Cofnodion:
Cyflwynodd Prif Gyfrifydd y Rheolwr Gr?p Dros Dro Ddatganiad o Gyfrifon terfynol ar gyfer 2019-20, a fydd bellach yn cael ei ardystio gan archwilwyr allanol, Archwilio Cymru, a Llythyr Sylwadau cysylltiedig y Cyngor. Dywedodd y bydd Archwilio Cymru yn diweddaru'r Pwyllgor am eu prif ganfyddiadau o'r archwiliad, yn crynhoi'r gwaith archwilio a gynhaliwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20, ac yn cyflwyno eu Hadroddiad Archwilio Datganiadau Ariannol, sy'n mynnu bod yr archwilydd penodedig yn adrodd y canfyddiadau allweddol hynny i'r rhai hynny sy'n gyfrifol am lywodraethu.
Adroddodd fod y Datganiad o Gyfrifon 2019-20 heb eu harchwilio wedi'i lofnodi gan y swyddog ariannol cyfrifol ar 30 Mehefin 2020 a'i gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio ar 16 Gorffennaf 2020 i'w nodi. Dywedodd fod yr archwiliad allanol wedi'i gynnal yn ystod y cyfnod cyfamserol, gan arwain
at newidiadau i'r datganiadau ariannol a nodir isod:
Ni chafodd yr un o'r addasiadau hyn effaith ar Gronfa'r Cyngor.
Adroddodd fod nifer o'r nodiadau wedi'u haddasu na effeithiodd ar sefyllfa ariannol y Cyngor, ac maent wedi'u manylu yn Adroddiad yr Archwiliwr. Nododd fod angen i'r Prif Swyddog Ariannol a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio lofnodi'r Datganiad o Gyfrifon 2019-20 erbyn 15 Medi, fel 'adlewyrchiad gwir a theg' o sefyllfa ariannol y Cyngor ar 31 Mawrth 2020.
Nododd hefyd fod Archwilio Cymru wedi cwblhau rhan sylweddol o'u gwaith archwilio a bydd y Datganiad o Gyfrifon yn cael ei lofnodi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 14 Medi 2020, yn amodol ar y Pwyllgor Archwilio yn cymeradwyo'r cyfrifon. Nid oes newid i falansau Cronfa'r Cyngor a Chronfeydd wedi'u Clustnodi ar 31 Mawrth 2020, fel y cyflwynir i'r Pwyllgor Archwilio ym mis Mehefin 2020. Nododd fod un argymhelliad wedi'i godi ar ôl yr archwiliad, mewn cymhariaeth â naw y flwyddyn flaenorol. Mae'r argymhelliad yn ymwneud â goruchwylio Cofrestr Asedau Sefydlog y Cyngor, ac yn nodi y dylai'r Cyngor gryfhau ei reolyddion mewn perthynas â'r Gofrestr Asedau drwy ymgymryd ag adolygon rheolaidd o fynediad a defnydd y system. Sicrhaodd y Pwyllgor bod gwiriadau blynyddol yn cael eu cynnal
drwy sicrhau bod balansau agoriadol yn y flwyddyn gyfredol yn cyd-fynd â balansau terfynol y flwyddyn flaenorol fel rhan o broses Datganiad o Gyfrifon Terfynol flynyddol, a bod ychwanegiadau a gwarediadau yn cyd-fynd â thrafodion yn y system gyfrifeg graidd. Nododd y bydd adolygiadau yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn i sicrhau gonestrwydd parhaus y data a gedwir yn y Gofrestr Asedau i ddarparu sicrwydd ychwanegol yn unol â'r argymhelliad.
Hysbysodd cynrychiolydd Archwilio Cymru y Pwyllgor ei fod wedi rhyddhau ei ofynion ac yn bwriadu cyhoeddi tystysgrif archwilio anghymwys, yn cadarnhau eu bod yn cyflwyno safbwynt gwir a theg ac wedi'u paratoi'n gywir. Diolchodd y staff am eu proffesiynoldeb a hysbysu'r Pwyllgor y bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn ardystio'r cyfrifon ar 14 Medi 2020.
Rhoddodd Prif Gyfrifydd Rheolwr y Gr?p Dros Dro sylw yngl?n â natur gadarnhaol yr adroddiad a oedd wedi'i gyflawni mewn cyfnod heriol gyda sawl aelod newydd o staff yn ymuno â'r Tîm. Diolchodd y tîm Archwilio am eu cefnogaeth.
Diolchodd y Prif Weithredwr Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro a Chadeirydd i'r Tîm Cyllid a'r archwilwyr allanol am eu gwaith ar y Datganiad o Gyfrifon.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor:
• wedi cymeradwyo'r Datganiad o Gyfrifon 2019-20 a archwiliwyd fel y diwygiwyd (Atodiad A)
• wedi nodi Adroddiad Archwilio Datganiadau Ariannol yr archwilwyr penodedig (Atodiad B)
• wedi nodi a chytuno'r Llythyr Sylwadau Terfynol at Swyddfa Archwilio Cymru (Atodiad C).
Dogfennau ategol: