Agenda item

Ymweliad Gwirio Gwelliannau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) â Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant 21 - 24 Tachwedd 2022

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i’r Cabinet, a oedd yn seiliedig ar eu hymweliad gwirio gwelliannau â Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod mis Tachwedd 2022  ac argymhellodd fod y Cabinet yn ystyried yr adroddiad a’r sylwadau ar y Cynllun Gweithredu cysylltiedig wedi’i ddiweddaru.

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles gefndir yr ymweliad ac eglurodd fod y gwaith o wirio gwelliannau’n canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed yn y meysydd a nodwyd ar gyfer gwelliant yn ystod yr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad ym mis Mai 2022. Eglurodd fod y gwaith o wirio gwelliannau ar y cyfan yn dangos cynnydd cadarnhaol o ran y blaenoriaethau hynny a osodwyd, sef bod y mwyafrif o'r meysydd a nodwyd naill ai'n dangos gwelliant sylweddol neu rywfaint o welliant a nifer o feysydd yr oedd angen gweithredu pellach arnynt, o ganlyniad i hynny. Dywedodd fod angen gwelliannau o fewn yr awdurdod o hyd, o ran gofal cymdeithasol plant, o ystyried mai cynllun gwella tair blynedd oedd y cynllun a gymeradwywyd. Nododd AGC arferion gwell o ran clywed, a gweithredu ar lais y plentyn, o fewn arfer ac o fewn ffeiliau achos a hefyd yn parhau i nodi bod y gweithlu’n teimlo eu bod yn cael cefnogaeth dda o ran eu gwaith. Roeddent hefyd yn cydnabod cryfder sylweddol o ran gweithio mewn partneriaeth a chymorth corfforaethol i ofal cymdeithasol plant a bod hyn yn gofyn am ddull Cyngor cyfan.

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ddau faes penodol o bryder. Un oedd breuder parhaus y gweithlu gofal cymdeithasol lle'r oedd ymdrechion sylweddol wedi'u gwneud ac yn parhau i gael eu gwneud i gadw a recriwtio gweithlu gofal cymdeithasol plant o safon uchel sy'n cael ei gefnogi'n dda ac sy’n llawn cymhelliant. Yr ail faes yr oedd angen ei wella ar frys oedd cam-fanteisio troseddol ac arfer yn y maes hwn. Byddai adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ar y gwaith hwn. Ychwanegodd y byddai archwiliad o gynnydd yn erbyn y cynllun strategol 3 blynedd yn cael ei gynnal yn ystod gwanwyn a haf 2023 ac y byddai cynllun wedi’i adnewyddu’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Medi 2023.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r staff gan na fyddai wedi bod yn bosibl cyflawni hyn heb ymroddiad y staff, gan gynnwys staff asiantaeth.

 

Ategodd yr Arweinydd y sylwadau hyn a diolchodd i'r staff am weithio'n hynod o galed. Roedd y llwyth achosion yn fawr, ac roedd staff wedi ymateb i'r her. Nododd AGC feysydd i’w gwella ond hefyd nifer o gryfderau ym mhob maes. Diolchodd hefyd i gydweithwyr ar draws y Siambr gan gynnwys Arweinwyr Gr?p a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu. Gofynnodd am un maes penodol a oedd wedi’i nodi ar gyfer gwelliant, sef y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Tîm Lles Emosiynol Ieuenctid. Nododd fod rhai gwelliannau wedi'u gwneud a bod y rhestr aros wedi lleihau'n sylweddol. Nid cyfrifoldeb yr awdurdod yn unig oedd y cam hwn a gofynnodd a oedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiadau cynnydd a gafwyd.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y dylai'r cam hwnnw fod wedi'i gyfeirio ato'n benodol yn y cynllun gweithredu o ran iechyd a lles emosiynol. Roedd amrywiaeth o gamau gweithredu ar y gweill ac roedd y Bwrdd Iechyd wedi cael rhywfaint o adnoddau a buddsoddiad sylweddol i gefnogi pob ysgol ar draws ôl troed Cwm Taf Morgannwg i roi Fframwaith Nyth ar waith, sef dull ysgol gyfan at iechyd a lles emosiynol. Cadwyd llygad barcud iawn o ran unrhyw restr aros am y gwasanaethau hynny. Roedd yn argymhelliad i’r awdurdod ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd ynghylch y gwaith hwnnw gyda CAMHS, gan wneud yn si?r bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad prydlon pan oedd arnynt ei angen.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Adfywio ei fod yn galonogol i weld bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud a gofynnodd a oedd unrhyw argymhellion wedi’u gwneud gan y Pwyllgor Craffu ac os felly, a oedd yr argymhellion hynny wedi’u gweithredu. Gofynnodd hefyd pa welliannau a oedd wedi'u gwneud o ran arolygiaeth rheolwyr fel y nodwyd yn yr adroddiad ac a allai'r Cyfarwyddwr ddangos tystiolaeth o sut yr oedd staff yn cael eu cefnogi.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles mai dim ond yn ddiweddar y derbyniwyd yr argymhellion gan y Pwyllgor Craffu ac y byddent yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Craffu yn brydlon. Roedd yr argymhelliad cyntaf yn ymwneud â'r strategaeth ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol plant gan eu bod wedi bod mewn sefyllfa o orwariant drwy gydol y flwyddyn. Roedd yn amlwg bod angen iddynt weithio'n agos iawn fel un Cyngor i wneud yn si?r bod strategaeth ariannol a oedd yn cefnogi'r gwasanaeth i gyflawni dyletswyddau statudol o fewn y gyllideb. Ar hyn o bryd roedd yn cael trafferth gwneud hynny oherwydd y llwyth achosion sydd ganddynt. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles weddill yr argymhellion a rhoddodd ddiweddariad ar bob un. O ran rheoli dros y safle, roedd y Cabinet wedi cymeradwyo polisi goruchwylio newydd ar draws gwasanaethau cymdeithasol a lles, ac roedd hyn yn hanfodol fel y gwelwyd gan AGC. O ran cynorthwyo staff, roedd y Swyddog Cymorth Gwaith Cymdeithasol wedi dechrau o 1 Ebrill a byddai'n allweddol i gynorthwyo gweithwyr cymdeithasol i wneud eu gwaith cymdeithasol. Roedd cynnig lles helaeth gan gynnwys cymorth wedi’i lywio gan drawma, hefyd ar gael i staff.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Adnoddau at y cynllun gweithredu a gofynnodd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch system graddio BRAG. Gofynnodd pa mor bell oedd y pwynt yn y coch ac a oedd cynnydd yn cael ei wneud i droi'r coch yn wyrdd. Gofynnodd pryd y byddai'r adroddiad cynnydd nesaf yn cael ei gyflwyno ac a oedd angen unrhyw beth gan y Cabinet i'w helpu i gyflawni ei nodau.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddai'n sicrhau bod cynlluniau gweithredu yn cynnwys allwedd yn y dyfodol. Eglurodd fod glas yn golygu wedi’i gwblhau, gwyrdd yn golygu ei fod ar y trywydd iawn i'w gwblhau o fewn yr amserlenni, roedd melyn yn waith ar y gweill lle'r oedd pryderon ynghylch bodloni amserlenni a choch yn nodi nad oeddent ar y trywydd iawn ar hyn o bryd. Roedd yr un dangosydd a oedd yn goch yn ymwneud â’r gweithlu. Er gwaethaf yr heriau, roedd y gweithlu'n parhau i fod yn gadarnhaol ond roeddent yn dibynnu ar staff asiantaeth o hyd a gallai hyn effeithio ar ansawdd y gwaith wrth geisio sefydlu model newydd o ymarfer gwaith cymdeithasol. Roedd croeso mawr i'r recriwtiaid rhyngwladol a byddent yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol dros amser. Cafwyd peth llwyddiant o ran recriwtio gweithwyr sydd newydd gymhwyso, ac fe wnaethant barhau i recriwtio i rolau rheoli. Roeddent yn recriwtio mwy i’r cynllun Datblygu Ein Hunain ac roedd hwnnw’n ateb tymor canolig, hwy i’r heriau yr oeddent yn eu hwynebu. Fel Cyngor, byddai cymorth corfforaethol parhaus a dull Cyngor cyfan yn hanfodol i gynaliadwyedd a symud i “sefyllfa dda”.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at ddigwyddiad iechyd meddwl yr oedd wedi’i fynychu’n ddiweddar, a darllenodd gerdd a ysgrifennwyd gan unigolyn ifanc am CAMHS. I glywed y gerdd, dilynwch y ddolen ganlynol:

 

PENDERFYNWYD : Ystyriodd y Cabinet adroddiad AGC ar wirio gwelliannau Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant Pen-y-bont ar Ogwr a gwnaeth sylwadau ar y Cynllun Gweithredu cysylltiedig wedi'i ddiweddaru. Nododd y Cabinet ddatblygiad cynllun cynaliadwyedd i fodloni anghenion plant a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn fwyaf effeithiol fel y nodir ym mharagraff 4.15 yr adroddiad.

Dogfennau ategol: