Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jon-Paul Blundell – Aelod Cabinet Addysg
Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Nicola Echanis - Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd
Susan Roberts - Rheolwr Gr?p (Cymorth i Ysgolion)
Clara Seery - Rheolwr Gyfarwyddwr - Consortiwm Canolbarth y De
Louise Blatchford - Dirprwy Reowr Gyfarwyddwr - ConsortiwmCanolbarth y De
Darren Jones – Prif Bartner Gwella - Consortiwm Canolbarth y De
Kathryn John - Prifathro, Ysgol Gynradd Brackla - Cadeirydd Ffederasiwn Cynradd Pen-y-bont ar Ogwr
Ravi Pawar - Prifathro - Ysgol Gyfun Bryntirion
Ryan Davies – Prifathro – Ysgol Gyfun Brynteg
Tracey Wellington – Prifathro – Coleg Cymunedol Y Dderwen
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p, Cymorth i Ysgolion,
yr adroddiad, a'i bwrpas oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i’r Aelodau am y ‘Canllaw Gwella Ysgolion: Fframwaith
ar gyfer Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd’ (Llywodraeth
Cymru, 2021) a’r goblygiadau i’r awdurdod lleol a
phrosesau a systemau Rhanbarthol.
Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Gr?p, Cymorth i Ysgolion, a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Mae tystiolaeth hunanarfarnu yn cael ei defnyddio i ganolbwyntio ar welliannau ysgolion a chynnydd dysgwyr unigol, yn symud i ffwrdd oddi wrth y mesurau cul, gan ganolbwyntio ar gynnydd yn hytrach na chyrhaeddiad, sy'n golygu bod y data, yr oedd yr ysgolion yn ei ddefnyddio eu hunain yn canolbwyntio ar ba gynnydd a wnaeth y plant ers dechrau'r ysgol neu'r flwyddyn.
· Mae ysgolion yn cyhoeddi crynodeb o'u cwricwlwm ar wefan yr ysgol ynghyd â'u cynllun datblygu ysgol i rieni / darpar rieni gael ei weld. Symud i ffwrdd oddi wrth set ddata gul ac edrych ar y cwricwlwm y bydd y plant yn ei dderbyn, blaenoriaethau strategol yr ysgol yn seiliedig ar hunanarfarniad yr ysgol a sut maent yn diwallu anghenion y dysgwyr bregus hynny.
· Hyfforddiant a ddarperir ar gyfer Cyrff Llywodraethu ysgolion:
- Hyfforddiant Sefydlu Llywodraethwyr Newydd;
- Hyfforddiant Sefydlu Cadeirydd;
- Hyfforddi fel rhan o'r rôl;
- Sesiynau cwestiwn ac ateb ar y Cwricwlwm ar gyfer Cymru;
- Rhannu profiadau o arolygiadau Estyn;
- Cyflwyniad i'r Pecyn Cymorth Hunanwerthuso;
- Lles.
· Gohiriwyd cefnogaeth tymor byr i Gyrff Llywodraethu ac nid oedd Partneriaid Gwella eto wedi mynychu cyfarfodydd corff llywodraethu i gefnogi'r broses honno. Byddai'n mynd ymlaen yn barhaus ac wedi cael ei ddatblygu'n llawn yn ystod y misoedd nesaf.
· Cyfrifoldeb ysgolion oedd gweithio ar sicrhau bod pob swydd wag Llywodraethwr Ysgol wedi cael ei llenwi. Awgrymwyd gan Aelodau y gallai rhestr o swyddi heb eu llenwi gael ei rhannu â Chynghorau Tref a Chymuned lleol.
· Cefnogaeth ychwanegol i ysgolion wrthi’n cael ei benderfynu; roedd y Fframwaith Gwella Ysgolion yn datgan y byddai ysgolion fel rhan o'u cynllun datblygu yn nodi o ble roeddent yn derbyn cefnogaeth, p'un a oedd hynny gan ddarparwr allanol, CSC neu gefnogaeth bwrpasol. Yna câi unrhyw gefnogaeth ychwanegol ei thrafod gyda'r Partneriaid Gwella fel rhan o'u cyfarfodydd yn nhymor yr hydref.
· Roedd y cyllid ar gyfer Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ddileu ac er na châi ei gydlynu’n uniongyrchol gan yr Awdurdod Lleol wrth symud ymlaen, gallai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Swyddogion fod yn bresennol i gynrychioli’r Awdurdod a rhoi mewnbwn pe bai angen.
· Sicrhau y ceid ymatebion i bob Argymhelliad Craffu.
Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau’r Pwyllgor oedd yn dymuno gofyn cwestiynau i gyd wedi siarad ac felly, gan nad oedd cwestiynau pellach i’r Gwahoddedigion, diolchodd iddynt am eu presenoldeb a dweud eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
1. Gyda Hyfforddiant Llywodraethwyr Ysgolion yn cael ei ddiwygio yn unol â'r cwricwlwm newydd, gallai fod yn bosibl bod yna Lywodraethwyr nad oeddent wedi derbyn y data newydd a'r hyfforddiant sefydlu oedd yn ofynnol. Felly argymhellodd y Pwyllgor fod hyfforddiant ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion presennol yn cael ei gynnig ac iddo fod ar gael iddynt cyn gynted â phosibl.
2. Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch nifer y swyddi gwag cyfredol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol a'r effaith y gallai hyn ei chael ar fonitro perfformiad ysgol yn effeithiol a gyrru gwelliant ymlaen. Felly argymhellodd y Pwyllgor y dylid llunio rhestr o'r swyddi oedd yn weddill i fod ar gael i Gynghorau Tref a Chymuned lleol iddynt ei chylchredeg ymhlith eu Haelodau eu hunain ac o fewn eu cymunedau i gynyddu'r dewis o ymgeiswyr o bosibl ar gyfer swyddi’r cyrff llywodraethol.
a gofynnodd y Pwyllgor:
3. Yn dilyn trafodaeth ac ystyried safbwyntiau’r Penaethiaid a fynegwyd yn ystod y cyfarfod, ynghylch tystiolaeth hunanarfarnu a'r defnydd ohoni ar gyfer gwella ysgolion a chynnydd dysgwyr unigol, dymunai’r aelodau gael gweld y ddogfennaeth ar ddata a chynnydd dysgwyr a ddarparwyd gan Estyn.
4. Gofynnodd yr Aelodau am i’r wybodaeth a gynhyrchwyd gan ysgolion a'i chyflwyno i'w Cyrff Llywodraethu, oedd yn darparu trosolwg ar y cwricwlwm newydd a chynlluniau'r ysgol, gael ei rhannu gyda'r Pwyllgor.
Gofynnodd y Pwyllgor am fanylion pellach am gyfanswm y cyllid cydweithredu o £929,392 a ddyrannwyd i ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi cyfranogi mewn gweithio cydweithredol o fewn a thu hwnt i'w hysgol a sut y gwariwyd y cyllid hwn.
Dogfennau ategol: