Agenda item

Cynllun Gwres Caerau

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad a oedd yn:

 

  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar weithgarwch diweddar mewn perthynas â Chynllun Gwres Caerau
  • Ceisio penderfyniad ar y ffordd ymlaen;
  • Ceisio awdurdod i gyflwyno cynllun wedi'i ail-broffilio i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

 

Eglurodd fod adroddiad i'r Cabinet ym mis Ionawr 2021 yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn 2020, a'r heriau (ariannol yn enwedig) a oedd yn wynebu’r cynllun bryd hynny. Cytunwyd i gynnal Arfarniad Opsiynau er mwyn pennu hyfywedd ac addasrwydd dulliau darparu amgen id darparu cynllun gwres carbon isel yng Nghaerau sy'n bodloni gofynion cyllid cymeradwy'r ERDF. Yna, byddai argymhellion yr Arfarniad Opsiynau yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, er bod y cynllun Caerau hwn wedi'i ariannu'n llawn, bod nifer o byrth penderfyniadau wedi'u nodi yn nhabl 1 yr adroddiad, a oedd yn caniatáu i'r cynllun gau pe na bai digon o gynnydd wedi'i wneud.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau sylw at yr opsiynau a adolygwyd yn yr arfarniad opsiynau ac ystyriwyd y rhain yn erbyn meini prawf penodol. Roedd y manylion pellach yn 4.2 a 4.3 o'r adroddiad. Ychwanegodd fod bwrdd rhaglen Datgarboneiddio 2030 wedi cynnal adolygiad o'r wybodaeth hon a phenderfynodd y dylid mynd ar drywydd opsiwn (d) o dan adran 4.2 uchod a'i gyflwyno drwy ail-broffil i WEFO. Roedd Opsiwn (d) yn 'opsiwn cyfunol', gan gynnwys cyfres o brosiectau arddangos gwres carbon isel ar raddfa fach, pob un wedi'i ddatblygu i weddu i leoliad gwahanol yn seiliedig ar newidynnau megis y math o gwsmer, dwysedd tai ac agosrwydd at adnoddau. Roedd rhagor o wybodaeth am 4.4 o'r adroddiad,

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai’r camau hanfodol nesaf mewn perthynas â darparu'r arddangoswr gwres d?r ar raddfa fach, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, yw sicrhau'r cytundebau angenrheidiol gan yr Awdurdod Glo i barhau i archwilio d?r mwyngloddiau ar y safle arddangos ac i roi'r holl drwyddedau, caniatâd a chydsyniadau angenrheidiol ar waith i wneud hynny o fewn amserlen darged Hydref 2021. Roedd rhagor o fanylion yn adran 4.7 a 4.8 o'r adroddiad.

 

Amlinellodd y goblygiadau ariannol fel y'u nodir yn adran 8 o'r adroddiad ac ailadroddodd fod y cynllun wedi'i ariannu'n llawn hyd at ddechrau darparu gwres a ph?er.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau'r adroddiad a phwysleisiodd bwysigrwydd y prosiect hwn o ran cyflawni'r nod o ddatgarboneiddio erbyn 2030. Diolchodd i'w gyn-Aelod Cabinet, y Cynghorydd Richard Young am y gwaith a roddodd ar y prosiect yn ogystal ag Aelodau Caerau am eu cefnogaeth a'u gwaith caled.

 

PENDERFYNIAD:                                   Fod y Cabinet wedi:

 

·         Cymeradwyo dilyn yr argymhelliad ar gyfer Cynllun Gwres Caerau fel yr amlinellir yn adran 4.4 o'r Adroddiad, gan ddarparu datrysiad cyfunol o gynllun arddangos d?r mwyngloddio i wasanaethu Ysgol Gynradd Caerau, rhwydwaith gwres ardal gyda ffynhonnell wres amgen i wasanaethu cartrefi ar Tudor Estate, a chyflenwad p?er gwifren breifat o Barc Ynni Adnewyddadwy Llynfi Afan;

·      Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog - Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Rheoleiddio a'r Prif Swyddog Dros Dro, Cyllid, Perfformiad a Newid, i gyflwyno ail-broffil Cynllun 2021 i WEFO yn seiliedig ar y ffordd ymlaen a argymhellir ac a amlinellir yn adran 4.4 a'r wybodaeth ariannol yn adran 8.2; a

·      Pe bai WEFO yn derbyn ail-broffil Cynllun 2021, i ddirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Dros Dro, Cyllid, Perfformiad a Newid i lofnodi a derbyn y cynnig grant ERDF diwygiedig a'r llythyr ariannu gan WEFO mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a'r Prif Swyddog - Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Rheoleiddio

 

Dogfennau ategol: