Agenda item

Deddf Trwyddedu 2003: Adran 103 - Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro Gwrthwynebiad i Rybudd Gan Berson Perthnasol 35 Stryd y Farchnad Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm, Trwyddedu, adroddiad yn gofyn i'r Is-bwyllgor benderfynu ynghylch hysbysiad gwrthwynebu a gafwyd gan Heddlu De Cymru mewn ymateb i Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a gyflwynwyd i'r awdurdod trwyddedu.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm, Trwyddedu, ar 21 Mawrth 2023, fod yr awdurdod trwyddedu wedi derbyn Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (“TEN”) gan Zahid Rasul (“defnyddiwr y fangre”) mewn perthynas â’r fangre a elwir yn 35 Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr. Disgrifiwyd y safle fel bar hwyr a chlwb nos a byddai'r TEN yn cynnwys y tu mewn i'r adeilad a'r ardd gwrw. Disgrifiwyd y digwyddiad fel “Good Friday" ac roedd yn cynnwys y dyddiadau o 8 Ebrill 2023 hyd at 10 Ebrill 2023, gan gynnwys y dyddiadau hynny. Roedd y TEN yn gofyn am awdurdod i werthu alcohol a darparu adloniant rheoledig ar bob un o'r diwrnodau rhwng 0300 a 0430, ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn ac o 0030 i 0430 ar ddydd Sul. Roedd y fangre ar hyn o bryd wedi'i hawdurdod i werthu alcohol ar Ddydd Gwener y Groglith o 1200 tan 0000, ar ddydd Sadwrn o 1000 tan 0300 ac ar Sul y Pasg o 1200 tan 0030. Nid oedd y TEN a gyflwynwyd yn cynnwys gweithgareddau trwyddedadwy a fyddai'n digwydd rhwng hanner nos a 3:00am ar Ddydd Gwener y Groglith. Roedd copi o'r TEN wedi'i gyflwyno i Heddlu De Cymru ac i Dîm Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor o fewn y Cydwasanaethau Rheoleiddio. Ar 27 Mawrth 2023, cyflwynodd Heddlu De Cymru Hysbysiad o Wrthwynebiad i’r awdurdod trwyddedu mewn perthynas â’r TEN. Roedd copi o'r Hysbysiad o Wrthwynebiad wedi'i gyflwyno i ddefnyddiwr y fangre ac wedi'i atodi yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Eglurodd Mr Rasul, defnyddiwr y fangre, fod y TEN yn gofyn am ganiatâd i weini diodydd tan 0400 ac y byddai'r holl gwsmeriaid yn gadael y fangre erbyn 0430, felly nid oedd ond yn gofyn am awr ychwanegol i yfed.

 

Atebodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu nad oedd hyn yn glir o'r TEN. Atebodd Mr Rasul mai dyna sut yr oedd yn gweithredu ar hyn o bryd ac y byddai'n cadw at hynny.

 

Cadarnhaodd Clerc y Panel Trwyddedu y byddai’r panel yn ystyried y cais yn seiliedig ar weini alcohol tan 0400 a chau am 0430. 

 

Cyflwynodd Mr Rasul ei achos. Esboniodd fod y TENs y gwnaed cais amdanynt y llynedd wedi'u caniatáu a bod ganddo berthynas dda â'r heddlu. Roedd wedi siomi o ddarganfod bod ei gais TEN wedi'i wrthod eleni, ac nad oedd ond wedi derbyn yr wybodaeth atodol ynghylch y tramgwyddau am 9pm ar y diwrnod blaenorol, ac nad oedd felly wedi gallu edrych ar yr wybodaeth honno tan hynny. Eglurodd nad oedd ond yn agor y fangre ar nos Sadwrn gan nad oedd digon o fasnach ar ddyddiau Gwener. Credai fod yr amseroedd wedi'u "cymysgu" yn yr wybodaeth atodol. Roedd wedi caffael y brydles o dan ei enw, ac roedd ganddi rif TAW ar wahân ac roedd yn endid ar wahân i Eden, a oedd wedi'i nodi yn y rhestr o dramgwyddau. 

 

Gwnaeth Mr Rasul sylw ar bob un o’r tramgwyddau a restrir isod:

 

1.         2300087151 – 18/03/2023 - 04:31 o'r gloch

Adroddiad am aelod ymosodol o staff drws yn ymosod ar gwsmeriaid. Gwelodd swyddogion aelod o staff drws yn taflu dyn allan o 33/35 Stryd y Farchnad gerfydd ei wddf a'i daflu i'r llawr. Wrth i swyddogion agosáu at y digwyddiad, gwelsant yr un unigolyn yn gwthio ail ddyn yn rymus i'r llawr. Heriodd swyddogion y dyn ar unwaith a gynhyrfodd a mynd ati'n syth i ddadlau. Dywedodd wrth y swyddog a oedd yn ei herio "Does dim angen i mi roi cyfiawnhad i chi, dim ond rhoi prawf yn y llys".

Cafwyd TCC ac mae'n dangos y digwyddiad yn glir.

Esboniodd Mr Rasul nad oedd hyn yn berthnasol i'w fangre, gan eu bod wedi stopio gweini alcohol, ac roedd pawb wedi gadael ychydig ar ôl 3. Roedd y tramgwydd hwn wedi digwydd am 0430. Nid oedd hyn yn ymwneud â rhif 35 gan ei fod wedi digwydd awr a hanner ar ôl iddo gau.

 

2.         2300087105 – 18/03/2023 - 03:29 o'r gloch

Dyn wedi'i arestio am fod yn feddw ac afreolus mewn man cyhoeddus (Deddf Cyfiawnder Troseddol 1967). Gofynnodd swyddog droeon yn ystod y nos i'r dyn adael canol y dref oherwydd ei ymddygiad. Methodd y dyn â chydymffurfio â'r ceisiadau hyn ac fe gafodd swyddogion hyd iddo a'i stopio y tu allan i Eden. Roedd hi'n amlwg bod y dyn yn feddw iawn, ac aeth ati i ddadlau â'r swyddogion gan fod cyfaill iddo wedi cael ei arestio am fater arall anghysylltiedig. Gwthiodd y dyn y swyddogion a oedd yn ei arestio, a gafael ynddynt, ac wedyn fe'i gwthiwyd ymaith, cyn iddo ymateb yn fwy ymosodol ac yn fwy gweithredol ei wrthwynebiad. Gan fod y dyn wedi bod yn ymosodol am amser hir, a'i fod yn troi'n fyw ymosodol, tynnodd y swyddogion y dyn i'r llawr er mwyn gwneud iddo gydymffurfio, ac wedyn fe'i harestiwyd.

 

Esboniodd Mr Rasul y gwrthodwyd mynediad i'r dyn am ei fod wedi meddwi, ac na allai sefyll ar ei draed. Stopiodd staff yr heddlu a gofyn iddynt symud y dyn ymaith. Nid oedd hyn yn berthnasol i rif 35 gan ei fod wedi digwydd am 0329 ac nad oedd wedi bod i mewn i'r eiddo.

 

3.         2300087104 – 18/03/2023 - 03:19 o'r gloch

Adroddiad gan staff drws am ddyn treisgar a oedd yn gwrthod gadael. Roedd y dyn y tu allan i glwb nos Eden yn tynnu cwsmeriaid a oedd yn defnyddio'r ardal smygu ddynodedig i'w ben. Gofynnwyd staff y drws i'r dyn adael ar sawl achlysur, ond gwrthododd. Wedyn gofynnodd swyddogion yr heddlu i'r dyn adael yr ardal, ac fe wnaeth hynny yn y pen draw.

 

Ychydig yn ddiweddarach gwelwyd y dyn y tu ôl i Eden yn edrych dros y wal, a gofynnwyd iddo adael yr ardal unwaith eto. Gwelodd swyddogion fod y dyn wedi dychwelyd i flaen Eden, lle cafodd rybudd unwaith eto i adael yr ardal, a'i ymateb i hynny oedd ymosod yn eiriol ar yr Heddlu a staff y drws.

 

Cafodd y dyn ei arestio am dor heddwch ac am fod â chyffuriau Dosbarth A (Cocên) yn ei feddiant. Cyfaddefodd y dyn yn llawn i'r drosedd mewn cyfweliad. Galwyd swyddogion i ymdrin ag ail unigolyn treisgar (23000871050).

 

Eglurodd Mr Rasul y dywedwyd wrthynt i ffonio'r heddlu os oedd angen, a dyna'r hyn yr oeddent wedi'i wneud. Ni chafodd y dyn hwn fynediad i rif 35, ac nid oedd a wnelo â rhif 35. Roedd gan y mangreoedd hyn ddwy drwydded ar wahân.  

 

4.         2300063693 – 26/02/2023 - 02:05 o'r gloch

Adroddiad am aflonyddwch o fewn y fangre, dynion yn cael eu hebrwng allan a staff y drws yn ymodo arnynt. Dywed y dioddefwr ei fod allan yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr gyda ffrindiau ar y noson dan sylw. Tra'r oedd yn Eden, dechreuodd ysgarmes rhwng rhai o'i ffrindiau a gr?p arall o ddynion, a chanlyniad hynny oedd iddo ef a'i ffrindiau gael eu hebrwng allan o'r clwb. Dywed y dioddefwr fod y perchennog wedi'i daro ar ei gefn wrth iddo gael ei hebrwng allan. Yn ddiweddarach y noson honno, dychwelodd y dioddefwr a'i ffrindiau i Eden a gadawodd staff y drws iddynt ddod i mewn. Fodd bynnag, ychydig funudau ar ôl dod yn ôl i mewn i Eden daeth gweithiwr drws arall a gofyn i bob un ohonynt adael eto am eu bod wedi cael eu hebrwng allan yn flaenorol. Dywedodd y dioddefwr fod y sefyllfa wedi cynhyrfu y tu allan, a bod y gweithiwr drws wedi'i daro ar ei wyneb. Cyfaddefodd y dioddefwr ei fod wedi meddwi rhywfaint, ond dywedodd nad oedd yn 'rhy feddw'. Roedd y dioddefwr yn ei chael hi'n anodd cofio manylion digwyddiad pan siaradodd swyddogion ag ef. Roedd y dioddefwr yn benderfynol nad oedd am wneud cwyn ffurfiol. Mae sylwadau'r swyddog ynghylch y digwyddiad neilltuol hwn yn cyfeirio at y ffaith bod aelod o staff drws Eden wedi achosi problemau droeon gydag aelodau o'r cyhoedd, gan ei ddisgrifio'n 'llawdrwm' ac ymosodol. Ni wnaed cwyn ffurfiol.

 

Eglurodd Mr Rasul mai yn Eden y digwyddodd hyn, ac nad oedd yn berthnasol o gwbl i rif 35. Pan oedd wedi gwneud cais am TENs y flwyddyn gynt, ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad gan yr heddlu.

 

5.         2300055490 – 19/02/2023 - 02:42 o'r gloch

Adroddiad bod dau ddyn yn cwffio o flaen 33/35 Stryd y Farchnad. Rhoddwyd awdurdod i ddefnyddio taser gan fod arfau yn cael eu defnyddio, arestiwyd un dyn am fod ag arf ymosodol yn ei feddiant mewn man cyhoeddus (Deddf Atal Troseddu 1953). Cafwyd ffrae rhwng dau ddyn â dau ddyn arall mewn cerbyd a oedd wedi'i barcio y tu allan i Eden. Roedd un dyn wedi cicio drws y cerbyd, a'r ddau ddyn yn y cerbyd wedi dod allan, cyn iddynt ddechrau cwffio. Ni ffoniwyd yr Heddlu ar y pryd oherwydd gwahanodd y naill barti a'r llall ac ni wnaed unrhyw gais i ffonio'r Heddlu. Cerddodd un o'r dynion hyn yn ei flaen i fyny Stryd Nolton. Roedd yn cicio'r waliau, ac fe'i gwelwyd yn ceisio tynnu brics yn rhydd mewn sawl lleoliad. Aeth y dyn yn ei flaen i Stryd y Farchnad lle cododd botel oddi ar sil ffenestr a'i chwalu. Cuddiodd y dyn wddf y botel doredig ym mhoced ei hwdi, ac aeth yn ôl i'r lle y bu'r pedwar yn cwffio'n flaenorol. Roedd gweithredwr TCC wedi rhoi gwybod i staff y drws, ac aethant ati i'w ddal ar y llawr.

 

Eglurodd Mr Rasul fod pellter o dros 100 metr rhwng y naill ben a'r llall. Ni allent atal pobl rhag parcio y tu allan na cherdded heibio'r fangre. Roedd yr heddlu yn dal i gyfeirio at 33/35, ond roedd y rhain yn 2 endid ar wahân.  

 

6.         2300021094 – 21/01/2023 - 03:21 o'r gloch

Adroddiad am ymosodiad y tu allan i Eden. Gwelodd gweithwyr TCC ddau berson yn gadael Eden a oedd wedi dechrau dadlau â phobl y tu allan yn ardal agored y clwb. Roedd un o'r unigolion dan sylw yn dal cas hir y canfuwyd yn ddiweddarach ei fod yn cynnwys ciw snwcer.

 

Parhaodd y gweithwyr TCC i wylio'r unigolion â'r cas yn eu meddiant (dyn a menyw). Fe'u gwelwyd yn agor y cas ac roedd y naill a'r llall yn dal hanner ciw snwcer. Aeth y ddau yn ôl tuag at 33/35 Stryd y Farchnad a dechrau chwifio'r arf tuag at aelodau o'r cyhoedd a'i swingio o gwmpas yn ymosodol.  

 

Aeth y swyddogion i'r lleoliad ar unwaith ac adnabod y ddau dan sylw a oedd wedi dechrau cerdded i ffwrdd. Daliodd swyddogion y ddau barti. Rhoddwyd y dyn yng nghefn cerbyd yr heddlu, a chadwyd y fenyw yn y stryd. Hyrddiodd y dyn a oedd wedi'i arestio tuag at swyddog heddlu o gefn cerbyd yr heddlu, ac fe'i daliwyd wedyn ar y llawr.

 

Roedd y dyn dan sylw yn y digwyddiad uchod wedi'i gynnwys ar restr wahardd Pubwatch Pen-y-bont ar Ogwr ar adeg y drosedd.

 

Esboniodd Mr Rasul fod a wnelo hyn ag Eden, ac nid rhif 35. Roedd 35 ar gau drwy gydol mis Ionawr, felly ni allai weld sut y gallai hyn fod yn gysylltiedig â rhif 35. 

 

7.         2300022135 – 22/01/2023 - 02:30 o'r gloch

Adroddiad am gwffio a throsedd casineb - mae gan y dioddefwr anawsterau dysgu ac roedd wedi cael ei ddyrnu.

 

Daeth y dyn dan sylw at y dioddefwr tra'r oedd yn yr eiddo. Dilynodd y dyn y dioddefwr o amgylch yr ardal smygu cyn i ddadl ddechrau. Aeth y dyn dan sylw yn ei flaen i ddyrnu'r dioddefwr yn ei wyneb a gweiddi geiriau camdriniol y tu allan i'r fangre, gan gyfeirio at nodweddion gwarchodedig y dioddefwr (Anabledd Dysgu).

 

Daliwyd y digwyddiad ar deledu cylch cyfyng, a gwnaed sawl ymdrech i gael gafael ar y ffilm TCC o'r digwyddiad.

 

Eglurodd Mr Rasul fod hyn unwaith eto wedi digwydd y tu allan i Eden. Roedd darnau ffilm TCC wedi cael eu darparu drwy e-bost a'u cyflwyno drwy law. Nid ym mar 35 y digwyddodd hyn ychwaith.

 

8.         2200127109 – 18/04/2022 – 03:04 o'r gloch (Penwythnos y Pasg)

Adroddiad am ymosodiad - dyn wedi cael ei ddyrnu, wedi disgyn yn ei ôl, taro ei ben a cholli ymwybyddiaeth.

 

Daeth swyddogion i'r fangre oherwydd adroddiad am ymosodiad, ac ar ôl cyrraedd disgrifiwyd y sefyllfa'n gaotig gan fod llawer o bobl yn ymgasglu.

Eglurodd y sawl a adroddodd y digwyddiad ei bod yn nyrs; gwelodd y dioddefwr ar y llawr yn anymwybodol a staff y drws yn ceisio codi'r dioddefwr a'i lusgo i lawr y ffordd. Stopiodd y sawl a adroddodd y digwyddiad staff y drws rhag symud y dioddefwr ymhellach am ei bod hi'n amlwg bod angen sylw meddygol arno. Dywedodd un aelod o staff y drws rywbeth fel "Bydd yn deffro nawr, ond anaf tebyg i anaf rygbi yw e, peidiwch â ffonio ambiwlans".

 

Mynnodd y sawl a adroddodd y digwyddiad y dylid rhoi'r dioddefwr yn ôl ar y llawr a'i osod yn yr ystum adferol. Pan gyrhaeddodd swyddogion roedd y dioddefwr yn effro, yn ymddangos yn feddw iawn ac yn siarad yn aneglur. Roedd gwaed o amgylch ceg y dioddefwr, roedd un o'i ddannedd wedi torri, ac roedd ganddo friw bach ar gefn ei ben.

 

Cadarnhaodd llygad-dystion fod y dioddefwr wedi cael ei ddyrnu â'r fath rym ei fod wedi disgyn i'r llawr, a bod hynny wedi achosi iddo daro ei ben ar y llawr.

 

Cafodd y dioddefwr ei gludo i'r ysbyty i dderbyn triniaeth feddygol, ac aeth swyddogion i siarad ag ef yn ddiweddarach. Nid oedd y dioddefwr yn gallu cofio unrhyw fanylion am y digwyddiad, gan gynnwys yr ymosodiad.

 

Cafodd y drwgweithredwr ei adnabod, ac ar ôl iddo gael ei arestio atebodd drwy ddweud "Dwy' ddim wedi gwneud dim. Dim ond 16 ydw i."

Nid oedd y dioddefwr am wneud cwyn ffurfiol.

 

Eglurodd Mr Rasul fod hyn wedi digwydd ym mis Ebrill 2022. Roedd yr holl TENS a geisiwyd ar ôl y dyddiad hwnnw, ee ar gyfer G?yl y Banc mis Awst, Dydd San Steffan, Nos Calan a nifer o ddigwyddiadau eraill wedi'u caniatáu. Os oedd hyn mor ddifrifol, pam bod TENS wedi cael eu caniatáu am weddill y flwyddyn ddiwethaf.

 

9.         2200127690 – 18/04/2022 - 16:39 o'r gloch

Adroddiad am sbeicio yn Eden. Dywedodd y dioddefwr ei bod yn credu iddi gael ei sbeicio tra'r oedd yn Eden. Cludwyd y dioddefwr i'r ysbyty ac ar ôl profi ei gwaed canfuwyd bod llawer iawn o baracetamol yn ei system. Dywedodd y dioddefwr nad oedd hi wedi cymryd paracetamol yn ddiweddar.

 

Profwyd sampl wrin - negyddol.

 

Eglurodd Mr Rasul fod cariad y dioddefwr yn gweithio i gwmni cystadleuol arall mewn eiddo ar yr un stryd. Cafodd brawf wrin ac roedd yn negyddol. 

 

10.       2200291031 – 27/08/2022 – 04:31 o'r gloch (caniatáu estyniad i oriau G?yl Banc Awst)

Adroddiad am ymosodiad yn Eden. Dywedodd y dioddefwr fod rhywun wedi ymosod arno yn Eden tra'r oedd yn dawnsio gyda menyw. Siaradwyd â'r rheolwr a staff y drws ar y noson, a ddywedodd nad oeddent wedi gweld unrhyw ymosodiad.

 

Gofynnwyd am TCC, ond dywedwyd wrth y swyddogion a oedd yn ymchwilio i'r achos nad oedd nifer o gamerâu TCC yn gweithio mwyach o ganlyniad i lifogydd. Dywedwyd wrth swyddogion nad oedd teledu cylch cyfyng i fyny'r grisiau.

 

Nid oedd y dioddefwr eisiau gwneud cwyn ffurfiol.

 

Eglurodd Mr Rasul nad oedd yr un o'r troseddau'n ymwneud â Bar 35. Roedd wedi cyflawni ei holl rwymedigaethau o dan y TENS a ganiatawyd y llynedd. Nid oedd un o’r troseddau’n berthnasol i Far 35. Roedd ganddynt wahanol drwyddedau a gwahanol gyfeiriadau. Roedd rhai o'r digwyddiadau wedi'u cofnodi yn dilyn galwadau gan staff y drws, ar ôl iddynt gael cyfarwyddyd i ffonio os oedd angen. Roedd ganddo ferch ifanc a oedd yn gweithio ar nosau Sadwrn. Roedd hi'n broffesiynol iawn, ac yn siarad yn dda, fel y dynion a weithiai gyda hi. Nid oedd ganddynt unrhyw fwriad i ymrafael â phobl, felly roeddent yn ffonio'r heddlu. Roedd Bar 35 wedi gwneud cais am yr un drwydded â'r drwydded i fangreoedd eraill cyfagos. Roedd ganddynt gyfle i fanteisio ar economi'r hwyr. Roedd gan Bar 35 drwydded ar wahân i 33. Nid oedd ganddo unrhyw sylw arall i'w ychwanegu gan nad oedd yr un o'r digwyddiadau'n berthnasol i Far 35. Roedd wedi bod yn masnachu mewn busnes bariau ers 23 o flynyddoedd, ac yn bwriadu gweithio gyda'r heddlu a'r Cyngor gan eu bod oll yn gyfrifol am ddiogelwch y gymuned. Nid oedd yn gofyn dim mwy na'r hyn yr oedd unrhyw dafarn neu far arall eisoes wedi'i sicrhau.    

 

11.       2200292065 – 28/08/2022 - 02:15 o'r gloch

Adroddiad bod staff drws wedi ymosod yn eiriol ar aelod o'r cyhoedd. Dywedodd y sawl a adroddodd am y digwyddiad fod staff y drws wedi gorfodi ei phartner i adael y fangre, ac wedi'i galw'n enwau cas a gyfeiriai at ei hymddangosiad. Roedd y sawl a adroddodd y digwyddiad yn sobr ar y pryd am ei bod yn feichiog.

 

12.       2200316993 – 18/09/2022 – 02:30 o'r gloch (Angladd y Frenhines – TEN)

Adroddiad am ymosodiad yn Eden gan aelod o staff drws. Dywedodd y sawl a adroddodd y digwyddiad fod aelod o staff y drws wedi cydio yn ei wddf a'i wthio.

 

Ni chafwyd cwyn ffurfiol.

 

13.       2200317232 – 18/09/2022 - 11:37 o'r gloch

Adroddiad am ymosodiad a lladrad. Wrth iddo gerdded drwy dref Pen-y-bont ar Ogwr, dywedodd y sawl a adroddodd y digwyddiad fod rhywun wedi dod allan o Eden ac ymosod arno gan ei adael gyda gwefus wedi chwyddo, briwiau a chleisiau. Dywedodd y sawl a adroddodd y digwyddiad fod arian hefyd wedi'i ddwyn o'i waled. Torrodd staff drws ar draws yr ymosodiad, ac nid oedd yn gyson â'r adroddiad gwreiddiol gan fod TCC yn dangos ymddygiad ychydig yn ymosodol gan y sawl a adroddodd y digwyddiad. Dros Ddathliadau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, pan ganiatawyd ymestyn yr oriau cofnodwyd y digwyddiadau canlynol.

 

14.       2200431062 – 27/12/2022 – 03:53 o'r gloch (Cyfnod y Nadolig – TEN 23ain, 24ain, 27ain, 28ain a 30ain Rhagfyr)

Adroddiad am ymosodiad gan staff drws Eden. Dywedodd y sawl a adroddodd y digwyddiad ei bod wedi'i chyhuddo o achosi difrod i addurn Nadolig y tu mewn i'r adeilad, er iddi honni bod yr addurn eisoes wedi torri. Dywedodd y sawl a adroddodd y digwyddiad fod rheolwyr Eden yn elyniaethus ac ymosodol tuag ati ac wedi ceisio ei thynnu dros y bar i ymosod arni. Dywed y sawl a adroddodd y digwyddiad ei bod wedi'i ffrwyno drwy rym gan aelod o staff y drws nes i'r Heddlu gyrraedd. Cafwyd rhwystredigaeth ac oedi parhaus yn gysylltiedig â'r ymchwiliad hwn oherwydd ceisiadau ailadroddus am ddarnau ffilm TCC.

 

Cofnododd swyddogion droeon eu bod wedi ymdrechu i gysylltu â rheolwyr Eden i gael darn ffilm o gofnod y digwyddiad, ac ni ddaeth y darn hwnnw o ffilm fyth i law. Ar 17 Chwefror 2023, anfonwyd llythyr yn rhybuddio ynghylch diffyg cydymffurfio ag amod trwydded penodol yn gysylltiedig â TCC.

 

“Mae'n rhaid i'r trwyddedai ddarparu recordiadau o ddelweddau ar gais i unrhyw swyddog o Heddlu De Cymru yn rhan o'i ddyletswyddau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Gan hynny, bydd yn rhaid rhoi hyfforddiant digonol i staff ar ddyletswydd er mwyn cydymffurfio â'r amod hwn."

 

15.       2200431372 – 27/12/2022 - 14:06 o'r gloch

Ymosodiad a Throsedd Casineb yn Eden. Dywedodd y sawl a adroddodd y digwyddiad yr ymosodwyd arno tra'r oedd y tu mewn i Eden, a dywedodd fod rhywun wedi poeri arno a bod staff y drws wedyn wedi'i hebrwng allan o'r eiddo.

 

Dywedodd y sawl a adroddodd y digwyddiad fod rheolwyr Eden wedi dweud y byddai'r TCC yn cael ei sicrhau, a chopi o'r ffilm yn cael ei ddarparu os oedd angen. Dywedodd y sawl a adroddodd y digwyddiad fod y rhai a ymosododd arno hefyd wedi gwawdio ei ffrind drwy ddefnyddio geiriau homoffobig eu natur. Er gwaethaf nifer o ymdrechion, ni chymerodd y sawl a adroddodd y digwyddiad ran yn yr ymchwiliad.

 

16.       2200432292 – 28/12/2022 - 14:32 o'r gloch

Ymosodiad yn Eden. Dywedodd y sawl a adroddodd y digwyddiad fod dyn wedi ymosod ar ei mab yn Eden, drwy boeri yn ei wyneb a'i daflu ar y llawr.

 

Aeth y dioddefwr i'r ysbyty i drin ei anafiadau, a chadarnhawyd nad oedd unrhyw esgyrn wedi torri. Ni chafwyd cwyn ffurfiol.

 

17.       2300000228 – 01/01/2023 – 02:23 (TEN Nos Galan)

Adroddiad am gwffio yn Eden. Ar ôl i'r swyddogion gyrraedd roedd dau ddyn wedi gwahanu oddi wrth ei gilydd. Nid oedd y naill na'r llall yn barod i drafod â'r swyddogion, ac ni nodwyd unrhyw anafiadau na chwyn ffurfiol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd drysau mynediad Bar 35 ac Eden nesaf at ei gilydd. Atebodd Mr Rasul drwy ddweud bod tua 25m rhwng drws y naill a'r llall, ond eu bod wedi gosod ffens o amgylch ardal lle gallai pobl smygu o flaen Eden. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd staff drws gwahanol yn gweithio yn y naill le a'r llall. Atebodd drwy ddweud bod y staff yn wahanol, a bod ei staff ef yn dechrau rhwng 1000 a 1200 ac yn cael eu talu tan 0330. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd mangreoedd eraill yn yr ardal wedi cael TENS. Atebodd y Rheolwr Trwyddedu drwy ddweud nad oedd neb arall wedi gwneud cais am TENS ar gyfer y Pasg.

 

Ychwanegodd Mr Rasul nad oedd neb arall wedi gwneud cais am TENS gan fod hynny eisoes wedi ganiatáu yn eu trwyddedau. Pe bai ganddo yr un drwydded â'r mangreoedd eraill, ni fyddai angen iddo wneud cais am TENS.

 

Atebodd y Rheolwr Trwyddedu drwy ddweud nad Mr Rasul oedd deilydd mangre Bar 35, felly ni allai wneud cais i ymestyn neu amrywio'r drwydded. Roedd tair mangre, gan gynnwys Eden, yn cael bod ar agor tan 4am, ac un fangre tan 4.30, ac roedd cyfnod tawelu 30 munud o hyd fel arfer yn weithredol. Nid oedd unrhyw geisiadau blaenorol wedi'u cyflwyno i ymestyn yr oriau. Eglurodd Mr Rasul ei fod wedi trafod hyn â landlord yr eiddo a Swyddog Trwyddedu blaenorol yr Heddlu, a'i fod yn bwriadu cyflwyno cais. Newidiodd hyn pan ddechreuodd Swyddog Trwyddedu cyfredol yr Heddlu yn ei swydd, a gohiriwyd y cynlluniau. Dywedodd Swyddog Trwyddedu yr Heddlu eu bod yn penderfynu ynghylch pob cais yn ôl ei rinweddau. 

 

Gofynnodd aelod o’r panel beth oedd capasiti Bar 35. Atebodd Mr Rasul y gallai ddal 200 y tu mewn a 100 arall yn yr ardal ysmygu felly cyfanswm o 300. Roedd 2 aelod o staff ar y drws fel arfer, ond ar wyliau banc byddent yn cyflogi staff ychwanegol i weithio ar y drws gan gynyddu'r nifer i 4. 

 

Gofynnodd aelod o'r panel a oedd unrhyw gyswllt mewnol rhwng 33 a 35. Dywedodd Mr Rasul nad oedd cyswllt o'r fath. Gofynnwyd iddo wedyn a fyddai'n symud staff y bar rhwng 35 ac Eden pe bai'r naill yn brysurach na'r llall? Dywedodd Mr Rasul nad oedd erioed wedi dod ar draws y sefyllfa honno. Byddai bob amser yn sicrhau bod digon o staff ar gael, a byddai'n stopio pobl rhag dod i mewn pe bai'r staff yn brin. Gofynnodd aelod o'r panel a oeddent yn defnyddio cwmni diogelwch neu'n cyflogi staff y drws yn uniongyrchol. Dywedodd Mr Rasul eu bod yn defnyddio nifer o gwmnïau gan fod staff drws yn brin ar hyn o bryd. Gofynnodd wedyn a oedd cwmnïau preifat yn symud staff ar ran eu personél. Atebodd Mr Rasul drwy ddweud na fyddai hynny'n digwydd gan eu bod yn gwmnïau gwahanol.

 

Gofynnodd aelod o'r panel faint o fangreoedd oedd yn dal trwyddedau hwyr. Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod gan 4 cwmni drwydded tan 4 a bod gan 1 cwmni drwydded tan 4.30. Cadarnhaodd Mr Rasul fod rhwng 75 ac 80 o bobl ym Mar 35 ar y rhan fwyaf o benwythnosau.    

Gofynnodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu a allai Mr Rasul gadarnhau bod y fynedfa i 35 drwy Eden a bod drws y fynedfa mewn gwirionedd yn cael ei ddefnyddio i gael mynediad i'r man ysmygu. Pe bai pobl o Eden am fynd i'r ardd gwrw yn y cefn, byddai'n rhaid iddynt fynd allan o Eden ac i mewn i 35 gan nad oedd mynediad uniongyrchol iddi. Dyna'r hyn a oedd yn peri anhawster, a dyna'r rheswm pam bod swyddogion yn cofnodi pob digwyddiad yn 33/35 Stryd Farchnad. Atebodd Mr Rasul fod prif fynedfa Eden ar un ochr a bod Eden ar agor ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul G?yl y Banc. Dim ond ar nosweithiau Sadwrn yr oedd Bar 35 ar agor, gan nad oedd dim digon o fasnach ar ddydd Gwener. Os oedd Eden wedi taflu rhywun allan am ymddygiad drwg byddai'n gallu dod yn syth i mewn i Far 35, ac roedd hynny'n broblem. Roeddent wedi cau'r fynedfa dros dro ym mis Ionawr a Chwefror i fonitro ymddygiad drwg. Roedd cwsmeriaid iau yn mynd i Far 35, tra'r oedd Eden yn denu cwsmeriaid h?n. Nid oedd Bar 35 ond ar agor o 1200 tan 0300 a gallai cwsmeriaid ddewis mynd rownd i'r blaen er mwyn mynd i Eden.

 

Gofynnodd y Swyddog Trwyddedu i Mr Rasul gadarnhau bod Bar 35 wedi cau ym mis Ionawr a mis Chwefror, ac nad oedd unrhyw gyfyngiadau ar ddrws Bar 35. Cadarnhaodd Mr Rasul fod hynny'n gywir, ac nad oedd y Bar ond wedi agor bedair gwaith eleni. Roedd cael staff ar y drws yn synnwyr cyffredin yn y byd sydd ohoni.

 

Eglurodd aelod panel fod Mr Rasul wedi dweud wrth y panel nad oedd mynediad uniongyrchol, ond roedd drws mewnol yn bodoli. Pe bai modd cael mynediad i Far 35 drwy'r un fynedfa ag Eden, gallai weld sut roedd hi'n wahanol gwahaniaethu rhwng 33 a 35. Atebodd Mr Rasul drwy ddweud bod y fynedfa i Eden yn y blaen, a bod 2 aelod staff ar y drws. Wrth gerdded i mewn gallech chi droi i'r dde i fynd i Far 35. Ar wyliau banc byddai gan y Bar ei fynediad ei hun gan y byddai'r ddau leoliad yn brysur. Wrth adael Bar 35 gallech chi gerdded ar hyd yr ardal smygu a mynd yn ôl i mewn i Eden drwy ymuno â'r ciw os oedd un. Nid oedd unrhyw ffordd i fynd i mewn i Eden yn fewnol.

 

Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu mai un endid oedd hwn, a'i fod yn cael ei redeg fel un fangre. Mrs Rasul oedd Goruchwyliwr Dynodedig Mangre Eden, a Mr Rasul oedd Goruchwyliwr Dynodedig Mangre Bar 35. Roedd pobl yn mynd rhwng y naill a'r llall. Roedd hi wedi drysu gan fod Mr Rasul wedi dweud ei bod hi'n dawel iawn, er iddo ddweud yn ei sylw cyntaf ei fod yn brysur iawn.  Roedd 2 drwydded yn weithredol ond roedd yn cael ei rhedeg fel 1 fangre. Roedd rhai digwyddiadau o Eden yn cyfeirio at yr ardd gwrw y tu ôl i Far 35. Roedd digwyddiadau ac achosion yn digwydd yng nghyffiniau Stryd y Farchnad y tu allan i 33 a 35, ac roedd yr heddlu'n canolbwyntio ar yr ardal honno, ac roedd hynny wedi'i gadarnhau drwy'r TCC.

 

Atebodd Mr Rasul drwy ddweud ei fod wedi arfer gweini ar 25 o bobl, ac yn y cyd-destun hwnnw teimlai'n brysur wrth weini ar 80 o bobl. Roedden nhw i gyd yn dod allan o Eden am 4.30 ond roedd Bar 35 yn cau am 3. Byddai pobl a oedd yn gadael y Rhiw yn cerdded i lawr Stryd y Farchnad at Dragon Taxis, lle byddent yn ymgasglu, ac weithiau byddai cweryla'n digwydd yn y fan honno. Roedd yn gegrwth y byddai pobl a oedd yn cerdded heibio wedyn yn cael eu cysylltu ai eiddo ef. Eglurodd y gallai ymosodiad edrych yn hollol wahanol ar deledu cylch cyfyng a rhoddodd enghraifft o hyn. Cynghorwyd ei staff i ffonio'r heddlu os oedd angen, ond roedd y galwadau hyn yn cael eu cofnodi yn ei erbyn yn hytrach na'u bod yn ffordd o weithio gyda'r heddlu.

 

Eglurodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu, o ran nifer yr ymwelwyr a Dragon Taxis, pan fyddai digwyddiadau'n cael eu hadrodd eu bod yn gwirio a oeddent yn gysylltiedig â'r eiddo, a dim ond yr achosion hynny â chyswllt uniongyrchol y nodwyd eu bod yn berthnasol i 33/35 Stryd y Farchnad.

 

Yna cyflwynodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu ei hachos. Eglurodd ei bod yn cynrychioli Heddlu Dw Cymru yn y gwrandawiad i wrthwynebu'r TEN a gyflwynwyd gan Mr Rasul ar gyfer 35 Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr, i ymestyn oriau ar yr 8fed tan y 10fed o Ebrill 2023. Eglurodd fod gan yr heddlu rwymedigaeth neu ddyletswydd i atal trosedd ac anhrefn ac i gadw'r heddwch. Prif flaenoriaeth Heddlu De Cymru oedd lleihau ac atal trosedd ac anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn cadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi a'u cymunedau. Roedd holl ethos y Ddeddf Trwyddedu wedi'i seilio ar y pedwar amcan trwyddedu, gan gynnwys diogelu pobl rhag niwed, eu cadw'n ddiogel ac atal trosedd ac anhrefn a niwsans cyhoeddus. Roedd gan Heddlu De Cymru bryderon ynghylch nifer y galwadau ynghylch trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd a niwsans cyhoeddus yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn enwedig ar Stryd y Farchnad, a oedd yn gysylltiedig ag economi hwyr y nos. Roedd 35 Stryd y Farchnad wedi'i leoli yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cael ei reoli, ynghyd ag Eden yn 33 Stryd y Farchnad, gan Mr a Mrs Rasul. Mr Rasul oedd Goruchwyliwr Dynodedig Mangre 35 Stryd y Farchnad a Mrs Rasul oedd Goruchwyliwr Dynodedig Mangre 33 Stryd y Farchnad. Fel y trafodwyd yn flaenorol, roedd 35 Stryd y Farch nad yn rhannu mynedfa gymunol ag Eden Bar and Lounge sef rhif 33. Roedd Mr Rasul wedi cyfaddef y gallech chi fynd yn rhydd rhwng y naill a'r llall, ac roedd hynny i'w weld yn amlwg yn y galwadau a gawsant. Roedd swyddogion yn cofnodi pob digwyddiad yn erbyn y ddau eiddo gan ei bod hi'n amhosib cadarnhau ym mha eiddo y cafwyd digwyddiad. Roedd gwrthwynebu ymestyn yr oriau yn gyfystyr ag ymateb angenrheidiol a chymesur yn gysylltiedig â hysbysiad digwyddiad dros dro hwn.

 

Rhwng 19 Chwefror ac 18 Mawrth 2023, cafwyd pum digwyddiad ar wahân y tu mewn a'r tu allan i eiddo 33 a 35 Stryd y Farchnad, Pen-y-bont ar Ogwr, ac roedd pob un wedi digwydd ar ôl 02:00 o'r gloch. Roedd y digwyddiadau hefyd yn cynnwys aelodau o staff, a oedd yn destun pryder.

 

Darllenodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fanylion y troseddau a oedd wedi'u rhifo o 1 i 17, o'r wybodaeth atodol, fel y'u trafodwyd yn gynharach yn y gwrandawiad. Ers dechrau 2023, ychwanegodd fod 17 o ddigwyddiadau wedi'u cysylltu â'r eiddo. O'r 17 o alwadau, digwyddodd 11 ar ôl 2:00 am ac roedd nifer o ddigwyddiadau'n cynnwys trais neu feddwdod eithafol. Cafwyd nifer o ddigwyddiadau ar ddyddiadau lle'r oedd estyniad o 2 awr wedi'i ganiatáu neu ar ddyddiadau allweddol fel gwyliau banc. I gloi, dywedodd na allai Heddlu De Cymru gymeradwyo ymestyn oriau gwerthu alcohol ymhellach mewn eiddo gyda'r lefelau cyfredol o anhrefn, meddwdod a thrais. Roedd y diffyg cefnogaeth yn ffactor ychwanegol, yn benodol methiant rheolwyr i gyflwyno darnau ffilm TCC, a oedd yn aml yn hanfodol er mwyn canfod a datrys ymddygiad troseddol.

 

Gofynnodd aelod o'r panel a oedd problemau fel hyn yn codi y tu allan i glybiau eraill. Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu nad oeddent yn gweld yr un lefel o anhrefn, a'r anhrefn ar Stryd y Farchnad, y tu allan i fangreoedd eraill. Roedd achosion yn codi, ond nid ar y raddfa hon.

 

O ran peidio â darparu darnau ffilm TCC, gofynnodd Clerc y Panel Trwyddedu pam nad oedd yr Heddlu yn gorfodi'r amodau hyn yn gysylltiedig â'r drwydded. Atebodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu drwy ddweud eu bod wedi derbyn rhybudd ym mis Chwefror, a phe bai'n digwydd eto, y byddent yn canlyn y mater ymhellach. Roed 3 rhybudd wedi'u cyflwyno, a rhybudd ysgrifenedig ffurfiol oedd y rhybudd olaf, a gyflwynwyd drwy law iddo gan swyddogion ar 17 Chwefror. Ni fu unrhyw gais am TCC ers hynny, ond byddai unrhyw achosion pellach o dorri'r amodau yn arwain at adolygiad.

 

Gofynnodd aelod o'r panel faint o swyddogion heddlu fyddai yn ardal Stryd y Farchnad ar y penwythnos a oedd i ddod.  Dywedodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu y byddai hynny'n dibynnu ar yr adnoddau a fyddai ar gael. Roedd ganddynt Raven bob dydd Gwener a dydd Sadwrn, ac roedd swyddogion dynodedig yn cael eu lleoli yng nghanol y dref i weithio sifft Raven. Roedd hyn hefyd yn dibynnu ar allu swyddogion i weithio goramser ac adnoddau eraill yn amodol ar y galwadau a oedd yn dod i mewn.

 

Ymatebodd Mr Rasul i'r wybodaeth a ddarparwyd. Dywedodd, yn anffodus, nad oedd unrhyw ystadegau ar gyfer unrhyw eiddo arall ar wahân i Eden a Bar 35. Gwnaed cais ddwywaith am TCC. Yr hyn a ddigwyddodd yn yr ymosodiad oedd bod menyw 6 troedfedd dwy fodfedd wedi dyrnu ei wraig hanner cant oed, 5 troedfedd 4 modfedd yn ei phen. Digwyddodd hynny ym mis Rhagfyr, ac roedd ganddynt recordiad o'r digwyddiad. Roedd yr Heddlu wedi methu lawrlwytho'r digwyddiad o'u cyfrif e-bost. Ychwanegodd ei fod wedi cael un rhybudd ysgrifenedig.

 

O ran staff y drws, rhoddodd Mr Rasul amlinelliad o'r digwyddiad gan ddweud y defnyddiwyd grym rhesymol, a bod ganddo ddarn o ffilm TCC i ddangos hynny, a bod y darn hwnnw o ffilm wedi'i ddarparu. Yr unig beth yr oedd angen iddynt ei wneud oedd lawrlwytho'r hyn a oedd wedi'i anfon.

 

Roedd wedi cael llond bol ar bobl yn ei gyhuddo o rywbeth nad oedd yn wir.

 

Atebodd Swyddog Trwyddedu'r Heddlu fod pob digwyddiad yn cael ei gofnodi, nid y rhai a oedd yn ymwneud â'i eiddo ef yn unig. Nid oedd unrhyw gwynion am ymosodiad ar wraig Mr Rasul, ac os oedd y digwyddiad wedi'i recordio ar TCC byddai'n dal yn bosibl iddo wneud cwyn, a byddent yn ymchwilio i'r mater. Darparodd y dyddiadau a'r amseroedd pan geisiwyd TCC, gan gadarnhau na chafwyd ymateb. 

 

Esboniodd Mr Rasul sut roedd wedi ymateb i'r ceisiadau.

 

Eglurodd y Swyddog Trwyddedu nad oedd angen cael yr wybodaeth ar gof bach USB mwyach gan fod system newydd ganddynt.

 

Ymneilltuodd y panel wedyn i ystyried y cais.

 

Penderfyniad yr Is-bwyllgor

Mae'r Is-bwyllgor wedi ystyried y canllawiau, ynghyd ag Adran 182 o Ddeddf Trwyddedu 2003 a'r Amcanion Trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu.  Mae'r Is-bwyllgor hefyd wedi ystyried sylwadau'r Heddlu a'r Ymgeisydd.

 

Mae'r Is-bwyllgor wedi canfod bod problemau'n gysylltiedig â throsedd ac anhrefn a niwsans cyhoeddus yn Eden a Bar 35.  Mae'r Is-bwyllgor wedi ystyried y sylwadau a wnaed gan yr Ymgeisydd, sef bod y ddau leoliad yn cael eu rhedeg fel dau eiddo ar wahân, ond bydd cwsmeriaid yn aml yn cael mynediad i'r ddau eiddo drwy'r fynedfa i Eden, ac mae'r ddau eiddo'n cael eu rhedeg gan Mr Rasul a'i wraig. Mae’r Is-bwyllgor felly wedi penderfynu, yn ôl pwysau tebygolrwydd, na ellir priodoli pob digwyddiad yr adroddir amdano i Eden Wine Bar yn unig, ac nid Bar 35.

 

Mae'r Is-bwyllgor wedi penderfynu y byddai caniatáu i'r digwyddiad fynd rhagddo yn tanseilio'r amcanion trwyddedu ac felly wedi penderfynu rhoi gwrth-hysbysiad i'r Ymgeisydd.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: