Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Cytundeb Cyflawni Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad i'r Cyngor ar ganlyniad yr ymarferiad ymgynghori ar Gytundeb Cyflenwi CDLl Newydd Pen-y-bont ar Ogwr, a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cyngor i gyflwyno'r Cytundeb Cyflawni terfynol (ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad) (ar y cyd ag Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (2013) i Lywodraeth Cymru cyn diwedd Mehefin 2018.

 

Mae'r Cytundeb Cyflawni yn nodi sut a phryd y gall y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill gyfrannu at baratoi'r Cynllun Newydd ac amserlen ar gyfer ei baratoi.  Cynigir y bydd y CDLl Newydd yn cynnwys cyfnod y cynllun hyd at 2033.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Datblygu, o ran ymgynghori ar y Cytundeb Cyflawni, y byddai Aelodau hefyd yn cofio y cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor ar 25 Ebrill 2018 a oedd yn amlinellu ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet, a oedd yn caniatáu i Ben-y-bont ar Ogwr fynd ymlaen â'i CDLl yn ddarostyngedig i ddyddiad cau caeth oedd yn gofyn am gyflwyno'r Cytundeb Cyflawni cyn diwedd Mehefin 2018.  Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn am awdurdodiad i gynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu ar Gytundeb Cyflwyno CDLl Newydd drafft Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 30 Ebrill 2018 a 25 Mai 2018.

 

Ychwanegodd y cynhaliwyd yr Ymgynghoriad ar y Cytundeb Cyflawni drafft ar y cyd ag Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol (2013) drafft Pen-y-bont ar Ogwr.

 

            Hysbysebwyd yr ymgynghoriad yn y ffyrdd canlynol: -

 

·         Roedd y dogfennau ymgynghori ar gael i'w harchwilio yn y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel;

·         Rhoddwyd gwybodaeth am yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor; ac

·         Anfonwyd negeseuon e-bost a llythyrau at tua 190 o ymgynghoreion, gan gynnwys Cynghorau Cymuned, ymgynghorwyr cynllunio, adeiladwyr tai, cymdeithasau tai a sefydliadau allanol perthnasol eraill gyda manylion am sut i ymateb.

 

Ychwanegodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu, erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori, bod 8 sefydliad allanol wedi cyflwyno sylwadau ar y Cytundeb Cyflawni drafft. Mewn ymateb, mae'r Cyngor wedi llunio Adroddiad Ymgynghori a gynhwyswyd fel Atodiad 3 yn y Cytundeb Cyflawni terfynol, a oedd yn rhoi ymateb y Cyngor i'r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Gellir gweld copïau o'r sylwadau llawn gan yr Aelodau yn yr Adran Gynllunio, ychwanegodd ymhellach.

 

Roedd y prif newidiadau i'r Cytundeb Cyflawni a argymhellwyd gan Swyddogion yn cynnwys:

·         Diweddariadau i'r rhestr o Gyrff Ymgynghori (sydd ynghlwm fel Atodiad 1 yn y Cytundeb Cyflawni):

 

o   Ystyrid ei bod yn ddoeth cynnwys yr holl ACLl ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hytrach na dim ond yr ACLl cyfagos (Bro Morgannwg, RhCT a Chastell-nedd Port Talbot) i adlewyrchu cydweithio / gweithio rhanbarthol a pharatoi'r Cynllun Datblygu Strategol.

o   Mae Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Partneriaeth Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu dileu gan fod y ddau wedi’u disodli gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

o   Mae RNI Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw wedi disodli Gweithredu ar Golli Clyw.

o   Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi disodli’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, a’r Comisiwn Hawliau Anabledd. 

o   Mae Fields in Trust - yn disodli Cymdeithas Genedlaethol Caeau Chwarae Cymru.

o   Mae 'Gweithredu ar Golli Clyw' wedi disodli’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer Pobl Fyddar a thrwm eu Clyw.

o   Mae Anabledd Cymru wedi disodli Cyngor Cymru i'r Anabl.

 

·         Gwnaed diwygiad i'r amserlen (ynghlwm yn Atodiad 2 i'r adroddiad) i'r Cytundeb Cyflawni i adlewyrchu y dylid cynnal ymarferiad cwmpasu Gwerthusiad Cynaliadwyedd (SA) cyn ymgynghori'n gyhoeddus ar gynigion CDLl sylweddol. Bydd angen i'r holl safleoedd a gyflwynir mewn ymateb i 'alwad am safleoedd' yn y dyfodol fod yn ddarostyngedig i Werthusiad Cynaliadwyedd maes o law, felly byddai'n well diffinio fframwaith, methodoleg a gofynion gwybodaeth Gwerthusiad Cynaliadwyedd y CDLl trwy Adroddiad Cwmpasu Gwerthusiad Cynaliadwyedd cyn cyhoeddi'r alwad am safleoedd (ac unrhyw pro-formas cysylltiedig yn ymwneud â safleoedd). Dylai hyn helpu i sicrhau bod hyrwyddwyr safleoedd yn cyflwyno digon o wybodaeth am gynaliadwyedd a’r amgylchedd er mwyn galluogi'r Gwerthusiad Cynaliadwyedd i gael ei wneud yn effeithlon.

·         Roedd paragraff 1.6.2 wedi'i ddiwygio i ddangos rhywfaint o gysylltiad rhwng y Gwerthusiad Cynaliadwyedd (SEA), Cynllun Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr (yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA).

·         Mae paragraff 1.6.3 wedi'i ehangu i gyfeirio at y gofyniad statudol i ymgymryd â sgrinio SEA.

·         Mae Paragraff 1.6.3, yr ail a'r trydydd pwynt bwled, wedi’u cyfuno mewn un bwled at ddibenion eglurder.

·         Mae Paragraff 1.6.3, y pwynt bwled olaf, wedi ei ddiwygio i egluro y bydd Datganiad Mabwysiadu'r Gwerthusiad Cynaliadwyedd yn cael ei gyhoeddi ar ôl mabwysiadu'r CDLl newydd.

           

O ran y sefyllfa bresennol, cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu bod y Cytundeb Cyflawni drafft yn cynnwys 2 ran: -

 

·         Amserlen ar gyfer paratoi'r CDLl Newydd, a

·         Chynllun Cynnwys y Gymuned.

 

Mae'r amserlen yn nodi'r dyddiadau allweddol, gan gynnwys cyfnodau ymgynghori statudol, ar gyfer pob un o'r gwahanol gyfnodau o baratoi a chyhoeddi'r Cynllun. 

 

Roedd hefyd yn cynnwys camau allweddol ar gyfer y Gwerthusiad Cynaliadwyedd, sef proses ailadroddus a gynhaliwyd fel rhan annatod o’r broses o baratoi'r Cynllun.

 

Eglurodd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'r Cytundeb Cyflawni, ac roedd ganddynt 1 mis i ystyried a chytuno ei gynnwys neu i  roi gwybod i'r ACLl bod angen mwy o amser i ystyried y ddogfen. 

 

PENDERFYNWYD:                        (1) Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Cytundeb Cyflawni terfynol ar gyfer y CDLl Newydd ac yn awdurdodi'r Rheolwr Gr?p Datblygu, y Gyfarwyddiaeth Cymunedau i gyflwyno'r Cytundeb Cyflawni terfynol (ynghlwm yn Atodiad 1) (ar y cyd ag Adroddiad Adolygiad CDLl (2013) CDLl (gweler  eitem ar wahân) i Lywodraeth Cymru cyn diwedd mis Mehefin 2018.

 

                                            (2) Bod y Cyngor yn rhoi awdurdod dirprwyedig i Reolwr y Gr?p Datblygu, y Gyfarwyddiaeth Gymunedau i wneud unrhyw gywiriadau ffeithiol neu fân newidiadau i'r Cytundeb Cyflawni fel y bo'n angenrheidiol.

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z