Agenda item

Moderneiddio Ysgolion - Gogledd Ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr - Canlyniad yr Astudiaeth Ddichonoldeb ym Mryn Bracla

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd  adroddiad er mwyn:

 

           hysbysu'r Cabinet ynghylch canlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb o'r bwriad i adleoli Ysgol Gymraeg (YG) Bro Ogwr i safle Bryn Bracla, ac ehangu'r ysgol honno;

           gofyn am gymeradwyaeth i hepgor safle Bryn Bracla o unrhyw ystyriaethau pellach ynghylch cynnig Band B Ysgol Bro Ogwr; a

           gofyn am gymeradwyaeth i archwilio opsiynau amgen ar gyfer yr ysgol newydd.

 

Esboniodd fod Rhaglen Amlinellol Strategol (RhAS) Band B wedi'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC) ym mis Gorffennaf 2017. Ym mis Hydref 2017, cyflwynwyd adroddiad i'r Cabinet yn manylu ar ganlyniad adolygiad Band B, a rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i derfynu'r cynlluniau Band B gwreiddiol a nodwyd yn adroddiad Tachwedd 2010 i'r Cabinet, a chymeradwyo'r Rhaglen Amlinellol Strategol (RhAS) a'r prosiectau a restrwyd ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

 

Ar 6 Rhagfyr 2017, rhoddodd Adran Addysg LlC 'gymeradwyaeth mewn egwyddor' ar gyfer ail don fuddsoddi Pen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn costio cyfanswm o £68.2m yn ôl yr amcangyfrif ar y pryd. Roedd costau pellach i'w pennu, a byddai'r rheiny'n gysylltiedig â chapasiti seilwaith ychwanegol.

 

Yn ddiweddarach, ym mis Ionawr 2020, cyflwynwyd canlyniad yr arfarniad cynhwysfawr o opsiynau yn gysylltiedig â phob un o'r prosiectau cymeradwy.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod cymeradwyaeth y Cabinet wedi'i sicrhau i fwrw ymlaen ag astudiaeth ddichonoldeb o fryn Bracla yn gysylltiedig â'r opsiwn addysg a ffafrir ar gyfer cynllun Gogledd-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr, hy YG Bro Ogwr â mynediad 2.5 dosbarth ar safle Bryn Bracla.

 

Wrth fwrw ymlaen â'r astudiaeth ddichonoldeb, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod tîm y prosiect wedi comisiynu'r holl arolygon perthnasol, sydd wedi cael eu dadansoddi gan y disgyblaethau unigol. Mae pob disgyblaeth wedi cyfrannu at yr 'Adroddiad Dichonoldeb - Bryn Bracla' terfynol.

 

Roedd adrannau canlynol yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o brif agweddau'r canfyddiadau o'r astudiaeth ddichonoldeb honno (paragraffau 4.2 - 4.12, gan gynnwys y paragraffau hynny)

 

Gorffennodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd drwy ddweud, ac ystyried yr holl ffactorau hyn, mai argymhelliad y tîm prosiect oedd na ddylid bwrw ymlaen i ddatblygu'r ysgol newydd ar safle Bryn Bracla. Ychwanegodd y dylid felly archwilio opsiynau eraill am safleoedd.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio ddiolch i'r Swyddogion am yr adroddiad. Mynegodd ddiolch hefyd i Aelod Llafur Ward Bracla a chynrychiolwyr gr?p 'Save Our Fields' Bracla am drafod cynigion a chanlyniadau'r Astudiaeth Ddichonoldeb mewn modd cadarnhaol, ac am eu hystyriaeth a'u hymgysylltiad cyffredinol â'r Cabinet ynghylch lleoli YG arfaethedig Bro Ogwr. Mynegodd ddiolch hefyd i Carwyn Jones AC am gyfrannu at archwilio'r posibiliadau am gyllid ar gyfer yr ysgol (cyfrwng Cymraeg a Saesneg) ar safle(oedd) eraill addas ger Bracla, lle byddai'r ysgolion yn cael eu hailddatblygu. Teimlai fod angen ymgysylltu â Chyngor Cymuned Bracla, gyda golwg ar warchod y man glas a gynigiwyd yn wreiddiol i leoli'r ysgol(ion) rhag datblygwyr, o bosib drwy fynd ar drywydd cytundeb Trosglwyddo Ased Cymunedol ryw bryd yn y dyfodol.

 

Adleisiodd yr Arweinydd fod yr ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd rhwng yr Awdurdod a gr?p 'Save Our Fields' Bracla yn gysylltiedig â'r Astudiaeth Ddichonoldeb wedi bod yn gadarnhaol, a bod hynny wedi bod yn amhrisiadwy. Roedd yn rhaid i'r Cyngor ofalu am ei fannau gwyrdd/agored, gan ddatblygu capasiti ar yr un pryd ar gyfer cyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Gogledd-ddwyreiniol Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei bod yn falch o weld Bryn Bracla yn cael ei gadw fel ardal o dir glas agored, yn enwedig gan nad oedd llawer o ardaloedd felly yn ardal canol tref gyfagos Pen-y-bont ar Ogwr.

 

PENDERFYNWYD:                           Bod y Cabinet:

 

·         Nodwyd canlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb ar-safle yn gysylltiedig â'r bwriad i adleoli Ysgol Gymraeg Bro Ogwr i safle Bryn Bracla, ac ehangu'r ysgol honno;

·         Yn cymeradwyo hepgor safle Bryn Bracla o unrhyw ystyriaethau pellach yn gysylltiedig ag YG Bro Ogwr; ac

Yn cymeradwyo i archwilio opsiynau amgen ar gyfer yr ysgol newydd.

Dogfennau ategol: