Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

 

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer mai dim ond tair wythnos oedd yna ers iddo gael ei sefydlu’n swyddogol fel Maer, er ei fod ef a'i Gymar wedi bod yn hynod o brysur.  Roeddent eisoes wedi mynychu 16 o ymrwymiadau "swyddogol", oedd i gyd yn wahanol iawn ond yn eu ffordd eu hunain yn ddiddorol ac yn bleserus iawn. 

 

Roeddent wedi cael eu swyno gan lansiad llyfr y Gofalwyr Ifanc, lle roedd pobl ifanc wedi cydweithio i gynhyrchu llyfr stori i blant i godi ymwybyddiaeth ymysg plant ysgol gynradd am rai o'r problemau sy'n wynebu gofalwyr ifanc. Roedd hwn yn ddigwyddiad teimladwy oedd wedi’u hysbrydoli ac roedd yn wych cael cwrdd â phawb a wnaeth y llyfr yn realiti, fe esboniodd.

 

Cafodd y Maer hefyd yr anrhydedd o gyfarfod Ei Uchelder Brenhinol Dug Caint yn ystod ei ymweliad â Sony yr wythnos ddiwethaf.  Cafodd ef a’i Gymar daith ddiddorol ac addysgiadol o gwmpas y ffatri, lle cafwyd cyfle i wylio cynhyrchu'r Raspberry Pi - enghraifft wych o arloesi, dylunio a pheirianneg y DU.

 

Roedd agor G?yl Maesteg hefyd yn noson bleserus, gyda'r gr?p Collabro yn rhoi adloniant cerddorol gwych.  Dymunai sôn hefyd am yr arddangosfa gelf wych gan blant nifer o ysgolion cynradd Maesteg. Defnyddiodd yr arddangosfa ddeunyddiau anarferol iawn, a chafodd y plant eu cynorthwyo a'u hysbrydoli gan yr artist ifanc Cymreig, Nathan Wyburn.

 

Digwyddiad hynod ddiddorol arall oedd rowndiau terfynol rhanbarthol Menter yr Ifanc, a gynhaliwyd yn Ysgol Fusnes Caerdydd. Roedd timau o entrepreneuriaid ifanc o bob cwr o Gymru yn cystadlu am le yn rowndiau terfynol Prydain, a chymerodd Ysgol Brynteg ran ac ennill y wobr am y stondin fasnach orau.  Mae eu prosiect ardderchog yn defnyddio bagiau siopa wedi'u hailgylchu i wneud esgidiau i bobl yng ngwledydd y trydydd byd; yn anffodus fe’u curwyd gan Ysgol Haberdashers yn Nhrefynwy, ond roedd ein tîm lleol wedi gwneud argraff fawr ar y Maer.

 

Heblaw am y digwyddiadau hyn, mae'r Maer wedi mynychu seremoni i agor siop, cyflwyniad Rhyddid y Fwrdeistref yn Rhondda Cynon Taf, y diwrnod gwirfoddoli yn y Gynghrair Amddiffyn Cathod, gwobrau Cymdeithas Gelf Tondu, digwyddiad 5ed pen-blwydd Côr Tenovus, digwyddiad Wythnos y Gofalwyr, seremoni Dinasyddiaeth Brydeinig, digwyddiad yn ymwneud â Phen-y-bont ar Ogwr yn ystod y Rhyfel, Gerddi Agored Cefn Cribwr, ymweliad â’r YMCA, a digwyddiad 'Cydraddoldeb' yn dathlu 100 mlynedd o bleidleisiau i ferched gyda'n cwmni Geidiaid lleol.

 

Yn olaf ond nid yn lleiaf, cadarnhaodd y Maer ei fod wedi cael y pleser o gyhoeddi mai Lewis David Pilliner fydd y Maer Ieuenctid newydd ar gyfer 2018 -19.  Mae Lewis yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Bryntirion ac roedd yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn ystod y flwyddyn i ddod.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd i'r Aelodau barhau i annog eu hetholwyr i arwyddo ar gyfer gwasanaeth 'Fy Nghyfrif/My Account' y Cyngor a lansiwyd yn ddiweddar.

 

Ynghyd â'r wefan newydd sbon, mae Fy Nghyfrif wedi ei gynllunio i'w gwneud hi'n haws ac yn symlach i bobl gael mynediad at wasanaethau'r cyngor, ac mae ganddo'r potensial i ddod ag arbedion mawr i'r awdurdod.

 

Mae Fy Nghyfrif yn hyb ar-lein bob awr o'r dydd sy'n gadael i bobl gyflawni tasgau sy'n gysylltiedig â'r cyngor yn gyflym ac yn hawdd, 24 awr y dydd. Mae'r cam cychwynnol yn caniatáu i chi wneud pethau fel gweld bil y dreth gyngor, gwneud cais am fudd-dal tai, gwneud cais am ostyngiadau ac eithriadau, gwneud taliadau ar-lein, sefydlu a rheoli debydau uniongyrchol, tanysgrifio i e-filio a mwy.

 

Wrth i Fy Nghyfrif ddatblygu, caiff ei ehangu i alluogi pobl i wneud pethau fel rhoi gwybod am dyllau yn y ffordd, gwneud cais am leoedd mewn ysgolion lleol, talu am brydau ysgol neu adael i'r awdurdod wybod am oleuadau stryd diffygiol.

 

I ddefnyddio'r gwasanaeth newydd, rhaid i'r trigolion ymweld â  gwefan y cyngor a chofrestru i gael cyfrif gan ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost.

 

Cynhelir y sesiwn a ailadroddir o hyfforddiant ymwybyddiaeth am y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn Siambr y Cyngor ddydd Mercher 27 ain Mehefin 2018 gan ddechrau am 9:00 am. Mae'r Cynghorwyr i gyd wedi eu cofrestru fel Rheolwyr Data ac mae'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi nodi'r hyfforddiant hwn fel hyfforddiant hanfodol i'r holl Aelodau Etholedig ei fynychu.

 

Cafodd disgrifiadau rôl ar gyfer Aelodau Etholedig eu creu a'u teilwra ar gyfer pob Cynghorydd unigol.  Mae Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi gofyn i chi wirio a llofnodi'r copïau o'ch disgrifiadau rôl unigol sydd wedi'u gosod ar eich desgiau.  Cesglir y rhain ar ddiwedd y cyfarfod a byddant yn cael eu defnyddio i gefnogi cyflawni Siarter CLlLC (WLGA) ar gyfer Cefnogi a Datblygu’r Aelodau.  Os oes angen unrhyw welliannau i'ch disgrifiadau rôl, rhowch wybod i'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd a byddant yn diweddaru'r dogfennau yn unol â hynny.

 

Gofynnir i'r Aelodau adael eu dyfeisiau Surface Pro yn eu desgiau yn Siambr y Cyngor ar ddiwedd y cyfarfod heddiw.  Bydd hyn yn galluogi'r Adran TGCh i wneud yr uwchraddiadau Microsoft angenrheidiol i'r dyfeisiau a chaniatáu i'r Ap cyfyngedig Modern.gov gael ei osod, a fydd yn rhoi mynediad i'r Aelodau i bapurau Eithriedig ar gyfer y Pwyllgorau y maent yn aelodau ohonynt.

 

Bydd yr uwchraddio yn digwydd ddydd Iau 21ain a dydd Gwener 22ain o Fehefin.  Bydd y Tîm Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu â chi i drefnu i chi gasglu eich dyfais ac i fynd â'r Aelodau drwy'r broses gofrestru ar gyfer yr Ap Cyfyngedig.      

 

Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod Adeilad eiconig Jennings, Porthcawl wedi cael ei gydnabod â gwobr arall ar ôl i Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig gymeradwyo'r ffordd y daethpwyd â'r strwythur rhestredig Gradd II yn ôl i fod yn adeilad sy’n cael ei ddefnyddio gan y cyhoedd.

 

Roedd yn si?r y bydd yr Aelodau wedi sylwi sut y gosodwyd y gyntaf o'r adrannau teras newydd ar draeth y dref, a chyda datblygiadau megis ailwampio ciosg yr harbwr sydd yn mynd i ddarparu cyfleusterau newydd i ddefnyddwyr y marina neu'r ganolfan chwaraeon d?r newydd sy'n cael ei datblygu yn Rest Bay, mae amserau cyffrous o’n blaenau. Roedd Salt Lake bellach yn ôl yn nwylo'r Cyngor, ac yr oedd yn gobeithio y bydd gennym newyddion yn fuan am y safle ar lan y môr lle roedd hen fflatiau Dunraven gynt.

 

Ym Mhorthcawl hefyd mae peth gwaith i'w wneud ar wal y morglawdd i wneud yn sicr bod y strwythur yn dal i fod yn gadarn. Mae'r morglawdd wedi gwneud gwaith gwych, ac mae hyd yn oed wedi creu newyddion rhyngwladol diolch i rai golygfeydd syfrdanol o donnau enfawr yn taro yn erbyn y goleudy eiconig. Byddai rhagor o fanylion yn dilyn wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.

 

Mae 'Blwyddyn y Môr' 2018 ar y gweill, ac mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr eisoes wedi ei nodi trwy gynnal 'acwathlon', nofio ar draws y bae a digwyddiadau gwirfoddol i lanhau’r traeth.

 

Mae'r Cyngor yn cynllunio llawer o weithgareddau haf eraill gyda phartneriaid fel Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Credu Charity Cyf, felly ni ddylai’r Aelodau synnu os ydynt yn gweld creaduriaid môr mawr yn crwydro ar hyd y promenâd, theatr stryd neu olwg modern ar gardiau post glan môr traddodiadol. Bydd Blwyddyn y Môr hefyd yn cael ei nodi mewn amrywiaeth o ffyrdd diddorol mewn digwyddiadau poblogaidd eraill dros y misoedd nesaf, felly fe anogodd yr Aelodau i chwilio am fwy o newyddion am hyn yn fuan.

 

Mewn man arall yn y Fwrdeistref Sirol, mae disgybl chwech oed o Gwmfelin, Thomas Lewis, wedi ennill cystadleuaeth ar draws y Fwrdeistref Sirol i ddod o hyd i enw addas ar gyfer ein car patrol CCTV newydd sy'n mynd i'r afael â pharcio peryglus ac anghyfreithlon y tu allan i ysgolion.

 

Mae'r car bellach wedi'i ffitio gyda lifrai sy'n cynnwys ei enw newydd, sef Roly Patrolly.

 

Mae Roly Patrolly yn defnyddio offer adnabod platiau rhif awtomatig ar gyfer CCTV, ac fe'i cynlluniwyd i gofnodi unrhyw yrwyr anystyriol sy'n parcio eu ceir yn anghyfreithlon ar barthau 'cadwch yn glir' ysgolion, arosfannau bysiau, croesfannau i gerddwyr gyda llinellau igam-ogam ac ardaloedd cyfyngedig eraill sy'n rhoi plant mewn perygl.

 

Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, fod canolfan diogelu aml-asiantaeth MASH newydd Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar wedi symud i Ravens Court ac yn parhau i sefydlu ei hun.

 

Erbyn yr hydref cynnar, bydd y MASH yn cynnwys oddeutu 85 aelod staff o ofal cymdeithasol oedolion a phlant, Heddlu De Cymru, addysg, tai, camddefnyddio sylweddau, prawf, iechyd, gwasanaethau cymorth cynnar a Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru.

 

Byddant yn gweithio gyda'i gilydd fel rhan o dîm amlasiantaethol i ddarparu gwasanaethau diogelu effeithiol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion.

 

Mae sefydlu MASH Pen-y-bont ar Ogwr yn cyd-fynd â gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a bydd yn ei gwneud yn bosibl i rannu gwybodaeth, dadansoddi a gwneud penderfyniadau cynharach, ac o ansawdd uwch yn gynharach.

 

Mae lansiad swyddogol yn cael ei gynllunio ar gyfer yr hydref cynnar, ac roedd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, yn edrych ymlaen at ddod â manylion pellach i'r Cyngor am hyn maes o law.

 

Roedd hefyd am sôn fod Wythnos y Gofalwyr 2018 yn cael ei nodi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda chyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth, stondinau, canolfannau galw heibio a mwy.

 

Cynhaliwyd y digwyddiadau a sefydlwyd o dan thema eleni sef 'helpu gofalwyr i gadw’n iach ac yn gysylltiedig', mewn lleoliadau yn amrywio o Sainsbury's i Ysbyty Tywysoges Cymru lle cawsant lawer o sylw.

 

Fel pwynt diddordeb cysylltiedig olaf, mae un o'n gofalwyr ifanc wedi ysgrifennu llyfr gyda darluniau ar y cyd â Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Fe'i gelwir yn 'The Bear Who Cared' ac fe'i cynlluniwyd i addysgu plant bach am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn ofalwr.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn ystyried bod y llyfr yn cyfleu darlun teimladwy iawn a’i fod yn llawn gwybodaeth, ac roedd yn gobeithio y byddai'r Aelodau yn ei ystyried felly hefyd. Gellir cael mwy o wybodaeth am y llyfr hwn trwy ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, y bydd Aelodau'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 20,000 ar gyfer cartrefi fforddiadwy. Un o'r ffyrdd y mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfrannu at hyn yw trwy ddarparu a gosod tai 'modiwlaidd' newydd sbon.

 

Mae'r rhain yn cynnwys adrannau unigol sy'n cael eu hadeiladu mewn ffatri, sy'n dod gydag offer cegin, gwres a’r gwaith trydanol wedi'u gosod yn barod. Maent yn cael eu hadeiladu'n lleol mewn ffatri yng Nghynffig, fel bod modd gosod pob adran neu fodiwl ar y safle i ffurfio t? cyflawn.

 

Mantais fawr y cynllun yw ei fod yn darparu tai o ansawdd uchel, am gost isel, yn gyflym iawn, iawn, gan leihau'r cyfnod adeiladu i gyn lleied â thair wythnos i bob cartref. Mae hyn yn golygu, o gymharu â dulliau adeiladu traddodiadol, y gellir darparu cartrefi modiwlaidd ar gyfradd sy'n 50 y cant yn gyflymach ac sydd yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd.

 

Mae'r cynllun yn cael ei ddarparu fel rhan o bartneriaeth gyda Valleys to Coast a’r arbenigwyr Wernick Buildings. Bydd yn sefydlu wyth cartref modiwlar newydd yn Sarn a Thondu, ac fe'i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae ein partneriaeth hirsefydlog gyda Valleys To Coast Housing wedi bod yn hynod gynhyrchiol wrth ddarparu cartrefi o ansawdd uchel i gymunedau lleol, ac roedd hi'n sicr y bydd yr unedau modiwlaidd newydd yn llwyddiant mawr arall.

 

Soniodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn fyr hefyd am yr her darllen haf sydd i ddod. Eleni, bydd gan y cynllun thema 'Beano' wrth i blant gymryd rhan mewn helfa drysor dan arweiniad neb llai na Dennis the Menace.

 

Bydd pob plentyn sy'n cymryd rhan yn derbyn map o Beanotown, a bydd pob llyfr y byddant yn ei ddarllen yn datgelu cliwiau ynghylch ble mae'r trysor cudd wedi'i gladdu.

 

Roedd hi'n si?r y bydd yr Aelodau am annog plant eu hetholaeth i gymryd rhan, a gellir dod o hyd i ragor am y digwyddiad hwn trwy ymweld â gwefan her darllen yr haf.

 

Prif Weithredwr

 

Cyhoeddodd y Prif Weithredwr fod Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros lywodraeth leol wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd yn ddiweddar o'r enw Cryfhau Llywodraeth Leol.  Er bod cyfeiriad at yr angen i archwilio rôl a phwrpas llywodraeth leol, roedd llawer o bwyslais wrth gwrs ar ail-lunio'r ffiniau a chyfuno Cynghorau.  Nid oedd yn ymddangos bod gan hwn lawer o gysylltiad â'r ymarferiad blaenorol gan ei ragflaenydd a oedd wedi canolbwyntio ar weithio rhanbarthol.

 

Mae'r pum Arweinydd gr?p wedi cyflwyno ymateb ar y cyd gan CBSP (BCBC).  Roedd yn mynd i rannu hyn gyda'r Aelodau i gyd, ond aeth ati i grynhoi’r prif bwyntiau a wnaed gan GBSP.

 

Yn gyntaf, roedd ein hymateb yn cadarnhau a chefnogi’r cyflwyniad gan GLlC (WLGA).  Ymdriniodd y cyflwyniad hwnnw yn fanwl â pha mor anaddas oedd ystyried ail-lunio llinellau ar fapiau ar hyn o bryd, felly ni wnaethom ailadrodd hynny ond yn hytrach gwnaed y pwynt nad oes achos busnes clir sy'n dangos bod perfformiad neu gyfle yn gymesur â maint awdurdod.  Nid oes arwydd clir o hyd bod costau newid yn cael eu deall yn llawn nac yn bosibl eu cyflawni.

 

Yn hytrach, roedd ymateb yr Arweinydd gr?p yn canolbwyntio ar roi awgrymiadau am yr hyn y gallai llywodraeth leol gryfach ei olygu, sef teitl y papur gwyrdd wedi'r cwbl. Awgrymai’r cyflwyniad y dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar gryfderau llywodraeth leol, sef atebolrwydd democrataidd uniongyrchol a dealltwriaeth o gymuned a dinasyddion a’r ffocws arnynt.

 

Aeth ymlaen i awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru roi cyfrifoldebau ychwanegol i lywodraeth leol fel comisiynu a chydlynu iechyd yn seiliedig ar y gymuned a arweinir gan y GIG ar hyn o bryd, fel y gallem integreiddio hynny'n well â Gwasanaethau Cymdeithasol a goresgyn ffocws y GIG sy’n ddealladwy ond yn gul yn y pen draw ar ysbytai a rhestrau aros. Y wobr fawr yma yw cymorth cynnar ac atal.

 

Yn yr un modd, fe wnaethom hefyd awgrymu rôl ar gyfer llywodraeth leol yn iechyd y cyhoedd ac wrth gomisiynu addysg uwch.

 

Fe wnaeth CBSP (BCBC) y pwynt hefyd y dylid gwneud hyn yn ôl pob tebyg trwy bartneriaethau rhanbarthol presennol yn hytrach na chan 22 Cyngor unigol.

 

Bwriedid y rhain fel enghreifftiau o'r math o ddadl a fyddai'n fwy adeiladol ac ystyrlon wrth wneud llywodraeth leol yn fwy effeithiol na dim ond chwarae gyda llinellau ar fapiau.

 

Nododd cyflwyniad CBSP nifer o bwerau ychwanegol hefyd a fyddai'n helpu i wneud llywodraeth leol yn fwy effeithiol.  Roedd y rhain yn cynnwys mwy o reolaeth dros ddefnyddio adeiladau ysgol. Ysgolion wrth gwrs yw'r asedau sy'n eiddo i'r Cyngor sydd â'r potensial mwyaf i fodloni amrywiaeth o anghenion yn ein cymunedau nid dim ond addysg. Yn ogystal roedd angen mwy o reolaeth dros ariannu gofal cymdeithasol.

 

Yn olaf, gwnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy cydlynol wrth ymdrin â llywodraeth leol, gan nodi bod y Papur Gwyrdd hwn wedi dod oddi wrth un Ysgrifennydd Cabinet ond ein bod yn ymdrin â gwahanol ysgrifenyddion Cabinet a'u hadrannau ynghylch addysg, gofal cymdeithasol, cynllunio, adfywio, cyllid, yr amgylchedd a diwylliant.

 

Fel y dywedwyd yn gynharach, byddai'r Prif Weithredwr yn dosbarthu'r llythyr hwnnw i'r holl Aelodau er gwybodaeth.

 

Yn olaf, roedd yr Aelodau'n sicr yn gwybod y bydd ein Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd presennol, Gary Jones, yn gadael yr awdurdod yn fuan i ddechrau ar swydd newydd gyda Chyngor Dinas Caerdydd.

 

Mae Gary wedi bod gyda Phen-y-bont ar Ogwr am 14 mlynedd, ac roedd y Prif Weithredwr yn gwybod y bydd yr Aelodau a chyd-Swyddogion yn gweld ei golli.

 

Gan mai heddiw oedd cyfarfod olaf y Cyngor i Gary, roedd y Prif Weithredwr yn si?r y byddai'r Aelodau'n dymuno manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Gary am ei holl gymorth a chefnogaeth, a dymuno'n dda iddo yn y dyfodol, yn bersonol ac yn ei swydd newydd.

 

Adleisiodd yr Arweinydd deimladau’r Prif Weithredwr ar ran holl Aelodau'r Cyngor.

 

Daeth y Prif Weithredwr â’i gyhoeddiadau i ben trwy gadarnhau bod recriwtio Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd newydd wedi cyrraedd y camau olaf, a byddai'n rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau, ar ôl i'r broses hon gael ei chwblhau.  

 

Swyddog Monitro

 

Cyhoeddodd y Swyddog Monitro bod y Gr?p Ceidwadol wedi cyflwyno newid mewn perthynas â'i aelodaeth ar y Pwyllgor Archwilio, sef bod y Cynghorydd Altaf Hussain yn dod oddi ar y Pwyllgor ac yn cael ei ddisodli gan y Cynghorydd Tom Giffard, a bod hynny’n digwydd ar unwaith.   

 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z