Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

Gyda thristwch mawr, cyhoeddodd y Maer fod cydweithiwr a ffrind, Kevin Stephens, wedi huno’n ddiweddar oherwydd Covid 19.  Bydd llawer o Aelodau wedi adnabod Kevin yn bersonol, ag yntau wedi bod yn aelod uchel ei barch o'r tîm gwasanaethau democrataidd. Yn wir, byddai wedi bod yma yn cynorthwyo yn y cyfarfod hwn heddiw, yn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.  Bu Kevin yn aelod ymroddedig a gweithgar o CBSP am fwy na 25 mlynedd, ac yn y cyfnod hwnnw daeth yn ffrind gydol oes i nifer ar draws yr awdurdod, rydym yn estyn cydymdeimlad a chefnogaeth y Cyngor i'r staff hynny sy'n ceisio dygymod â cholled ffrind a chydweithiwr.  Roedd Kevin hefyd yn agos iawn i’w deulu, ac mae’r Aelodau'n anfon eu cydymdeimlad at ei wraig Annie, ei feibion James a Luke, a'i fam Elsie yn ystod y cyfnod anodd hwn. Dywedodd y Maer wrth yr aelodau ei fod ef a'i Gonsort wedi cwrdd â'r teulu y tu allan i'r eglwys cyn i'r gwasanaeth angladd gael ei gynnal.  Fel arwydd o barch ac i gofio Kevin, cafwyd munud o dawelwch gan bawb a oedd yn bresennol.

 

Cyhoeddodd y Maer iddo gael braint yr wythnos ddiwethaf o ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr y gwasanaethau cymdeithasol a wnaeth apêl Siôn Corn yn bosibl eleni.  Bu’n dipyn o her i bawb drefnu'r casgliad wrth gydymffurfio â'r rheoliadau pandemig, yn enwedig gan fod nifer y teuluoedd mewn angen a enwebwyd wedi cynyddu i dros 300 o blant a phobl ifanc. Dywedodd fod llwyddiant arbennig yr apêl yn glod i bartneriaid y Cyngor, Eglwys Tabernacl Brackla, Tesco Pen-y-bont ar Ogwr, ysbyty Hafod y Wennol a disgyblion blwyddyn 9 Ysgol Brynteg, am eu bod wedi cyrraedd cynifer o blant a phobl ifanc ag sydd mewn angen.

 

Dirprwy Arweinydd

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd fanylion trefniadau ailgylchu a chasglu gwastraff y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd i’r Cyngor, a chyhoeddodd newid pwysig iawn y gallai’r Aelodau helpu i wella ymwybyddiaeth pobl ohono.  Gofynnir i aelwydydd lle mae rhywun yn dangos symptomau coronafeirws wneud yn si?r bod unrhyw wastraff meinwe, fel papur toiled/cegin, neu glytiau gwlyb, yn cael eu bagio ddwywaith a'i gosod i’r neilltu am 72 awr.  Ar ôl hyn, gellir gosod y bag y tu allan ym mag sbwriel y cartref.  Er mwyn helpu i gadw casglwyr yn ddiogel, ni ddylid cynnwys gwastraff o'r fath gyda’r papur i’w ailgylchu ar unrhyw gyfrif.

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd y bydd y casgliadau eleni yn cael eu cynnal fel arfer ar Noswyl Nadolig a Nos Galan, ond nid ar Ddydd Nadolig, G?yl San Steffan na Dydd Calan.  Bydd gwastraff sydd i fod i gael ei gasglu ar Ddydd Nadolig yn cael ei gasglu ddydd Sul 27 Rhagfyr. Bydd casgliadau Dydd Calan yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 2 Ionawr.  Gan fod g?yl banc G?yl San Steffan wedi’i symud i ddydd Llun 28 Rhagfyr, bydd y casgliadau'n cael eu cynnal fel arfer ar y diwrnod hwn.  Bydd preswylwyr hefyd yn gallu cynnwys un bag sbwriel ychwanegol yn y casgliad sbwriel cyntaf a drefnir ar ôl y Nadolig.  Bydd cerbyd ychwanegol yn casglu cardbord, felly gellir casglu hwn ar wahân i wastraff ailgylchu arall y cartref.  Atgoffir preswylwyr nad oes cyfyngiadau ar faint o wastraff i’w ailgylchu y gellir ei roi allan i'w gasglu, ac y gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o ddeunyddiau.  Y prif eitemau na ellir eu hailgylchu yw cardiau sydd â gliter arnynt, papur lapio, plastig du, selloffên, deunydd swigod, a pholystyren.  Gellir mynd â choed Nadolig i ganolfan ailgylchu gymunedol leol.

 

Aelod Cabinet Cymunedau

Rhoddodd yr Aelod Cabinet - Cymunedol ddiweddariad i’r Cyngor ar yngl?n â rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol, sef mai Rest Bay Sportys, sy'n cynrychioli Clwb Pêl-droed Porthcawl, a Phorthcawl United yw'r sefydliadau diweddaraf i fanteisio ar y fenter.  Maent am reoli caeau chwarae a phafiliwn Rest Bay eu hunain ar brydles adnewyddadwy o bum mlynedd, ac maent wedi derbyn ychydig dros £45,000 tuag at y gost o ailddatblygu'r pafiliwn.  Gyda £10,000 pellach wedi’i ddarparu ar gyfer offer i gynnal a chadw’r caeau, mae'r clybiau'n bwriadu trawsnewid y pafiliwn hen ffasiwn drwy ymestyn ac adnewyddu lefel y llawr cyntaf, a balconi uwchlaw’r cae chwarae. 

 

Dywedodd fod y Cyngor yn parhau i gefnogi nifer fawr o glybiau chwaraeon wrth iddynt ymgymryd â'r broses hunanreoli, a'u bod yn bwriadu recriwtio syrfëwr trosglwyddo asedau cymunedol i gryfhau'r broses.  Ym mis Hydref 2020, derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer rheoli 53 o gyfleusterau chwaraeon awyr agored a phafiliynau parciau, ac erbyn mis Tachwedd, roedd deg clwb bowlio arall wedi cytuno ar denantiaethau tymor byr.  Cyhoeddodd y bydd nifer o drosglwyddiadau eraill i glybiau chwaraeon a chynghorau tref a chymuned yn cael eu cwblhau yn ystod y misoedd nesaf, a byddai'n dod â newyddion pellach ar hyn yn fuan.

 

Aelod Cabinet Gwasanaeth Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar at gyhoeddiad cynharach gan yr Arweinydd lle amlinellodd y sefyllfa ddifrifol sydd o'n blaenau o ganlyniad i'r cynnydd mewn achosion coronafeirws, a sut mae cyfarwyddiaethau'n cymryd camau i sicrhau y gellir ei reoli'n effeithiol.  O safbwynt y gwasanaethau cymdeithasol, mae nifer o risgiau uwch o ganlyniad i gynnydd yn absenoldebau staff, naill ai oherwydd Covid-19 neu oherwydd yr angen i hunanynysu.  Mae capasiti ymhlith darparwyr gofal cartref mewnol ac annibynnol yn dynn ar hyn o bryd, felly gall unrhyw leihad pellach yn y gweithlu hwnnw olygu na allant fodloni holl ofynion y cynllun gofal a chymorth.  Er bod rhagor o gapasiti mewn cartrefi preswyl a nyrsio ac ar draws y gwasanaeth gofal preswyl i blant, mae'r sefyllfa'n dal i fod yr un mor fregus.  Er mwyn darparu ar gyfer hyn, mae nifer o gamau gweithredu allweddol yn cael eu cymryd yn unol â chynlluniau parhad busnes. 

 

Yn gyntaf, mae’r gwasanaethau hanfodol yn cael eu hadolygu, eu blaenoriaethu, a'u cydgysylltu'n rheolaidd ar lefel cyfarwyddwr yn ogystal â lefel penaethiaid gwasanaeth.  Mae'r meysydd gwasanaeth sy’n cael blaenoriaeth o fewn gofal cymdeithasol i oedolion a phlant yn cynnwys: diogelu, gofalu am y rhai mwyaf agored i niwed, asesiadau iechyd meddwl, rheoli achosion ar gyfer plant sy'n agored i niwed, gofal preswyl a gwasanaethau sy'n cefnogi maethu.  Bydd y ddarpariaeth o ofal seibiant a gwasanaethau dydd yn cael ei hadolygu'n gyson hyd nes y bydd y sefyllfa'n gwella, a chysylltir ag unigolion a theuluoedd yr effeithir arnynt i roi cymorth ac i egluro unrhyw newidiadau angenrheidiol.  Roedd gwaith yn cael ei wneud ar ddechrau'r pandemig i benderfynu a oedd gan staff brofiad blaenorol o weithio mewn gwasanaethau megis gofal uniongyrchol er enghraifft.  O ganlyniad i'r blaengynllunio hwn, mae staff bellach yn cael eu hadleoli i gefnogi rheolwyr gweithredol.  Mae pecyn hyfforddi sylfaenol wrthi’n cael sefydlu fel rhan o hyn er mwyn sicrhau y gall staff sydd wedi'u hadleoli helpu i ddarparu gwasanaethau rheng flaen yn effeithlon, a chant eu paru â staff rheolaidd hefyd er mwyn sicrhau eu bod mor effeithiol â phosibl.

 

Yn ogystal, mae gweithio'n mynd rhagddo gyda'r tîm Cyllid i sefydlu proses llwybr carlam ar gyfer taliadau uniongyrchol a all hwyluso gofal a chymorth ymhellach.  Dywedodd y Cabinet fod y sefyllfa'n heriol ac yn newidiol, ond mae gan y Cyngor gyfarwyddwr ac uwch dîm rheoli hynod brofiadol ar waith i ymdopi  â hyn, ac roedd hi'n hyderus bod yr awdurdod mewn dwylo diogel.  Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet mai sefyllfa dros dro yw hwn, ond fod ei hyd yn dibynnu os yw’r gyfradd heintio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i godi neu’n gostwng.  Cefnogodd yr Aelod Cabinet yr alwad gan yr Arweinydd i bobl gydymffurfio â’r holl ganllawiau, ac i helpu i atal lledaeniad coronafeirws.

 

Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol hysbysiad i’r Aelodau am waith gorfodi pwysig sy'n parhau i ddigwydd ar draws y fwrdeistref sirol yn ystod y pandemig.  Dywedodd y gallai Aelodau fod wedi gweld safleoedd lleol yn cael rhywfaint o sylw yn y cyfryngau wedi iddynt dderbyn hysbysiadau gwella yn sgil arolygiadau’r tîm Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir   Dywedodd fod y tîm yn cyflawni gwaith hanfodol i sicrhau bod busnesau'n dilyn rheolau a rheoliadau drwy gydol y pandemig ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw cwsmeriaid a staff yn ddiogel.  Yn gyffredinol, mae gorfodaeth yn digwydd ar ffurf hysbysiad gwella safle, sy'n rhoi manylion y mesurau sydd eu hangen i fodloni'r rheoliadau, i’w gosod o fewn terfyn amser penodol, 48 awr fel arfer.  Os bydd y busnes yn methu â chydymffurfio, gall swyddogion gorfodi gyhoeddi hysbysiad cau safle, a all aros yn ei le am hyd at bedwar diwrnod ar ddeg. 

Mewn rhai amgylchiadau, gall swyddogion gorfodi gau'r safle ar unwaith heb gyflwyno hysbysiad gwella, ond dim ond pan dorrwyd rheoliadau'n ddifrifol y byddai hyn.  Nid yw hyn wedi bod yn angenrheidiol hyd yn hyn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol wrth y Cyngor fod un safle, clwb nos, wedi cael hysbysiad cau ar ôl methu â chydymffurfio â'r gwelliannau gofynnol, ond bod y rhan fwyaf o safleoedd sydd wedi derbyn hysbysiadau gwella wedi cydymffurfio'n llwyr ac wedi gallu parhau i fasnachu.  O'r busnesau hyn, roedd unarddeg yn dafarndai a bariau trwyddedig. Roedd un gampfa, un archfarchnad, a phedair siop bwyd tecawê.  Mae swyddogion gorfodi yn parhau i ymweld â safleoedd i sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau yn ystod y pandemig.  Anogodd yr Aelodau i gyfarwyddo unrhyw etholwyr neu fusnesau yn eu ward sydd am wybod mwy am hyn at wefan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

 

Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn ysgolion lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig.  Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau cenedlaethol ar gyfer pob ysgol a choleg ledled Cymru.  Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae pob ysgol uwchradd, gan gynnwys dosbarthiadau chweched, wedi symud i ddysgu ar-lein yn unig ac ar ôl heddiw, bydd pob ysgol fabanod, iau, cynradd ac arbennig, gan gynnwys The Bridge, hefyd yn symud i ddysgu ar-lein, a fydd ar waith am weddill yr wythnos.  Mae nifer o ysgolion wedi gorfod cyflwyno'r cynlluniau hyn yn gynharach na’r disgwyl, oherwydd y nifer uchel o staff ac athrawon sydd naill ai wedi contractio coronafeirws neu sy'n hunanynysu o ganlyniad i ddod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif.

 

Diolchodd a llongyfarchodd staff ac athrawon yr ysgol am eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus, ac am sicrhau y gall disgyblion barhau i dderbyn gwersi yn yr amgylchiadau anoddaf.

 

Dywedodd wrth y Cyngor y bydd plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn derbyn parseli bwyd ar gyfer gwyliau'r Nadolig.  Mae pob parsel yn cwmpasu cyfnod o bythefnos a chant eu danfon i gyfeiriadau cartref pob disgybl cymwys.  Bydd y rhai sydd o oedran ysgol uwchradd hefyd yn derbyn parsel bwyd ychwanegol o ystyried y trefniadau dysgu ar-lein.

 

Prif Weithredwr

Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi dechrau ar Uwch Gynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, a gofynnodd i'r Aelodau annog trigolion i gymryd rhan ynddo.  Dywedodd fod yr Uwch Gynllun yn strategaeth ddeng mlynedd uchelgeisiol iawn gyda nifer o nodau pellgyrhaeddol. 

Mae'n cynnwys ystod eang o gynigion megis creu sgwâr tref newydd, symud Coleg Pen-y-bont ar Ogwr i ganol y dref, trawsnewid adeiladau adfeiliedig a gwag yn siopau a thai newydd, a llawer mwy.  Mae'r Cyngor wedi cydweithio ag ymgynghorwyr arbenigol i gynhyrchu'r uwch gynllun, a’r nod yw cynyddu nifer y bobl sy'n siopa, yn gweithio, yn byw, yn ymweld, a’n mwynhau canol y dref drwy ddefnyddio dull 'parthau' i gynyddi’r cyfleoedd manwerthu, i greu gofod masnachol a swyddfeydd newydd, i gyflwyno gwaith newydd ar yr amgylchfyd cyhoeddus, ac i ddarparu gwell cyfleusterau trafnidiaeth.

 

Mae safbwyntiau ac adborth eisoes wedi’i dderbyn gan berchnogion busnes a rhanddeiliaid ehangach; roedd barn trigolion ar yr uwchgynllun bellach yn cael ei geisio.  Dywedodd y bydd yr ymgynghoriad yn ‘fyw’ tan 1 Mawrth 2021, a gall y cyhoedd gymryd rhan mewn sawl ffordd wahanol, ceir manylion y dulliau hyn ar dudalen ymgynghori gwefan y Cyngor.