Cofnodion:
Dywedodd yr Arweinydd fod Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi yr wythnos ddiwethaf y bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn symud allan o ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a bydd yn dod yn rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf erbyn Ebrill 2019 .
Bydd yr effaith fwyaf uniongyrchol wrth gwrs ar feysydd gwasanaeth lle rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar ôl troed Bae'r Gorllewin, hy Gwasanaethau Cymdeithasol a gwasanaethau cymorth cynnar fel Teuluoedd yn Gyntaf a Throseddau Ieuenctid. Cadarnhaodd y byddwn ar y cyfan yn disgwyl gweithio'n agosach gyda Chwm Taf, RhCT a Merthyr Tudful yn hytrach nag PABM (ABMU), Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Fodd bynnag, mewn achosion lle mae'n gwneud synnwyr i weithio ar y raddfa fwy honno, bydd enghreifftiau yn sicr lle y gallwn weld cydweithio ar draws ardaloedd y ddau fwrdd iechyd hefyd. Mae'n debygol hefyd y bydd rhai trefniadau presennol gyda chydweithwyr o fewn PABM (ABMU) a Bae’r Gorllewin yn cymryd ychydig yn hwy nag Ebrill 2019 i symud drosodd.
Fel roedd yr Aelodau'n ymwybodol, mae'r Cyngor wedi pwysleisio wrth Lywodraeth Cymru ers amser bod ystyried Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o Dde Ddwyrain Cymru ar gyfer gwasanaethau fel addysg a'r economi, ond fel rhan o Dde Orllewin Cymru ar gyfer gwasanaethau fel iechyd a gofal cymdeithasol, yn eithaf anodd i'w gynnal yn wyneb mwy a mwy o ranbartholi.
Roedd disgwyl i ni weithio mewn ffordd sy'n sylfaenol wahanol i ardaloedd Cynghorau eraill i gyd yng Nghymru yn peryglu gwanhau ein cymunedau, ond er gwaethaf hyn, rydym wedi creu record rhyfeddol o gydweithio effeithiol. Roedd yr Arweinydd yn si?r y byddai’r Aelodau'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y broblem. Mae datganiad y Gweinidog yn ei gwneud hi'n glir mai'r bwriad yw alinio ein holl drefniadau partneriaeth economaidd, addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gadarn o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. O ran sut y bydd hyn yn effeithio ar ein partneriaethau gweithio cyfredol, rydym yn gobeithio cael mwy o eglurder yn fuan iawn. Ynghyd â'n partneriaid yn y ddau fwrdd iechyd, rydym wedi ymrwymo i wneud y trosglwyddo mor esmwyth ac effeithiol â phosibl, ac rydym yn cadw ffocws cadarn ar sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n cymunedau a'n trigolion.
Cyhoeddodd yr Arweinydd ei fod wrth ei fodd o weld y bydd Maesteg yn cael ei gwasanaethu gan bedwar trên yr awr yn ychwanegol at wasanaeth Sul newydd. Bydd hwn yn gyswllt hanfodol i helpu pobl i gael mynediad at swyddi a hyfforddiant, a bydd yn ei gwneud hi'n llawer haws teithio rhwng Cwm Llynfi a Phen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a thu hwnt.
Bydd unrhyw un sydd wedi ymweld â Gorsaf Reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar wedi gweld canlyniadau ei adnewyddiad £1.5m yn ddiweddar. Bellach mae ganddi well ardal ‘concourse’ gyda desg wybodaeth newydd, swyddfa docynnau a seddi, toiledau newydd i deithwyr a chyfleusterau newid babanod newydd, cysgodfan a llwybrau newydd i gwsmeriaid, gwell diogelwch a theledu cylch cyfyng newydd, ac arwyddion ac arddangosiadau gwybodaeth i deithwyr newydd. Pen-y-bont ar Ogwr yw'r pumed orsaf reilffordd brysuraf yng Nghymru gyfan, felly roedd y Cynghorydd Young a'r Arweinydd yn arbennig o falch o gwrdd â Gweinidog y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, i drafod goblygiadau'r system metro newydd. Mae gwaith uwchraddio ar y gweill fel bod modd defnyddio trenau tri-modd sy'n gallu newid rhwng batri, trydan a diesel, a bod y Fwrdeistref Sirol yn mynd i elwa ar gyswllt cyflym ac effeithlon i faes awyr Caerdydd.
Mae cysylltedd gwell a chyfleusterau modern yn hanfodol ar gyfer gwella ffyniant yr ardal, ac roedd yr Arweinydd yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y datblygiadau diweddaraf hyn yn helpu i ddod â chymunedau yn nes at ei gilydd, cynnig mwy o gyfleoedd i gyflogaeth, hamdden a thwristiaeth, a darparu cefnogaeth i'r economi.
Yn ystod yr wythnos nesaf cynhelir yr ?yl Ddysgu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr lle bydd yn arddangos rhai o'r dulliau dysgu ac addysgu newydd ac arloesol sy'n cael eu defnyddio mewn ysgolion lleol. Yn ystod yr wythnos, bydd mwy na 800 o ddisgyblion, athrawon, addysgwyr, hyfforddwyr a chyflogwyr yn cymryd rhan mewn 100 o weithdai mewn ysgolion lle byddant yn profi sut mae datblygiadau mewn ystafelloedd dosbarth modern yn dod â budd i blant lleol ochr yn ochr â thechnegau rhifedd a llythrennedd traddodiadol.
Bydd rhai o'r technegau newydd sy'n cael eu harddangos yn cynnwys defnyddio technoleg rhith realiti yn yr ystafell ddosbarth, therapi Lego ac ysgolion 'mynydd' awyr agored.
Bydd digwyddiad symposiwm yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr yn canolbwyntio ar sut y gall iechyd a lles disgyblion gael eu datblygu, eu cynnal a'u gwella, a bydd Diwrnod i Ddysgwyr yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi cyfle i blant osod stondinau a chynnig arddangosfeydd ac arddangosiadau ymarferol cyn cael araith gan yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.
Bydd yr ?yl yn gyfle gwych i rannu gwybodaeth a datblygu ffyrdd newydd o gefnogi plant, ac roedd yr Arweinydd yn gobeithio y bydd yn tyfu fel y gall rhannau eraill o Gymru elwa o'r syniadau a’r datblygiadau y mae'n addo eu cyflawni.
Yn olaf, dywedodd yr Arweinydd fod mwy na £1.5 miliwn wedi ei fuddsoddi yn ardal Pencoed dros y blynyddoedd diwethaf fel rhan o'r rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, ac roedd yn falch o nodi'r arloesedd a ddangoswyd yn y datblygiad diweddaraf. Mae llwybr 300 metr o hyd wedi'i osod trwy goetiroedd rhwng Brook Vale a Llwyn Gwern fel rhan o lwybr diogel sy'n cysylltu ag Ysgol Gyfun Pencoed ac Ysgol Gynradd Croesty. Yr hyn sy'n gwneud y llwybr hwn mor wahanol yw ei fod yn tywynnu yn y tywyllwch diolch i arwyneb resin ffoto-ymoleuol sy'n harneisio golau UV a gasglwyd yn ystod y dydd.
Roedd hyn yn rhywbeth newydd i'r Fwrdeistref Sirol, ac mae'n sicr o helpu i arwain cerddwyr a beicwyr yn ystod misoedd y gaeaf. Mae hefyd yn cyd-fynd â newyddion bod cyllid wedi ei gymeradwyo i ymestyn y llwybr presennol oddi ar y ffordd o Langrallo, a daeth yr Arweinydd i'r casgliad fod hyn yn newyddion da pellach.