All yr Aelod Cabinet roi gwybod i’r cyngor sut y mae disgwyl i ni breswylwyr Pen y Fai i deithio yn ac o amgylch Pen-y-bont?
Cofnodion:
'A allai Aelod y Cabinet roi gwybod i'r Cyngor os gwelwch yn dda sut mae trigolion Pen y Fai i fod i deithio yn ac o gwmpas Pen-y-bont ar Ogwr?'
Ymateb:
Mae Gwasanaeth Rhif 81 yn gweithredu ym Mhen y Fai ar hyn o bryd. Ond oherwydd y penderfyniad diweddar i gwtogi ar gyllid tuag at wasanaethau bws lleol sy’n cael eu cefnogi, bydd y cymhorthdal ??a ddarperir i'r gwasanaeth rhannol fasnachol hwn yn dod i ben ar 11 Awst 2018, gan adael elfen fasnachol y gwasanaeth.
Mater i’r gweithredwr fyddai gwneud y penderfyniad am hyfywedd masnachol yr elfen fasnachol hon.
Ond mae’r Gwasanaeth Rhif 67 (Pen-y-bont ar Ogwr - Abercenffig - Sarn) a ariennir yn rhannol gan GBSP (BCBC) ar gael, sydd ddim wedi ei effeithio gan ostyngiadau yn y gyllideb yn 2018/19.
Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithredu i Heol-tyn-Garn ar hyd y briffordd (A4063), cyn troi i'r dde i Ffordd Pen y Fai (tuag at Bentref Abercenffig). Mae'r llwybr dychwelyd yr un fath, sydd i'r dwyrain o Ben y Fai.
Os bydd y gweithredwr bysiau yn penderfynu dileu elfen fasnachol y gwasanaeth yna byddai hyn yn gadael rhan orllewinol ardal Pen y Fai heb wasanaeth. Pe byddai hyn yn digwydd yna byddai'n rhaid i'r trigolion ddefnyddio llwybr Gwasanaeth Rhif 67 i gael mynediad i Dref Pen-y-bont ar Ogwr neu Sarn.
Fel y nodwyd yn yr ymateb i'r ymgynghoriad mae gan lawer o drigolion fynediad at gerbydau modur preifat ac i'r rhai sydd â phroblemau mynediad penodol, mae trafnidiaeth gymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig darpariaeth arall.
Wrth ystyried ail-drefnu gwasanaethau masnachol presennol, byddai hwn yn benderfyniad masnachol i’w wneud gan y gweithredwyr bysiau. Gofynnwyd am hyn ac archwiliwyd y mater yn flaenorol ac ar yr adeg honno roedd First Cymru Buses Ltd o'r farn bod hyn yn amhriodol gan ei fod yn effeithio ar amseru eu gwasanaethau.
O ran teithio llesol mae yna nifer o gynigion sydd wedi'u cynnwys ym Map Rhwydwaith Integredig y Cyngor (INM) a fydd yn ceisio gwella mynediad at deithio llesol i Ben-y-fai. Cymeradwywyd yr INM gan y Cabinet a Llywodraeth Cymru. Wrth gyfeirio at y pryderon penodol a godwyd gan y Cynghorydd Hussain, mae cynnig INM-BR-14 yn tynnu sylw at lwybr posibl y gellid ei rannu rhwng Pen-y-fai a Gorsaf Reilffordd Sarn yn gyfochrog â Heol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn ogystal, mae cynnig INM-BR-19 yn nodi dymuniad i ymchwilio i'r opsiynau ar gyfer darparu llwybr i gerddwyr rhwng Pen-y-Fai a Chefn Glas ar hyd Ffordd Cefn Glas. Er bod y llwybr hwn wedi'i nodi fel cynnig yn yr INM, nid yw'n cael ei ystyried yn addas ar hyn o bryd ar gyfer teithio llesol gan nad yw'n bodloni'r safonau sy'n ofynnol gan Gyfarwyddyd Dylunio Llywodraeth Cymru.
Mae Cynnig INM-BR-61 yn cyfeirio at gyfleuster croesi gwell a gwaith cysylltiedig ar droedffordd wrth gyffordd Heol Pen-y-bont ar Ogwr/Heol yr Eglwys ym Mhen-y-fai yng nghyffiniau'r orsaf betrol. Yn olaf, mae yna gynnig hefyd (INM-BR-15) i wella mynediad i gerddwyr rhwng Llwybr Cenedlaethol 885 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy'n rhedeg ochr yn ochr ag Afon Ogwr, a Phentref ‘Designer Outlet’ Pen-y-bont ar Ogwr.
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Altaf Hussain
Gan fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i gynnwys yn Ninas Ranbarth Caerdydd ac yr addawyd y rhoddir cyfraniad at ei chronfa ar gyfer datblygiadau cludiant, a allai’r Aelod Cabinet - Cymunedau roi gwybod i'r Cyngor pryd y bydd Gwasanaethau Rheilffordd y Metro bob 15 munud yn cael eu darparu ar gyfer gorsafoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys gwasanaethau’r brif linell a gwasanaethau llinell gangen Maesteg.
Ymateb:
Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn cyfraniad gwerthfawr tuag at brosiectau a glustnodwyd o fewn Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a oedd fel roedd yr Aelodau'n ymwybodol, yn brosiect hirdymor. Roedd yna wahanol elfennau i'r prosiect, gan gynnwys cynlluniau posibl ar gyfer darparu gwasanaethau rheilffordd o fath metro, er bod anawsterau ar hyn o bryd yng ngorsaf reilffordd Pencoed, oherwydd y groesfan rheilffordd a oedd yn creu ciwiau o draffig cerbydol yn y lleoliad hwn. Roedd yna gynnig hefyd i ystyried gwaith i wella'r bont yn yr orsaf reilffordd hon, a fyddai'n caniatáu i wasanaethau trên ychwanegol lifo’n ddirwystr. Byddai hyn yn cael effaith nid yn unig ym Mhencoed, ond hefyd ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol, gan gynyddu'r trenau fyddai’n cael eu darparu mewn nifer fawr o leoliadau. Roedd cyfarfod wedi’i drefnu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, a byddai mwy yn hysbys ar ôl i'r cyfarfod hwn ddigwydd.
Daeth yr Aelod Cabinet - Cymunedau â’i ymateb i ben, drwy atgoffa'r Cyngor mai prosiect hirdymor oedd y Fargen Ddinesig a fyddai'n rhychwantu tua 15 mlynedd, a byddai prosiectau y buddsoddwyd ynddynt, gan gynnwys y rheiny ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn datblygu ac yn symud ymlaen wrth i'r Fargen Ddinesig greu momentwm.