Agenda item

Alldro Rhaglen Gyfalaf 2022-23

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am sefyllfa alldro cyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-2023 ac i nodi’r dangosyddion Darbodus a dangosyddion Eraill gwirioneddol ar gyfer 2022/2023.

 

Dywedodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo cyllideb gyfalaf o £69.9m ar gyfer 2022/23 ar 23 Chwefror 2023 fel rhan o’r rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2022/23 i 2031/32. Mae’r rhaglen hon wedi cael ei diwygio a’i chymeradwyo gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn, ac roedd cyfanswm y rhaglen a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2023 yn £58.4m.

 

Roedd y rhaglen i gael ei chyflawni gyda £21.8m o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys defnyddio derbyniadau cyfalaf, cyfraniadau o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi, a benthyciadau. Byddai balans o £36.5m yn cael ei gyllido o ffynonellau allanol.

Nodwyd manylion y cynlluniau unigol a oedd yn dangos y gyllideb a oedd ar gael y llynedd o’i gymharu â’r gwariant gwirioneddol yn Atodiad A yr adroddiad. Ers i’r adroddiad diwethaf gael ei ystyried gan yr aelodau ym mis Mawrth 2023, gwnaed rhai mân newidiadau i’r rhaglen a nodwyd y rhain ym mharagraff 3.1.2 yr adroddiad. Felly, esboniodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid mai’r gyllideb ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 oedd £58.76m.

 

Cyfanswm y gwariant cyfalaf yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf oedd £29.2m, ac ar ôl llithriant o £27.9m yn 2023/24 a rhai addasiadau i gynlluniau a ariennir gan grantiau, roedd hyn yn golygu tanwariant o £795,000.

 

Esboniodd fod llithriant wedi digwydd am nifer o resymau, gan gynnwys oedi cyn dechrau prosiectau er mwyn gallu cwblhau gwaith arolygu manylach, materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi, a thrafodaethau gyda chyllidwyr allanol. Cafodd aelodau wybod am y materion hyn yn ystod y flwyddyn. Rhoddwyd manylion y prif feysydd lle gwelwyd llithriant i’r Cyngor ym mharagraff 3.1.4 yr adroddiad.

Bydd y rhan fwyaf o’r tanwariant yn cael ei ddychwelyd i ddarpariaeth cyllid cyfalaf y Cyngor i gyfrannu at gynlluniau cyfalaf yn y dyfodol, ychwanegodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Strategaeth Cyfalaf yn rhoi trosolwg o sut mae gwariant cyfalaf, cyllid cyfalaf a gweithgarwch rheoli’r trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau, ynghyd â throsolwg o sut mae risg gysylltiedig yn cael ei rheoli, a’r goblygiadau ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau ein bod yn monitro hyn, cafodd nifer o ddangosyddion darbodus eu cynnwys yn y Strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor. Yn unol â gofynion y Cod Materion Ariannol ar gyfer Cyllid Cyfalaf, mae’n ofynnol i’r Cyngor sefydlu gweithdrefnau i fonitro perfformiad yn erbyn yr holl ddangosyddion sy’n edrych tua’r dyfodol a’r gofynion a nodir.

 

Daeth i ben drwy nodi bod Atodiad B yr adroddiad yn manylu ar y gwir ddangosyddion ar gyfer 2022/2023 ar sail alldro’r rhaglen gyfalaf. Roedd y rhain yn cadarnhau bod y cyngor yn gweithredu yn unol â'r dangosyddion cymeradwy.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 80 yr adroddiad a’r £1.115m o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a gofynnodd i’r Weithrediaeth a oedd yn wir mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr oedd yr unig awdurdod lleol sy’n rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i beidio â defnyddio’r gronfa hon yn 2022/23.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cabinet wedi ystyried yn ddiweddar ailedrych ar y ffordd y mae’n diogelu ei gyllid, gan gynnwys y ffyrdd y mae’n ymrwymo i brosiectau ac ati, yn y dyfodol. Ein hegwyddorion cyllideb ar hyn o bryd oedd peidio â chymryd rhan mewn prosiectau a chyfleoedd cyllido ac ati, nes y byddai unrhyw gyllid ar gyfer y rhain wedi’i ymrwymo’n llawn. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bob amser wedi bod yn ofalus ac yn ddarbodus o ran diogelu ei gyllid, ychwanegodd. Byddai unrhyw newid i’r uchod yn gofyn yn gyntaf am fabwysiadu dull amgen o ymdrin â rheolau a rheoliadau ariannol y Cyngor sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cyngor yn nodi’r Alldro Cyfalaf ar gyfer 2022/23 (Atodiad A i’r adroddiad) a’r Dangosyddion Darbodus gwirioneddol a Dangosyddion eraill ar gyfer 2022/23 (yn Atodiad B).

 

Dogfennau ategol: