Agenda item

Estyniad i'r contract - Gwasanaeth Byw gyda Chymorth Clos Penglyn

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio awdurdod i amrywio'r contract presennol gyda DRIVE Ltd mewn perthynas â'r gwasanaeth byw â chymorth arbenigol yng Nghlos Penglyn, a hynny trwy ymestyn y tymor presennol am 12 mis arall, yn unol â Rheol Gweithdrefn y Contract (CPR) 3.2.9.3.

 

Eglurodd fod y contract presennol ar gyfer darparu gwasanaeth byw â chymorth arbenigol yng Nghlos Penglyn ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu cymhleth ac awtistiaeth wedi'i gomisiynu yn 2016, ac fe'i dyfarnwyd i DRIVE Ltd yn dilyn ymarfer tendro. Daw'r contract presennol sydd ar waith gyda DRIVE Ltd i ben ar 31 Awst 2020, heb unrhyw ddarpariaeth i’w ymestyn.

 

Oherwydd effaith sylweddol ac annisgwyl pandemig Covid-19, a'r cyfyngiadau symud dilynol i reoli heintiau pellach, ni fu'n bosibl i swyddogion gynnal ymarfer ail-gomisiynu fel y bwriadwyd yn wreiddiol, na thendro'r gwasanaeth yn gystadleuol.

 

O ystyried ansicrwydd ynghylch hyd y mesurau 'cyfnod clo' presennol sydd ar waith, cynigir y dylid ymestyn y contract presennol gyda DRIVE Ltd ar gyfer darparu gwasanaeth byw â chymorth arbenigol yng Nghlos Penglyn am 12 mis arall, hyd 31 Awst 2021, sef yr amser sydd ei angen er mwyn cynnal ymarfer ail-gomisiynu. Bydd y gweithgaredd ailgomisiynu yn golygu ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, a bydd yn dibynnu ar leddfu cyfyngiadau presennol cyfnod clo Covid-19. Mae problemau capasiti hefyd gan fod aelodau'r Tîm Comisiynu yn canolbwyntio ar weithgareddau sy'n gysylltiedig â Covid 19, mae hyn oll yn gofyn estyniad pellach o 12 mis.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod darpariaeth o dan CPR 3.2.9.3 i geisio addasu contract sy'n bodoli eisoes o dan rai amgylchiadau, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.2 o'r adroddiad.

 

           Cwblhaodd yr eitem hon drwy gadarnhau bod effaith pandemig Covid-19 yn achos dros addasu, yn sgil amgylchiadau na allai'r Cyngor fod wedi'u rhagweld wrth ymrwymo i'r contract gwreiddiol gyda Drive. Ni fyddai natur gyffredinol y contract yn cael ei newid, a bydd yr holl delerau cytundebol eraill yn aros yn ddigyfnewid, yr unig amrywiad arfaethedig yw’r estyniad o 12 mis. Nid yw'r addasiad arfaethedig yn fwy na 50% o werth gwreiddiol y contract.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yr Aelodau at oblygiadau ariannol yr adroddiad, i gael rhagor o fanylion am werth yr addasiad arfaethedig.

 

Roedd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar o blaid ymestyn y contract am 12 mis, oherwydd y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod y newidiadau a wneir wedi mynd i'r afael â rhai o'r pryderon cynyddol a amlygwyd yn yr adroddiad, ac roedd o’r farn y dylid diweddaru'r Aelod(au) lleol yr ardal ar benderfyniad y Cabinet yn y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD:                        Fod y Cabinet yn awdurdodi addasu'r contract presennol gyda DRIVE Ltd mewn perthynas â Chlos Penglyn drwy ymestyn y tymor presennol am 12 mis arall hyd at 31 Awst 2021, yn unol â CPR 3.2.9.3.

 

Dogfennau ategol: