Agenda item

Alldro Rheoli’r Trysorlys 2022-23

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a’i bwrpas yw cydymffurfio â gofyniad Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, i ddarparu trosolwg o weithgareddau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac adrodd ar Ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23.

 

Dywedodd mai gwaith Rheoli’r Trysorlys yw rheoli llifoedd arian, benthyciadau a buddsoddiadau’r cyngor, a’i risgiau cysylltiedig. Mae’r Cyngor yn agored i risg ariannol ac felly mae adnabod, monitro a rheoli’r risg honno’n llwyddiannus yn ganolog i reolaeth ariannol ddarbodus y Cyngor.

 

Cadarnhaodd fod strategaeth rheoli’r trysorlys ar gyfer 2022/2023 wedi’i chymeradwyo gan y Cyngor ar 23 Chwefror y llynedd.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cyd-destun economaidd a oedd yn sail i weithgarwch Rheoli’r Trysorlys y llynedd. Roedd y materion yn cynnwys:

 

  • Y rhyfel yn Wcráin a oedd yn cadw cyfraddau chwyddiant byd-eang yn uchel;
  • Roedd y cefndir economaidd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023 wedi’i nodweddu gan brisiau ynni a nwyddau uchel, chwyddiant uchel sydd wedi effeithio ar wariant a chyllidebau aelwydydd. Cododd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr i 10.1% yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2023;
  • Codwyd cyfraddau llog ar sawl achlysur yn ystod y flwyddyn er mwyn ceisio lleihau chwyddiant. Ar ddechrau’r flwyddyn roedd cyfraddau banc ar 0.75% gan gynyddu 8 gwaith yn ystod y flwyddyn i 4.25%, ar 31 Mawrth 2023.

 

Mae gweithgarwch Rheoli’r Trysorlys y Cyngor yn cael ei gyflawni yn unol â gofynion Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth , a chafodd ein gweithgarwch Rheoli’r Trysorlys eu hadrodd i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, y Cabinet a'r Cyngor drwy gydol 2022/2023.

 

Dangoswyd crynodeb o weithgareddau Rheoli’r Trysorlys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn Atodiad A yr adroddiad, ac roedd Tabl 1 yn yr adroddiad yn crynhoi sefyllfa’r Cyngor o ran Dyledion a Buddsoddiadau Allanol.

 

Felly, yn gryno, esboniodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid:

 

           Na chymerwyd dyledion hirdymor yn ystod y flwyddyn;

           Ni ailstrwythurwyd telerau unrhyw ddyledion yn ystod y flwyddyn gan nad oedd unrhyw fudd ariannol i’r Cyngor wrth wneud hyn. Byddai hyn yn cael ei adolygu yn ystod y flwyddyn gyfredol;

          Bu cynnydd bychan yn nifer y benthyciadau di-log Salix sydd gan y Cyngor;

           Cyfanswm gwerth y benthyciadau allanol y mae'r Cyngor yn ei reoli oedd £99.93m ar ddiwedd mis Mawrth 2023;.

           Roedd balans y buddsoddiadau ar ddiwedd y flwyddyn yn £74.5m, sy’n ostyngiad o £10 miliwn o’i gymharu â mis Mawrth 2022;

           Mae’r incwm sy’n cael ei ennill drwy’r buddsoddiadau’n cynyddu wrth i’r gyfradd sylfaenol gynyddu.

 

Wrth fuddsoddi arian y Cyngor, rhoddir sylw dyladwy i sicrhau diogelwch a hylifedd y buddsoddiadau cyn ceisio’r gyfradd enillion uchaf.

 

Yn olaf, eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod Cod Rheoli’r Trysorlys yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor osod ac adrodd ar nifer o ddangosyddion Rheoli’r Trysorlys. Roedd y dangosyddion naill ai’n crynhoi’r gweithgarwch disgwyliedig neu’n cyflwyno terfynau ar y gweithgarwch hwnnw. Roedd Atodiad A yr adroddiad yn dangos manylion yr amcangyfrifon ar gyfer 2022/23 a nodwyd yn Strategaeth Rheoli’r Trysorlys y Cyngor o’i gymharu â’r rhai gwirioneddol ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y manylion hyn yn dangos bod y Cyngor wedi gweithredu o fewn y terfynau cymeradwy drwy gydol y flwyddyn ariannol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet – Cyllid, Adnoddau a Chyfreithiol ei fod yn falch o gadarnhau bod y benthyciad roedd y Cyngor wedi’i roi i Gyngor Thurrock wedi’i dalu’n ôl yn llawn erbyn hyn, gyda llog o bron i £9k.

 

PENDERFYNWYD:                             Bod y Cyngor:

 

           Yn nodi gweithgareddau blynyddol y trysorlys ar gyfer 2022-23.

           Yn nodi gwir ddangosyddion rheoli’r trysorlys ar gyfer 2022/23 yn erbyn y rhai a gymeradwywyd yn strategaeth rheoli’r trysorlys ar gyfer y flwyddyn honno.

 

Dogfennau ategol: