Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Rhestrodd y Maer gyfres o ddigwyddiadau yr oedd wedi’u mynychu’n ddiweddar, gan gynnwys:

 

  • Sioe Ffasiwn Coleg Penybont           
  • G?yl y Lluoedd Arfog Pen-y-bont ar Ogwr:
  • G?yl Lenyddiaeth i Blant - Magic Gareth, Y Pafiliwn Mawr (Esplanade Avenue, Porthcawl, Cymru, CF36 3YW)
  • Gwobrau Arwr Tawel Pen-y-bont ar Ogwr 2023, ddydd Gwener 2 Mehefin yng Ngwesty Heronston   
  • Garddwest Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr
  • Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, 87 Stryd y Parc, CF31 4AZ.
  • Gwobrau Stêm Coleg Pencoed ddydd Iau 8 Mehefin
  • Cwis Sirol Diwrnod y Llyfr Llyfrgelloedd, Y Pafiliwn Mawr, Porthcawl, ar ran Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ddydd Mercher 14 Mehefin

 

Tynnodd sylw hefyd at ddigwyddiad Cymdeithas Cyn-filwyr y Pîl a Mynydd Cynffig a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, 10 Mehefin 2023 ym mhencadlys y gymdeithas yng Nghlwb y Lleng Brydeinig Frenhinol yn y Pîl, yn ogystal â’r gwahoddiad iddo fynd i Sul Dinesig y Maer a gynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd ddydd Sul 11 Mehefin.

 

Yn olaf, dywedodd y Maer fod Sarah Murphy, yr Arweinydd, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, cydweithwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cydweithwyr CCD, Llywodraethwyr, aelodau PFA, cynrychiolwyr Cadwch Gymru’n Daclus a gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen at gael eu gwahodd i Seremoni Agoriadol Ysgol Gerddi Cefn Glas, gan dynnu sylw at y grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sydd wedi helpu i wneud y tir hyd yn oed yn fwy ‘hardd yn fwriadol’. Yn ddiweddar, mae’r Ysgol wedi ennill ‘Gwobr Arloesedd Eco Sgolion’ yng Ngwobrau ‘Cymru Daclus’. 

 

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd ei bod yn anrhydedd iddi gynrychioli pob un o’r 22 awdurdod lleol yn y Senedd ddoe. Roedd hyn ar gyfer lansio’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol neu’r hyn sydd bellach yn cael ei alw y Ffordd Gymreig. Bydd hyn yn cryfhau cyfraniad ein gweithlu a’n hundebau llafur. Byddai hyn hefyd yn caniatáu i gymunedau fod wrth galon yr hyn a wnawn, er mwyn hyrwyddo lles ein cymunedau.

 

Cafodd y Gwobrau Cydnabod Maethu cyntaf eu cynnal yn ddiweddar, gan nodi pythefnos Gofal Maeth, a dod ag awdurdodau lleol ynghyd â Thimau Maethu’r Cyngor, i ddathlu eu holl waith caled a’u hymrwymiad sy’n rhoi cychwyn buddiol mewn bywyd i bobl ifanc.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd yn fawr iawn i ofalwyr a oedd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ac wedi gwella ansawdd bywyd y rhai mewn gofal yn fawr, drwy eu gwaith diflino mewn cymunedau.

 

Aelod Cabinet - Tai, Cynllunio ac Adfywio

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio ddiweddariad cryno i’r Aelodau ar y datblygiadau diweddaraf gyda’r rhaglen adfywio ym Mhorthcawl. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr amddiffynfeydd môr newydd, yn ogystal â’r datblygiad Cosy Corner newydd sy’n cynnwys ardal chwarae newydd ar lan y môr.

 

Aelod Cabinet - Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

 

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar agor yn awr ynghylch cynlluniau ar gyfer sut y gellid mynd i’r afael â phobl anghyfrifol sy’n berchen ar g?n yn y dyfodol. 18 Gorffennaf yw’r dyddiad cau. Mae manylion llawn ar gael ar dudalennau'r ymgynghoriad ar wefan y cyngor.

 

  • Mae G?yl Love 2 Walk 2023 yn cael ei chynnal ar hyn o bryd, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o deithiau cerdded gwahanol mewn ardaloedd fel Blackmill, Blaengarw, Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Rest Bay a Mynydd Cynffig. Mae angen archebu lle ymlaen llaw, ac mae rhagor o fanylion a rhestr lawn o’r teithiau cerdded arfaethedig ar gael ar wefan Love 2 Walk.

 

Aelod Cabinet - Cyllid, Adnoddau a Chyfreithiol

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol gyhoeddiad ynghylch Hybont a’r cyfarfod cyhoeddus diweddar roedd wedi’i fynychu, er mwyn casglu gwybodaeth a deall pa bryderon oedd gan breswylwyr ynghylch Hybont.

 

Eglurodd mai ei ddealltwriaeth ar y pryd oedd mai’r unig sgil-gynnyrch a fyddai’n cael ei gludo mewn peipiau oddi ar y safle fyddai unrhyw dd?r poeth dros ben, ac y byddai hyn yn cael ei ddefnyddio i helpu i wresogi cyfleusterau cymunedol lleol. Fodd bynnag, yn dilyn y cyfarfod, ac eglurhad ynghylch y biblinell Hydrogen, fe ddysgodd fod ei ddealltwriaeth wreiddiol yn anghywir, ac ochr yn ochr â rhwydwaith gwresogi o bibellau d?r mae cynnig i gynnwys piblinell hydrogen i gyflenwi boeler hydrogen ar gyfer ysgolion ac adeiladau eraill o gwmpas Ynysawdre. 

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet ei fod yn gresynu bod ei ddealltwriaeth o Hybont yn anghywir ac bod ei wrthwynebiad wedyn ynghylch y biblinell yn seiliedig ar gamddealltwriaeth o’r prosiect.

 

Dywedodd ei fod ond yn iawn iddo ymddiheuro’n llwyr am unrhyw ofid neu bryder y gallai ei weithredoedd fod wedi’i achosi.

 

Aeth yn ei flaen i roi diweddariad pellach ynghylch ad-dalu benthyciadau a wnaed i Gyngor Thurrock fel rhan o’n Strategaeth Rheoli’r Trysorlys.

 

Aelod Cabinet - Diogelwch Cymunedol a Lles

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles ddiweddariad ar y cynllun hwb cymunedol sy’n cael ei dreialu yng nghymoedd Garw ac Ogwr.

 

Mae'r gwasanaeth cwsmeriaid ar gael rhwng 10am a 1.30pm ar y ddau ddiwrnod, a gall cynghorwyr y gwasanaeth helpu gydag ymholiadau a cheisiadau am Fathodyn Glas, ceisiadau yn ymwneud â thai a digartrefedd, ac ymholiadau am y dreth gyngor.  Hefyd, gallant gefnogi pobl sydd eisiau defnyddio gwasanaethau rheoli plâu neu roi gwybod am faterion sy’n ymwneud â’r priffyrdd fel goleuadau stryd neu dyllau mewn ffyrdd, neu faterion sy’n ymwneud â gwastraff fel tipio anghyfreithlon, graffiti neu faw c?n.

 

Mae’r un lefel o gefnogaeth ar gael hefyd ym mhob llyfrgell sydd â staff Awen ar draws y fwrdeistref sirol.

 

Ar gyfer pob mater arall, cynghorir preswylwyr i fynd i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth neu i ddefnyddio opsiynau hunanwasanaeth digidol y cyngor, neu i ffonio’r cyngor yn uniongyrchol ar 01656 643643.

 

Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw hefyd at fis Mehefin fel mis Balchder, gan longyfarch y trefnwyr a’r gwirfoddolwyr a fu’n helpu i sicrhau bod digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar yn llwyddiant ysgubol, a chan bwysleisio pwysigrwydd gwaith y Cyngor o ran cefnogi’r gymuned LHDTC+ a helpu i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth fel rhan o rwydwaith y Cynghorau Balch.

Cynhelir digwyddiad Balchder yr Haf ar 24 Mehefin.

 

Prif Weithredwr

 

Cyhoeddodd y Prif Weithredwr fod Wythnos y Lluoedd Arfog yn dychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a sut bydd hyn yn cael ei nodi mewn ffyrdd gwahanol, gan gynnwys ail-arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog ddydd Gwener 23 Mehefin mewn seremoni yn y Swyddfeydd Dinesig i nodi ei ddegfed pen-blwydd.

 

Bydd baner y Lluoedd Arfog yn cael ei chodi y tu allan i’r Swyddfeydd Dinesig hefyd, gyda gorymdaith yn cynnwys milwyr sy’n gwasanaethu yn ogystal â chadetiaid, cyn-filwyr a’u teuluoedd, drwy ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn 24 Mehefin. Bydd yn dechrau o D? Carnegie am 11am ac yn mynd i lawr Stryd Wyndham a Dunraven Place.

 

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cerbydau milwrol, gweithgareddau, cerddoriaeth fyw a stondinau sy’n cynrychioli’r Lluoedd Arfog, elusennau, sefydliadau lleol a mwy. Bydd yn gorffen oddeutu 1.45pm gyda gwasanaeth awyr agored.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw hefyd at y ffaith bod yr awdurdod lleol yn mynd ati’n frwd i annog cyn-aelodau o’r lluoedd arfog a’r rheini sy’n paratoi i ddychwelyd i fywyd sifil i ystyried ymgeisio am swyddi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd y cynllun presennol yn gwarantu cyfweliad i gyn-aelodau’r lluoedd arfog.