Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Prif
Weithredwr a Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus.
Roedd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn:
- Cynigiai’r adroddiad Gynllun
Cyflawni newydd un flwyddyn i fonitro cynnydd yn erbyn y Cynllun
Corfforaethol.
- Mae’r Cynllun Cyflawni’n
mynd i’r afael â beirniadaeth a wnaed gan hunanasesiad
2022, adolygiad Archwilio Cymru o reoli perfformiad a chanfyddiadau
archwilio mewnol o archwiliad Dangosyddion Perfformiad (DP).
- Mae’r prif newidiadau yn
cynnwys:
-
Bod y 7 amcan llesiant yn cael eu hadlewyrchu’n gynhwysfawr
gan 44 nod, 101 o ymrwymiadau a 99 o Ddangosyddion Perfformiad
(DP).
-
Cael nodau clir y cytunwyd arnynt i roi manylion o dan bob amcan
llesiant a chynorthwyo’r Cyngor i fonitro cynnydd /
perfformiad yn effeithiol.
-
Cael dangosyddion perfformiad sy’n mesur cynnydd y Cyngor ar
ei nodau yn fwy effeithiol, sy’n canolbwyntio’n well ar
ganlyniadau, a rhai y gellir eu meincnodi.
-
Rhoi ffocws cryfach ar fesur Ffyrdd Newydd y Cyngor o
Weithio.
- Cynigir hefyd fframwaith perfformiad
drafft newydd.
- Mae'r adroddiad hefyd yn adlewyrchu
newidiadau a ddaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol
ar 3 Gorffennaf 2023.
Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a
diolchodd i'r tîm bychan oedd yn gyfrifol am ei ysgrifennu am
eu gwaith. Pwysleisiodd fod gweithredu yn dasg fawr.
Tynnwyd sylw at nifer o faterion yn y
drafodaeth a ddilynodd:
- Gofynnodd Aelod y Cabinet dros
Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol am ddiweddariad ar gynnydd o ran
rheoli perfformiad, mater a bwysleisiwyd gan Archwilio Cymru.
Ymatebodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus drwy
dynnu sylw at y llu o bethau yng nghynllun cyflawni'r cynllun
corfforaethol sydd wedi cael eu datblygu i fynd i'r afael â
pheth o'r feirniadaeth honno. Er enghraifft, nid oedd yr amcanion
llesiant wedi cael eu mesur yn llawn gan yr ymrwymiadau presennol
ond roedd llawer gwell sylw iddynt erbyn hyn. Mae'r nodau o dan bob
amcan llesiant wedi cael eu hegluro ac mae'r ymrwymiadau hynny wedi
cael eu datgysylltu oddi wrth y Dangosyddion Perfformiad. Roedd
ffocws hefyd ar fesurau allbwn a chanlyniadau a phethau sy'n
caniatáu cymhariaeth dros amser a’u cymharu ag eraill.
Yn ogystal, roedd y fframwaith perfformiad newydd. Ychwanegodd fod
ychydig o bethau wedi digwydd y tu allan i gynllun cyflawni'r
cynllun corfforaethol. Mae CPA bellach yn ystyried gwybodaeth
ychwanegol am staffio a chyllid yn y dangosfyrddau chwarterol.
Roedd traciwr rheoleiddio hefyd sy'n cael ei ystyried gan y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bob chwe mis. Roedd rhywfaint o
hyfforddiant wedi cael ei gynllunio hefyd ar gyfer yr holl staff
sy'n gysylltiedig â pherfformiad ar draws y sefydliad a
sesiwn cynllun corfforaethol i'r holl staff ym mis Medi. At hynny,
mae'r cynllun corfforaethol a rheoli perfformiad yn rhan o
hyfforddiant sefydlu staff a rheolwyr.
- Bu Aelod y Cabinet dros Dai,
Cynllunio ac Adfywio yn trafod a oedd pawb yn deall y cynllun hwn
ar bob lefel o'r sefydliad ac a oedd cefnogaeth iddo. Mewn ymateb,
tynnodd y Prif Weithredwr sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â
staff. Caiff sesiynau briffio staff eu trefnu ym mis Medi, ond ceir
cyfathrebu rheolaidd hefyd yngl?n â’r cynllun. Y dasg
allweddol fyddai ei wneud yn berthnasol i waith pawb, er mwyn i
bawb deimlo bod yr amcanion yn berthnasol iddynt, pa swydd bynnag y
maent yn ei gwneud. Pwysleisiodd hefyd fod hwn yn ddarn o waith
diwylliannol, yn rhan o sut yr ydym yn cyflawni perfformiad cryf ar
draws yr awdurdod. Byddai elfen o friffio, hyfforddiant, cyfathrebu
ac ymgysylltu parhaus.
- Gan adeiladu ar hyn, pwysleisiodd
Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd
bwysigrwydd sicrhau bod y cynllun yn golygu rhywbeth i
aelodau’r staff sy'n gweithio allan yn ein cymunedau.
- Holodd y Dirprwy Arweinydd ynghylch
dangosyddion perfformiad a pham yr oedd ar COSC eisiau i'r
sefydliad symud ymlaen ychydig yn wahanol. Nododd y Rheolwr Polisi
Corfforaethol a Materion Cyhoeddus eu bod wedi mynd dipyn o bellter
i lawr y ffordd honno. Roedd yn newid mawr, yn un lle roedd diffyg
eglurder ynghylch sut y gallai amcanion a chanlyniadau allweddol
weithio i awdurdod lleol ag ystod mor eang o wasanaethau. Dywedodd
y byddent yn rhoi mwy o ystyriaeth i hynny dros y flwyddyn i ddod.
Nododd hefyd ei bod yn debygol nad oes ganddynt y gallu na’r
arbenigedd angenrheidiol yn y tîm i wneud hynny. Bu ffocws ar
argymhellion Archwilio Cymru ar wella ymrwymiadau a Dangosyddion
Perfformiad Allweddol i gydweddu’n well â’r
amcanion llesiant a gwella ansawdd a chywirdeb data. Roedd
ymrwymiad hefyd i wneud cymariaethau dros amser ag awdurdodau
eraill ac ni ellid gwneud hynny gyda dull cwbl newydd.
PENDERFYNWYD: Bod y
Cabinet:
- wedi ystyried a chytuno ar ddrafft
cyntaf Cynllun Cyflawni’r Cynllun Corfforaethol 2023/24 yn
Atodiad 1.
wedi ystyried a chytuno ar y Fframwaith
Perfformiad Corfforaethol wedi'i ddiweddaru yn Atodiad 2 a sut orau
i ddefnyddio'r ddogfen ar draws y Cyngor.