Agenda item

Hysbysiad o Gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorydd

Cynnig i’w Drafod: Tuag at system fwy cynaliadwy a gwydn o gyllido llywodraeth leol

 

Mae’r Cyngor yn:

 

           Nodi bod methiant cyson, sylweddol wedi bod i gyllido llywodraeth leol yn gywir;

 

           Nodi bod sefyllfa cyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol yn heriol, ac y bydd gostyngiadau sylweddol pellach i'r gyllideb yn debygol iawn dros gyfnod y strategaeth ariannol tymor canolig, a fydd yn cael effaith negyddol ar ddarpariaeth gwasanaethau craidd a llesiant ein trigolion;

 

           Galw ar y llywodraeth ganolog i weithredu fformiwla gyllido decach a symlach sy’n rhoi diwedd ar y gyfres o setliadau un flwyddyn ad hoc a cheisiadau cystadleuol wedi’u clustnodi;

 

           Galw ar y llywodraeth ganolog i ystyried dichonoldeb symud tuag at system fwy cynaliadwy a gwydn o gyllido llywodraeth leol, sy’n:

 

(1)       ailddosbarthu cyllid rhwng awdurdodau lleol yn fwy unol ag asesiad o anghenion; ac

(2)        yn neilltuo canran osodedig o refeniw treth genedlaethol i awdurdodau lleol.

 

           Galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn sefydlog ffurfiol i weithredu fel cyswllt rhwng llywodraeth leol a llywodraeth ganolog er mwyn ystyried unrhyw bolisïau sy’n datblygu gan y llywodraeth ganolog a fyddai’n effeithio ar alluoedd llywodraeth leol, a sicrhau bod yr holl ymrwymiadau deddfwriaethol cenedlaethol yn cael eu hariannu’n llawn.

 

 

Rhybudd o Gynnig:

Nodweddion Gwarchodedig ar gyfer Pobl â Phrofiad o fod mewn Gofal. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod bod y Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl Ifanc a sefydlwyd gan Senedd Cymru wedi argymell y dylai profiad o fod mewn gofal ddod yn nodwedd warchodedig yn neddfwriaeth y DU. Mae hefyd wedi llofnodi’r Siarter Rhianta Corfforaethol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, sy’n gwahodd sefydliadau eraill y sector cyhoeddus i ddod yn Rhiant Corfforaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae'r cynnig hwn yn ymestyn ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ymhellach, i gynnwys yr egwyddorion, blaenoriaethau ac addewidion a geir yn Strategaeth Rhianta Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r cyngor hwn yn cydnabod bod:

 

Pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu rhwystrau sylweddol sy’n effeithio arnynt drwy gydol eu hoes;

• Er bod llawer o bobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn gallu bod yn gadarn, yn rhy aml ni fydd cymdeithas yn ystyried eu hanghenion;

Bydd pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn aml yn wynebu gwahaniaethu a stigma o ran cartrefu, iechyd, addysg, perthnasoedd, cyflogaeth a’r system cyfiawnder troseddol;

Mae’n bosib y bydd pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn gweld bod y cymorth yn anghyson mewn gwahanol ardaloedd daearyddol;

Fel rhieni corfforaethol, mae gan gynghorwyr gydgyfrifoldeb i ddarparu’r gofal a mesurau diogelu gorau posib i’r plant sydd dan ein gofal ni fel awdurdod;

Fel rhieni corfforaethol, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymo i weithredu fel mentoriaid, gan wrando ar leisiau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac ystyried eu hanghenion yn unrhyw agwedd ar waith y cyngor;

Bydd Cynghorwyr yn pledio achos y plant dan ein gofal ac yn herio’r ymagwedd negyddol a’r rhagfarn sy’n bodoli ym mhob elfen o gymdeithas; Felly, mae’r Cyngor hwn wedi penderfynu:

• Ei fod yn cydnabod bod pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn gr?p sy’n debygol o wynebu gwahaniaethu;

• Ei fod yn cydnabod bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddyletswydd i sicrhau bod anghenion pobl dan anfantais yn gwbl ganolog i’r broses benderfynu, drwy gyd-gynhyrchu a chydweithio;

• Y dylai penderfyniadau, gwasanaethau a pholisïau sy’n cael eu llunio a’u mabwysiadu gan y Cyngor ar gyfer y dyfodol gael eu hasesu drwy Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb er mwyn ystyried effaith newidiadau ar bobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ochr yn ochr ag unigolion eraill sydd â nodwedd warchodedig swyddogol.

• Bod y Cyngor, wrth gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, yn cynnwys profiad o fod mewn gofal wrth gyhoeddi ac adolygu Amcanion Cydraddoldeb ac wrth gyhoeddi gwybodaeth yn flynyddol ynghylch pobl sydd â nodwedd warchodedig mewn gwasanaethau a chyflogaeth.

Annog pob corff arall i drin profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig nes i hynny gael ei gyflwyno drwy ddeddfwriaeth.

• Y bydd y cyngor yn parhau i fynd ati i chwilio am leisiau pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a gwrando ar y lleisiau hynny, pan fydd yn datblygu polisïau newydd sy’n seiliedig ar eu barn.