Agenda item

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA)

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor

Cynghorydd Jon-Paul Blundell – Aelod Cabinet Addysg

 

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Nicola Echanis - Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

 

Michelle Hatcher - Rheolwr Gr?p Cymorth i Ddysgwyr

Becca Avci - Cydlynydd Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

Robin Davies – Rheolwr Gr?p Cymorth Busnes

Gaynor Thomas - Rheolwr Rhaglen Ysgolion

Alix Howells - Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb

Stephanie Thomas - Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Bethan Davies - Rheolwr Tîm Gofal Plant

Christopher Newcombe - Prif Bartner Gwella - Polisi, Safonau a Gwelliant y Gymraeg - Consortiwm Canolbarth y De

 

Nicola Williams – Prifathro, Ysgol Gynradd Afon Y Felin

Catrin Coulthard – Prifathro, Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd

Meurig Jones – Prifathro, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd

Helen Jones – Prifathro, Ysgol Maesteg

Cofnodion:

Cafwyd sylwadau agoriadol gan yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Cymorth i Ddysgwyr yr adroddiad yn gryno, a’i ddiben oedd diweddaru’r Pwyllgor ar weithrediad a chynnydd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, cynllun 10 mlynedd a oedd i ddod i ben yn 2032.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet a’r Swyddogion a thrafododd yr Aelodau’r canlynol:

 

·         A allai Cynghorwyr arsylwi'r Fforwm Addysg Gymraeg (WEF).

 

·         Roedd y Gr?p Gwella Ysgolion, a ganolbwyntiodd ar wella safonau ym mhob ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unol â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a fynychwyd gan Gadeirydd SOSC 1 gan ddarparu cyswllt o'r Pwyllgor.

 

·         Argaeledd ac ansawdd yr adnoddau ar gyfer addysg Gymraeg, y cyllid i ddod o hyd i’r gwerslyfrau gofynnol ac, o ystyried y pwysau ar gyllidebau, y buddsoddiad sylweddol yn y wybodaeth ddigidol sydd ar gael trwy argaeledd llyfrau crôm “un i un” yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg a rhagor o adnoddau sydd ar gael o fewn y platfform ar-lein trwy Hwb.

 

·         Canlyniad yr ymgynghoriad, a ddosbarthwyd yn eang, adborth gan aelodau o’r WEF a diwygiadau a wnaed, y mesurau a gymerwyd i sicrhau bod gofynion Estyn yn cael eu bodloni gan gynnwys: ailedrych ar aelodaeth WEF, sefydlu is-grwpiau i sicrhau cyrhaeddiad ehangach, y camau a gymerwyd, ac roedd gwybodaeth am y gwaith a gwblhawyd wedi'i rhannu ag is-grwpiau.

 

·         Nodau ac amserlen cyflawni’r cynllun gweithredu i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC) ar 16 Rhagfyr 2022 a oedd yn gynllun 5 mlynedd cynhwysfawr a luniwyd gan yr holl randdeiliaid a phartneriaid cyflawni ac a fyddai’n cael ei rannu cyn gynted ag y byddai cymeradwyaeth yn cael ei rhoi.

 

·         Y dulliau ariannol a archwilir, cyllid ychwanegol a gaiff awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymrwymiad i weithredu CSGA gan gynnwys cyllid ar gyfer y 4 hwb, moderneiddio ysgolion a buddsoddiadau pellach trwy drafodaethau â LlC.

 

·         Dalgylchoedd ar gyfer Ysgolion Cyfrwng Cymraeg, deddfwriaeth gyfredol ddim yn caniatáu ar gyfer dalgylch traws-sirol, ac ystyried egin ysgol cyfrwng Cymraeg.

 

·         Rhieni yn terfynu addysg cyfrwng Cymraeg eu plant o'r meithrin i'r cynradd a chreu egin ysgol cyfrwng Cymraeg.

 

·         Amrywioldeb mewn cyfraddau pontio, lleoliad ysgolion yn ffactor, agor hybiau gofal plant ym Mro Ogwr a’r egin ysgol i hwyluso’r pontio, a datblygiad newydd yn y Betws a Melin Ifan Ddu yn cael ei greu i gynorthwyo.

 

·         Llai o blant yn ymuno ag ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg oherwydd nad yw eu teuluoedd yn siaradwyr Cymraeg a rhieni yn anfon plant i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg oherwydd agosrwydd, a chapasiti yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg.

 

·         Canmoliaeth i ansawdd addysg cyfrwng Cymraeg, ansawdd y cyfleusterau, costau adnewyddu a chynnal a chadw ysgolion y fwrdeistref, moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif a chynlluniau i symud Llangynwyd i gyfleuster mwy modern.

 

·         Digonolrwydd mewn perthynas â’r twf disgwyliedig o ran ail-leoli Ysgol Bro Ogwr a chynyddu niferoedd disgyblion, Nifer Derbyniadau Disgyblion yn y CSGA 10 mlynedd, rhagor o gynlluniaui gynyddu’r ddarpariaeth yn nwyrain y Fwrdeistref ac ehangiad sylweddol ym Mro Ogwr.

 

·         Ffurfiwyd y ffurflen asesu’r effaith ar y Gymraeg a ddatblygwyd gan yr awdurdod lleol yn rhan o’r ymgynghoriad er mwyn gofyn cwestiynau ynghylch yr effaith andwyol ar y Gymraeg a gofynnir am gyfraniadau a chynigion gan randdeiliaid ynghylch a fydd effaith ar y Gymraeg neu’r Saesneg.

 

·         Ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y Fwrdeistref, gan gynnwys dyblu capasiti Ysgol Y Ferch O’r Sger yng Nghorneli ac ysgol cyfrwng Cymraeg ym Mhorthcawl ar ffurf yr egin ysgol.

 

 

·         Positifrwydd yngl?n â chefnogaeth y Gyfadran a chanmoliaeth a chydnabyddiaeth i benaethiaid yr ysgolion cyfrwng Cymraeg am y gwasanaethau a ddarperir a’r gwaith a wneir gan ysgolion.

 

·         Yr ymrwymiad i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol plant cyfrwng Cymraeg, y ganolfan anhawster dysgu cymedrol sydd wedi’i hagor a’i chydnabod ar y cyd â datblygiad Ysgol Bro Ogwr, yr angen am ddosbarth arsylwi trwy gyfrwng y Gymraeg, a’r ffocws i hyrwyddo, marchnata a dathlu, gan gydnabod gwaith staff a phenaethiaid.

 

·         Pwysigrwydd cynnal twf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y bwriad i gynnig cymwysterau ôl-16 ar y cyd â Llanhari, i gynnig y lefel orau o gymwysterau i ddysgwyr i ddod â’r cymwysterau hynny yn ôl fel Athrawon.

 

·         Heriau a chamau gweithredu sydd eu hangen ar gyfer recriwtio a chadw staff a’u cymell i hyfforddi ac aros yn y proffesiwn.

·         Yr angen i weithio gydag Estyn i ddeall yr heriau a wynebir gan y sector cyfrwng Cymraeg ac arbenigedd pwnc, yr angen i Gymwysterau Cymru sicrhau bod y cymwysterau ar gael yn gyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg a bod yr adnoddau wedi’u halinio.

 

·         Pwysigrwydd gweithio gyda darparwyr eraill, e.e. Coleg Penybont ac ymwneud Consortiwm Canolbarth y De ag ysgolion cyfrwng Saesneg i hwyluso camau i sicrhau bod cymwysterau yn y Gymraeg ar gael.

 

·         Camau a gymerir i hyrwyddo’r Gymraeg gyda’r cymunedau busnes gan gynnwys, mewn trafodaeth, â Choleg Penybont ynghylch sut y gallent ymgysylltu â chyflogwyr, cynyddu’r mewnbwn o ddysgwyr a oedd yn gyfforddus i weithio yn Gymraeg, gan gydnabod a dathlu’r hyn y gall y rhai sy’n gymwys yn yr iaith ei gynnig i fusnesau lleol, a chydweithio â Swyddogion amrywiol i hysbysebu swyddi yn eu cylchgrawn.

 

·         Cyfleoedd sydd ar gael i athrawon cyfrwng Saesneg ddysgu a throsi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda Chonsortiwm Canolbarth y De yn cynnig cymorth a ddangosir yng nghanlyniadau Is-gr?p 6 a 7.

 

·         Roedd llawer o ysgolion wedi manteisio ar y cynnig i gymryd cyfnod sabothol i ddysgu Cymraeg a symud o’r cyfrwng Saesneg i’r cyfrwng Cymraeg a grant LlC yn cael ei ddefnyddio i gynyddu capasiti a denu athrawon o’r Saesneg i’r Gymraeg.

 

·         Roedd y daflen a oedd yn cael ei darparu i rieni i godi ymwybyddiaeth ac annog addysg cyfrwng Cymraeg o oedran cyn-geni, yn nodi llwybrau mewn addysg cyfrwng Cymraeg i helpu rhieni a gofalwyr i wneud dewisiadau cadarnhaol a gwybodus.

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd y gallent adael y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:             Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau â Swyddogion ac Aelodau Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhelliad canlynol:

 

1.    Bod yr Aelod Cabinet dros Addysg yn codi gyda Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru a ddylai fod newid yn y ddeddfwriaeth i ganiatáu i ysgolion nad ydynt ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael eu cynnwys yn nalgylchoedd Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn sicrhau bod rhieni ar gael yn agos at eu cartrefi i drosglwyddo eu plant o addysg gynradd i addysg uwchradd.  

 

a gofynnodd y Pwyllgor am: 

2.    Ymateb ysgrifenedig gan yr Aelod Cabinet dros Addysg yn nodi sut y gall Aelodau fwydo i Fforwm y Gymraeg mewn Addysg i gynnwys manylion am fynychu cyfarfodydd a rhoi mewnbwn.

 

3.    Ymateb ysgrifenedig yngl?n â’r is-grwpiau ar gyfer y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA) pum mlynedd gan gynnwys cynllun gweithredu ac amserlen gyflawni i alluogi’r Pwyllgor i fonitro yn y dyfodol.  

 

4.    Y Cynllun Llywodraethu a Gweithredu; gwelededd prosiectau wedi'u mapio i ddangos llwybrau llywodraethu a sut y bydd prosiectau amrywiol yn cael eu monitro.

 

5.    Diweddariad, pan fo’n briodol, ar ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain y Sir gyda mewnbwn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd ac adborth ysgrifenedig gan yr Aelod Cabinet Addysg yn dilyn ei gyfarfod â Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru .

 

6.    Rhagor o wybodaeth am oblygiadau ariannol gweithredu’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i gynnwys manylion am yr hyn sydd wedi’i wneud hyd yma i ddod o hyd i gyllid ychwanegol ac o ble a sut y byddai cyllid yn cael ei sicrhau yn y dyfodol i gynnal swydd Cydlynydd y CSGA.

 

7.    Data ar faint o ddysgwyr sy’n teithio i’r Fwrdeistref Sirol o’r tu allan i’r dalgylchoedd i fynychu’r Ysgolion Cyfrwng Cymraeg a rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i rieni a hoffai i’w plentyn/plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg neu a hoffai iddynt gael y cyfle i ddatblygu’r Gymraeg mewn Ysgolion Cyfrwng Saesneg.

 

8.    Diweddariadar yr amserlen ar gyfer adnewyddu Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd a'i lle mewn blaenoriaeth o'u gymharu â'r holl ysgolion sy'n cael eu hystyried ar gyfer y gwaith cynnal a chadw sydd ei angen.

 

Dogfennau ategol: