Decision details

Appointment to the Standards Committee

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonnau

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Bu'r Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio yn cynghori'r Pwyllgor am faint ac aelodaeth Pwyllgor Safonau'r Cyngor a’r cynigion i benodi Aelod Annibynnol (cyfetholedig) i'r Pwyllgor. Eglurodd mai dim ond pan fyddai o leiaf dri Aelod, gan gynnwys y Cadeirydd, yn bresennol y byddai cworwm mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Safonau; ac roedd o leiaf hanner yr Aelodau oedd yn bresennol (gan gynnwys y Cadeirydd) yn Aelodau Annibynnol. Roedd hyn yn rhoi baich rhy drwm ar yr Aelodau Annibynnol, a'r pwyllgor mewn perygl o beidio â chael niferoedd digonol neu ofynnol (cworwm) ar gyfer cyfarfodydd. Ar 20 Gorffennaf 2022, cymeradwyodd y Cyngor y dylid cynyddu aelodaeth y Pwyllgor i wyth Aelod a phenodi Aelod Annibynnol ychwanegol (wedi’i gyfethol) i'r Pwyllgor. Cynigiwyd bod y Swyddog Monitro yn mynd drwy'r broses arferol o hysbysebu'r lle gwag mewn dau bapur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal a bod Panel (sy'n cynnwys dim mwy na phum Aelod ac o leiaf un Aelod Annibynnol ac un Aelod o'r Cyngor Tref a Chymuned) yn ymgynnull i ystyried ceisiadau a chynnal cyfweliadau. Yn dilyn cyfweliadau, byddai'r Panel yn gwneud argymhelliad ar y penodiad i'r Cyngor.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth ynghylch y newidiadau diweddar mewn perthynas â'r terfyn amser o 12 mis, y sefyllfa yngl?n â Chynghorwyr Tref a Chymuned a phe byddai un yn cael ei benodi'n Aelod Annibynnol, a fyddai’n bosibl ei benodi am dymor olynol. Cytunodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio i roi rhai canllawiau at ei gilydd i’w dosbarthu cyn hysbysebu'r lle gwag. Pan fyddai'n cael ei hysbysebu, byddai fel arfer yn cael ei anfon at Gynghorau Tref a Chymuned i'w ddosbarthu drwy eu rhwydweithiau.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y pwyllgor wedi nodi'r adroddiad. Cytunodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio i ddosbarthu canllawiau wedi'u diweddaru mewn perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned a Thelerau Swydd.    

Dyddiad cyhoeddi: 23/08/2023

Dyddiad y penderfyniad: 30/09/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/09/2022 - Pwyllgor Safonnau

Dogfennau Cefnogol: