Pwrpas yr adroddiad hwn oedd rhoi diweddariad
i’r Cabinet ar sefyllfa ariannol refeniw’r Cyngor fel
ar 30 Mehefin 2023 a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer unrhyw
drosglwyddiadau dros £100,000 sydd angen cymeradwyaeth gan y
Cabinet yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y
Cyngor.
Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a
Newid grynodeb o'r sefyllfa bresennol. Mae'r pwyntiau allweddol fel
a ganlyn:
- Y gyllideb refeniw net ar gyfer
2023-24 yw £342.334 miliwn. Y sefyllfa gyffredinol a ragwelir
ar 30 Mehefin 2023 yw gorwariant net o £9.727 miliwn.
- Mae'r gorwariant a ragwelir yn
bennaf oherwydd pwysau parhaus o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant ac ar y gyllideb Cludiant o'r Cartref i'r
Ysgol.
- Roedd y gyllideb a gymeradwywyd ar
gyfer 2023-24 yn cynnwys cynigion lleihau cyllideb gwerth cyfanswm
o £2.608 miliwn. Y sefyllfa bresennol yw diffyg rhagamcanol
ar y targed arbedion o £200,000, neu 7.67% o darged y
gostyngiad cyffredinol.
- Cynhaliwyd adolygiad trylwyr o'r
cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol
yn ystod chwarter 1 o 2023-24 sydd wedi nodi £3.067 miliwn o
gronfeydd wrth gefn y gellir eu datod i gyfrannu at risgiau sy'n
dod i'r amlwg i'r Cyngor cyfan yn ystod 2023-24. Roedd
£733,000 pellach o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gael
eu defnyddio ar gyfer cynlluniau tebyg.
- Mae’n rhy gynnar yn y flwyddyn
ariannol i roi syniad realistig o’r incwm rhagamcanol
o’r dreth gyngor ar gyfer eleni ac a yw’r Cyngor yn
debygol o weld gostyngiad yn ei incwm o’r dreth gyngor ai
peidio gan fod mwy o bobl wedi profi caledi ariannol oherwydd yr
argyfwng costau byw presennol, neu a fydd yr incwm ychwanegol y
dylid ei gasglu drwy gyflwyno premiymau Treth y Cyngor ar eiddo
gwag yn effeithio. Bydd hyn yn amlwg yn cael ei fonitro'n fanwl
iawn drwy gydol gweddill y flwyddyn hon.
Diolchodd Aelod y Cabinet dros Gyllid,
Adnoddau a Chyfreithiol i'r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a
Newid am yr adroddiad. Nododd fod yna orwariant sylweddol y
byddai'n rhaid mynd i'r afael ag ef ac y byddai angen gwneud
asesiad fforensig o'r pwysau a'r effaith lawn ar yr awdurdod.
Nododd ei fod wedi bod mewn cyfarfod
rhwydwaith aelodau cabinet cyllid ac er na roddodd fawr o gysur, ei
fod ychydig yn galonogol bod y pwysau hyn i'w cael ledled Cymru.
Nododd ei gefnogaeth i'r trosglwyddiadau a'r argymhelliad.
Cafwyd trafodaeth yn dilyn, wedi’i
hysgogi gan gyfres o gwestiynau gan Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch
Cymunedol a Llesiant, ynghylch taliadau uniongyrchol, p’un a
oedd teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd â phecynnau dyblyg
(h.y. taliadau uniongyrchol a phecynnau gofal cartref) ac os felly,
pam, a oedd y Cyngor yn hawlio taliadau uniongyrchol yn ôl os
nad oeddent wedi cael eu defnyddio, a’i bod yn ymddangos bod
gorwariant mewn rhai meysydd staffio a thanwariant mewn eraill.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad
a Newid fod y Cyngor yn adennill taliadau uniongyrchol nas
defnyddiwyd. Nododd hefyd fod tanwariant yn codi oherwydd swyddi
gwag er enghraifft, a gorwariant oherwydd pethau fel costau
asiantaeth. Fel y cyfryw, ffigur net yw’r ffigur ar gyfer y
gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft. Mae rhywfaint o
danwariant mewn rhai timau ar staffio, tra gall timau eraill fod yn
gorwario am amrywiol resymau.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
– Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, yn hytrach na chael
pecynnau dyblyg, fod rhai preswylwyr, yn dibynnu ar eu hanghenion,
yn derbyn pecynnau gofal cymysg.
Mynegodd Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr
Hinsawdd a'r Amgylchedd ei bryder ynghylch yr effaith negyddol y
gallai'r sefyllfa bresennol ei chael ar gyfarwyddiaethau eraill
megis Cymunedau. Apeliodd ar bob un swyddog o'r top i'r gwaelod,
ond yn bendant yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, i feddwl ddwywaith
bob tro y maent yn gwario arian.
Nododd y Dirprwy Arweinydd y byddai’n
rhaid i holl aelodau’r Cyngor wneud rhai penderfyniadau anodd
wrth symud ymlaen yngl?n â ble rydym yn gwario ein
cyllid.
Gofynnodd i’r Prif Swyddog –
Cyllid, Perfformiad a Newid a oedd ganddi unrhyw syniadau ynghylch
sut yr oedd Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud yng Nghymru o ran y
gorwariant ar wasanaethau cymdeithasol, ac a oedd y gorwariant yn y
gwasanaethau cymdeithasol oedolion a/ynteu plant.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog – Cyllid,
Perfformiad a Newid fod pob awdurdod yn adrodd am bwysau a bod
pryder ledled Cymru ynghylch gwariant gwasanaethau cymdeithasol, yn
y gwasanaethau i blant ac i oedolion.
Cydnabu'r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a
Newid, mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod y Cabinet dros y Newid yn
yr Hinsawdd a'r Amgylchedd, fod gorwariant mewn rhai achosion o
gwmpas 5%, ond bod rhai awdurdodau yn rhagweld hyd at 20% o
orwariant. Mae pob un yn dangos cynnydd canrannol yn eu cyllideb
eleni.
Tynnodd yr Arweinydd sylw at bum problem:
- y Gyllideb Cymorth i Ddysgwyr a'r
heriau yn ymwneud â lleoliadau y tu allan i'r awdurdod
oherwydd cynnydd yn y galw a diffyg lle yn Heronsbridge ac Ysgol
Bryn Castell. Mewn ymateb i hyn, dywedodd Pennaeth Addysg a
Chymorth i Deuluoedd eu bod yn ymwybodol iawn fod cynnydd wedi bod
mewn lleoliadau y tu allan i'r awdurdod ond fe wnaeth hi'n glir
hefyd fod yr ysgol yn lle Heronsbridge wedi'i chomisiynu ac y bydd
ynddi o gwmpas 40 o leoedd ychwanegol a 4 gwely preswyl
ychwanegol.
- Y gorwariant a ragwelir yn y
Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Rheoleiddiol sy’n
rhannol oherwydd gwasanaethau uwch gwnsler. Mewn ymateb, dywedodd y
Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau
Dynol a Pholisi Corfforaethol fod y gorwariant yn uniongyrchol
gysylltiedig ag achosion gofal plant a gymerwyd drwy broses y llys.
Mae'r ffioedd ar gyfer pob cais bellach yn fwy na £2000.
Mae'r achosion yn dod yn fwy cymhleth, sy'n golygu bod angen i'r
awdurdod gyfarwyddo uwch gwnsler i fod yn bresennol, weithiau gyda
gwrandawiadau llys hir iawn. At hynny, mae'r ffioedd ar gyfer
arbenigwyr yn cynyddu a chan mai cais awdurdod lleol ydyw, mae'r
llys yn teimlo y dylai unrhyw ddiffyg rhwng y ffioedd cymorth
cyfreithiol a ganiateir, a chost wirioneddol yr arbenigwr gael ei
dalu gan yr awdurdod lleol.
- Mewn rhai meysydd o wariant
gwasanaethau cymdeithasol, fel gofal cartref iechyd meddwl er
enghraifft, ceir cyfraniadau gan ein partneriaid, megis
Bwrdd Iechyd Prifysgol
Cwm Taf Morgannwg. Gofynnodd a ellid cadarnhau ein bod yn gwneud y
mwyaf o gyfraniad ein partneriaid. Mewn ymateb, cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant, o ran gwasanaethau iechyd meddwl, fod trefniant
sefydledig ar gyfer unigolion sydd ag anghenion iechyd a gofal
cymdeithasol a bod y costau’n cael eu rhannu 50/50. Mewn
meysydd eraill, gall gwaith gyda'r bwrdd iechyd fod ychydig yn fwy
dadleuol. Er enghraifft, mae gofal iechyd parhaus wedi bod yn faes
polisi cyhoeddus sydd wedi bod yn destun dadl ers blynyddoedd lawer
ac mae’r gweithlu ar y rheng flaen yn ceisio sicrhau y cedwir
at y ddeddfwriaeth a’r canllawiau ynghylch gofal iechyd
parhaus i oedolion a phlant, ond mae’n her.
- Credai y gallai fod angen ystyried
ac archwilio mater y ffioedd a'r taliadau a osodir ar unigolion.
Mewn ymateb, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol –
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod hwn yn faes rheoledig iawn
o ran polisi cyhoeddus a bod Llywodraeth Cymru yn gosod capiau o
ran y swm y gellir ei godi ar unigolion.
- Nododd y tanwariant ar ofal preswyl
iechyd meddwl a nododd ei bod yn hollbwysig bod tanwariant yn cael
ei gynyddu. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
– Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y gallai roi'r
sicrwydd hwnnw. Nododd hefyd y bu llwyddiant mawr yn yr awdurdod
hwn o ran cynorthwyo pobl i fyw mor annibynnol â
phosibl.
- Nododd y gorwariant ar ofal preswyl
annibynnol i blant a bod yr awdurdod lleol wedi buddsoddi mewn
darpariaeth newydd ym Mrynmenyn. Gofynnodd am ddiweddariad ar y
datblygiad hwnnw a chadarnhad bod yr awdurdod lleol yn ystyried
dewisiadau eraill i gynyddu’r gefnogaeth breswyl yr ydym yn
ei darparu yn y sir. Cafwyd diweddariad gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar
ddatblygiad Brynmenyn, gan nodi bod yr adeilad yn agos iawn at gael
ei drosglwyddo gan y contractwyr. Mae rheolwr wedi cael ei
recriwtio ac mae staff eraill wrthi'n cael eu recriwtio.
Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd mai'r lleoliad gorau i blant oedd
mewn uned deuluol. Ei phle oedd, os oeddech yn gwybod am unrhyw un
oedd eisiau maethu neu oedd yn ystyried hynny, cyfeiriwch hwy at y
wefan lle mae gwybodaeth ar gael.
Gorffennodd yr Arweinydd yr eitem hon ar yr
agenda drwy nodi bod angen bod hyd yn oed yn fwy gofalus yn awr
ynghylch y ffordd y defnyddir adnoddau ariannol ac felly byddai
Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cael ei gynnull fyddai’n edrych yn
benodol ar y pwysau a’r heriau ariannol o fewn y gwasanaethau
cymdeithasol ac yn ceisio darparu rhywfaint o gymorth ychwanegol
i’r gwasanaeth hwnnw yn ei daith barhaus o ailfodelu a rheoli
o fewn y cyfyngiadau ariannol y mae’r awdurdod lleol yn eu
hwynebu.
PENDERFYNWYD: Bod y
Cabinet:
·
yn nodi’r sefyllfa refeniw a ragwelir ar gyfer 2023-24;
ac
Yn cymeradwyo’r trosglwyddiadau dros
£100,000 fel yr amlinellwyd ym mharagraff 3.1.7.