Agenda item

Alldro Cyllideb Refeniw 2022-23

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor am berfformiad ariannol refeniw’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023.

 

Dywedodd fod y Cyngor, ym mis Chwefror 2022, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £319.5m ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-2023. Oherwydd addasiad technegol yn y setliad terfynol, cafodd setliad y Cyngor ei gynyddu £4,336 a rhoddwyd gwybod i’r Cyngor am hyn ar 9 Mawrth 2022. 

 

Cafodd y sefyllfa alldro derfynol ar gyfer 2022/2023 ei dangos yn Nhabl 1 yr adroddiad. Yr alldro cyffredinol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf yw tanwariant net o £2.057m, ac mae hwn wedi cael ei ddefnyddio i ategu’r cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi, yn bennaf i ategu’r gronfa costau byw ar gyfer pwysau y gwyddom amdanyn nhw yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae’r tanwariant yn fach o’i gymharu â’r gyllideb net gyffredinol (0.6%) ar gyfer 2022/2023, ac felly ni wnaed unrhyw drosglwyddiadau i gronfa’r cyngor.

 

O fewn y sefyllfa alldro, roedd cyllidebau cyfarwyddiaethau wedi gorwario swm net o £8.2 miliwn ond roedd tanwariant net o £9.5 miliwn yng nghyllidebau’r cyngor cyfan. Mae’r sefyllfa alldro hefyd yn ystyried yr incwm ychwanegol o’r dreth gyngor a gasglwyd dros y gyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Roedd blwyddyn ariannol 2022/23 yn un anodd i’r Cyngor yn ôl y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid. Roedd y tanwariant cyffredinol yng nghyllideb y cyngor yn cuddio’n sylweddol y pwysau sylfaenol ar y gyllideb a gofnodwyd yn ystod y flwyddyn. Mae’r prif bwysau ariannol ym meysydd gwasanaeth gwasanaethau cymdeithasol a lles, digartrefedd, a chludiant rhwng y cartref a’r ysgol.

 

Yn ystod 2022-2023 gwelodd y gwasanaethau cymdeithasol bwysau sylweddol i gyflawni dyletswyddau statudol yn erbyn cynnydd cyflym yn y galw am ofal cymdeithasol i blant a chynnydd yn nifer y lleoliadau preswyl annibynnol mewn gwasanaethau plant, ochr yn ochr â phwysau mewn anableddau dysgu a lleoliadau preswyl i bobl h?n. Bydd angen i’r cyngor roi ystyriaeth bellach i’r adnoddau cynaliadwy sydd eu hangen yn benodol mewn gwasanaethau plant i wella ansawdd y canlyniadau i blant a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae’r cyngor wedi gweld cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth llety dros dro i gefnogi unigolion sy’n ddigartref. Cafodd gyllid grant gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf i gefnogi’r gwasanaeth hwn, ond roedd £2.5m o hyn yn swm a oedd ond yn cael ei roi unwaith. Mae hwn yn wasanaeth arall lle bydd angen monitro ariannol gofalus yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

Ar ben hynny, roedd yn rhaid i’r cyngor fynd i’r afael â phwysau cyllido yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf mewn perthynas â chostau cyflogau a phrisiau na ragwelwyd yn gynharach yn y flwyddyn. Cafodd aelodau etholedig eu briffio ar y pwysau yn ystod y flwyddyn yn ystod tymor yr hydref y llynedd. Mae’r pwysau hyn yn debygol o barhau yn y flwyddyn gyfredol ac felly mae arian wedi cael ei gario ymlaen i gwrdd â’r pwysau hynny.

 

Daeth Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru, a oedd yn cefnogi awdurdodau lleol yn ystod cyfnod y pandemig, i ben ar 31 Mawrth 2022. Fodd bynnag, roedd awdurdodau lleol yn parhau i weinyddu pedair elfen o’r cyllid hwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae manylion hyn i’w gweld yn Nhabl 2 yn adroddiad heddiw, ac roedd cyfanswm yr hawliad a wnaed yn 2022 - 23 yn £6.2m.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y gofynion arbedion ar gyfer y cyfnod cyn 2022/2023 a’r rhai a nodwyd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Cafodd y rhain eu nodi yn adran 3.2 yr adroddiad.

 

Mae llawer iawn o wybodaeth yn adran 3.3 yr adroddiad sy’n manylu ar y sefyllfa ar gyfer pob prif faes gwasanaeth. Mae sefyllfa ariannol llawer o’r gwasanaethau hyn wedi cael ei nodi drwy gydol y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Er bod rhai materion sy’n ymwneud yn benodol â gwasanaeth, adroddwyd ar arbedion yn yr holl gyllidebau refeniw mewn perthynas â swyddi gwag staff. Yn ystod y flwyddyn, mae llawer o wasanaethau wedi methu â llenwi swyddi gwag ar bob lefel er gwaethaf hysbysebu’r swyddi ar sawl achlysur. Mae Cyfarwyddiaethau’n parhau i edrych ar sut y gellir llenwi’r swyddi gwag hyn i gynnal lefelau gwasanaeth, felly nid yw’r arbedion hyn yn debygol o barhau yn y flwyddyn ariannol hon.

 

O ran cyllideb ehangach y cyngor, mae rhywfaint o fanylion yn Nhabl 1 yn yr adroddiad ynghylch y rhain. Mae’r llinell Cyllidebau Corfforaethol eraill yn dangos tanwariant o £5.9m. O fewn hyn mae tanwariant yn erbyn cyllideb dileu swyddi, cyflogau a phrisiau (mae hyn wedi’i ddyrannu’n llawn ar gyfer y flwyddyn bresennol), cyllideb wrth gefn a’r cyllid Covid y cytunwyd arno yng nghyllideb 2022/23 pan nad oeddem yn gwybod beth oedd effaith ariannol y pandemig ar y Cyngor. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu fel rhan o'r broses cynllunio cyllidebau ar gyfer cyllideb refeniw 2024/2025.

 

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi y mae’r cyngor yn eu dal ar hyn o bryd. Yn ystod 2022/2023, roedd cyfarwyddiaethau wedi tynnu arian i lawr o gronfeydd wrth gefn penodol sydd wedi’u clustnodi, a chafodd y rhain eu hadrodd i’r aelodau drwy’r adroddiadau monitro chwarterol.  Cyfanswm terfynol yr arian a dynnwyd i lawr oedd £18.9m, a chafodd hyn ei grynhoi yn Nhabl 5 yr adroddiad.

 

Gyda thanwariant net o £2m yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf ynghyd â dirwyn rhai cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi nad oedd eu hangen mwyach, mae hyn wedi galluogi i roi cyllid yn ôl i rai cronfeydd wrth gefn. Y mwyaf arwyddocaol o’r rhain oedd £1.3m tuag at y gronfa costau byw, cyfraniad o £530,000 at gyfalaf ar gyfer gwaith adnewyddu a wnaed gan Cymoedd i’r Arfordir a symiau eraill i gefnogi mân waith ac astudiaethau dichonoldeb yn y flwyddyn newydd.

 

Darparwyd dadansoddiad llawn o’r symudiadau ar gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi ar 31 Mawrth 2023 yn Atodiad 4 yr adroddiad. Dylid nodi bod yr arian sydd gan y Cyngor mewn cronfeydd wrth gefn wedi disgyn £14m (ffigur net) dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa yn y blynyddoedd diwethaf pan oedd y cyngor yn gallu cynyddu ei gronfeydd wrth gefn oherwydd tanwariant yn y gyllideb refeniw. Cafodd y cyngor gymorth ariannol yn ystod y pandemig, ac nid yw nifer o’r grantiau y mae wedi’u cael ers blynyddoedd yn cael eu talu mwyach. Roedd y cyllid hwn yn cuddio’r pwysau mewn rhai meysydd gwasanaeth, sy’n cael ei adlewyrchu yn y sefyllfa alldro ar gyfer 2022/2023. Bydd yn rhaid monitro’r sefyllfa hon yn ofalus yn y dyfodol gan na ellir ariannu gwasanaethau o gronfeydd wrth gefn yn y tymor hwy.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet – Cyllid, Adnoddau a Chyfreithiol y £2m i gefnogi’r pwysau Costau Byw, ond gofynnodd am rywfaint o sicrwydd bod y tanwariant yn y gyllideb Sylfaen Gorfforaethol ar gael os oes angen, i dalu am rwymedigaethau’r Cyngor wrth symud ymlaen.

 

Ailadroddodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod rhywfaint o’r tanwariant yn ymwneud â chostau Cyflogau a Chwyddiant na roddwyd cyfrif amdanynt yng nghyllideb y flwyddyn ariannol ddiwethaf, er y byddai’r costau hyn yn cael eu hymgorffori yn yr MTFS yn ystod y flwyddyn gyfredol. Felly, byddai angen y dyraniad yn llawn.

 

Ychwanegodd fod tystiolaeth o hyd o’r argyfwng costau byw ac efallai y bydd mwy o geisiadau am gymorth ar gyfer y rhan honno o’r gyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol. Byddem felly’n edrych yn ofalus iawn ar ein cyllidebau canolog er mwyn canfod a oes angen i ni wneud unrhyw addasiadau i’r rhain yn y dyfodol.

 

Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, er eu bod yn nodi’r pwysau ariannol o £8.174m, fod yr Awdurdod hyd yma wedi gorwario bron £11m mewn Gwasanaethau Plant, a oedd, fel yr oedd yr Aelodau’n ymwybodol, yn wasanaeth statudol a bod yn rhaid i’r awdurdod lleol ei ddiwallu er mwyn cefnogi’r heriau ariannol hyn yn llawn.

 

Mynegodd Aelod ei bryder ynghylch lefel y swyddi gwag yng Nghyfarwyddiaethau’r Cyngor nad oedden nhw’n cael eu llenwi ar hyn o bryd, er bod modd yn y gyllideb i lenwi’r swyddi hyn.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod Strategaeth Gweithlu’r Cyngor wedi rhoi cyfrif am hyn a bod nifer amrywiol o gynigion y byddai’r Awdurdod yn ceisio eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â hyn. Roedd y rhain yn cynnwys, ymysg eraill, recriwtio o’r tu mewn, gan gynnwys drwy’r cynllun prentisiaeth ac edrych ar radd swyddi lle’r oedd marchnad gystadleuol iawn, fel ym maes Gofal Cymdeithasol.  

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cyngor yn nodi sefyllfa’r gyllideb alldro refeniw ar gyfer 2022/23.

 

Dogfennau ategol: