Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Mark Wilkinson - Rheolwr Grwp - Anabledd Dysgu, Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau
Glynis Evans – Rheolwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol
Robert Goodwin - Rheolwr Gr?p Gwasanaeth, Gwasanaethau Iechyd Meddwl – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi'r cyd-destun strategol a gweithredol y mae’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion yn cael eu darparu ynddo yn y Fwrdeistref Sirol a gofyn i'r Pwyllgor roi sylwadau ar gyfeiriad y gwasanaethau i’r dyfodol.
Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Y llwybr atgyfeirio i’r Tîm Gofal Cymdeithasol ac Adfer, y cyfnod ymyrraeth nodweddiadol a’i bwysigrwydd fel tîm ymyrryd yn gynnar ac atal.
· Y cynnydd nodedig yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer pobl ifanc ar y sbectrwm awtistig, y Cod Ymarfer ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth yng Nghymru a chynllun hyfforddi’r Awdurdod.
· Digwyddiadau hacathon lleol ac addasiadau i wella gwasanaethau a chyfathrebu ar gyfer pawb sydd â chyflyrau niwroamrywiol.
· Cyd-arolygiad cadarnhaol ar y cyfan Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol y Gogledd a'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella ac arfer gorau.
· Mewn perthynas â’r Gwasanaeth Cynorthwyo Adferiad yn y Gymuned:
- Y mathau o gyrsiau therapiwtig a chwnsela sydd ar gael;
- esblygiad y gwasanaeth;
- proffil oedran a rhesymau pobl dros ddefnyddio'r gwasanaeth; a
- cgasglu profiadau ac adborth defnyddwyr y gwasanaeth.
· Y rhestrau aros presennol ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a rôl ysgolion a cholegau mewn gwneud atgyfeiriadau.
· Llwyddiant yr Encil Les, y potensial i ehangu'r gwasanaeth, a’r themâu sy'n effeithio ar ddefnyddwyr.
· Digonolrwydd cyllid ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl statudol, buddsoddiad wedi'i dargedu mewn Gwasanaethau Atal a Lles i atal yr angen rhag cynyddu ymhellach i wasanaethau eilaidd, a phwysigrwydd llwythi achosion diogel a hydrin.
· Gwella cyfathrebu o amgylch Iechyd Meddwl a lleihau stigma.
· Datblygu Strategaeth Iechyd Meddwl Ranbarthol ac unrhyw newidiadau a ragwelir i'r Strategaeth Dros Dro yn dilyn cyhoeddi'r Strategaeth Genedlaethol newydd.
· Y gynulleidfa darged ar gyfer y Strategaeth Dros Dro, pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a'r camau a gymerwyd i hybu'r gwasanaethau sydd ar gael.
· Ffynhonnell ac arwyddocâd y gwerthoedd a'r egwyddorion a nodir yn y Strategaeth Interim a'r Codau Ymarfer Proffesiynol.
· Cyflwyno hyfforddiant a nodwyd a’i hygyrchedd, a sut mae'r Gwasanaeth yn gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd cwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd, os nad oedd eu hangen ar gyfer yr eitem nesaf, eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r Swyddogion ac Aelodau'r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhelliad canlynol:
a gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:
2. Data’n ymwneud â’r cynnydd nodedig yn nifer y bobl ifanc ar y sbectrwm awtistiaeth sy’n cael eu cyfeirio at y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a chopi o’r Cod Ymarfer presennol ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth yng Nghymru.
3. Bod gwybodaeth am y llwybr at eiriolaeth annibynnol i oedolion yn cael ei chylchredeg i bob Aelod er mwyn eu galluogi i gyfeirio etholwyr y mae arnynt angen eiriolaeth.
Gwasanaeth Cynorthwyo Adferiad yn y Gymuned (ARC)
4.
a) Gwybodaeth am y mathau o gyrsiau sydd ar gael gan ARC;
b) Gwybodaeth am y ffordd y mae’r gwasanaeth wedi esblygu ac addasu yn y blynyddoedd diwethaf;
c) Data yn dangos amrediad oedran yr unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth, y rhesymau pam ac ymyriadau’r gwasanaeth gyda hwy; ac
Achosion enghreifftiol o waith sydd wedi cael ei wneud ar lefel unigolion a grwpiau yn y 12 mis diwethaf.
Dogfennau ategol: