Agenda item

Deddf Trwyddedu 2003 Cais i Amrywio Trwydded Mangre o Dan Adran 34

Cofnodion:

 

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod a gwnaeth pawb a oedd yn bresennol gyflwyno eu hunain. Yna gofynnodd i Reolwr y Tîm – Trwyddedu amlinellu’r adroddiad.

 

Cynghorodd Rheolwr y Tîm – Trwyddedu mai pwrpas yr adroddiad oedd penderfynu ar gais a dderbyniwyd gan Upperbay Ltd i amrywio’r drwydded Mangre sydd mewn grym ym Mharc Hamdden Bae Trecco Porthcawl.

 

Cyflwynodd hi’r adroddiad drwy esbonio bod y fangre yn elwa ar drwydded mangre BCBCLP535, sy’n awdurdodi’r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol sy’n gysylltiedig â’r cais dan ystyriaeth:

 

           Cyflenwi alcohol

           Dramâu

           Ffilmiau

           Digwyddiadau Chwaraeon Dan Do

           Bocsio neu Reslo

           Cerddoriaeth Fyw

           Cerddoriaeth wedi’i Recordio

           Darparu lluniaeth yn hwyr y nos

 

Yr oriau a ganiateir ar hyn o bryd ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy sy’n berthnasol i’r cais hwn oedd:

 

Darparu Adloniant a Reoleiddir (Cerddoriaeth Fyw ac wedi’i Recordio). Ar hyn o bryd mae Cerddoriaeth Fyw a Cherddoriaeth wedi’i Recordio wedi’u hawdurdodi dan do ac yn yr awyr agored:

           

            Oriau Safonol ar gyfer Cerddoriaeth Fyw:

 

            Dydd Llun i Ddydd Sul: 1000 - 0200 

            Ardal Awyr Agored yn unig:

            Dydd Llun i Ddydd Sul: 1000 - 2300

 

            Amseroedd Ansafonol ar gyfer Cerddoriaeth Fyw:

 

Nos Galan o ddiwedd yr oriau a ganiateir ar Nos Galan hyd ddechrau’r oriau a ganiateir ar Ddydd Calan.

 

Awr ychwanegol i’r amseroedd safonol ac ansafonol ar y diwrnod pan fydd Amser Haf Prydeinig yn cychwyn.

 

            Oriau Safonol ar gyfer Cerddoriaeth wedi’i Recordio:

 

            Dydd Llun i Ddydd Sul: 1000 - 0200 

            Ardal Awyr Agored yn unig:

            Dydd Llun i Ddydd Sul: 1000 - 2300 

 

            Amseroedd Ansafonol ar gyfer Cerddoriaeth wedi’i Recordio:

 

Nos Galan o ddiwedd yr oriau a ganiateir ar Nos Galan hyd ddechrau’r oriau a ganiateir ar Ddydd Calan.

 

Awr ychwanegol i’r amseroedd safonol ac ansafonol ar y diwrnod pan fydd Amser Haf Prydeinig yn cychwyn.

 

            Yr oriau agor presennol wedi’u pennu ar y drwydded mangre:

 

            Dydd Llun i Ddydd Sul: 0545 to 0230

            Yn ymgorffori:

            Siop Pysgod a Sglodion a Papa John's;

            Dydd Llun i Ddydd Sul: 0545 - 0300

 

            Amseroedd Ansafonol ar gyfer Oriau Agor:

 

Nos Galan o ddiwedd yr oriau a ganiateir ar Nos Galan hyd ddechrau’r oriau a ganiateir ar Ddydd Calan.

 

Awr ychwanegol i’r amseroedd safonol ac ansafonol ar y diwrnod pan fydd Amser Haf Prydeinig yn cychwyn.

 

Dywedodd Rheolwr y Tîm – Trwyddedu fod copi o’r drwydded mangre bresennol wedi’i atodi yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Mae copi o’r cynllun presennol sydd ynghlwm â’r drwydded mangre wedi’i atodi yn Atodiad B.

 

Mae’r awdurdod trwyddedu wedi derbyn cais i amrywio’r drwydded mangre. Mae’r cais wedi’i atodi yn Atodiad C.

 

Atodwyd copi o’r cynllun sydd ynghlwm â’r cais yn Atodiad D.

 

Roedd telerau’r cais fel y’i cyflwynwyd fel a ganlyn:

 

Darparu Adloniant a Reoleiddir:

 

Ymestyn cerddoriaeth fyw ac wedi’i recordio, yn yr awyr agored Ddydd Llun i Ddydd Sul 1000 i 0200 y bore canlynol (ar hyn o bryd 2300 yn yr awyr agored)

 

Ymestyn oriau agor i Ddydd Llun i Ddydd Sul 24 awr y diwrnod;

 

Diwygio /dileu neu ddiweddaru amodau yn sgil y newidiadau y gofynnwyd amdanynt yn y cynlluniau cynllun sydd wedi’u nodi ym Mlwch Adran 15 y ffurflen gais

 

Cymeradwyo newidiadau y tu mewn a thu allan i’r fangre o fewn yr ardaloedd trwyddedig presennol fel y dangosir yn y cynlluniau cynllun a gyflwynwyd i’r Awdurdod Trwyddedu gyda’r cais hwn, y newidiadau i gynnwys y canlynol:-

 

Newidiadau i’r cynllun mewnol o fewn adeilad Funtasia a Burger King;

 

Cael gwared â’r clwb nos "Time Out" a rhoi Bwyty Indiaidd yn ei le;

 

Mân newidiadau mewnol i’r man cyfarfod "Coast".

 

Allanol – yn yr ardal a amlinellwyd mewn gwyrdd sydd eisoes wedi’i chwmpasu gan y Drwydded Mangre.

 

Ychwanegu dau far awyr agored newydd o fewn yr ardal awyr agored drwyddedig bresennol – Bar Traeth a Bar / Coffi

 

Ad-drefnu’r ardal eistedd awyr agored o dan y Canopi / Pafiliwn.

 

Fel rhan o wybodaeth bellach, mae’r drwydded mangre ar hyn o bryd yn awdurdodi gwerthu alcohol ar y safle ac oddi ar y safle. 

 

Eglurodd hi ymhellach fod rhaid i’r awdurdod trwyddedu, wrth gyflawni ei swyddogaethau, hyrwyddo’r amcanion trwyddedu:

 

           Atal trosedd ac anhrefn;

           Diogelwch y cyhoedd;

           Atal niwsans cyhoeddus; ac,

           Amddiffyn plant rhag niwed.

 

Mae pob un o’r amcanion uchod yr un mor bwysig â’i gilydd, ychwanegodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu.

 

Roedd y cais wedi'i hysbysebu yn unol â'r rheoliadau ar y safle, mewn papur newydd ac ar wefan y Cyngor.  Roedd y cais hefyd wedi ei gyflwyno i'r Awdurdodau Cyfrifol.

 

Mae’r awdurdod trwyddedu wedi derbyn sylwadau gan Gydwasanaethau Rheoleiddio yn ei rôl fel Awdurdod Cyfrifol (swyddogaethau iechyd yr amgylchedd) a phersonau eraill fel y’u diffinnir yn y ddeddfwriaeth. Roedd yr holl sylwadau a dderbyniwyd wedi’u hatodi yn Atodiad E yr adroddiad. At ddibenion gwybodaeth yn unig, atodwyd cynllun lleoliad yn Atodiad F.

 

Adeg paratoi’r adroddiad hwn nid oedd yr un o’r sylwadau wedi’u tynnu’n ôl ac felly mae angen gwrandawiad o’r cais hwn.

 

Rhoddodd gweddill adrannau’r adroddiad, ac atodiadau pellach, wybodaeth am ganllawiau statudol, ac ati.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu fod dogfennau pellach wedi’u hanfon gan yr ymgeisydd ers i’r w?s ar gyfer y cyfarfod gael ei dosbarthu, sef:

 

           Cynllun/ffotograff o’r cynigion;

           Adroddiad Inacoustic (dyddiedig 11/2/2022);

           Cynllun Rheoli S?n;

           Rhai Amodau arfaethedig (diwygiedig) sydd i’w hatodi i’r Drwydded

 

Ar y pwynt hwn yn y trafodaethau, gofynnodd y Cadeirydd wedyn i gynrychiolwyr yr ymgeisydd amlinellu’r cais.

 

Cynghorwyd yr Aelodau gan Mr. Smith, Cyfreithiwr o Popplestone Allen, bod nifer o faterion a rhesymau pam y dymunai ei gleient wneud cais am amrywiad i’r Drwydded Mangre ym Mharc Hamdden Bae Trecco, Porthcawl, h.y. am chwarae cerddoriaeth fyw ac wedi’i recordio hyd at 02:00am a chyfeiriodd yr Aelodau at y cynlluniau cysylltiedig wedi’u cynnwys gyda’r cais er mwyn egluro hyn.

 

Cynghorodd fod ardal ganolog y fangre dan sylw yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin rhwng dau adeilad a chan ystyried y gwaith sy’n cael ei wneud ar y safle, roedd llwyfan a rhodfa wedi’u lleoli a oedd yn cysylltu’r ddau.

 

Pe na bai cais wedi’i wneud i agor yr ardal hon am 24 awr, cynghorodd Mr. Smith y byddai’n rhaid i westeion gerdded o amgylch y cyfadeilad i gael mynediad.

 

Sicrhaodd yr Is-Bwyllgor y byddai gwerthu alcohol yn y fangre tan 23:00 y tu allan i’r adeilad a than 02:00 y tu mewn. Byddai’r agor am 24 awr ddim ond yn berthnasol i’r mynediad rhwng yr adeiladau ar gyfer mynychwyr.

 

Cynghorodd fod ail ran y cais er mwyn cynnal addasiadau i wahanol adeiladau wedi’u lleoli yn ardal y parc, sef ar gyfer bwytai ac i’r Pafiliwn ei hun. Byddai hyn yn cynnwys darparu dau far, ynghyd ag ardaloedd eistedd allanol. Byddai cerddoriaeth yn cael ei chwarae ond dim ond tan 23:00.

 

Roedd trydedd nodwedd y cais yn ymwneud â diwygio rhai o Amodau’r Drwydded. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i’r rhan hon o’r cais. Wedyn, er budd yr Aelodau, rhoddodd grynodeb o’r rhain. Roedd esboniad llawn o’r rhain yn un o’r dogfennau hwyr a ddosbarthwyd i bawb.

 

Cadarnhaodd Mr. Smith, o dan delerau presennol y Drwydded Adloniant Cyhoeddus, fod eisoes y gallu i ddarparu adloniant awyr agored rhwng 10:00 ac 23:00, gyda’r awgrymiad i newid hyn, h.y. rhwng 10:00 a 02:00  (saith diwrnod yr wythnos). Fodd bynnag, yng ngoleuni’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i’r newid hyn i’r oriau, roedd yr ymgeisydd wedi bod mewn ymgynghoriad â’r Cydwasanaethau Rheoleiddio ac wedi gwneud rhai addasiadau i’r Amodau hyn, a dosbarthwyd y rheini i bawb neithiwr gyda’r papurau cysylltiedig eraill y cyfeiriwyd atynt uchod.

 

Cyfeiriodd wedyn at y Cynllun Rheoli S?n a ddyfeisiwyd, ac eto a rhannwyd gyda phawb yn un o’r dogfennau hwyr, ac esboniodd sut y byddai unrhyw niwsans s?n yn cael ei liniaru, h.y. pan fyddai cerddoriaeth fyw ac wedi’i recordio yn cael ei chwarae yn y fangre fel rhan o ddigwyddiadau arfaethedig yn y dyfodol. Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol fod digwyddiad a gynhaliwyd yn y fangre y llynedd ar 28 Gorffennaf wedi arwain at nifer o alwadau yn cwyno am lefelau’r s?n yn sgil hyn a phan dderbyniwyd y rhain, cafodd y gerddoriaeth ei throi lawr ar unwaith.

 

Cynghorodd Mr. Smith fod ei gleientiaid, yn sgil y pandemig, wedi dibynnu’n fwy ar ddigwyddiadau awyr agored. Roedd y g?yn ddiwethaf a dderbyniwyd, heblaw am yr un ym mis Gorffennaf diwethaf, wedi bod yn 2018 – oherwydd s?n. Yn dilyn y cwynion a dderbyniwyd mewn perthynas â’r digwyddiad ym mis Gorffennaf, daeth y digwyddiad, a oedd i fod i orffen am 23:00, i ben yn gynnar am 22:30. Ychwanegodd fod digwyddiad mis Gorffennaf y llynedd, yn cael ei gynnal dan do eleni, yn hytrach nag yn yr awyr agored lle cafodd ei gynnal y llynedd. Byddai’r holl gerddoriaeth ac ati a fyddai’n cael ei chwarae mewn unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol yn cael eu monitro bob awr a byddai’r lefelau hyn yn cael eu cytuno gyda’r Cydwasanaethau Rheoleiddio. Byddent yn cydymffurfio â lefelau na fyddai’n ymyrryd na bod yn niwsans i’r cartrefi agosaf lle mae pobl yn byw a byddai'r lefelau'n cael eu lliniaru gan gyfyngwyr s?n wedi’u gosod dan y Cod Ymarfer perthnasol. Ni fyddai unrhyw ddigwyddiadau a fyddai’n cynnwys cerddoriaeth neu adloniant yn glywadwy yn ardal awyr agored y fangre ar ôl 23:00.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan wrthwynebydd, cadarnhaodd Mr. Smith y byddai’r un egwyddor yn berthnasol, pe bai unrhyw gwynion am niwsans s?n ac ati, yn dod oddi wrth unrhyw breswylwyr y carafannau sydd wedi eu lleoli yn y Parc. Ychwanegodd na fyddai o fudd yr ymgeisydd i achosi niwsans i unrhyw breswylwyr ar y safle.

 

O ran cwestiynau a dderbyniwyd ynghylch effeithiolrwydd y Cyfyngydd S?n, cynghorodd yr ymgeisydd ei fod yn cael ei osod yn y fath fodd, pe bai lefelau s?n yn uwch na’r terfyn a osodwyd gan y Cyfyngydd, yn mynd yn uwch nag uchafswm y lefelau, y byddai’n torri’r p?er i’r llwyfan ac/neu yn peidio â chaniatáu i’r terfynau hyn fod yn uwch na 75 Db ar ôl 23:00. Byddai monitro hefyd o’r lefelau s?n mewn mannau yn agos i’r cartrefi agosaf yn ystod y noswaith pan fyddai adloniant cyhoeddus yn cael ei gynnal yn y fangre.

 

  

 

 

 

Ailgynullwyd y cyfarfod am 11.55yh yn dilyn seibiad byr.

 

Gofynnodd Cwnsler yr Is-Bwyllgor, wrth glywed gwrthwynebiadau gan breswylwyr i’r cais am amrywio’r drwydded, am osgoi dyblygu, lle bo modd.

 

Gofynnodd Mr Simon Judd am eglurhad na fyddai lefel y s?n cyn 11.00yh yn uwch nag ar ôl 11.00yh. Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeisydd wrth yr Is-Bwyllgor fod terfynau s?n wedi’u cynnwys o fewn yr adroddiad asesu s?n, ond cadarnhaodd fod y cais yn ymwneud ag ar ôl 11.00yh ac nid cyn 11.00yh. Cyn 11.00yh, roedd lefel y s?n wedi’i gosod yn 79dba. Gofynnodd Mr Judd ai 75dba oedd y terfyn s?n cyn 11.00yh. Eglurodd cynrychiolydd yr ymgeisydd mai dyma fyddai’r terfyn s?n ar ôl 11.00yh, gyda lefel y s?n cyn 11.00yh wedi’i gosod yn 79dba fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad.  Gofynnodd Mr Judd os oedd lefel y s?n yn rhy uchel i’r preswylwyr, a fyddai’n cael ei hasesu gan y Cyngor.  Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeisydd wrth yr Is-Bwyllgor, pan fydd y system yn cael ei chomisiynu y byddai’r ymgeisydd yn eistedd i lawr gyda’r Cydwasanaethau Rheoleiddio i edrych ar y lefelau sain yn ystod y dydd.  Dywedodd fod gan yr ymgeisydd drwydded eisoes i chwarae cerddoriaeth tan 11.00yh a bod y cais hwn ar gyfer y tu hwnt i 11.00yh.  Gofynnodd Mr Judd a yw’r cais presennol yn caniatáu chwarae cerddoriaeth y tu mewn neu’r tu allan.  Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeisydd fod y cais presennol yn caniatáu chwarae cerddoriaeth y tu mewn tan 02.00yb a thu allan tan 11.00yh.  Gofynnodd Mr Judd pa lefelau sy’n cael eu gosod ar hyn o bryd.  Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad oedd unrhyw gyfyngwyr s?n ar waith ar hyn o bryd.

 

Dywedodd Mr Judd fod Parkdean wedi gwneud y penderfyniad i gau ei glwb nos a rhoi bwyty Indiaidd yn ei le, a thrwy hynny golli gofod adloniant dan do, nid oedd gan y preswylwyr broblem gyda hyn gan fod s?n yn cael ei reoli, ond yr hyn a oedd yn destun pryder i’r preswylwyr oedd bod cais yn cael ei wneud wrth edrych yn ôl am estyniad y tu allan o ganlyniad i golli’r gofod adloniant dan do.  Mynegodd Mr Judd bryder y byddai’r preswylwyr yn dwyn baich y s?n, pan oedd gan Parkdean gynt y lle ar gyfer adloniant cyn adeiladu’r pafiliwn.  Pwysleisiodd cynrychiolydd yr ymgeisydd fod y cais sy’n cael ei wneud yn ymwneud â mesurau diogelu sy’n gynwysedig ac wedi’u cytuno gan Gydwasanaethau Rheoleiddio i gyfyngu ar y gerddoriaeth y tu hwnt i 11:00yh yn yr ardal ychwanegol honno.  Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeisydd na fydd y preswylwyr yn dioddef yn sgil y cais. 

 

Cwestiynodd Mr Judd yr angen i Parkdean gael parti y tu allan tan 1.00yb.  Cyfeiriodd hefyd at osod lefel y dba yn 75dba yn dilyn profion a chwestiynodd a yw’n caniatáu am lefelau lleisiau a beth fyddai Parkdean yn ei wneud os yw pobl sy’n mynychu’r digwyddiad yn ymuno gyda’r canu, yn enwedig os oedd band yn chwarae cerddoriaeth roc swnllyd.  Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad oedd modd rheoli’r s?n a wnaed gan gwsmeriaid, fodd bynnag byddai adloniant ysgafnach yn cael ei chwarae yn ddiweddarach yn y nos i ddirwyn i ben ac y byddai’n gymesur ag amser y dydd.  Gofynnodd Mr Judd a fyddai anthem fyddarol yn cael ei chwarae’n hwyr y nos ar benwythnos Elvis.  Cyfeiriodd at ddigwyddiad a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2021, pan oedd diwedd y set yn fwy swnllyd na’r brif set a chafwyd cresendo o s?n a gofynnodd pa warantau y byddai Parkdean yn eu rhoi ar waith i sicrhau na fyddai’r math hwnnw o adloniant yn digwydd yn hwyr yn y nos.  Ymddiheurodd cynrychiolydd yr ymgeisydd ar ran ei gleientiaid lle’r oedd y gerddoriaeth a chwaraewyd yn ardal y sgwâr yn rhy uchel.  Daeth y digwyddiad i ben rhwng 10.20yh a 10.30yh ac nid oedd y gerddoriaeth yn mynd trwy gyfyngydd s?n.  Derbyniodd Mr Judd yr ymddiheuriad a wnaed ond mynegodd bryder pe bai diweddglo byddarol, pa gamau fyddai’n cael eu cymryd i ddiogelu lefelau s?n ar ôl 11.00yh, a fyddai’n cynnwys s?n y dorf, ac atal y s?n rhag effeithio ar breswylwyr.  Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeisydd y byddai dewis o ganeuon i sicrhau dirwyn yr adloniant a’r gynulleidfa i ben yn hytrach na chwarae rhyw gân fawr am 1.00yb i atal y dorf rhag cyd-ganu.  Byddai hynny’n rhan o gyfrifoldeb rheoli torf Parkdean gan nad oedd modd gosod cyfyngydd s?n ar y gynulleidfa.  Dywedodd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gwynion eraill am unrhyw un o’r penwythnosau arbenigol a gynhaliwyd.  Dywedodd Mr Judd fod pob digwyddiad arall wedi cael eu cynnal dan do, a oedd bellach yn fwyty Indiaidd a byddai hynny wedi bod yn hunangynhwysol.  Gofynnodd a fyddai'r post gwrando yn synhwyro’r s?n.  Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yr Is-Bwyllgor y byddai’n rhaid iddo wirio gyda’r adran acwsteg os yw gwiriadau s?n yn cael eu gwneud yn y gofodau adloniant eraill dan do ar y safle.  Gofynnodd Mr Judd os oedd perfformiad byddarol o gân a fyddai’r offer monitro yn synhwyro bod y s?n wedi mynd yn uwch na 75 dba ac felly yn ei atal.  Dywedodd yr ymgynghorydd acwsteg y byddai’r offer monitro yn cael ei osod ar gyfer cerddoriaeth yn unig.  Fodd bynnag, deallai fod Parkdean yn cynnal gwiriadau a monitro s?n yn ystod y digwyddiadau a bydd hynny’n cael ei gofnodi gan y mesuryddion lefel sain yn ystod y digwyddiadau go iawn.  Deallai Mr Judd y bydd yr offer yn synhwyro caniad uchel o gân a gofynnodd a fyddai’r system yn gostwng y gerddoriaeth o 75dba i 65dba i dawelu’r dorf neu a fyddai’n aros ar yr un lefel.  Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yr Is-Bwyllgor y byddai’r modd o reoli’r dorf yn cael ei newid o ganlyniad i’r monitro s?n a wnaed.  Gofynnodd Mr Judd a allai Parkdean roi rhywbeth at ei gilydd i roi rhywfaint o sicrwydd i breswylwyr neu a fyddai modd dod â digwyddiad i ben os oedd y s?n yn ormodol.  Gofynnodd cynrychiolydd yr ymgeisydd a oedd Mr Judd yn golygu y byddai Parkdean yn dod ag ef i ben neu fel arall y byddai’n cael adolygiad o’r drwydded mangre.  Dywedodd Mr Judd ei fod yn golygu dod ag ef i ben yn gyfan gwbl ac y byddai’r preswylwyr yn rhoi gwybod i Parkdean yn gyflym os oedd y lefelau s?n yn uchel. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r gwrthwynebwyr gyflwyno eu hachos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Pratt fod ei wrthwynebiad i'r cais yn seiliedig ar aneglurder y cais gwreiddiol a bod Parkdean eu hunain wedi ymddwyn yn briodol.  Roedd wedi derbyn amryw o bryderon gan breswylwyr yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd Tref am yr hyn yr oedd Parkdean wedi’i wneud mewn modd didrwydded gyda cherddoriaeth yn cael ei chwarae tan 2.00yb.  Roedd yn falch o nodi y byddai trwydded ehangach ac y bydd digwyddiadau’n cael eu cynnwys o fewn eu cylch gwaith.  Mynegodd bryder y byddai digwyddiadau’n mynd yn eu blaen tan 1.00yb ond roedd yn falch o weld bod preswylwyr wedi cael eu clywed a bod yr oriau wedi’u cwtogi.  Roedd hefyd yn falch bod gweithdrefnau lleihau s?n ar waith i reoli s?n.  Gofynnodd am sicrwydd na fyddai’r un preswylydd yn gallu clywed cerddoriaeth.  Os oedd pryderon ynghylch lefelau s?n, gofynnodd fod rhifau cyswllt Parkdean yn cael eu pasio ymlaen i Gyngor Tref Porthcawl yn ogystal ag i Gydwasanaethau Rheoleiddio a Thrwyddedu, gan fod cynrychiolaeth ar y ddwy lefel o lywodraeth leol ar lefel Bwrdeistref Sirol ac ar lefel Cyngor Tref.  Os derbynnir cwyn gan Gynghorydd Bwrdeistref Sirol neu gan Gynghorydd Tref, mae ganddynt y gallu i basio’r cwynion hynny ymlaen i’r awdurdodau lleol perthnasol ac i Parkdean.  Roedd yn falch o weld bod y cais wedi’i ddiwygio gyda gostyngiad yn yr oriau y gofynnwyd amdanynt. Dywedodd bod y maes carafanau ym Mae Trecco Bay yn beth da i Borthcawl, sy’n dod â swyddi i’r dref a bod Parkdean wedi cael hanes o fod yn gymdogion da a’i fod yn gobeithio y byddai’r berthynas honno’n parhau.  Gobeithiai bod yr holl reolaethau perthnasol yno ac na fyddai hyn yn gam ar y ffordd i ymestyn trwyddedau. 

 

Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeisydd ar ôl cymryd cyfarwyddyd pellach ei fod yn fwy na pharod i roi manylion cyswllt i’r Cyngor Tref. 

 

Clywodd yr Is-Bwyllgor wrthwynebiad gan Mr Ken Bonham a fu’n breswylydd am dros 40 mlynedd ac a oedd wedi bod yn berchen ar fusnesau yn y dref.  Dywedodd bod y prifwynt yn dod o’r de-orllewin a bod s?n o’r maes carafannau yn diweddu lan yng ngerddi’r tai yn Drenewydd a thu mewn i’r tai pan fydd y ffenestri ar agor.  Dywedodd hefyd bod s?n o’r maes carafannau wedi cael ei gymharol reoli ers blynyddoedd lawer, er y bu achosion pan yr oedd y broblem yn ormodol fel y cyfeiriwyd ato’n gynharach.  Cyfeiriodd at raglen deledu a ddarlledwyd yn y 1960s bu’n sôn am yr effaith negyddol yr oedd y maes carafannau wedi’i chael ar dref Porthcawl, gan ddod â throsedd difrifol yn ei sgil.  Dywedodd bod hynny wedi digwydd oherwydd gormod o alcohol a byddai caniatáu man cyfarfod arall yn gweld cynnydd mewn yfed alcohol. 

 

Cynghorodd Cwnsler yr Is-Bwyllgor mai cais i amrywio’r drwydded oedd hwn.  Gall yr Is-Bwyllgor ddim ond delio gyda newid amodau, newid cynllun mewnol ac ychwanegu adloniant a reoleiddir.  Nid adolygiad o’r drwydded na cheisio ymestyn y drwydded mo hyn.  Dywedodd y byddai’n cynghori’r Is-Bwyllgor na allai ystyried sylwadau am gynnydd yn y cyflenwad alcohol gan nad oedd y cais hwn yn delio â chynnydd yn y cyflenwad alcohol.  Gofynnodd am gyfyngu’r cyflwyniadau i’r hyn sy’n digwydd mewn perthynas â’r cais.

 

Dywedodd Mr Bonham fod lefelau s?n yn codi wrth i’r adloniant fynd yn ei blaen er mwyn bodloni’r dorf, gyda pherfformwyr yn dechrau’n araf deg ac wedyn yn cyflymu ac felly byddai diffyg rheolaeth dros y s?n a grëwyd gan y dorf.  Awgrymodd nad oedd modd gwarantu rheoli’r dorf na’r s?n a grëwyd gan y dorf, a theimlai y dylai’r cais hwn gael ei wrthod yn gyfan gwbl. 

 

Rhoddwyd cyfle i Mr Jonathan David gyflwyno ei wrthwynebiadau i’r Is-Bwyllgor.  Hysbysodd Mr David yr Is-Bwyllgor fod ei wrthwynebiadau i’r cais fel y nodwyd yn ysgrifenedig ac roedd yr ymgeisydd wedi’u gweld.  Gofynnodd am eglurhad bod rhwng 24 a 26 diwrnod penodol bob blwyddyn ac y byddai lefelau s?n ar hyd a lled y pafiliwn yn cael eu cyfyngu i 75dba ac nid dim ond yn cael eu cyfyngu i 75dba ar ôl 11.00yh.  Eglurodd cynrychiolydd yr ymgeisydd fod yna wahanol lefelau s?n ac mae codau ymarfer gwahanol a weithredir sy’n llywodraethu pa mor uchel y dylai cerddoriaeth fod wrth bwyntiau agosaf sy’n sensitif i s?n o fewn y Cod Ymarfer ar gyfer cyngherddau, felly maent yn defnyddio canllawiau sy’n golygu bod angen ei ostwng wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen.  Pwysleisiodd fod y cais am amrywio’r drwydded wedi’i gyfyngu i lefelau s?n y tu hwnt i 11.00yh.  Dywedodd Mr David fod ei bryder mawr yn ymwneud â’r cyngerdd a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2021 a bod y lefelau s?n wedi bod yn ormodol yn gyson drwy gydol y dydd unwaith i’r cyngerdd ddechrau.  Credai y dylai’r terfyn 75dba fod ar waith drwy gydol y dydd ac nid dim ond ar ôl 11.00yh.      

 

Gwahoddwyd pob parti gan y Cadeirydd i grynhoi eu hachosion.    

 

Dywedodd y Cynghorydd Pratt mai cyfrifoldeb Park Gwyliau Bae Trecco oedd cael perthynas iach gyda’i breswylwyr, nid yn unig yn Dreneywdd ond ledled Porthcawl.  Dywedodd hefyd ar wahân i’r llynedd, fod pawb yn dysgu o oblygiadau Covid, a bod Bae Trecco wedi cynnal y perthnasoedd hynny yn weddol dda dros flynyddoedd lawer eu hamser ym Mhorthcawl.  Gofynnodd o ran yr ymgeisydd dan sylw bod unrhyw newidiadau yn ei geisiadau yn cael eu hystyried mewn ysbryd o ffydd dda a’i fod yn parhau gyda’r berthynas dda sydd ganddo â’r preswylwyr. 

 

Yn ei gyflwyniad terfynol, cyfeiriodd cynrychiolydd yr ymgeisydd at y troseddu difrifol a ddaethpwyd i sylw yr Is-Bwyllgor yng ngwrthwynebiad Mr Bonham a dywedodd mai blynyddoedd maith yn ôl oedd hyn.  Roedd yn ddiolchgar i’r Cynghorydd Pratt am roi mwy o gyd-destun ar berthynas Parkdean gyda’r preswylwyr a bod y sylw yn cyfeirio at y ffaith bod y Cyngor Tref wedi mwynhau perthynas dda gyda Bae Trecco a bod yr ymgeisydd yn byw yn heddychlon ac mewn harmoni â’r preswylwyr lleol.  Dywedodd nad oedd o fudd i Parkdean achosi aflonyddwch a’i fod am fod yn gymdogion da ac roedd wedi digio gyda’r gwrthwynebiad a ddywedodd nad oedd Parkdean yn cael unrhyw effaith dda.  Roedd o’r farn fod y Parc Gwyliau yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol a bod ganddo berthynas waith dda yn y gorffennol.  Ymddiheurodd am y digwyddiad ym mis Gorffennaf 2021 oherwydd ni ddefnyddiwyd cyfyngydd s?n a chynhaliwyd y digwyddiad ar y sgwâr yn y Parc Gwyliau, er nad oedd dim byd anghyfreithlon am y peth, roedd y gerddoriaeth yn rhy uchel. 

 

Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yr Is-Bwyllgor nad cais i ymestyn yr oriau i gyflenwi alcohol mo hwn, er efallai caiff cais ei wneud maes o law ar gyfer Tiki Bar y pafiliwn ond nid oedd hynny’n cael ei wneud heddiw. Dywedodd y byddai’r cais yn caniatáu i bobl ddefnyddio’r coridor rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin er mwyn iddynt allu cerdded drwodd heb orfod mynd o gwmpas.  Cyfeiriodd at baragraff 5.16 y polisi lle gall y Cyngor nodi sawl digwyddiad sydd i’w cynnal bob blwyddyn.  Dywedodd pe byddai’r ymgeisydd yn gwneud cais am gerddoriaeth ar adegau sy’n fwy sensitif i s?n, mae’r polisi yn cynnwys amddiffyniad allweddol ym mharagraff 12. 

 

Hysbysodd yr Is-Bwyllgor hefyd fod proses adolygu yn rhan annatod o Ddeddf Trwyddedu 2003 na fyddai ei gleient am ei pheryglu.  Drwy hyn, gallai fod adolygiad o’r drwydded i ddiddymu unrhyw ganiatâd am adloniant a gallai fod hyd yn oed yn waeth na hynny, adolygu’r drwydded yn ei chyfanrwydd i gynnwys adolygu gwerthu alcohol ac ati.  Roedd yna hefyd bob math o fecanwaith, gyda phwerau yn Neddf S?n 1996 lle mae modd cyflwyno rhybuddion ac yna gellir cyflwyno dirwyon os ydynt yn cael eu torri.  Gellir atafaelu a chymryd offer i ffwrdd gan Gydwasanaethau Rheoleiddio.  Mae diogelu hefyd yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd pe byddai’r ymgeisydd yn creu niwsans s?n, wedyn byddai cyflwyno hysbysiad lleihau s?n. Hysbysodd yr Is-Bwyllgor fod digon o ffyrdd y gellir dwyn ei gleient i gyfrif, ond nid oedd am gyrraedd y pwynt hwnnw.  Roedd hyn yn ymwneud ag atal niwsans cyhoeddus a pheidio â'i achosi yn y lle cyntaf.  Gofynnodd i'r Cwnsler gyfeirio'r Is-Bwyllgor at baragraffau 9.12. Daeth hefyd â pharagraff 9.15 y canllawiau at sylw’r Is-Bwyllgor, sy’n ymwneud â throsedd ac anrhefn a chyfeiriodd hefyd at y ffaith na chafwyd unrhyw sylwadau i’r cais gan yr heddlu, sef prif ffynhonnell cyngor ar faterion sy’n ymwneud â hyrwyddo amcanion mewn perthynas â throseddu ac anrhefn. 

 

Yn fwy penodol, gofynnodd cynrychiolydd yr ymgeisydd i’r Is-Bwyllgor edrych ar baragraff 9.15 a oedd yn nodi, fel awdurdod trwyddedu, y gall yn rhesymol ddisgwyl i’r awdurdod ymyrryd, gan arfer swyddogaethau iechyd yr amgylchedd i wneud sylwadau lle mae ganddynt bryderon ynghylch niwsans s?n.  Dywedodd mai dyna’n union a wnaeth Cydwasanaethau Rheoleiddio, gwnaethon nhw ystyried y cais, gwneud sylwadau a chynhaliwyd deialog gyda nhw i drafod amodau, a gwnaethon nhw weld ac ystyried y cynllun rheoli s?n a thynnu’n ôl eu sylwadau.  Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yr Is-Bwyllgor y bydd y cyfyngydd s?n yn cael ei gomisiynu a’i gytuno gyda Chydwasanaethau Rheoleiddio. 

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr ymgeisydd at achos Cyngor Dinas Manceinion v Taylor, a’r ffaith nad yw’r Is-Bwyllgor yma i adolygu’r drwydded bresennol.  Cais ydw i amrywio’r drwydded i ganiatáu adloniant rhwng 11.00yh a 2:00yb.  Dywedodd nad yw'r Is-Bwyllgor yma i adolygu'r hyn mae ei gleient yn ei wneud cyn 11.00pm.  Roedd yn cydnabod na wnaeth ei gleient waith gwych ohoni ar 28 Gorffennaf 2021.  Dywedodd nad adolygiad o'r drwydded mo hyn, ond caniatáu amrywio’r drwydded a gosod unrhyw amodau sy’n briodol a chymesur.  Bu trafod manwl o’r amodau hynny ac awgrymodd wrth bwyso a mesur y tebygolrwydd gerbron yr Is-Bwyllgor a’r ffaith nad oedd Cydwasanaethau Rheoleiddio yn gwrthwynebu, y byddent yn gweithio gyda Parkdean ar gyfyngu’r s?n. 

 

Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yr Is-Bwyllgor er mwyn sicrhau na fyddai s?n yn glywadwy yn y tai agosaf mwyaf sensitif i s?n ar ôl 11.00yh gyda’r ffenestr ar agor ac ar sail hynny, o’r hyn a oedd yn hysbys, ni fydd unrhyw niwsans cyhoeddus yn cael ei achosi i gartrefi o ran s?n y dorf.  Byddai gwiriadau s?n yn cael eu gwneud yn y man hwnnw ac mewn mannau eraill a bydd cynllun rheoli digwyddiadau sydd â thorf ar waith.  Dywedodd y byddai llawer mwy o sicrwydd o ran yr oriau a'r dyddiau y gwneir cais amdanynt. Dywedodd na fyddai neb yn gwneud perfformiad o gân fyddarol am 1.00yb ac y byddai’r adloniant a rheoli’r dorf yn dirwyn i ben. Cymeradwyodd y cais fel y’i diwygiwyd i’r Is-Bwyllgor.  Dywedodd ei fod wedi ei ddiwygio a'i fod yn rhoi rhyddid i'w gleientiaid gael digwyddiadau heb hysbysu, ond roedd yn gwerthfawrogi’r hyn y mae polisi'r Cyngor yn ei ddweud.     

 

Diolchodd yr Is-Bwyllgor am y cyfle i gyflwyno’r cais.

 

Ymneilltuodd yr Is-Bwyllgor er mwyn ystyried y cais ac ar ôl iddynt ddychwelyd, fe’i:

 

BENDERFYNWYD: Mae'r Is-bwyllgor wedi penderfynu caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i newidiad i’r amodau sydd ar y drwydded fel y nodir yn yr atodiad i’r Penderfyniad hwn (y newidiadau wedi’u hamlygu at ddibenion eglurder).

 

Rhesymau

 

Mae culhau’r cais i gyfyngu darparu adloniant a reoleiddir allanol i ardal ddiffiniedig gyda 6 digwyddiad y flwyddyn galendr (ynghyd â Nos Galan) Eve) gydag oriau gorffen cynharach, yn ein barn ni, yn newid drastig o’r hyn y gwnaed cais amdano yn wreiddiol.  O’i gyfuno â rhybudd o ddigwyddiadau ymlaen llaw, mae’n ddull sy’n alinio i baragraff 5.16 datganiad y Cyngor o bolisi trwyddedu.

 

Mae’r Ymgeisydd ymhellach wedi darparu mesurau rheoli a lliniaru s?n.


Mae’r cynllun rheoli s?n, a fydd drwy gyfrwng yr amod a gynhigiwyd gan yr Ymgeisydd yn cael ei weithredu yn y fangre gyfan, yn darparu ym mharagraff 3.11 ar gyfer y mesurau rheoli s?n canlynol yn y Pafiliwn:

 

Mae’r Pafiliwn yn strwythur gorchuddiedig tynnol wedi’i leoli rhwng dau adeilad.  Bydd dau ben y strwythur wedi’u cau gan baneli mewnlenwad rhwyllog ffabrig a gwydro lefel is a drysau mynediad dwbl. Bydd hyn yn cwtogi ymhellach ar y s?n sy’n dianc o’r ardal.

 

Mae’r system sain o fewn y Pafiliwn yn system Bose Room Match sy’n cynnwys 24 is-seinydd bach i greu “system wasgaru” a gynlluniwyd. Rheolir y seinyddion mewn 12 gr?p sy’n caniatáu rheoli a monitro gweithredol.

 

Mae manteision y system dros system draddodiadol yn golygu, trwy gael cymaint o seinyddion y gall greu gwasgariad cyfartal o’r s?n, fel y gellir rheoli a defnyddio’r lefel sain gyffredinol yn fwy manwl gywir. (System draddodiadol e.e 2 seinydd y naill ochr i lwyfan lle mae’n rhaid defnyddio lefel sain fawr i gyrraedd gofod cyfan)

 

Mae gan y system sain brif brosesydd gan Soundweb sy’n gynnyrch London Blue.  Ffurfweddir y system gan gyfrifiadur personol/gliniadur ac fe’i gweithredir o dan gyfrinair [gweinyddwr].  Cofnodir pob cofnod rheoli i ddarparu proses archwilio defnyddwyr y system.  Mae’n caniatáu ei gweithredu heb ymyrryd i atal y lefelau sain rhag cael eu haddasu’n lleol. Ni ellir addasu’r system heb y cyfrifiadur personol/gliniadur ac ategyn y gweinyddwr.

 

Mae’r system yn gyfyngydd s?n a gellir ei ffurfweddu’n awtomatig i leihau lefelau dB ar amseroedd a bennir ymlaen llaw e.e. 1900 (pontio o’r dydd i’r noswaith) ac am 2300 (pontio o’r noswaith i’r nos).

 

Gall y system gofnodi mesuriadau monitro lefel s?n awtomatig a’u dogfennu.  Bydd cofnodion yn cael eu cadw am 12 mis a byddant ar gael pe bai cais amdanynt.

 

Mae gofyniad allweddol ffurfweddiad y cyfyngydd s?n a’r ddogfennaeth monitro yn ddarostyngedig i amod pellach a gynhigiwyd. Mae Paragraff 3.3 y cynllun rheoli s?n amodol yn darparu’n hanfodol ymhellach: 

 

 Bydd gweithrediadau o fewn y Pafiliwn yn unol â’r Adroddiad Asesu S?n a gynhyrchwyd gan Inacoustic dyddiedig 11 Mawrth 2022 neu, ar lefel a bennwyd a chytunwyd ar y cyd â Chydwasanaethau Rheoleiddio ar osod y cyfyngydd s?n.

 

Bydd monitro s?n awtomataidd yn digwydd ar ôl 2300 (wrth y cyfyngydd s?n), yn ystod unrhyw gyfnodau o adloniant a reoleiddir byw ac wedi’i recordio yn y Showdome ac yn ardal awyr agored y Pafiliwn.

 

Bydd monitro s?n ychwanegol ar ffurf mesurydd s?n llaw yn digwydd bob awr ym mannau P1 a P2 ar y cynllun a atodwyd, pan ddefnyddir y Pafiliwn ar gyfer adloniant a reoleiddir ar ffurf cerddoriaeth fyw neu wedi’i recordio ar ôl 2300.

 

Bydd mesuriadau lefelau s?n yn cael eu dogfennu a bydd y cofnodion yn cael eu cadw am gyfnod o 12 mis

 

Mae Paragraff 9.12 y canllawiau yn darparu y bydd “pob awdurdod cyfrifol yn arbenigwr yn eu priod faes, ac mewn rhai achosion mae’n debygol mai awdurdod cyfrifol penodol fydd prif ffynhonnell cyngor yr awdurdod trwyddedu mewn perthynas ag amcan trwyddedu penodol”.

 

Yma, gwnaeth Cydwasanaethau Rheoleiddio sylwadau mewn perthynas â’i bryderon am niwsans s?n (fel y’i rhagwelir gan baragraff 9.15 y canllawiau) ac mae bellach wedi tynnu’r pryderon hynny’n ôl ar sail y mesurau lliniaru amodol.

 

Nododd yr Is-Bwyllgor yn benodol y bydd y lefel y gosodir y cyfyngydd s?n yn ddarostyngedig i gytundeb Cydwasanaethau Rheoleiddio: mae hyn ym marn yr Is-Bwyllgor yn amddiffyniad cadarn i’w ychwanegu at y cyfyngiadau ar sawl achlysur y caniateir darparu adloniant allanol y tu hwnt i 23:00.

 

Dylai’r gofyniad i Gydwasanaethau Rheoleiddio gael hysbysiad blaenorol o ddigwyddiadau feithrin perthynas waith rhwng yr Ymgeisydd a’r awdurdod cyfrifol hwn, a bydd yn caniatáu deialog ac (os oes angen) dulliau gorfodi os ceir sefyllfa lle nad yw’r nod o sicrhau nad yw s?n gyda’r nos yn glywadwy o fewn cartrefi sy’n sensitif i s?n sydd â’u ffenestri ar agor i ganiatáu awyru (paragraff 6 adroddiad Inacoustic) yn cael ei gyflawni.

 

Derbyniodd yr Ymgeisydd fod digwyddiad karaoke a gynhaliwyd yn y “sgwâr” (ymhellach i’r dwyrain) ym mis Gorffennaf y llynedd wedi arwain at nifer o gwynion ac ymddiheurodd ei gyfreithiwr am hynny.  Roedd amryw sylwad yn gweld problem gyda’r modd yr oedd y Fangre yn delio â chwynion a derbyniodd cyfreithiwr yr Ymgeisydd yn gywir na fyddai’n dderbyniol i gwynion beidio â chael ymateb priodol.  Nododd yr Is-Bwyllgor fod y cynllun rheoli s?n (sy’n berthnasol i’r lleoliad cyfan) yn cynnwys ym mharagraff 3.2 gweithdrefn gwyno, a bod yr amodau pellach yn cynnwys rhwymedigaethau gweithdrefn gwyno penodol mewn perthynas ag adloniant a ddarperir yn y Pafiliwn ar ôl 23:00.  Yn blaen mae er budd y gweithredwr ei hun i ddelio â chwynion yn briodol, oherwydd pe bai’n methu â gwneud hynny mae’n gwahodd adolygiad neu gamau gorfodi eraill.

 

O ran karaoke ei hun, mae’r Is-Bwyllgor yn nodi’r amod sy’n gwahardd y math hwn o adloniant yn y Pafiliwn ar ôl 23:00.


Codwyd mater yn y gwrandawiad yngl?n â s?n y dorf, na ellir ei reoli wrth gwrs gan gyfyngydd s?n yn yr un modd â gellir rheoli s?n o seinchwyddwr. Mae s?n y dorf yn hwyr y nos â photensial i beri niwsans.  Byddai'r Is-Bwyllgor yn disgwyl i'r gweithredwr weithredu rheolaethau rheoli addas er mwyn osgoi hynny rhag digwydd (fel noddodd cyfreithiwr yr Ymgeisydd fyddai’n digwydd).  Pe na bai'r rheolaethau hynny'n effeithiol, yna byddai'r gweithredwr wrth gwrs yn peryglu derbyn adolygiad neu gamau gorfodi eraill.


Mae trosi'r hyn oedd yn glwb nos i oedolion i fwyty wedi arwain at ddileu amodau sy'n cyfyngu'r ardal honno i oedolion yn unig. Ni chynhigir unrhyw amod o'r fath mewn perthynas â'r Pafiliwn ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau mewn perthynas â diogelu plant rhag niwed. Er hynny, rhaid i’r Is-Bwyllgor gyflawni’r swyddogaeth gydag ystyriaeth ddyledus i’r holl amcanion trwyddedu ac i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae’r Is-Bwyllgor yn nodi bod yna amod i sicrhau bod lleoliadau’r Fangre (gan gynnwys y Pafiliwn) â chanolbwynt ar deuluoedd, wedi’u cynllunio i ddenu teuluoedd ac i ddarparu adloniant i deuluoedd.  Mae Parkdean yn ddarostyngedig i rwymedigaethau statudol a rheoliadol i gynnal asesiadau risg a gweithredu mesurau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch ymwelwyr i'r Parc Hamdden, gan gynnwys plant, a thybiwn y bydd cyflwyno cyfleuster y Pafiliwn yn arwain at adolygiad priodol o’r asesiadau risg sydd ar waith.

 

Ym marn yr Is-Bwyllgor mae culhau’r cais a’r tynnu sylwadau gan Gydwasanaethau Rheoleiddio yn ei sgil, a’r cynnig o’r hyn mae’n ei ystyried yn amodau cadarn, oll yn ffactorau sy’n arwain yr Is-Bwyllgor at y farn ei bod yn briodol caniatáu’r cais sydd bellach wedi’i amrywio, yn ddarostyngedig i fân newidiadau ac ail-ddrafftio’r amodau.                                              

 

          

Dogfennau ategol: