Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonnau
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio Lythyr Blynyddol yr Ombwdsmon ar gyfer 2021-2022. Esboniodd fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) yn annibynnol o holl gyrff y llywodraeth a bod gan y corff bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru. Mae’n ymchwilio i gwynion bod Aelodau cyrff llywodraeth leol wedi torri Cod Ymddygiad eu hawdurdod hefyd. Mae’r PSOW yn adrodd yn flynyddol ar nifer y cwynion yn erbyn cyrff cyhoeddus sy’n cael eu derbyn gan ei swyddfa.
Adroddodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio nifer y cwynion yn erbyn yr Awdurdod, sut roedd hyn o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a chanlyniad y cwynion.
Mynegodd aelod bryder am nifer y cwynion Cynghorau Tref a Chymuned ac yn arbennig y ffaith nad oedd unrhyw sylwedd gan un o'r 21. Roedd yn pryderu bod y broses gwynion yn cael ei "arfogi". Cyfeiriodd at Gynghorydd a fu'n destun nifer o gwynion dros rai blynyddoedd nad oedd wedi mynd ymhellach ond a oedd wedi achosi gofid mawr i'r Cynghorydd hwnnw. Gofynnodd i'r pwynt hwnnw gael ei nodi a'i fod yn gobeithio bod cyd-Gynghorwyr yn cydnabod y broblem ac o bosib, o dan y dyletswyddau newydd y gallai Arweinwyr Grwpiau fynd i'r afael â'r mater hwn.
PENDERFYNWYD: Nododd y Pwyllgor y Llythyr Blynyddol a oedd ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 23/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 30/09/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/09/2022 - Pwyllgor Safonnau
Dogfennau Cefnogol: