Agenda item

I dderbyn y Cwestiynau canlynol gan:

Cyng Eugene Caparros i’r Arweinydd

 

Rwyf yn deall bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth fydd yn newid y terfyn cyflymder arferol o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adeiledig o’r 17eg o Fedi eleni. Er bod yr aelodau wedi derbyn gwybodaeth am hyn ym mis Mawrth eleni, a oes modd i chi amlinellu’r cynnydd hyd yma yn CBSP, os gwelwch yn dda, sut dderbyniad gafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ac a fyddwn yn barod ar gyfer cyflwyno’r ddeddfwriaeth ym Mhen-y-bont ym mis Medi?

 

 

Cyng Tim Thomas i'r Arweinydd

 

A wnaiff yr Arweinydd amlinellu’n gryno ei gynigion polisi i fabwysiadu ‘trefi 15 munudyn y Fwrdeistref Sirol?

 

 

Cyng Maxine Lewis i'r Aelod Cabinet - Tai, Cynllunio ac Adfywio

 

Bleydym ni o ran datblygu Strategaeth Adfywio'r Cymoedd, fel y'i nodir yn y cynllun corfforaethol newydd.

 

 

Cyng Ian Williams i Aelod y Cabinet – Diogelwch Cymunedol a Lles

 

A all Aelod y Cabinet roi rhyw syniad imi, os gwelwch yn dda, ynghylch y ddarpariaeth sy’n cael ei gwneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer cyfleusterau chwarae awyr agored a hamdden i blant h?n yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr a phryd? Mewn cyfarfod fis Rhagfyr y llynedd cytunwyd i ddarparu man chwarae yng Nghaeau Trecelyn ar gyfer plant h?n ond mewn e-bost diweddar dywedwyd wrthyf nad oedd hyn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ond y gallai fod yn ddewis yn y dyfodol.

 

A gaf i ofyn felly pryd y bydd y ddarpariaeth bwysig hon yn digwydd?

 

 

Cyng Mark John i'r Aelod Cabinet - Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

 

A gaf i adroddiad cynnydd ar Rwydwaith Gwres Pen-y-bont ar Ogwr.

Cofnodion:

Y Cynghorydd E Caparros i’r Arweinydd

 

Rwy’n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn newid y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adeiledig o 17 Medi eleni ymlaen.  Er bod yr Aelodau wedi cael gwybodaeth am hyn ym mis Mawrth eleni, a allech amlinellu’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sut groeso a gafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus, ac a fyddwn yn barod i gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Medi?

 

Ymateb

 

Mae adran Rheoli Traffig yr awdurdodau wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynhyrchu mapiau sy’n rhoi manylion am ffyrdd a fyddai’n cydymffurfio â Chynllun Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r ffyrdd hynny y gellid eu hystyried fel eithriad i’r broses gyflwyno gyffredinol.

 

Mae modd gweld y mapiau ar wefan Map Data Cymru:

https://mapdata.llyw.cymru/maps/roads-affected-by-changes-to-the-speed-limit-on-re/view#/

 

Er mwyn paratoi ar gyfer y newidiadau i’r terfyn cyflymder, mae’n rhaid prynu cannoedd o arwyddion a’u codi cyn y newid, a bydd angen eu cuddio tan y dyddiad newid cyflymder.

 

Yn ogystal ag arwyddion terfyn cyflymder newydd, bydd arwyddion newydd hefyd mewn perthynas ag ardaloedd lle mae traffig wedi’i dawelu ac ardaloedd lle bydd y terfyn o 30mya yn aros. Yn ogystal â’r oddeutu 1,400 o arwyddion i’w codi, mae hefyd angen tynnu nifer debyg o arwyddion a marciau ffordd sy’n bodoli ar hyn o bryd. Bydd yn rhaid i hyn ddigwydd ar 17 Medi 2023 neu’n fuan ar ôl hynny.

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddylunio arwyddion i leoliadau newydd a chytuno ar leoliadau felly bydd aelodau a’r cyhoedd yn gweld pyst yn cael eu gosod ac arwyddion yn cael eu codi ond eu bod yn cael eu gorchuddio tan y dyddiad hwnnw.

 

Wrth ddefnyddio canllawiau Llywodraeth Cymru ar eithriadau i’r terfyn diofyn o 20mya, nodir lleoliadau sy’n bodloni’r meini prawf eithrio ac sy’n gwella diogelwch ar y ffyrdd. Mae’r ymgysylltu cychwynnol yn awgrymu bod cefnogaeth i gynigion ar gyfer ffyrdd sy’n bodloni’r meini prawf eithrio yn ogystal ag awgrymu mân newidiadau i’r cynigion gwreiddiol.  Ar wahân i’r eithriadau, bydd angen dilyn proses statudol er mwyn dirymu gorchmynion traffig penodol a gorfodi’r terfyn diofyn newydd o 20mya ar ffyrdd.

 

Er mwyn symud yr eithriadau a’r dirymu i’r cam ymgynghori statudol, mae data’n cael ei gasglu sy’n ofynnol er mwyn i’r adran gyfreithiol ddechrau’r broses o wneud Gorchmynion Traffig gan fod y lleoliadau penodol yn cael eu mesur ar yr amod bod safleoedd addas yn cael eu nodi ar gyfer lleoli arwyddion priffyrdd.

 

Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn 17 Medi pan fydd y newid yn digwydd. Fodd bynnag, oherwydd bod miloedd o arwyddion dan sylw, rhagwelir y bydd gwaith yn mynd rhagddo ar ôl y dyddiad hwnnw, a newidiadau’n bosibl yn amodol ar sut mae’r cynigion yn gweithio’n ymarferol.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Caparros

 

Mae’r newid arfaethedig i’r terfynau cyflymder wedi bod yn bwnc llosg ar y cyfryngau cymdeithasol. Roeddwn yn croesawu ymgynghoriad ar-lein Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y cynigion, ac felly rwy’n gofyn pa mor llwyddiannus oedd hyn ac a fydd yr adborth a roddwyd yn effeithio ar yr hyn a welwn ar lawr gwlad yn ein cymunedau?

 

Ymateb

 

Cafwyd nifer fawr o ymatebion i’r ymgynghoriad, sydd wrthi’n cael eu hystyried. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r rhain, mae’r Swyddogion wedi gwneud rhai newidiadau i’r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol. Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod adborth cadarnhaol wedi’i roi i gam cyntaf yr ymgynghoriad. Fodd bynnag, nid dyma’r cam cyfreithiol angenrheidiol yn yr ymgynghoriad, oherwydd byddai hynny’n digwydd o dan gam gweithredu gorchmynion traffig. Mae nifer fawr o’r cyhoedd yn cefnogi parthau 20mya er bod diffyg cefnogaeth gyffredinol wedi bod i rai o’r eithriadau arfaethedig. Felly, mae swyddogion yn edrych ar yr holl ymatebion hyn i’r ymgynghoriad ac yn gwneud rhai addasiadau, yn enwedig o ran diwygio rhai o’r eithriadau arfaethedig.

 

Rydym hefyd yn ymgynghori ar y ffyrdd eithrio a fydd yn cael eu cadw ar 30mya, yn hytrach na’u bod yn gostwng yn awtomatig i barthau 20mya. Roedd rhywfaint o’r adborth yn dangos nad oedd preswylwyr yn dweud eu bod yn anghytuno â’r gostyngiad i 20mya mewn stryd benodol, ond eu bod mewn gwirionedd yn anghytuno ag unrhyw ostyngiad mewn cyflymder yn gyfan gwbl.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd M Evans

 

Soniwyd y bydd y rhan fwyaf o’r gwaith sydd i’w wneud fel rhan o’r cynllun wedi’i gwblhau erbyn y dyddiad cau sef 17 Medi 2023. Fodd bynnag, deallaf y bydd gwaith yn mynd rhagddo ar ôl y dyddiad hwn, gan godi arwyddion ffordd a gwaith cysylltiedig sy’n mynd gyda hyn. A oes gennych ddyddiad cau ar gyfer cwblhau’r holl waith yma?

 

Ymateb

 

Na, ond mae gwaith mewn perthynas â chodi pyst ar gyfer yr arwyddion eisoes wedi dechrau. Mae llawer iawn o waith i’w wneud, gan fod bron i 1,400 o arwyddion i’w harddangos. Bydd angen newid rhai o’r arwyddion sy’n dangos 30mya ar hyn o bryd i 20mya, ac nid dim ond un arwydd y bydd angen ei newid ar ffordd benodol, ond yr arwyddion ailadrodd hefyd. Fodd bynnag, y bwriad yw cwblhau’r rhan fwyaf o’r gwaith erbyn y dyddiad ym mis Medi. 

 

Y Cynghorydd T Thomas i’r Arweinydd

 

A wnaiff yr Arweinydd amlinellu’n fyr ei gynigion polisi i fabwysiadu trefi ‘15 munud’ yn y Fwrdeistref Sirol?

 

Ymateb

 

Mae’r polisi cynllunio cenedlaethol (Cymru’r Dyfodol a Siarter Creu Lleoedd) yn ceisio sicrhau bod pobl yn gallu diwallu’r rhan fwyaf o’u hanghenion dyddiol o fewn pellter cerdded neu feicio rhesymol o gartref, gyda dewisiadau beicio a thrafnidiaeth leol diogel.

 

Mae’r cysyniad ‘tref 15 munud’ wedi cyrraedd y penawdau’n ddiweddar, gyda rhai pobl yn ei weld fel damcaniaeth gynllwyn i reoli symudiadau ein cymunedau.

 

Gadewch i mi eich sicrhau nad dyma’r bwriad. Nid oes cyfyngiadau ar symud o gwbl, ac nid oes gennym y pwerau i gyfyngu ar symudiadau pobl. Mae hon yn egwyddor sydd wedi’i sefydlu ar gyfer cynllunio a chreu lleoedd sydd wedi ailymddangos ar draws y byd wrth i ni geisio mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a symud tuag at gymdeithas ‘sero net’.

 

Yng nghyd-destun sir Pen-y-bont ar Ogwr, rydym am i’n trigolion allu cael mynediad at wasanaethau o fewn 20 munud naill ai drwy gerdded neu feicio, gyda darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus hefyd ar gael fel opsiwn wrth gefn i sicrhau bod amrywiaeth o ddewisiadau teithio cynaliadwy ar gael ym mhob cymdogaeth.

 

Unwaith eto, yng nghyd-destun Pen-y-bont ar Ogwr, bydd yr egwyddor hon yn helpu ein trigolion i gael mynediad at siopau, hamdden, addysg, gofal iechyd sylfaenol a chyflogaeth yn agos at eu man preswylio ac o fewn y gymdogaeth leol. Mae hefyd yn golygu cael mynediad at fannau gwyrdd gerllaw ac amgylchedd lleol sy’n annog teithio llesol i hybu iechyd a lles. Mae’n rhywle y mae pobl am fyw ynddo, felly mae’n rhaid i dai fforddiadwy fod yn rhan o hyn.

 

Nod y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yw sicrhau bod modd byw mewn cymdogaethau ar draws y fwrdeistref. Felly, mae’r egwyddor cymdogaeth 20 munud wedi cael ei hystyried a’i gwreiddio yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd o ddechrau’r gwaith o baratoi’r cynllun.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mhapur Cefndir RLDP 19: Cymdogaeth 20 munud

 

https://www.bridgend.gov.uk/media/14775/background-paper-19-20-minute-neighbourhood.pdf

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Tim Thomas

 

Credaf y dylid annog yn frwd unrhyw beth sy’n annog gwasanaethau lleol i fod mor agos at gartrefi pobl ag sy’n bosibl. Nodaf ymhellach gyda diddordeb, y dylid cynnwys cyfleoedd cyflogaeth a chynllunio gofodol. Yr hyn sydd gennym yma yw cyfosodiad polisi rhwng y trefi 15 munud a Bargen Dinas-Ranbarth Caerdydd. Ar un llaw, rydym wedi cael gwybod nad yw prif fanteision Bargen Dinas-Ranbarth Caerdydd, o bosib, yn fuddsoddiad uniongyrchol i’n Bwrdeistref Sirol, er bydd hyn drwy swyddi mewn ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos y gall ein trigolion deithio iddynt. Ar y llaw arall, rydym wedi ymrwymo i’r egwyddor o gael trefi 15 munud. Sut y gellir cysoni’r polisïau hyn sy’n gwrthdaro â’i gilydd?

 

Ymateb

 

Nid oes gwrthdaro o ran yr hyn y cyfeirir ato uchod. Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ariannu’r gwaith o ailddatblygu, er enghraifft, safle Ewenni ym Maesteg, y safle tir llwyd mwyaf yn ein cymoedd ac fel rhan o’r datblygiad hwnnw, bydd Canolfan Fenter yn darparu man deori ar gyfer lleoedd newydd sbon o ganlyniad i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn buddsoddi yn ein cymoedd, ein cymunedau ac yn y gwaith o ddatblygu ardaloedd newydd ar gyfer busnesau newydd.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Jonathan Pratt

 

Mae pentref 15 munud ym Mhorthcawl, sy’n lasbrint, er nad yw fy ardal i, sef Drenewydd, yn bodloni hyn. A oes unrhyw syniadau ynghylch sut y gallwn wella hyn yn ddaearyddol yn hytrach na chael radiws o 15 munud o ganol y dref, a sut y bydd hynny’n ffitio mewn 15 munud dros ardal ddaearyddol benodol?

 

Ymateb

 

Os edrychwch ar ein Cynllun Datblygu Lleol Newydd y mae’r uchod wedi’i gynnwys ynddo, bydd gan y cymunedau newydd rydym yn mynd i’w datblygu gyfleoedd gwaith, darpariaeth addysgol, darpariaeth gymunedol a mannau gwyrdd. Felly, bydd y rhain yn cyd-fynd yn dda â’r egwyddorion o gael trefi 15 munud. Fodd bynnag, rwyf yn cydnabod bod mwy o waith i’w wneud, yn enwedig mewn aneddiadau presennol. Mae’n anos mewn ardaloedd lle mae datblygiadau wedi digwydd eisoes, yn enwedig lle mae aneddiadau wedi’u hamgylchynu gan gefn gwlad sydd wedi’i warchod fel yn Drenewydd. Ond, byddwn yn ceisio parhau â’r math hwn o fenter. Mae Drenewydd yn agos iawn at Borthcawl a gallwch weld bod enghraifft dda iawn o sut rydym yn ceisio sicrhau bod rhai o’r gwasanaethau hynny mewn un lle, fel rhan o ddatblygiad mawr newydd y Glannau. Cafodd y CDLl newydd, fel y bydd yr Aelodau’n cofio, ei ystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2022. 

 

Y Cynghorydd Maxine Lewis i’r Aelod Cabinet - Tai, Cynllunio ac Adfywio

 

Ar ba gam rydym ni o ran datblygu Strategaeth Adfywio’r Cymoedd, gan ei bod wedi'i nodi yn y cynllun corfforaethol newydd?

 

Ymateb

 

Fel y dywedwch, mae’r Cynllun Corfforaethol newydd ‘Cyflawni Gyda’n Gilydd’ ar gyfer 2023-28 yn rhoi’r Cymoedd wrth galon ein blaenoriaethau.  Rydyn ni eisoes wedi dechrau drwy fuddsoddi’n sylweddol mewn ysgolion, ein parciau gwledig, Canol Tref Maesteg, a chysylltedd digidol.

 

Er mwyn parhau i ailddeffro ac adfywio ein Cymoedd i gyflawni eu potensial, rydym yn arwain y gwaith o ddatblygu dogfen strategaeth. Bydd y strategaeth yn cynnwys camau gweithredu a phrosiectau manwl, sy’n harneisio potensial y cymoedd ac yn arwain y cyfleoedd a fydd yn cynnig cyfres o ddatblygiadau o ansawdd uchel a fydd yn cyfrannu at weledigaeth gydlynol ehangach ar gyfer Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr.

                                                                                                                           

Bydd y cynllun yn hyblyg ac yn gallu addasu i amodau economaidd/marchnad sy’n newid a bodloni gofynion a dyheadau’r sector cymunedol, y sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.

 

Rydym ar fin comisiynu’r strategaeth, ac yn dilyn cyfarwyddyd pellach gan y Cabinet yr wythnos diwethaf, dyma’r Amcanion a fydd yn sail i’r hyn y byddwn yn ei gomisiynu:

 

           Adolygu astudiaethau, cynlluniau a strategaethau perthnasol a ddatblygwyd dros y 10 mlynedd diwethaf sy’n berthnasol i Gymoedd Pen-y-bont ar Ogwr, sef Llynfi, Garw ac Ogwr.

           Creu sylfaen gydlynol ar gyfer sicrhau cyllid yn y dyfodol, denu buddsoddwyr a chyflawni ystod gynhwysfawr o brosiectau adfywio.

           Llunio dogfen uwchgynllun deinamig hirdymor sy’n llywio twf a datblygiad yn y dyfodol ar gyfer tair ardal y cymoedd, gan barchu ac atgyfnerthu eu cryfderau.

           Nodi a chanolbwyntio ar safleoedd allweddol a llunio cynllun gweithredu ar gyfer cyflawni gan gynnwys amcangyfrif o gostau cyffredinol y prosiect, cyflawni gam wrth gam, cyllid, amseru a sefydliadau cyflawni.

 

Rydym am greu strategaeth sy’n ymgorffori adfywio defnydd cymysg, sy’n cynnwys cynigion ar gyfer seilwaith gwell yn y cymoedd a’r cyffiniau. 

 

Rydym hefyd yn awyddus iawn i weithio gyda phartneriaid allweddol i ddatblygu’r strategaeth ac atgyfnerthu eu priod swyddogaethau wrth gyflawni unrhyw gynnig fel: datblygwyr, yr heddlu, cynghorau cymuned, cyllidwyr, dylunwyr, y gymuned, tenantiaid, darparwyr trafnidiaeth, yr awdurdod cynllunio lleol ac adrannau mewnol perthnasol eraill.

 

Mae amryw o brosiectau eisoes ar waith, sy’n cael eu datblygu fel rhan o’n rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin newydd, sy’n cynnwys buddsoddi mewn eiddo masnachol yn ein cymunedau yn y cymoedd, a chefnogi perchnogion eiddo a darpar denantiaid i wella ein stryd fawr yn y Cymoedd.

 

Rydym hefyd yn paratoi rhaglen i gefnogi cymunedau cydnerth, gan annog dull gweithredu o’r gwaelod i fyny sy’n cael ei arwain yn lleol, sy’n ddilyniant i’n rhaglen Datblygu Gwledig Leader, Reach, a oedd yn llwyddiannus gynt. Byddai hyn yn ceisio darparu prosiectau gwerth am arian gyda grwpiau cymunedol lleol, sefydliadau amrywiol a Chynghorau Cymuned.

 

Bydd ein Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin newydd hefyd yn darparu cyfleoedd i ariannu astudiaethau dichonoldeb lleol i gefnogi syniadau am brosiectau cymunedol dan arweiniad lleol, gyda’r nod o arwain at geisiadau am gyllid yn y dyfodol. Bydd yn cefnogi amrywiaeth o grantiau i fusnesau, a chefnogaeth i dwristiaeth leol.

 

Bydd y rhain yn cyd-fynd yn dda ag amcanion y strategaeth ac yn ein galluogi i fwrw iddi’n syth, tra bo dull gweithredu tymor hwy yn cael ei ystyried.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Lewis

 

A allwch ddweud wrthyf sut y bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ategu Strategaeth Adfywio’r Cymoedd?

 

Ymateb

 

Mae eiddo yn ein cymoedd wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd y Gronfa uchod yn helpu i adnewyddu ac ailwampio eiddo preswyl a masnachol, er mwyn eu defnyddio unwaith eto. Bydd y Gronfa’n hyrwyddo ein nod o adfer y cymoedd i roi mwy o fywyd ynddyn nhw. Mae dwy gronfa ar gyfer cymoedd Llynfi, Ogwr a Garw. Y gronfa gyntaf yw Grant Gwella Eiddo Creu Lleoedd Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd hyn yn helpu i wella tu blaen adeiladau a sicrhau bod gofod llawr masnachol yn cael ei ddefnyddio’n fuddiol. Bydd y grant hefyd yn helpu i droi gofod llawr uchaf gwag yn llety preswyl newydd uwchben unedau masnachol. Yr ail gronfa yw Grant Arolwg Eiddo Gwag. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r rheini sy’n gymwys ac sy’n gwneud cais i gynnal arolygon ar gyflwr adeiladau, asesiadau pensaernïol a dylunio cysyniadol, er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith o ailddatblygu eiddo masnachol gwag.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd D Hughes

 

Croesawaf ddatblygiad dogfen Strategaeth i ailddeffro ac adfywio’r cymoedd, a chytunaf ei bod yn hanfodol bod gwaith yn cael ei wneud yma ochr yn ochr â Chynghorau Cymuned, sefydliadau a’r gymuned gyffredinol i gwrdd â gofynion a dyheadau’r cymunedau hyn. Pan ymwelodd yr Arweinydd â Chanolfan Bywyd Cwm Ogwr ar gyfer digwyddiadau i ddathlu pen-blwydd y ganolfan yn 30 oed, dywedodd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o gefnogi gweithgareddau chwaraeon yng Nghwm Ogwr. Roedd yr arolwg annibynnol a gynhaliwyd ac a ariannwyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, a oedd yn sail i Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cyngor Cymuned Cwm Ogwr 2022-27, yn dangos mai’r ail flaenoriaeth fwyaf i drigolion oedd darparu parciau a chyfleusterau chwaraeon. Ail-gadarnhaodd y preswylwyr hyn mewn cyfarfod cyhoeddus ar 17 Mehefin, pan wnaethant gymeradwyo cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer ailddatblygu 2 safle ym Mro Ogwr. Un i’w ddefnyddio fel parc coffa a’r llall ar gyfer Ardal Gemau Aml-ddefnydd. Yr hyn a ddaeth yn amlwg hefyd oedd y gefnogaeth i gyfleuster pob tywydd a gwelliannau ym meysydd chwarae Planka. Rhywbeth y mae preswylwyr yn credu iddo gael ei addo iddynt ers blynyddoedd lawer. A fydd y Cynllun Strategol hwn yn gallu darparu cefnogaeth ar gyfer cynigion fel y rhain yn awr ac yn y dyfodol? Yn olaf, gwn fod yr Aelod Cabinet yn frwd dros adfywio ardaloedd y cymoedd ac felly edrychaf ymlaen at weld yr holl randdeiliaid yn cydweithio er budd ein cymunedau.

 

Ymateb

 

Byddwn yn gweithio gyda’r holl randdeiliaid i fwrw ymlaen â’r gwaith fel y disgrifir uchod gan fod gennym lawer iawn o grwpiau cymunedol ac unigolion brwd iawn sy’n awyddus i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol. Rwy’n sicr y byddan nhw’n ceisio sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn yr ymgynghoriad hwn ac, i’r perwyl hwn, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phob carfan berthnasol i fwrw ymlaen a symud pethau yn eu blaenau. Prif ran y Strategaeth fydd canolbwyntio ar adfywio, a byddwn yn edrych i weld beth y gallwn ei gyflawni drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac unrhyw gyllid arall sydd ar gael, i annog twf ac adnewyddu busnesau a mannau cyhoeddus yn ein cymoedd ar gyfer trigolion sy’n byw yno ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’r Cabinet wedi bod yn trafod cyfleoedd yma gyda Bwrdd Rheoli Corfforaethol y Cyngor. Bydd y Strategaeth hefyd yn ceisio dod â chyfleusterau adfywio, hamdden a chwarae at ei gilydd. Mae’r Ardal Gemau Aml-ddefnydd wedi cael ei thrafod ers amser maith a, gobeithio, drwy gydweithio, y gellir gwireddu hyn drwy gael cyllid i’w ddatblygu. Mae Cyngor Cymuned Cwm Ogwr wedi bod yn rhan o drafodaethau ar hyn gyda thîm Trosglwyddo Asedau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ychwanegodd yr Arweinydd fod dyhead i ddarparu cae pob-tywydd yng Nghwm Ogwr, a byddai cefnogaeth uniongyrchol yn cael ei rhoi i’r Cyngor Cymuned i ddatblygu’r camau nesaf drwy Broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol, gyda chymorth Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a Sefydliad Pêl-droed Cymru a phartneriaid eraill yn y cymoedd, sy’n dymuno bod yn rhan o’r gwaith o gefnogi hyn ac unrhyw brosiectau tebyg eraill o’r fath.     

 

Y Cynghorydd Ian Williams i’r Aelod Cabinet - Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

 

A all yr Aelod Cabinet roi rhyw syniad i mi ynghylch pa ddarpariaeth sy’n cael ei gwneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer cyfleusterau chwarae a hamdden yn yr awyr agored i blant h?n yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, a phryd? Mewn cyfarfod fis Rhagfyr diwethaf, cytunwyd i ddarparu man chwarae yng Nghaeau Newbridge ar gyfer plant h?n, ond mewn neges e-bost ddiweddar dywedwyd wrthyf nad oedd hyn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ond gallai fod yn opsiwn yn y dyfodol. A gaf i ofyn felly pryd y bydd y ddarpariaeth bwysig hon yn digwydd?

 

Ymateb

 

Mae amrywiaeth eang o ddarpariaeth chwarae a hamdden awyr agored ar draws y fwrdeistref sirol sy’n cael ei darparu gennym ni, cynghorau cymuned, darparwyr preifat a grwpiau diddordeb penodol.

 

Mae darpariaeth o’r fath yn cynnwys llawer o gyfleoedd, er enghraifft, caeau hamdden ar gyfer chwaraeon pêl, i gaeau 3G mewn ysgolion i’w defnyddio gan y gymuned. Hefyd, ceir parciau sglefrfyrddio, ardaloedd gemau amrywiol yn ogystal â mannau gwyrdd agored, criced, bowlio, athletau, parciau sglefrio, golff a thenis, yn ogystal â chanolfannau hamdden sy'n cael eu rhedeg drwy Halo. 

 

Mae llawer o grwpiau’n elwa drwy broses trosglwyddo asedau cymunedol ar ffurf grantiau sydd wedi caniatáu uwchraddio cyfleusterau a sicrhau buddion yn y cymunedau hynny. 

 

O ran darpariaeth y cyngor, mae meysydd chwarae ffurfiol wedi’u cynllunio i gwrdd ag ystod o grwpiau oedran. Mae’r cyngor wedi ymrwymo i wario dros £2,500,000 hyd yma ar adnewyddu mannau chwarae presennol, ac rydym wedi ymgysylltu â chynghorwyr lleol ar safleoedd i drafod yr anghenion mewn ardaloedd unigol. 

 

Yn benodol, yng Nghaeau Newbridge, mae’r ardal chwarae’n addas ar gyfer plant o bob oed, o blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau. Roedd y gwaith adnewyddu a gafodd ei drafod yn golygu cadw’r profiadau chwarae hynny a oedd yn cael eu gwerthfawrogi a, lle bo hynny’n bosibl, ailwampio’r ardal chwarae er mwyn ystyried hygyrchedd a chynhwysiant.

 

Rydym yn ymwybodol bod aelodau yn awyddus i wella mwy ar yr hyn a gynigir yng Nghaeau Newbridge, ond byddai hyn yn golygu creu profiadau hamdden newydd ac mae’r cyllid presennol wedi’i anelu at adnewyddu’r hyn a gynigir fel darpariaeth chwarae ar hyn o bryd. Byddai lefel y cyllid i greu profiad hyfyw newydd yn golygu nodi a chyfiawnhau’r thema hamdden, darparu lleoliad addas ymysg y cyfleusterau presennol, dylunio ac adeiladu priodol ac yna cynnal a chadw parhaus, a byddai’n rhaid ariannu pob un o’r rhain yn briodol.

 

Mae’r ffocws ar hyn o bryd ar adnewyddu ein mannau chwarae presennol ar draws y fwrdeistref, felly er y gallai fod cyfle yn y dyfodol i edrych ar wella cyfleusterau hamdden yng Nghaeau Newbridge, nid ydym yn gallu darparu amserlen fanwl ar gyfer pryd y gellid bwrw ymlaen â hyn.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd I Williams

 

A all yr Aelod Cabinet egluro pam y mae’r Cyngor wedi methu â darparu parc sblash i’n plant, pan fo gan bob awdurdod cyfagos o leiaf un, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf â dau? A allwn gael sicrwydd y bydd gan Ben-y-bont ar Ogwr, yn ystod tymor presennol y Cyngor hwn, barc sblash ar gyfer y plant yn y Fwrdeistref Sirol, gan ddileu’r angen i deuluoedd deithio i Fwrdeistrefi Sirol cyfagos, a fydd yn helpu i leihau ein hôl troed carbon?

 

Ymateb

 

Rydych yn ymwybodol o adroddiadau Cyllid blaenorol a ystyriwyd yn y cyfarfod heddiw, o’r sefyllfa ariannol y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei hwynebu ar hyn o bryd, yn enwedig gyda’r pwysau parhaus ym maes Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant. Wrth gwrs, byddem wrth ein bodd yn cael pwll sblash, ond rydym wedi ymrwymo £1.5m yn ddiweddar i ailwampio 22 o fannau chwarae i blant ledled y Fwrdeistref Sirol, a bydd proses dendro yn cychwyn ar gyfer y gwaith maes o law. Pe bai cyllid ychwanegol ar gael, yna, wrth gwrs, gallem edrych ar ddarparu’r cyfleuster uchod.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd M Lewis

 

Rwyf yn hapus iawn bod y 6 maes chwarae i blant yn cael eu huwchraddio yng nghwm Garw eleni. A allech chi gadarnhau pa bryd y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau?

 

Ymateb

 

Mae 6 ardal o’r fath lle bydd gwaith adnewyddu’n cael ei wneud, ond mewn gwirionedd 7 os byddwch yn cynnwys yr ardal chwarae ym Metws. Bydd yr 22 ardal chwarae lle mae gwaith i fod i gael ei wneud, yn cael eu gwneud yn nhrefn y rhai sydd fwyaf mewn angen, ar ôl cwblhau’r Asesiad Risg sydd wedi’i gynnal. Fel y nodwyd, mae’r broses dendro ar waith, a phan fydd hyn wedi cael ei gwblhau, rhagwelir y bydd y gwaith yn dechrau ym mis Hydref 2023. Fodd bynnag, oherwydd bod sawl ardal, yn ogystal â maint y gwaith a materion yn ymwneud â chapasiti, nid yw’n debygol y bydd pob ardal yn cael ei chwblhau tan dymor y gwanwyn/haf nesaf. Roedd aelodau’r wardiau yn rhan o hyn o’r blaen, er mwyn gallu gweld pa ardaloedd chwarae yn eu Wardiau oedd angen blaenoriaeth o ran eu hailwampio.  

 

Y Cynghorydd Mark John i’r Aelod Cabinet - Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

 

A allwn gael adroddiad cynnydd ar Rwydwaith Gwresogi Pen-y-bont ar Ogwr?

 

Ymateb

 

Mae Prosiect Cam 1 Rhwydwaith Gwresogi Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig darparu gwres a thrydan, drwy gyfrwng generadur gwres a ph?er cyfun sy’n cael ei bweru gan nwy yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, i Ganolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, y Swyddfeydd Dinesig a Neuadd Bowlio Pen-y-bont ar Ogwr. Cafodd cais am grant cyfalaf ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU drwy’r Rhaglen Buddsoddi mewn Rhwydweithiau Gwresogi (HNIP) am fuddsoddiad cyfalaf o £1,000,000 tuag at adeiladu’r rhwydwaith gwresogi a £241,000 ar gyfer y gwaith cyn adeiladu. Mae’r pecyn cyllid llawn y cytunwyd arno yn cynnwys buddsoddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o’r rhaglen gyfalaf a benthyciadau darbodus yn ogystal â’r grant HNIP hwn.

 

Mae’r broses gaffael ar gyfer prif gontractwr wedi’i chwblhau ac mae contractwr sy’n cael ei ffafrio wedi cael ei ddewis. Fodd bynnag, mae’r gost adeiladu wedi cynyddu o ganlyniad i chwyddiant mewn deunyddiau, peiriannau a llafur yn ystod y misoedd diwethaf, sy’n golygu bod diffyg cyfalaf. Roedd y model ariannol cymeradwy yn seiliedig ar gyfradd llog Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus o 2.6%. Ond, mae cyfraddau llog wedi cynyddu’n sylweddol ers hydref 2022 gan arwain at gostau cyllido uwch a allai arwain at anawsterau yn y llif arian, yn enwedig yn ystod blynyddoedd cynharach gweithredu’r prosiect. Mae swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn trafod gyda’r contractwr i weld sut y gellir lleihau costau.

 

Mae Achos Busnes Amlinellol wedi cael ei greu ar gyfer Cam 2 y rhwydwaith, a’r ateb sy’n cael ei ffafrio yw system pwmp gwres ffynhonnell d?r wedi’i gosod o fewn ffin ysbyty Glanrhyd, gan ddal gwres o afon Ogwr gyda boeleri nwy fel system wrth gefn ac i ddiwallu’r galw am wres ar oriau brig. Mae safleoedd wedi cael eu nodi ar gyfer paneli solar ffotofoltäig preifat wedi’u cysylltu â gwifren. Mae opsiynau ar gael ar gyfer ynni gwynt yn syth o’r cyflenwr neu wedi’i gysylltu’n uniongyrchol, ac ynni solar ychwanegol. Mae ugain adeilad wedi’u cynnwys yn nyluniad presennol y cynllun arfaethedig gan gynnwys Ysbyty Glanrhyd ac Ysbyty Tywysoges Cymru, Canolfan Hyfforddi Heddlu De Cymru, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, ac ysgolion.

 

Byddai Cam 1 hefyd yn cael ei fabwysiadu yng Ngham 2 gan ddisodli’r generadur nwy â ffynhonnell ynni di-garbon. Cafodd y model ariannol sy’n sail i Achos Busnes Amlinellol Cam 2 ei ddiweddaru ym mis Mawrth 2023 i gyfrif am y cynnydd sydd wedi’i sbarduno gan chwyddiant mewn costau adeiladu, ac i ddefnyddio’r amcanestyniadau prisiau ynni a’r ffactorau allyriadau diweddaraf. Dangosodd hyn fod y prosiect yn dal yn ariannol hyfyw.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i nifer o opsiynau ar gyfer datblygu dau gam y rhwydwaith yn y dyfodol.  Yr opsiwn a oedd yn cael ei ffafrio oedd trosglwyddo’r gwaith o ddarparu seilwaith Cam 1 i’r gwaith datblygu Cam 2 sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac i edrych ar gyfleoedd masnachol ar gyfer perchnogaeth, cyflawni a gweithredu gan drydydd parti.  Gallai partneriaid cyflawni posibl gynnwys Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru a chwmnïau yn y sector preifat. Mae proses archwilio i’r rhain yn digwydd ar hyn o bryd a bydd adrodd yn ôl ar hyn maes o law.