Agenda item

Galw Penderfyniad y Cabinet i Mewn: Strategaeth Carbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet Cymunedau

 

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Zak Shell - Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd - Craffu yr adroddiad a’i bwrpas oedd galluogi'r Pwyllgor i graffu ar benderfyniad y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2022 mewn perthynas â'r adroddiad ar Strategaeth Garbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd, yn unol ag Adran 7.23 o Gyfansoddiad y Cyngor, fod tri Aelod o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, ac un Cadeirydd Craffu, wedi gofyn am Alw i Mewn y penderfyniad Gweithredol a wnaed gan y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2022.

 

Dywedodd mai’r argymhelliad oedd i’r Pwyllgor ystyried penderfyniad y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2022 ynghylch Strategaeth Garbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr a phenderfynu a oedd yn dymuno:

 

i)              Cyfeirio’r penderfyniad yn ôl er mwyn i’r Cabinet ei ailystyried, gan nodi’n ysgrifenedig natur ei bryderon; ynteu

ii)             Penderfynu peidio â chyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau oedd wedi cefnogi Galw i Mewn i siarad am y rhesymau dros Alw i Mewn.

 

Dywedodd yr Aelodau fod y prif resymau dros Alw i Mewn yn cynnwys:

 

-       Diffygion yn y Strategaeth ac yn y cwestiynu gan y Cabinet wrth wneud y Penderfyniad.

-       Nid oedd unrhyw wybodaeth na dealltwriaeth wirioneddol o effaith ariannol y penderfyniad polisi.

-       Diffyg eglurder ynghylch y ffordd y câi perfformiad ei fonitro.

-       A oedd y Strategaeth yn cael ei goruchwylio a'i llywodraethu'n gywir ac a ddylai eistedd ar lefel uwch.

-       Roedd diffyg eglurder ynghylch sut y byddai cyflawni'r Strategaeth yn cael ei ariannu.

-       Pryder ynghylch y diffyg o 34,000 tunnell o ran cyrraedd y targed o garbon sero net, y gost a beth oedd yn cael ei wneud i liniaru hynny.

 

Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor (yr Arweinydd):

 

-       Dynnu sylw at bwysigrwydd pwnc y newid yn yr hinsawdd a'r angen i bawb chwarae rhan yn yr ymateb iddo.

-       Dywedodd y byddai monitro'r targed a chyflawni’r Strategaeth yn digwydd drwy'r Cynllun Corfforaethol y creffir arno o leiaf bob chwarter drwy fframwaith y Perfformiad Corfforaethol

-       Eglurodd y câi'r mesuriadau perfformiad o amgylch y cynllun sero net eu nodi a'u mesur ar lefel gorfforaethol ac y byddai cynlluniau busnes y cyfarwyddiaethau hefyd yn cynnwys targedau a dangosyddion perfformiad perthnasol.

-       Esboniodd y byddai'r Strategaeth yn eiddo i'r Cyngor llawn ar lefel uchaf y fframwaith cynllunio ar gyfer yr Awdurdod.

-       Dywedodd eu bod wedi ymrwymo i adolygu'r strategaeth yn llawn yn 2024 a 2027 oherwydd bod y diwydiant datgarboneiddio ynghyd â thechnoleg yn newid ac y byddent yn croesawu mewnbwn craffu i'r adolygiad.

-       Tynnodd sylw at ansefydlogrwydd costau a'r angen i addasu i newidiadau.

-       Dywedodd ei fod yn agenda a rennir gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac roedd yn cydnabod y byddai rhai newidiadau yn ddrud, a bod angen cymorth ariannol sylweddol gan y llywodraeth ganolog.

 

Fe wnaeth Aelod y Cabinet dros y Cymunedau:

 

-       Roi gwybod bod y Strategaeth yn ddogfen gorfforaethol ac er mai Cyfarwyddiaeth y Cymunedau oedd yn ei rheoli, cynhelid cyfarfodydd y Bwrdd Lleihau Carbon yn rheolaidd a mynychid y rhain gan Swyddogion o bob Cyfarwyddiaeth ac, yn dilyn hynny, câi camau gweithredu eu cynnwys yn yr Asesiad Perfformiad Corfforaethol (CPA).

-       Tynnodd sylw at yr anhawster o roi cost ar gyflawni'r Strategaeth, gan gynnwys y posibilrwydd y byddai’r ffigwr yn anghywir, a'r adnoddau oedd eu hangen i gyrraedd ffigwr.

-       Gyda golwg ar berfformiad, dywedodd fod 6 chynllun gweithredu yn y Strategaeth gyda swyddogion arweiniol wedi cael eu nodi ar gyfer pob thema.

-       Dywedodd fod mwy o waith i'w wneud a phethau i’w dysgu er mwyn cyflawni carbon sero net mewn 7 mlynedd.

 

Fe wnaeth Pennaeth Gweithrediadau’r Gwasanaethau Cymunedol y sylwadau canlynol:

 

-       Cytunai y byddai costiadau fel rheol yn cyd-fynd â Strategaeth ond bod y Strategaeth hon yn un oedd yn newidiol, yn ddeinamig ac yn un oedd yn datblygu.

-       Tynnodd sylw at ddatblygiad deinamig technoleg, anwadalrwydd cost adnewyddu offer, a’r ansicrwydd ynghylch cyllid grant.

-       Dywedodd y byddai unrhyw gostiad yn amodol ar gynifer o newidynnau fel mai dim ond y ‘dyfaliad gorau’ fyddai hwnnw ac mai ar y dull gweithredu a’r mentrau unigol y dylid canolbwyntio.

-       Gyda golwg ar berfformiad a monitro, atgoffodd yr Aelodau fod y pwnc wedi cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu ym mis Gorffennaf 2021, lle cynhaliwyd trafodaethau ynghylch dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) a datblygu offeryn monitro blynyddol, a bod llawer o'r hyn oedd yn y Strategaeth yn ffrwyth y drafodaeth Graffu honno.

-       Tynnodd sylw at adrannau o'r adroddiad oedd yn dangos monitro perfformiad ac y byddai lefel y manylder y gofynnwyd amdano yn fwy priodol ar gyfer CPA, cyfarfodydd Craffu a chynllun cyflawni.

-       O ran trosolwg a llywodraethu, amlygodd y daith y bu’r Strategaeth arni drwy amrywiol gyfarfodydd ac ymgynghoriad cyhoeddus a'r cyfleoedd i Aelodau fod yn rhan o ddatblygu'r Strategaeth cyn iddi gael ei chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2023.

-       Dywedodd fod y Strategaeth yn cael ei rheoli gan Gyfarwyddiaeth y  Cymunedau oherwydd mai o'r Gyfarwyddiaeth honno yr oedd wedi esblygu i raddau helaeth ond mai'r hyn oedd yn bwysig oedd iddi gael yr adnoddau oedd eu hangen i'w gyrru yn ei blaen.

-       Pwysleisiodd mai i ddibenion enghreifftiol y bwriadwyd y siartiau llinellol yn yr adroddiad ac y byddent yn newid wrth i fentrau gael eu gweithredu.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd unrhyw Aelodau eraill oedd wedi cefnogi Galw i Mewn i siarad ac yna gwahoddodd unrhyw Aelodau eraill o'r Pwyllgor i ofyn cwestiynau neu roi sylwadau.

 

Mewn perthynas ag ymholiad gan Aelod ynghylch y gost o wrthbwyso’r carbon gweddilliol ac a fyddai’r gost yn cael ei lledaenu dros 7 mlynedd neu’n cael ei gwerthuso a’i thalu yn 2030, rhybuddiodd Pennaeth Gweithrediadau’r Gwasanaethau Cymunedol yn erbyn ceisio dyfalu cost elfennau unigol, gan y byddai gwahaniaethau cost gyda phob menter, a allai gulhau neu dyfu ac y gallai gynhyrchu ffigur hynod anghywir. O ran gwrthbwyso, dywedodd fod angen ei ystyried cyn 2030 oherwydd y byddai gofyniad ac amserlen i gyflawni'r gwrthbwyso.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau y gallai lefel y diffyg a ragwelid hefyd fod yn destun newid wrth i dechnoleg newid a thynnodd sylw at faint a manteision plannu coed.

 

Dywedodd yr Arweinydd y dylai'r Cyngor ystyried dewisiadau gwrthbwyso carbon fel cyfleoedd a thynnodd sylw at bwysigrwydd yr adolygiad oherwydd y newid mewn technoleg a chostau oedd yn golygu ei bod yn fwy anodd rhagweld goblygiadau ariannol yn y dyfodol.

 

Er y gallai costau yn y dyfodol fod yn anodd eu cyfrifo ac y gallai technoleg newid, holodd Aelod pam na ellid cael rhyw sicrwydd ynghylch mentrau a chostau ar gyfer cyflawni’r gostyngiad dros y 12 i 18 mis nesaf.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau fod 6 chynllun gweithredu wedi eu cynnwys yn y Cynllun Gweithredu gyda thargedau a dyddiadau penodol, y gellid mesur rhai ohonynt erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a fu unrhyw drafodaeth ynghylch y posibilrwydd i’r Strategaeth gael ei rheoli gan Gyfarwyddiaeth wahanol ac a oedd angen swydd ychwanegol yn y Cabinet ar ei chyfer, dywedodd yr Arweinydd, er ei bod wedi esblygu, fod llawer o'r meysydd yr oedd angen eu newid yn sylweddol o fewn Cyfarwyddiaeth y Cymunedau ac, felly, bod synergeddau a chysylltiadau naturiol gyda'r Gyfarwyddiaeth honno ond y byddai'n ofynnol i Swyddogion o bob rhan o'r Awdurdod gyfrannu iddi. Dywedodd nad oedd bwriad i greu swydd arall yn y Cabinet a thynnodd sylw at ymrwymiad ac angerdd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau a Chyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau.

 

Teimlai Aelod fod angen nodi cost dangosol ar gyfer y Strategaeth er mwyn hysbysu'r cyhoedd, a holodd pam nad oedd cyfeiriad yn y Strategaeth at warchod coed aeddfed, gan dynnu sylw at y ffaith eu bod yn dal mwy o garbon na choed oedd newydd gael eu plannu.

 

Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau’r Gwasanaethau Cymunedol y gallent roi rhai costau bras at ei gilydd ond, oherwydd yr ansefydlogrwydd, y gallai hynny gyfleu darlun camarweiniol a gwyrgam a fyddai’n tynnu sylw oddi ar y Strategaeth ei hun.

 

Tynnodd Aelod y Cabinet dros y Cymunedau sylw at y gwaith oedd yn cael ei wneud i ofalu am goed aeddfed a chytunodd efallai y byddai angen diweddaru'r cynllun i adlewyrchu hynny.

 

Mewn ymateb i ymholiad pam roedd y Strategaeth yn cynnwys Dangosyddion Perfformiad Allweddol y cytunwyd arnynt yn 2021 gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon ond nad oedd targedau ariannol na thargedau perfformiad, esboniodd Pennaeth Gweithrediadau’r Gwasanaethau Cymunedol y gwaith y comisiynwyd yr Ymddiriedolaeth Garbon i'w wneud, oedd wedi cael ei gyfleu i Bwyllgor Craffu ym mis Gorffennaf 2021, a dywedodd na fyddai ef ond yn ailadrodd ei bwyntiau cynharach ynghylch cost.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cyllid ar gyfer y Strategaeth, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau’r Gwasanaethau Cymunedol fod yna gynnig twf refeniw pwysau cyllidebol o £883,000 i'w ystyried y flwyddyn nesaf neu byddai cyllid yn dod o'r gyllideb refeniw a fyddai'n creu ei bwysau cyllidebol ei hun.

 

O ystyried a fyddai’r pwysau ar y gyllideb yn golygu toriad i wasanaethau neu gynnydd yn Nhreth y Cyngor, dywedodd yr Arweinydd fod rhestr hir o gynigion cryf iawn ar gyfer twf cyllidebol ar gyfer y flwyddyn nesaf i’w hystyried fel rhan o broses gosod y gyllideb, ond tynnodd sylw at yr angen i gyfyngu ar dwf er mwyn cadw unrhyw gynnydd yn Nhreth y Cyngor mor isel â phosibl.

 

Mewn ymateb i bryder gan Aelod fod Cyngor Dinas Abertawe wedi rhoi cost ar eu Strategaeth tra nad oedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwneud hynny, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau’r Gwasanaethau Cymunedol, er y gallent gynhyrchu ffigw a’i gyhoeddi, y byddai’n destun cymaint o amrywiadau oherwydd bod costau mor gyfnewidiol a thechnoleg yn newid fel y byddai wedi dyddio bron yn syth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai cosb ariannol am fethu â chyrraedd carbon sero net, dywedodd nad oedd yn statudol ar hyn o bryd ac felly nad oedd targedau na dirwyon. Fodd bynnag, tynnodd sylw at Strategaethau a thargedau blaenorol Llywodraeth Cymru, oedd wedi dilyn llwybr o gyflwyno targed uchelgeisiol, gydag arian grant yn dilyn i gefnogi cyflawni'r targed, ac wedyn cyflwyno dirwy am beidio â chyrraedd y targed.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod gan y cyhoedd fwy o ddiddordeb yn y camau oedd yn cael eu cymryd a'r hyn oedd yn cael ei gyflawni yn hytrach na chynhyrchu ffigur, a thynnodd sylw at y ffaith nad oedd y ffigur a gynhyrchwyd gan Gyngor Dinas Abertawe yn ffigur cyflawn gan nad oedd yn cynnwys eu hymrwymiad i ddatgarboneiddio tai. Parhaodd drwy ddweud y byddent yn ystyried sut orau i gyfleu crynodeb o'r cynlluniau gweithredu a'r cyfnodau amser i'r cyhoedd ac i'r Aelodau.

 

Mewn ymateb i ymholiad a oedd angen astudiaeth o gymhlethdod a chost lleihau allyriadau carbon a’r angen am Strategaeth o’r fath oedd yn edrych i’r dyfodol, tynnodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol sylw at y ffaith fod y Cenhedloedd Unedig, Llywodraeth y DU a’r Cyngor wedi datgan argyfwng hinsawdd ac mai bwriad y Strategaeth oedd mynd i'r afael â hynny.

 

Gofynnodd Aelod a ddylai adroddiadau'r Cyngor gynnwys mesur cost carbon a dywedodd Pennaeth Gweithrediadau’r Gwasanaethau Cymunedol fod hyn wedi bod yn argymhelliad gan y Pwyllgor Craffu nad oedd wedi cael ei weithredu eto, ond cytunai y dylid ei gynnwys mewn templedi adroddiadau safonol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol fod yna ymrwymiad i adolygu'r templed corfforaethol i alinio â dyletswyddau'r Cyngor a'r Amcanion Corfforaethol newydd, unwaith y byddent wedi cael eu mabwysiadu. Y gobaith oedd cynnwys crynodeb gweithredol hefyd.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig cynnwys ystyriaeth garbon yn y templed gan y byddai’n effeithio ar bob penderfyniad a wneid ac awgrymodd y gellid ei gynnwys gyda’r pennawd yn y templed ynghylch goblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau'r Pwyllgor oedd wedi bod eisiau gofyn cwestiynau i gyd wedi siarad, ac felly, gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r gwahoddedigion, diolchodd iddynt am fod yn bresennol a gadawsant hwythau’r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor, wedi ystyried a oeddent yn fodlon ar yr atebion, i ddweud a oeddent yn dymuno:

 

a)    Cyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r Cabinet i’w ailystyried, gan nodi’r rhesymau a’r rhesymeg dros y cais; ynteu

b)    Penderfynu peidio â chyfeirio'r mater yn ôl i'r Cabinet.

 

Bu Aelodau’r Pwyllgor yn trafod y canlynol:

 

Ystyriai’r Aelodau y dylid priodoli rhyw fath o gost gredadwy i strategaeth mor bwysig. Cydnabuwyd y dylid cael ffordd o gyfleu costau dangosol na fyddai'n rhy annibynadwy nac yn rhy gamarweiniol yn hytrach na pheidio â darparu costau o gwbl. Trafodwyd sut y byddai costau ar gyfer y strategaeth lawn yn esblygu dros amser.

 

Cyfeiriwyd at y cerrig milltir allweddol a nodwyd i'w cyflawni erbyn 2024 ym 'Map y Llwybr i Ben-y-bont ar Ogwr Sero Net', oedd wedi'i gynnwys yn Atodiad 1 i'r Strategaeth, a dywedwyd y gallai'r Cabinet ystyried sut y gellid cymhwyso'r costau gorau i'r camau arfaethedig hyn er mwyn sicrhau’r arbedion carbon sylweddol a nodwyd.

 

Nododd yr aelodau y byddai trigolion yn pryderu am gost eu treth gyngor a’r effaith ar wasanaethau’r cyngor o ystyried y pwysau cyllidebol sylweddol a ddisgwylid yn y blynyddoedd i ddod ac roeddent o’r farn y dylid cyhoeddi goblygiadau ariannol tymor byr a thymor hir y strategaeth i’r cyhoedd er mwyn rhoi gwybod i drigolion lle byddai eu harian yn cael ei ddefnyddio.

 

PENDERFYNWYD:               Yn dilyn ei archwiliad o’r penderfyniad, ac wedi ystyried yr uchod, penderfynodd y Pwyllgor argymell cyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r Cabinet i’w ailystyried am y rheswm canlynol:

 

 Mynegwyd pryderon ynghylch y diffyg gwybodaeth am gostau yn adroddiad gwreiddiol y Cabinet a theimlai'r Aelodau fod angen i'r Cabinet ystyried y costau ariannol ehangach cyn gwneud y penderfyniad, gyda goblygiadau ariannol tymor hir dangosol a mwy o fanylion am gostau cyflawni cerrig milltir 2024.

 

Dogfennau ategol: