithio y bydd Aelodau’n annog unrhyw un sy’n cael trafferthion i gysylltu â’r Cyngor er mwyn canfod ffordd ymlaen.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd mai cyfarfod y Cyngor heddiw fyddai cyfarfod olaf Sue Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, cyn iddi ymddeol.  Cyfeiriodd at hanes nodedig y Cyfarwyddwr fel arweinydd proffesiwn mor bwysig i’r Awdurdod a Chymru; proffesiwn y bu’n rhan ohono ar hyd ei gyrfa.  Bu’n angerddol iawn tuag at y cymorth a ddarperir i’r bobl fwyaf agored i niwed yn y Fwrdeistref ac yn ymroddedig i sicrhau bod ei chalon ym mhob un o’r penderfyniadau a wnaed o’r diwrnod cyntaf iddi ddechrau gweithio i Gyngor Bwrdeistref Ogwr, a bydd yno yn ei diwrnod olaf yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Dechreuodd Ms Cooper ar y rheng flaen, a dangosodd yr ymroddiad hwnnw i ddinasyddion a chymunedau Pen-y-bont ar Ogwr dro ar ôl tro, nid lleiaf drwy ei phenderfyniad diweddar i ohirio ei hymddeoliad gan fod y pandemig yn cael effaith mor ddinistriol ar Ben-y-bont ar Ogwr.  Crybwyllodd yr Arweinydd ei bod wedi newid ei chynlluniau a’i bod am arwain ymateb yr Awdurdod i’r argyfwng yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Diolchodd i Ms Cooper am ei gwaith arbennig.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar i’r Cyfarwyddwr am ei hymroddiad, ei phenderfyniad i gyflawni pethau a’u cyflawni’n ddiogel, a fu’n nodwedd ragorol a thrugarog.  Roedd yn falch o fod yn gydweithiwr ac yn gyfaill ac, o siarad â phobl eraill yn ei phroffesiwn a’i swydd, roeddent wedi edmygu ei phroffesiynoldeb ac roedd yn ddelfryd ymddwyn i bobl eraill.  Crybwyllodd y bu’n ysbrydoledig dros y 5 mlynedd diwethaf wrth arwain y Gyfarwyddiaeth drwy’r rhaglen drawsffurfio ac uno’r Awdurdod â rhanbarth iechyd newydd.  Bu’r trawsnewid hwnnw’n llwyddiant mawr i Ben-y-bont ar Ogwr.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor ei bod wedi cyrraedd brig ei gyrfa drwy waith caled.  Byddai’n gweld colled ar ôl Ms Cooper.  Roedd yn teimlo bod y Gyfarwyddiaeth yn addas i’r diben a’r 21ain ganrif, a bod yr Awdurdod a phreswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn well am ei chyfraniad a’i thrugaredd, ac am wneud pethau’n iawn ar gyfer gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chymru.  Dymunodd ymddeoliad hir ac iach i Ms Cooper. 

 

Ailadroddodd Arweinydd yr Wrthblaid bopeth roedd ei chydweithwyr wedi’i ddweud, a dywedodd y byddai’n gweld colled fawr ar ôl Ms Cooper.  Diolchodd iddi am y ffordd broffesiynol roedd wedi cyflawni ei rôl a’r hyn yr oedd wedi’i wneud i breswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn enwedig ei phreswylwyr mwyaf agored i niwed.  Dymunodd ymddeoliad hir a hapus iawn iddi. 

 

Diolchodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles i’r Aelodau am eu sylwadau, a oedd yn drech na hi.  Dywedodd y bu’n ychydig fisoedd anodd, ond bod Pen-y-bont ar Ogwr wedi dod drwyddo’n dda iawn, ac y bu’n fraint gweithio ochr yn ochr â phawb dros yr ychydig fisoedd diwethaf.  Diolchodd i bawb am eu cefnogaeth dros y 36 blynedd, a diolchodd yn arbennig i’r Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Help Cynnar, cyn Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet blaenorol.  Dywedodd y bu’n anodd ac yn heriol iawn ar adegau, ond bob amser yn werth chweil.  Bu’n fraint bod yn rhan fach o gefnogi a gwella bywydau pobl, a’r bobl hynny sy’n fwyaf agored i niwed.  Dywedodd ei bod yn falch iawn o’i phroffesiwn ac o fod yn weithiwr cymdeithasol, ac yn falch iawn o weithio i’r Cyngor, sydd ag enw da iawn.  Diolchodd i bawb am eu dymuniadau da.