Agenda item

Monitro Cyllideb 2018-19 - Rhagolwg Chwarter Dau

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151  adroddiad i'r Cabinet yn cynnwys diweddariad ar sefyllfa ariannol y Cyngor ar 30 Medi 2018.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151fod y Cyngor, ar 28 Chwefror 2018, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £265.984 miliwn ar gyfer 2018-19, ynghyd â rhaglen cyfalaf gwerth £33.693 miliwn ar gyfer y flwyddyn, a gafodd ei diweddaru ers hynny i ystyried cymeradwyaethau newydd a llithriant rhwng blynyddoedd ariannol. Eglurodd fod y sefyllfa ragamcanol gyffredinol ar 30 Medi 2018 yn danwariant net o £2.551 miliwn, yn cynnwys gorwariant net o £738,000 ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net gwerth £5.269 miliwn ar gyllidebau corfforaethol, wedi'i wrthbwyso gan gronfeydd net newydd wrth gefn wedi'u clustnodi o £1.98 miliwn.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 fod y Cyngor wedi derbyn ei setliad dros dro yn ddiweddar ar gyfer 2019-20 gan Lywodraeth Cymru a’i bod yn amlwg y byddai pwysau i’w hwynebu wrth symud ymlaen. 

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 na fu unrhyw drosglwyddiadau rhwng cyllidebau ond bod nifer o addasiadau technegol wedi’u gwneud rhwng cyllidebau ers i ragolwg chwarter un gael ei adrodd i'r Cabinet ym mis Gorffennaf 2018. Yn dilyn hyn, rhoddodd esboniad cryno ar bob addasiad technegol.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 fod nifer o ddarparwyr ynni wedi cyhoeddi y byddai prisiau'n codi yn 2018 ac felly, roedd arian ychwanegol ar gyfer cynnydd mewn prisiau ynni yn 2018-19 o tua 9% ar gyfartaledd, wedi'i roi yn ystod chwarter dau.  Roedd y dyfarniad cyflog i athrawon o fis Medi 2018 wedi'i gytuno yng nghanol mis Medi. Roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y byddai'n rhoi £23.5 yn ychwanegol i Gymru tuag at dâl i athrawon ond nid oedd yn glir faint y byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn ei dderbyn.  

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 fod y gyllideb net ar gyfer y flwyddyn ariannol wedi’i gosod gan dybio y byddai gofynion lleihau cyllideb y flwyddyn bresennol yn cael eu cyflawni’n llawn. Pe bai cynigion yn cael eu gohirio neu nad oeddent yn gyraeddadwy, roedd yn rhaid i gyfarwyddiaethau gyflwyno cynigion eraill i gyflawni eu gofynion.    

Yn ystod 2016-17 a 2017-18 roedd £2.982 miliwn o gynigion cyllideb nad oeddent wedi'u cyflawni’n llawn gyda chyfanswm cyllideb sy’n weddill o £2.523 miliwn. Rhoddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 y sefyllfa ddiweddaraf gyda chrynodeb ar gyfer pob cyfarwyddiaeth.   O'r £2.604 miliwn o ostyngiadau a oedd yn weddill, roedd £1.411 miliwn yn debygol o gael ei gyflawni yn 2018-19 gan adael diffyg cyllid o £1.193 miliwn.     

 

Gwnaeth y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 roi diweddariad ar raglen cyfalaf y Cyngor ar gyfer 2018-19 ac esbonio'r sefyllfa ynghylch y cronfeydd wrth gefn a oedd wedi'u clustnodi.  Y swm cronnol a dynnwyd i lawr gan y Cyfarwyddiaethau oedd £2.688 miliwn o gronfeydd penodol wrth gefn a oedd wedi'u clustnodi a bu ychwanegiadau net o £1.980 fel y gwelir yn yr adroddiad.    

 

Daeth y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 i'r casgliad fod yr awdurdod mewn sefyllfa well nag yr adroddwyd yn flaenorol a bod y sefyllfa ar gyllidebau cyfarwyddiaethau yn ddymunol. 

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd i'w ddiolchiadau gael eu hestyn i'r tîm cyllid. Roedd yr adroddiad yn ymddangos yn foddhaol ond roedd yn cuddio nifer o broblemau y byddent yn eu hwynebu’n fuan.  Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn nodi fod 973 o bobl wedi'u dargyfeirio oddi wrth y gwasanaethau prif ffrwd. Pe na bai hyn yn wir, byddai'r sefyllfa yn fwy heriol o lawer. Roedd angen setliad arian teg gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, wrth gymharu statws COG, mai bach iawn o newid a oedd i'w weld ond bod dau chwarter i fynd o hyd.

 

Cadarnhawyd gan yr Arweinydd fod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi y byddai rhywfaint o arian ychwanegol yn cael ei roi i wasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Byddai hyn yn ddefnyddiol yng ngoleuni'r gorwariant a ragwelir mewn gwasanaethau cymdeithasol. Nid oedd y pwysau gan wasanaethau plant yn unig ond gan anableddau dysgu hefyd. Ategodd yr Arweinydd y byddai'n ddefnyddiol derbyn adroddiad ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.  Roedd nawr mwy o bobl yn dioddef o anableddau cymhleth a difrifol a byddai'n ddefnyddiol adolygu'r ddarpariaeth a nodi beth fyddai gofynion y dyfodol a chynllunio ar gyfer y cynnydd a ragwelir mewn galw.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol & Llesiant mai dyma’n sicr lle roedd y problemau’n codi ac ymddengys fod cymhlethdod cynyddol o ran y sawl sydd ag anableddau dysgu a'u bod hefyd yn byw yn hirach.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y cytundeb yn ddigalon a bod gan yr awdurdod lai o arian na’r flwyddyn gynt ond bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i £4 miliwn ar gyfer ysgolion o hyd er mwyn darparu ar gyfer cyfraniadau pensiwn uwch a chodiad cyflog i athrawon. Byddai hyn yn cyfrif am fwy na'r incwm a gynhyrchir gan gynnydd o 4.9% yn y dreth gyngor. Dywedodd iddo dderbyn rhywfaint o newyddion da oherwydd bod arian yr UE wedi'i gadarnhau i ariannu'r ganolfan chwaraeon d?r newydd ym Mhorthcawl.

 

PENDERFYNWYD:             1.      Bod y Cabinet yn nodi'r refeniw   rhagamcanol a’r sefyllfa o ran alldro cyfalaf ar gyfer 2018-19.

                                            2. Bod adroddiad ar Anableddau Dysgu yn cael ei gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol.

Dogfennau ategol: