Agenda item

Rhybudd o Gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorydd Jane Gebbie ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Alex Williams

 

CYNNIG AR GYFLOGAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL I’R CYNGOR: CODIAD CYFLOG PRIODOL WEDI’I ARIANNU’N LLAWN I WEITHWYR Y CYNGOR A GWEITHWYR YSGOL

Mae’r cyngor hwn yn nodi:

  • Mae Llywodraeth leol wedi dioddef gostyngiad ariannol gan y llywodraeth ganolog o fwy nag 50% ers 2010. Rhwng 2010 a 2020, fe wnaeth cynghorau weld gostyngiad o 60 ceiniog ymhob £1 y maen nhw’n derbyn gan y llywodraeth ganolog yn San Steffan.
  • Mae ymchwil newydd diweddar gan UNSAIN yn dangos fod cynghorau ar draws Lloegr, Cymru a’r Alban yn wynebu diffyg cyllid cyfunol o £3bn erbyn blwyddyn ariannol 2023/24 a bwlch cyllid cronnol o £5bn erbyn 2024/25.
  • Ar lefel leol, mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwneud arbedion gwerth bron i £73m ers 2010/2011. Mae hyn yn cynrychioli bron i 23% o gyllideb refeniw net presennol y Cyngor.
  • Fe wnaeth cynghorau arwain y ffordd yn ystod cyfnod y pandemig Covid-19, gan ddarparu ystod o wasanaethau a chefnogaeth i’n cymunedau. Mae llywodraeth leol wedi dangos fwy nag erioed pa mor angenrheidiol yw ein gwasanaethau. Ond mae cyfnod Covid wedi arwain at gynnydd anferthol mewn gwariant a cholli incwm, ac wrth i ni ddod allan o’r pandemig, mae awdurdodau ac ysgolion lleol angen llawer mwy o gefnogaeth gan San Steffan. Nid yw cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth San Steffan ar drefniadau cyllido yn ymwneud ag ysgolion wedi bod o unrhyw gymorth.
  • Fe gadwodd gweithwyr y cyngor a gweithwyr ysgol ein cymunedau yn ddiogel dros gyfnod y pandemig, gan roi eu hunain roi eu hunain dan amodau o risg sylweddol ambell waith wrth iddyn nhw weithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd, cynnal a chadw tai, sicrhau bod ein plant yn parhau i gael eu dysgu, ac edrych ar ôl bobl h?n a bregus. Ers 2010, mae gweithlu llywodraeth leol wedi dioddef blynyddoedd o ataliaeth cyflog gyda’r mwyafrif o’r cyfraddau cyflog yn colli o leiaf 25 y cant o werth ers 2009/10. Mae gweithwyr yn wynebu’r argyfwng costau byw gwaethaf ers cenhedlaeth, gyda chwyddiant yn cyrraedd 10% fel bod angen i lawer wneud dewisiadau amhosib rhwng prynu bwyd, gwresogi neu hanfodion eraill. Mae hyn yn sefyllfa ofnadwy i unrhyw un gael eu hunain ynddi.
  • Yn ystod yr un cyfnod, mae gweithwyr wedi profi llwyth gwaith cynyddol ac ansicrwydd swydd yn barhaus. Ers Mehefin 2010, mae 900,000 o swyddi wedi eu colli ym myd llywodraeth leol ar draws y DU - gostyngiad o fwy na 30 y cant. Gellir dadlau fod llywodraeth leol wedi colli mwy o swyddi’n nag unrhyw ran arall o’r sector cyhoeddus.
  • Bu effaith anghyfartal ar ferched, gyda merched yn ffurfio mwy na thri chwarter o weithlu llywodraeth leol.
  • Mae ymchwil diweddar yn dangos pe bai Llywodraeth San Steffan yn ariannu’n llawn cais yr undebau am godiad cyflog ar gyfer 2023 byddai tua hanner yr arian yn cael ei adennill drwy dderbyn refeniw o’r trethi yn ogystal â llai o wariant ar fudd-daliadau a chredydau treth, a chynnydd mewn gwariant defnyddwyr yn yr economi leol.

Mae’r cyngor o’r farn:

  1. Bod ein gweithwyr yn weithwyr sy’n serennu o ran eu  gwasanaeth i’r cyhoedd. Maen nhw’n cadw ein cymunedau’n lan ac yn ddiogel, yn edrych ar ôl y rhai mewn angen ac yn cynnal ein trefi a phentrefi.
  2. Heb broffesiynoldeb ac ymroddiad ein gweithwyr, fydden ni ddim yn gallu cynnig  y gwasanaethau y mae ein trigolion yn dibynnu arnyn nhw i’w cyflawni gan y cyngor.
  3. Mae gweithwyr llywodraeth leol yn haeddu codiad cyflog sy’n adlewyrchu’r gwir sefyllfa a’r gwir gostau. Mae angen i Lywodraeth San Steffan gymryd cyfrifoldeb ac ariannu’r cynnydd hwn yn llawn. Ni ddylid gosod y baich ar awdurdodau lleol lle mae eu cyllid yn parhau i gael ei ddefnyddio i ddelio â’r effeithiau ar ein gwasanaethau yn sgil pandemig Covid-19.

Mae’r cyngor hwn wedi penderfynu:

  1. Cefnogi’r cais am godiad cyflog a gyflwynwyd gan UNSAIN, GMB ac Unite ar ran gweithwyr y cyngor a gweithwyr ysgol, ac i weld cynnydd yn y cyflog sef yr RPI  + 2%.
  2. Galw ar Gymdeithas Llywodraeth Leol i bwyso ar y llywodraeth ganolog i ariannu cais codiad cyflog yr NJC.
  3. Ysgrifennu at y Canghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol i alw am godiad cyflog i weithwyr llywodraeth leol gydag arian newydd gan y llywodraeth ganolog.
  4. Cyfarfod â chynrychiolwyr undeb y NJC yn lleol i roi ar ddeall y gefnogaeth am yr hawliad cyflog ac ystyried ffyrdd ymarferol gall y cyngor gefnogi’r ymgyrch.
  5. Annog pob gweithiwr llywodraeth leol i ymuno ag undeb.