Agenda item

Cyflwyniad gan Brif Gomisiynydd Heddlu De Cymru

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn cyflwyno Prif Gomisiynydd Heddlu De Cymru, Alun Michael a’r Dirprwy Gomisiynydd, Emma Wools, i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar waith yr Heddlu, gan gynnwys rhai cynlluniau newydd.

 

Rhoddodd y Prif Gomisiynydd gyflwyniad a chyfeiriodd at y Cynllun Heddlu a Throseddu a gyflwynwyd nifer o flynyddoedd yn ôl ac sydd wedi cael ei ddatblygu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers hynny. Roedd hyn yn adlewyrchu’r hyn roedd yr Heddlu’n ei gael o ran adborth gan y cyhoedd a Chynghorwyr lleol, a sut roedd Heddlu De Cymru yn bwriadu ymateb i newid.

 

Pwysleisiodd fod gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth galon gwaith yr Heddlu. Ychwanegodd fod hyder mewn plismona wedi dod yn broblem yn ddiweddar, yn dilyn digwyddiadau yn yr Heddlu Metropolitanaidd, a oedd wedi taflu cysgod tywyll dros blismona yn gyffredinol. Fodd bynnag, roedd yn dymuno gwneud y pwynt bod gan Heddlu De Cymru enw gwahanol o ran diogelu’r cyhoedd ar lefel uchel.

 

Roedd am dynnu sylw at y ffaith bod lefelau troseddu yn yr ardal wedi gostwng, a bod y rhain yn cymharu’n ffafriol ar lefel Cymru gyfan.

 

Yn y cyflwyniad heddiw, byddai’r Dirprwy Gomisiynydd ac yntau yn rhoi cipolwg ar 3 prif agwedd ar waith, sef Plismona yn y Gymdogaeth, gyda chyllid gan y Llywodraeth Ganolog ar gyfer rhagor o Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, nifer ohonynt wedi cael eu dyrchafu i fod yn Gwnstabliaid yr Heddlu gan fod cyllid ychwanegol wedi’i roi ar gyfer y swyddi hyn. Hefyd, byddai pynciau trafod yn ymwneud â Thrais yn erbyn Menywod, gan gynnwys trais rhywiol, a gwaith yn mynd rhagddo i leihau Hiliaeth.

 

Yna, rhannodd y Dirprwy Gomisiynydd rai sleidiau â’r Aelodau a oedd yn rhoi sylw i’r meysydd uchod o waith parhaus yr Heddlu, ac ar ôl hynny gwahoddodd y Maer gwestiynau gan Aelodau.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd ei bod yn falch o weld y camau a gymerwyd mewn perthynas â Thrais yn y Cartref yn erbyn menywod yn benodol, a bod profiadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio i lunio polisïau, ond gofynnodd am rywfaint o eglurhad ynghylch sut roedd hyn yn cael ei rhoi ar waith. Gofynnodd hefyd a fyddai Dangosyddion Perfformiad yn cael eu rhoi ar waith i fesur llwyddiant y gwaith hwn. Gofynnodd hefyd a allai hi gael sicrwydd ynghylch sut roedd yr Heddlu’n mynd ati i ddelio ag unrhyw atgyfeiriadau a wnaed iddynt mewn perthynas â lles pobl ifanc. Dywedodd hefyd, os oedd llawer o droseddwyr mynych yn aildroseddu, onid oedd hyn yn adlewyrchu bod y prosesau a oedd ar waith ddim mor effeithiol ag y dylent fod.

 

O ran aildroseddu, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fod troseddwyr mynych yn cael eu haddysgu drwy waith Asiantaeth, hynny yw, gyda phartneriaid yn ogystal ag ymwneud drwy nifer o gyrff Cyfiawnder Troseddol allweddol, gan weithio ar hyn a phrofiadau uniongyrchol. Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu nad oedd materion fel yr enghreifftiau uchod yn cael eu datrys drwy ffeilio ffurflenni neu lenwi holiaduron, ond drwy gael mwy o bobl sydd wedi dioddef a goroesi camdriniaeth yn siarad â phobl fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a phartneriaid allweddol eraill. Ar gyfer pobl iau a oedd wedi’u cam-drin, roedd darn o waith o’r enw ‘Lleisiau Ifanc’, sef llwybr i’r rheini a oedd yn dioddef camdriniaeth siarad yn bersonol â phobl amlwg uwch yn yr Heddlu, gan gynnwys hyd at lefel y Dirprwy ei hun, y Prif Gwnstabl a’r Prif Gomisiynydd, lle byddai’r materion roedden nhw wedi’u profi yn cael sylw pe bai angen, ar y lefel uchaf bosibl. Roedd gwasanaethau statudol a oedd yn darparu llwybrau cymorth (rhwng Gorchmynion Llys), i gefnogi ac ymyrryd gyda’r nod o leihau nifer y troseddwyr a newid eu patrymau ymddygiad. Roedd nifer o wahanol fetrigau hefyd yn cael eu defnyddio a oedd yn mesur ac yn gwerthuso effeithiau a chanlyniadau amrywiol, gyda’r nod o leihau lefelau aildroseddu ac achosion o niwed. Roedd hi’n gallu rhannu enghreifftiau o hyn gydag Aelodau ar gais.

 

Ychwanegodd Comisiynydd yr Heddlu fod yr Heddlu hefyd yn targedu achosion o drais lefel isel gan fod hyn yn aml yn digwydd cyn i’r trais ar lefel uwch ddigwydd wedyn. Ychwanegodd fod natur ymddygiad o’r math hwn wedi datblygu mewn llawer o unigolion oherwydd bod eu magwraeth neu ddigwyddiadau dilynol yn eu bywydau wedi cael effaith niweidiol arnyn nhw.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn falch iawn o waith Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Nghoety Uchaf. Roedd hi’n ymwybodol bod Troseddau Casineb yn weddol isel, i bob golwg, yn y Fwrdeistref Sirol, er ei bod yn cwestiynu a oedd pob digwyddiad yn ymwneud â hyn yn cael ei gofnodi mewn gwirionedd. Roedd yn ymddangos bod achosion o fwlio, trolio a gwenwyndra ar-lein yn dod yn fwyfwy amlwg mewn cymdeithas. Roedd rhai Cynghorwyr, gan gynnwys hi ei hun, yn teimlo dan fygythiad i’r uchod weithiau. Gofynnodd felly sut gallai’r Heddlu weithio gyda Chynghorwyr a gwleidyddion eraill er mwyn iddyn nhw, yn eu tro, deimlo’n fwy diogel. Dywedodd yr Aelod hefyd fod angen i Awdurdod Priffyrdd y Cyngor weithio’n agosach gyda’r Heddlu, er mwyn datrys yn llawn y materion priffyrdd sy’n cael eu hadrodd.

 

Roedd Comisiynydd yr Heddlu yn cydnabod bod y pwynt olaf a wnaeth yr Aelod yn fater cyffredin a bod angen i’r naill sefydliad neu’r llall neu’r ddau ar y cyd gymryd unrhyw gamau a oedd yn ofynnol a delio ag unrhyw broblem neu g?yn, yn hytrach na bod hyn yn syrthio rhwng dwy stôl a ddim yn cael ei ddatrys gan y naill na’r llall. O ran Troseddau Casineb, roedd problem erbyn hyn o ran yr hyn a oedd yn dderbyniol o ran gosod ar lwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol, er enghraifft, y ‘We Dywyll’ a oedd wedi deillio dramor.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Gomisiynydd bod yr Heddlu’n canolbwyntio o ddifrif ar droseddau/digwyddiadau casineb. Roedd rhywfaint o waith Craffu wedi cael ei wneud o ran sut roedd data’n cael ei gofnodi er mwyn gwella lefelau cywir o ddigwyddiadau, er mwyn cymryd camau i wella dulliau o ddelio â’r rhain. Roedd rhagor o waith wedi cael ei wneud hefyd gyda Llywodraeth Cymru ar droseddau Casineb/Hil. Roedd menywod 27 gwaith yn fwy tebygol o wynebu troseddau casineb na dynion. Roedd yr Heddlu’n gwneud rhywfaint o waith hefyd gyda dau ddarparwr partneriaeth allweddol ac fel rhan o’r gwaith hwn, roedden nhw’n bwriadu ymgynghori ag amrywiaeth o wahanol grwpiau cymunedol a phartneriaid. Ychwanegodd y byddai’n fuddiol pe bai rhai Aelodau etholedig yn rhan o hyn hefyd.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio fod Cynllun Gweithredu newydd gael ei ryddhau gan Lywodraeth Cymru, yn dwyn yr enw LHDTC+. Gofynnodd i gynrychiolwyr yr heddlu pa waith a oedd wedi’i wneud i sicrhau bod homoffobia, casineb a rhagfarn yn erbyn menywod, deuffobia a thrawsffobia yn cael eu herio yn y gymuned ac yn y lluoedd, hynny yw, fel Heddlu De Cymru, er mwyn sicrhau, pan wneir ceisiadau am swyddi i’r Heddlu, eu bod yn cael eu hystyried nid yn unig yn ôl eu haeddiant eu hunain, ond hefyd gyda lefel o ddealltwriaeth a thosturi.

 

Dywedodd y Prif Gomisiynydd fod nifer o Swyddogion Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu iau erbyn hyn oherwydd yr ymgyrch recriwtio newydd. Roedd hyn yn golygu bod rhai o’r Swyddogion h?n wedi ymddeol a bod y broses recriwtio wedi cynnwys ymgeiswyr gyda rhai o’r agweddau a’r gwerthoedd hynny’n gadarn yn eu lle. Sicrhaodd fod y Prif Gwnstabl ac ef ei hun yn ymrwymo’n gadarn i ganfod enghreifftiau o’r uchod a delio a chael gwared arnyn nhw. Prif ethos yr Heddlu oedd ‘atal gweithredoedd o droseddu’, felly dyna pam roedd angen heddlu yn y lle cyntaf, gan ddileu arferion ac agweddau gwael sydd gan rai pobl mewn cymdeithas yn erbyn pobl eraill. Ychwanegodd fod Swyddogion yr Heddlu yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel PRIDE erbyn hyn, i hyrwyddo grwpiau fel hyn ac i helpu i frwydro yn erbyn unrhyw anrhefn a throsedd casineb.

 

Tynnodd Aelod sylw at y ffaith bod Syr Paul Stephenson wedi argymell, yn ôl yn 2009, nad oedd angen i ddau Swyddog fod ar batrôl yr heddlu. Fodd bynnag, gall Swyddogion Heddlu sydd ar eu pen eu hunain achosi rhywfaint o bryder, yn enwedig gyda grwpiau agored i niwed ac yn ystod oriau tywyll y gaeaf. Mae gennym ddarparwyr trafnidiaeth hefyd, hynny yw gorsafoedd rheilffordd a safleoedd bysiau cymunedol a gorsafoedd bysiau, lle mae rhai pobl yn teimlo yr un mor agored i niwed wrth ddefnyddio’r rhain fin nos neu’n hwyrach gyda’r nos. Gofynnodd a oedd unrhyw waith partneriaeth yn digwydd a allai fynd i’r afael â materion fel hyn.

 

Cadarnhaodd y Prif Gomisiynydd fod plismona unigol yn fater gweithredol sy’n cael ei ystyried gan Brif Gwnstabl yr Heddlu. Roedd angen cael cydbwysedd o ran y pwynt sydd newydd ei wneud, hynny yw, er enghraifft, pe byddai dau Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gweithio gyda’i gilydd mewn un lleoliad penodol, byddai hyn yn golygu na fyddai un ohonyn nhw ar gael i batrolio ardal arall o’r gymuned honno. Gellid edrych ar hyn wedyn fel dull lle nad oedd yr Heddlu’n defnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw’n llawn. Fodd bynnag, o ran y mater a godwyd ynghylch trafnidiaeth, roedd cynrychiolwyr o Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar y Tasglu ac ar lefel Cymru gyfan, felly cadarnhaodd y byddai’n codi’r mater hwn gyda nhw. Gan edrych mwy ar ddiogelwch cymunedol yn gyffredinol, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu fod yr Heddlu’n gweithio’n barhaus gydag awdurdodau lleol, gyda’r nod o wneud strydoedd yn fwy diogel, yn enwedig i fenywod a phobl iau. Roedd hyn yn cynnwys mewn prif ganolfannau trafnidiaeth, safleoedd bysiau a gorsafoedd bysiau/rheilffyrdd.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y drafodaeth a gafwyd yn y cyfarfod, cliciwch https://www.youtube.com/watch?v=qxof4BJzoI8.

 

Gan fod hyn yn dod â sylw i’r eitem hon i ben, gan gynnwys y sesiwn holi ac ateb, diolchodd y Maer i gynrychiolwyr yr Heddlu am fynychu cyfarfod y Cyngor, ac ar ôl hynny, gadawodd y cyfarfod. 

     

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cyngor yn nodi’r adroddiad a’r cyflwyniad a gafwyd gan gynrychiolwyr Heddlu De Cymru. 

    

Dogfennau ategol: