Agenda item

Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai (Strategaeth Digartrefedd) 2022 - 2026, Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym a Phrosbectws Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid a Phennaeth Partneriaethau. Roedd ei bwrpas fel a ganlyn:

 

  • Gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth ddrafft y Rhaglen Cymorth Tai, ar gyfer 2022 – 2026. Bydd y ddogfen hon yn disodli Strategaeth Ddigartrefedd bresennol CBSP 2018-2022. Mae cael y strategaeth hon ar waith yn un o ofynion Llywodraeth Cymru.
  • Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a chyflwyno Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym a Phrosbectws Tai i Lywodraeth Cymru. Unwaith eto, mae’r ddwy ddogfen hon yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru, ond nid oes angen ymgynghoriad cyhoeddus arnynt, fel ag y mae ar y Strategaeth y cyfeiriwyd ati uchod.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio yr adroddiad a diolchodd i’r tîm tai “bychan ond penderfynol iawn” ym Mhen-y-bont ar Ogwr am yr holl waith oedd wedi cael ei wneud i’w gynhyrchu. Aeth ymlaen i nodi bod pwysau sylweddol ar dai a digartrefedd o fewn Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd dros 2500 o bobl ar y gofrestr tai gyffredin, dros 250 o bobl mewn llety dros dro yn disgwyl am gartrefi ac mae 51% o’r llety dros dro hwnnw mewn llety twristiaid ar hyn o bryd.

 

Nododd ymhellach ei fod wedi gofyn i'r tîm am gynllun ymgysylltu ar gyfer yr ymgynghoriad 12 wythnos. Roedd yna brofiadau bywyd go iawn yr oedd angen eu clywed ac roedd angen sicrhau bod Cyd-aelodau mewn pwyllgorau craffu ac ar draws y Siambr yn teimlo eu bod wedi cael eu clywed ac wedi cael gwrandawiad.

 

Adleisiodd yr Arweinydd y gwerthfawrogiad o'r gwaith a wnaed gan y tîm Tai. Nododd mai nhw oedd y bobl oedd yn delio'n ddyddiol â'r cyflwyniadau yr oedd y Cyngor yn eu derbyn gan bobl oedd yn ddigartref ac oedd mewn dirfawr angen am ein cymorth.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd ei bod wedi cael ei chalonogi gan yr adroddiad a thynnodd sylw'r Aelodau at farn y rhanddeiliaid. Roedd nifer o randdeiliaid yn canmol nifer ac amrywiaeth y llety â chymorth sydd ar gael yn y Fwrdeistref, ond roedd angen mwy o ddewisiadau. Roedd hi hefyd yn meddwl mai un o'r dewisiadau y mae angen tynnu sylw ato yw ein plant sy'n derbyn gofal. Roedd angen elfen o ofal a chymorth hefyd, ac roedd hynny’n bwysau pellach ar gyllidebau.

 

Amlygodd yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd nifer o faterion arwyddocaol eraill fel rhan o’r drafodaeth ynghylch yr eitem hon ar yr agenda, gan gynnwys y canlynol:

 

  • Gwerth cyfweliadau strwythuredig i gasglu profiadau rhanddeiliaid.
  • Gwerth dulliau aml-asiantaeth a phartneriaeth o ddarparu gwasanaethau a chymorth i ddinasyddion Pen-y-bont ar Ogwr (ac yn arbennig, ar gyfer y rhai sy'n cysgu allan). 
  • Y cynnydd mawr yn nifer y teuluoedd ar y Gofrestr Tai Cyffredin – cynnydd o 205% ers 2016.
  • Pwysigrwydd yr asesiad o anghenion y boblogaeth a ph’un a oedd yn cael ei gymryd o ddifrif gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
  • Weithiau roedd llun yn cael ei greu o bwy oedd angen tai a phwy oedd yn ddigartref, ac nid oedd hynny'n wir bob amser. Roedd dros gant o geisiadau ar y gofrestr tai gyffredin ar hyn o bryd ar gyfer pobl oedd eisiau llety gwarchod, felly nid yw bob amser yn wir bod y digartref yn bobl ifanc sengl. Yn anffodus, mae ystod amrywiol iawn o bobl yn ddigartref.
  • Yn gynyddol, ceir cyflwyniadau gan bobl sydd wedi dod yn ddigartref ac yn anffodus, nid ydynt wedi cysylltu â CBSP cyn gynted â phosibl. Roedd yn hanfodol, os oedd rhywun wedi derbyn hysbysiad troi allan, bod angen iddynt gysylltu â'r Cyngor ar unwaith oherwydd efallai y byddai modd eu cynorthwyo.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Cabinet:

 

  • yn cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y Strategaeth Ddigartrefedd a'r Cynllun Gweithredu drafft (Atodiadau 1 a 4).
  • yn cymeradwyo cyflwyno'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym (Atodiad 2) a'r Prosbectws Tai (Atodiad 3) i Lywodraeth Cymru.

yn nodi y bydd y Strategaeth Ddigartrefedd a'r Cynllun Gweithredu terfynol yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet i'w cymeradwyo cyn eu cyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ategol: