Agenda item

Blaenraglen Waith (FWP), Hyfforddiant ac Amserlen Cyfarfodydd

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, adroddiad, a'i bwrpas oedd

 

a)    Datblygu Blaenraglen Waith o eitemau i'w blaenoriaethu ac ystyried yn y dyfodol gan y Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu (JOSC);

 

b)    Gofyn i'r JOSC adnabod unrhyw wahoddedigion i fynychu cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn cyfrannu at drafodaethau ac ystyriaethau;

 

c)    Adnabod unrhyw ofynion hyfforddiant sy'n ofynnol gan y JOSC a;

 

d)    Datblygu amserlen o gyfarfodydd y JOSC; gan gynnwys amseroedd cyfarfodydd a ffafrir.

 

Dywedodd y Swyddog Craffu wrth Aelodau mai bwriad y FWP fyddai iddi aros yn hyblyg ac ailedrych arni ym mhob cyfarfod JOSC gyda mewnbwn gan Aelodau a Swyddogion yngl?n â phynciau awgrymedig i'w hystyried.

 

Gofynnir i'r JOSC ystyried a phenderfynu yn gyntaf pa eitemau y mae'n dymuno eu trafod mewn cyfarfodydd JOSC yn y dyfodol a pha fanylion eraill yr hoffai i'r adroddiad eu cynnwys; pa gwestiynau y mae'n dymuno i'r swyddogion fynd i'r afael â nhw a pha wahoddedigion y mae'n ei awgrymu iddynt fynychu'r cyfarfod hwn i gynorthwyo Aelodau gyda'u hymchwiliad.  Dangoswyd rhai eitemau i'w hystyried yn y dyfodol ym mharagraff 4 o'r adroddiad.

 

Ychwanegodd y Swyddog Craffu ei bod hi'n agored hefyd i Aelodau ystyried faint o eitemau agenda y maent yn dymuno eu rhestru ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol. Ychwanegodd fod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel arfer yn ystyried un brif eitem agenda ym mhob cyfarfod.

 

Yn Atodiad A i'r adroddiad roedd ffurflen Meini Prawf Craffu y gall Aelodau ei defnyddio i gynnig eitemau eraill ar gyfer yr FWP, y gall y Pwyllgor yna ystyried rhoi blaenoriaeth iddynt mewn cyfarfod yn y dyfodol. Felly, os nad oedd gan Aelodau unrhyw beth mewn golwg ar hyn o bryd, gallent gwblhau'r ffurflen uchod a'i hanfon drwy e-bost at yr Adran Graffu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Aeth y Swyddog Craffu yn ei blaen gan ddweud, er mwyn cynorthwyo Aelodau gyda'u rôl fel Aelodau JOSC fod angen iddynt ystyried unrhyw ofynion hyfforddiant sydd ganddynt mewn perthynas â'r CCRCD.  O hyn, gall y Swyddogion Craffu yna ddatblygu amserlen hyfforddiant ar gyfer Aelodau JOSC a fydd yn parhau'n hyblyg ac yn cael ei chyflwyno ym mhob cyfarfod i'w hystyried a'i hamserlennu.

 

Er y cytunwyd yn y gorffennol mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd i weithredu fel yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weinyddu cyfarfodydd JOSC CCRCD, gofynnir i Aelodau ystyried lleoliad cyfarfodydd y JOSC yn y dyfodol, gan gymryd i ystyriaeth bod holl gyfarfodydd y JOSC i'w cynnal yn gyhoeddus.  Efallai y dymuna'r Aelodau ystyried yr opsiwn o gynnal pob cyfarfod JOSC ar safle'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weinyddu neu gallai'r deg awdurdod lleol sy'n rhan o'r JOSC gynnal y cyfarfodydd yn eu tro. 

 

Wrth ystyried cyfarfodydd yn y dyfodol, gofynnwyd hefyd i'r JOSC ystyried pa mor aml y dylid cynnal y cyfarfodydd a pha amseroedd sydd orau ar gyfer eu cynnal, i sicrhau bod cymaint o Aelodau yn bresennol ym mhob cyfarfod ag sy'n bosibl.

 

Dywedodd y Swyddog Craffu y byddai, yn dilyn y cyfarfod, yn anfon copïau i aelodau o'r cyflwyniad hyfforddiant y cawsant yn gynharach yn ogystal â ffurflenni yr oedd y Swyddog Craffu wedi gofyn iddynt eu cwblhau a'u dychwelyd iddi, gyda phynciau y dymuna aelodau dderbyn hyfforddiant arnynt ac eitemau y maent yn dymuno eu gweld ar y Flaenraglen Waith. 

 

Yna rhoddodd Aelodau farn ar gynnwys yr adroddiad, ac yn dilyn hynny daethant i'r casgliadau canlynol:

 

Casgliadau:

 

Amserlen cyfarfodydd

·          Cytunodd Aelodau y dylai'r awdurdodau lleol sy'n rhan o'r Cydgytundeb Gwaith gymryd eu tro i gynnal cyfarfodydd o'r JOSC yn y dyfodol i alluogi aelodau i ennill gwell dealltwriaeth o bob ardal sy'n rhan o'r CCRCD.

·          Swyddog Craffu i anfon adroddiad holiadur o amseroedd cyfarfodydd at Aelodau o'r JOSC i benderfynu pa amseroedd fyddai orau ar gyfer cynnal cyfarfodydd o'r JOSC.

·          Cyfarfod nesaf o'r JOSC i'w gynnal ym mis Ionawr/Chwefror 2019

·          Gofynnodd Aelodau pe bai'n bosibl edrych ar gyllid ar gyfer y JOSC i sicrhau bod cyllideb ddigonol yn ei lle i alluogi aelodau i gael hyfforddiant perthnasol a dod o hyd i dystion arbenigol i fynychu cyfarfodydd o'r JOSC

 

Gofynion Hyfforddiant

  • Roedd Aelodau yn teimlo bod yr hyfforddiant a gawsant ar lefel uchel ac yn gymhleth a bod angen i hyfforddiant yn y dyfodol gael ei symleiddio i helpu bob aelod i ddeall buddion a goblygiadau cost y CCRCD.
  • Cytunodd Aelodau i ailedrych ar y cyflwyniad hyfforddiant a gawsant ac anfon manylion am eu hanghenion hyfforddiant at y swyddog craffu

 

Datblygu'r Flaenraglen Waith

·         Gofynnodd aelodau hefyd pe bai'n bosibl ystyried cyfle i ymweld â safle'r lled-ddargludydd yng Nghasnewydd yn ystod y cyfarfod nesaf

·          Cytunodd Aelodau y dylid cyflwyno cynlluniau Busnes CCRCD yn y cyfarfod nesaf

·          Roedd gan Aelodau ddiddordeb mewn trafod yr eitemau canlynol mewn cyfarfodydd o'r JOSC yn y dyfodol:

 

§   Lled-ddargludydd

§   Dealltwriaeth o System Fetro De Cymru a beth mae'n ei golygu i bob ardal

§  Sesiynau briffio ar yr holl brosiectau arfaethedig.

 

 

Gorffennodd y cyfarfod am 3.22pm

Dogfennau ategol: