Agenda item

Newid Ffiniau'r Byrddau Iechyd - Y Diweddaraf

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad, a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor am y sefyllfa gyfredol o ran newid y Ffin Iechyd ym mis Ebrill 2019, er mwyn sicrhau bod yr Aelodau'n ymwybodol o'r gwaith a gyflawnwyd, ac sy'n parhau i gael ei gyflawni er mwyn paratoi i newid y ffin iechyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

 

Fel gwybodaeth gefndir i hyn, dywedodd fod Llywodraeth Cymru, ar 13 Rhagfyr 2017, wedi cychwyn ymgynghoriad o dan y teitl 'Gweithio'n Effeithiol mewn Partneriaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Newid arfaethedig i ffin y Byrddau Iechyd i gysoni’r modd y gwneir penderfyniadau ar draws Iechyd a Llywodraeth Leol Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 7 Mawrth 2018.

 

Gofynnai'r ymgynghoriad am safbwyntiau ynghylch cynnig y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (Cwm Taf), yn hytrach na Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn cysoni'r modd y gwneir penderfyniadau ar draws iechyd a llywodraeth leol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, o 1 Ebrill 2019, y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn cael ei alw'n Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac y bydd rhanbarth Bae'r Gorllewin yn cael ei alw'n rhanbarth Gorllewin Morgannwg.  Yn yr un modd, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cael ei alw'n Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg, a rhanbarth Cwm Taf yn cael ei alw'n rhanbarth Cwm Taf Morgannwg. 

 

O safbwynt awdurdod lleol, ychwanegodd fod newid y ffiniau yn effeithio ar nifer o wasanaethau yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr, er na cheir tarfu i'r un graddau ar wasanaethau cyffredinol â gwasanaethau'r Byrddau Iechyd o bosib. Mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn bartner hanfodol yn Rhaglen Ranbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin, a chan hynny, o safbwynt awdurdod lleol, mae gwaith hollbwysig wedi cael ei gyflawni i amddiffyn gwasanaethau Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y cyfnod hwn o aflonyddwch, ac i sicrhau parhad yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg ar ôl 1 Ebrill 2019.  Gan hynny, bu'n hanfodol i CBS Pen-y-bont ar Ogwr fabwysiadu dull strwythuredig o ddatgyfuno gwasanaethau rhanbarthol. Er mwyn gwneud hyn bu'n rhaid cydweithio'n agos ag ystod o bartneriaid er mwyn sicrhau, lle bo cyllid rhanbarthol yn cefnogi gwasanaethau integredig, y rhoddir cyfrif am y gwasanaethau hynny rhwng Bae'r Gorllewin, Bwrdd Iechyd PABM a CBS Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Yna, cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, wrth gynllunio i newid ffiniau rhanbarthol, fod Rhaglen Bontio wedi'i sefydlu sy'n cynnwys, ar amrywiaeth o lefelau, Swyddogion o'r ddau Fwrdd Iechyd, CBS Pen-y-bont ar Ogwr a'r trydydd sector Roedd y strwythur llywodraethu wedi'i yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac yn dangos y Byrddau trosfwaol yn ogystal â'r ffrydiau gwaith sy'n cefnogi'r Rhaglen Bontio.

 

Roedd yr adroddiad wedyn yn cadarnhau bod y rhan fwyaf o'r agweddau sy'n effeithio ar CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi'u cynnwys yn y Ffrwd Waith Partneriaeth. Hi ei hun oedd Cadeirydd y Ffrwd Waith honno, a oedd hefyd yn cynnwys Swyddogion o'r partneriaid eraill allweddol a oedd yn cymryd rhan yn y trefniant newydd.

 

Cytunodd yr holl bartneriaid ar gyfres o Egwyddorion o'r cychwyn cyntaf, i danategu gwaith y Rhaglen Bontio ac yn sail i'r holl bartneriaid eu dwyn eu hunain, a dwyn y naill a'r llall, i gyfrif am gyflawni'r newidiadau gofynnol yn llwyddiannus. Roedd yr Egwyddorion hyn wedi'u cynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad, ac mae gan y Ffrwd Waith Partneriaeth ei chyfres ei hun o egwyddorion sy'n seiliedig ar y rhain.

 

Roedd rhannau nesaf yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bellach am drefniadau'r Trydydd Sector, materion y Gweithlu, Ystadau a Chyllid.

 

Mewn perthynas â'r olaf o'r rheiny, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod Bae'r Gorllewin ar hyn o bryd yn derbyn grantiau refeniw rhanbarthol amrywiol oddi wrth Lywodraeth Cymru yn flynyddol, fel cyllid gofal integredig a chyllid gweithredu ar gamddefnyddio sylweddau. Dyrennir y grantiau hyn drwy'r Byrddau Iechyd ond nodir yn glir yn y meini prawf fod yn rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan y trefniadau partneriaeth rhanbarthol. Mae'r grantiau rhanbarthol hyn wedi cael eu datgyfuno er mwyn gwahanu dosraniad ardal Pen-y-bont ar Ogwr a fydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i ranbarth Cwm Taf Morgannwg mewn pryd ar gyfer blwyddyn ariannol newydd 2019/20.

 

Mae'r Ffrwd Waith Partneriaeth wedi gweithio i sicrhau bod y dull o ddatgyfuno grantiau yn deg, agored a thryloyw, a gofynnwyd am gytundeb y ddau Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i'r perwyl hwn. Dangosai'r tabl ym mharagraff 4.17 yr adroddiad ddadansoddiad o'r grantiau a'r symiau wedi'u datgyfuno ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn ogystal â hynny, dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £30 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol o'r Gronfa Gofal Integredig ar draws Cymru yn 2019/20. Amcangyfrifwyd y bydd hyn yn gyfwerth ag oddeutu £1.3 miliwn i ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal â hynny, nodwyd mai dyraniadau cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, a fyddai'n trosglwyddo o Fae'r Gorllewin i Gwm Taf fyddai £1.5 miliwn ar gyfer 2019/20 ac £1.8 miliwn ar gyfer 2020/21.

 

Roedd rhan nesaf yr adroddiad yn amlinellu'r Gwasanaethau o fewn y Cwmpas, ac roedd y rhain wedi'u dangos ym mharagraff 4.21, ac roedd dyfyniad (ar ffurf tabl) o'r atodlen yn dangos y gwasanaethau y cyfeiriwyd atynt yno ym mharagraff 4.22 (yr adroddiad).

 

Roedd paragraffau 4.23 i 4.29 yr adroddiad wedyn yn rhoi disgrifiad manylach o'r Trefniadau Partneriaeth Rhanbarthol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cysgodol wedi cael ei sefydlu, ac o fis Ebrill 2019 ymlaen, byddai CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn aelod o'r Bwrdd llawn.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedyn ati i ddisgrifio rolau cyrff cefnogol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Bwrdd Iechyd Cwm Taf, yr oedd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn Aelod cysylltiol.

 

Wedyn i gloi, esboniodd oblygiadau ariannol yr adroddiad wrth y Cyngor, lle'r oedd mân ddiwygiad i gynnwys yr adroddiad, sef bod £180,000 o gyllid wedi'i sicrhau i ariannu'r ffrydiau gwaith trosiannol ar gyfer 2018/19, a oedd yn cynnwys £100,000 gan Lywodraeth Cymru ac £80,000 gan yr holl Fyrddau Iechyd gyda'i gilydd.

 

Yna cyflwynodd Allison Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Iechyd Cwm Taf, ynghyd â Maria Thomas yr Is-gadeirydd. Rhoddodd y Prif Weithredwr y newyddion diweddaraf o safbwynt y Bwrdd Iechyd ac ar ôl hynny atebodd gwestiynau'r Aelodau ochr yn ochr â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. 

 

PENDERFYNWYD:                         Y dylai'r Cyngor nodi'r ymagwedd a'r cynnydd a wnaed hyd yma yn gysylltiedig â newid ffin y Byrddau Iechyd.

Dogfennau ategol: