Agenda item

Deddf Trwyddedu 2003 - Cymeradwyo cyhoeddi Asesiad Effaith Gronnol - canol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir adroddiad, yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo cyhoeddi Asesiad Effaith Gronnol ar gyfer Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Adroddwyd ar y mater hwn i’r Cabinet i’w nodi ar 20 Mehefin 2023.

 

Yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr 2019, cymeradwyodd y Cyngor gyhoeddi Asesiad Effaith Gronnol ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr i lywio’r broses o wneud penderfyniadau yn Natganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor.  Daeth yr Asesiad i ben ym mis Rhagfyr 2022.

 

Mae effaith cyhoeddi’r asesiad yn bwysig, ac mae’n ei gwneud yn glir i ddarpar ymgeiswyr fod yr awdurdod trwyddedu o’r farn bod nifer y lleoliadau mewn ardal benodol yn golygu ei bod yn debygol y byddai rhoi trwyddedau pellach yn anghyson â dyletswydd yr awdurdod i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. 

 

Cafodd copi o’r asesiad ar gyfer 2019 i 2022 ei atodi yn Atodiad A yr adroddiad.  Dechreuodd adolygiad yn 2022 ac mae Heddlu De Cymru wedi gofyn bod yr asesiad yn aros ar ei ffurf bresennol, ac mae’r manylion wedi’u hatodi yn Atodiad B. Mae enwau’r lleoliadau wedi cael eu tynnu o’r Atodiad hwn.

 

Dechreuodd adolygiad yn dilyn cais gan Heddlu De Cymru.  Roedd yn cynnwys ymgynghoriad statudol yn unol ag Adran 5 Deddf Trwyddedu 2003 ac ymgynghoriad cyhoeddus.  Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 14 Rhagfyr 2022 a 8 Mawrth 2023.  Pwrpas yr ymgynghoriad oedd casglu tystiolaeth ar y problemau a geir er mwyn llywio’r broses o fabwysiadu’r asesiad effaith gronnol ar gyfer y cyfnod nesaf o dair blynedd.  Gan fod gan yr asesiad y potensial i atal unrhyw eiddo trwyddedig newydd mewn ardal, rhaid i’r Cyngor nodi’r sail dystiolaethol dros fabwysiadu polisi o’r fath.  Rhaid iddo fod yn fodlon bod nifer yr eiddo trwyddedig yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyrraedd pwynt mor gritigol y byddai rhoi trwyddedau pellach yn anghyson â dyletswydd yr awdurdod i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu.  

 

Ar hyn o bryd mae’r asesiad yn berthnasol i’r strydoedd canlynol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr

 

           Stryd y Farchnad;

           Heol y Dderwen;

           Stryd Wyndham;

           Stryd Nolton (o’i chyffordd â Heol Ewenni, i’w chyffordd â Heol Merthyr Mawr, ond nid yr ardal rhwng Heol Merthyr Mawr a’r gyffordd â Heol y Llys Pen-y-bont ar Ogwr).

 

Roedd Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod cynnydd o 34% mewn troseddu ac anhrefn yn ystod cyfnod economi’r nos yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dylai fformat yr asesiad gynnig tystiolaeth, gan nodi’r ystadegau a’r dystiolaeth o’r problemau drwy ymgynghori lleol.   Cafodd asesiad drafft ei atodi yn Atodiad C yr adroddiad.  Roedd hyn yn cynnwys data Heddlu De Cymru a oedd yn cynnwys troseddau a gofnodwyd yn yr ardal, a digwyddiadau yn yr ardal.

 

Gofynnodd Aelod sut roedd yr Awdurdod Trwyddedu wedi sicrhau bod deiliaid trwyddedau mewn safleoedd yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir fod hyn yn cael ei fonitro drwy archwiliad gan Swyddogion Gorfodi’r Cyngor ar y cyd â thîm Gorfodaeth Heddlu De Cymru.

 

Gofynnodd Aelod a oedd gan staff Rheoli Drysau mewn eiddo trwyddedig gyswllt radio â’i gilydd o hyd drwy radios llaw symudol er mwyn helpu ei gilydd pe bai ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd mewn eiddo o’r fath.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir y byddai’n gwirio’r pwynt hwn ac yn anfon ateb at yr Aelod y tu allan i’r cyfarfod.

 

Teimlai Aelod y byddai o fudd i ganol trefi pe byddai Gorchmynion Cyhoeddus yn cael eu rhoi ar waith eto er mwyn atal yfed alcohol ar strydoedd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Tai, Cynllunio ac Adfywio fod y math hwn o Orchymyn yn anodd iawn ei orfodi, a dyna pam nad oedden nhw’n bodoli mwyach.

 

Teimlai Aelod, er ei bod yn fuddiol edrych ar sefyllfa’r economi yn ystod y nos yng nghanol trefi, y dylid edrych hefyd ar yr economi yn ystod y dydd er mwyn hybu mewnfuddsoddi.

 

Ychwanegodd Aelod fod angen i’r gwasanaethau rheoleiddio hefyd edrych ar ymddygiad meddw yn ystod y dydd yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, oherwydd nid dim ond gyda’r nos/yn oriau mân y diwrnod canlynol roedd hyn i’w weld bob tro.

 

Daeth yr Arweinydd â’r drafodaeth i ben, drwy gadarnhau y byddai’n mynd i’r afael â rhai o’r pwyntiau uchod, yn enwedig y rhai a oedd yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gyda’r Heddlu fel rhan o’r Fenter gydweithredol Strydoedd Mwy Diogel. 

 

PENDERFYNWYD:                Bod y Cyngor yn cymeradwyo cyhoeddi asesiad effaith gronnol ar gyfer Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a fydd yn cael ei gynnal o 21 Mehefin 2023 i ddiwedd y Datganiad Polisi Trwyddedu cyfredol ym mis Rhagfyr 2024.  Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal yn y strydoedd canlynol:

 

                                                Stryd y Farchnad

                                                Heol y Dderwen

 Stryd Wyndham                                                 Stryd Nolton (o’i chyffordd â Heol Ewenni, i’w chyffordd â Heol Merthyr Mawr, ond nid yr ardal rhwng Heol Merthyr Mawr a’r gyffordd â Heol y Llys Pen-y-bont ar Ogwr).

 

Dogfennau ategol: