Decision details

Planning Update - 20 Minute Neighbourhoods

Statws: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Reolwr y Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, er mwyn rhoi gwybodaeth am y cysyniad o gymdogaethau 20 munud, sydd wedi'i ymgorffori yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd.

 

Dywedodd fod y cymdogaethau 20 munud wedi'u cynllunio i ganiatáu i bobl gael mynediad at gyfleusterau fel ysgolion, siopau, gofod hamdden, cyfleusterau iechyd, yn gyffredinol o fewn taith gerdded neu feicio 20 munud o'u cartrefi. Dywedodd fod y cysyniad wedi hen ennill ei blwyf ym maes cynllunio trefol a'i fod yn cael ei ystyried yn elfen allweddol o'r hyn a ddisgrifir fel enghraifft o greu lleoedd da ac amgylcheddau da.

 

Ychwanegodd nad yw'n syniad newydd. Yn hanesyddol, gwelwyd bod mwy o symudedd personol yng nghanol yr ugeinfed ganrif, lle roedd cymdogaethau traddodiadol yn y DU yn darparu ystod o wasanaethau lleol a oedd yn hawdd eu cyrraedd ar droed.

Hyd yn oed gyda’r ehangu mawr mewn tai cymdeithasol ar ôl y rhyfel, roedd siopau, ysgolion, cyfleusterau iechyd, ardaloedd hamdden, mannau agored i gyd wedi'u hymgorffori yng ngwead y datblygiadau hyn.

 

Aeth ymlaen i ddweud mai'r gwahaniaeth oedd yn rhan ola'r ugeinfed ganrif, dechrau'r unfed ganrif ar hugain, roedd tai yn cael eu datblygu o amgylch seilwaith ffyrdd cynyddol oedd yn rhoi blaenoriaeth i gerbydau modur, a hynny ar draul opsiynau teithio di-gar yn aml iawn.

Mewn enghreifftiau eraill, nid o reidrwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd ystadau tai cyfan yn cynnwys cyfleusterau newydd ar y safle a oedd ond yn ddiogel i'w cyrraedd â char. Gwnaed datblygiadau o'r fath yn unol â'r polisïau cynllunio neu'r polisïau cynllunio dadreoleiddio dros y cyfnod.

 

Nod polisi Cynllunio Cenedlaethol yw newid y dull a fu yn gyffredin dros yr 20 mlynedd diwethaf drwy roi mwy o bwyslais ar flaenoriaethu teithio llesol ac opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus dros geir. Rhan o hyn yw'r cysyniad o'r gymdogaeth 20 munud.

 

Mae yna ymwybyddiaeth sylweddol o newid hinsawdd hefyd a gwir angen i leihau'r ddibyniaeth ar ddulliau trafnidiaeth sy'n seiliedig ar garbon. Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi datgan argyfwng hinsawdd.

Cafodd y pandemig effaith gymdeithasol ddwys ar amgylcheddau pobl ac roedd y cyfnodau clo yn gyfle i archwilio'r berthynas â'r amgylchedd lleol a'r angen am amwynder a mannau agored mwy lleol.

 

Dywedodd fod ansawdd yr ardal yn rhan sylfaenol o greu lleoedd o ansawdd da.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd yr ardaloedd wrth ymyl neu'n agos at aneddiadau sefydledig gan fod hyn yn caniatáu mynediad hawdd i gyfleusterau presennol trwy deithio llesol.

 

Hefyd, o fewn y datblygiadau newydd hyn, dylid darparu cyfleusterau gan gynnwys ysgolion cynradd, mannau agored, seilwaith gwyrdd gan eu bod yn rhan o agwedd bwysig unrhyw ddatblygiad newydd a bydd y cyfleusterau hyn yn cael eu hyrwyddo a'u rheoli drwy'r broses cynllunio datblygu lleol.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p na ddylid trin y cysyniad fel yr ateb i bob problem ac nad oedd wedi'i gynllunio i atal pob siwrnai car. Dywedodd y byddai'n cymryd amser ac yn gorfod cael ei ategu gan seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd da. Byddai'r Cysyniad yn dal i ofyn i'r cyhoedd deithio i gyrraedd y gwaith.

 

Dywedodd fod y llywodraeth yn gweithio tuag at adeiladu'n well a symud i ffwrdd o ddibyniaeth ar geir ar gyfer teithiau lleol byr a thrwy hynny leihau'r angen i deithio lle nad oedd yn gwbl angenrheidiol. Pwysleisiodd nad mater o gloi pobl yn eu hardaloedd neu gyfyngu ar eu symudiadau oedd hyn ond mwy am wella ansawdd eu hamgylchedd.

 

Holodd aelod beth mae'r Cyngor yn ei wneud i gynorthwyo Cynghorau Cymuned a mynd i'r afael â sibrydion sy'n achosi ofn ac amheuaeth, a ledaenwyd trwy daflenni.

 

Ymatebodd Rheolwr y Gr?p, y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, er nad oedd yn ymwybodol ei hun o'r taflenni hyn yn cael eu dosbarthu gan sefydliadau gwahanol yn y fwrdeistref, ei fod yn obeithiol y byddai'r cyflwyniad o fewn y fforwm yn cywiro camsyniadau o'r cysyniad. Gwahoddodd gynghorau cymuned unigol i gyfeirio unrhyw ymholiadau/pryderon i'r adran Gynllunio.

 

Sicrhaodd y fforwm nad oedd bwriad cyflwyno'r cysyniad yn y fwrdeistref yn ei gyfanrwydd ond bod datblygiadau newydd yn cael eu cyflwyno a'u bod yn mynd i gael eu hadeiladu yn unol â'r polisïau cynllunio Cenedlaethol newydd a pholisïau'r cynllun datblygu, gyda'r bwriad o leihau'r angen am deithio oni bai bod angen.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd fod neges wedi'i hanfon allan mewn ymateb i'r sibrydion a achoswyd.

 

Roedd gan aelod arall gwestiwn dwy ran:

 

·         Faint o fewnbwn a dderbyniwyd gan y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â'r cysyniad 

·         O ran tai fforddiadwy, a fyddai pobl yn gallu fforddio prynu cartref o fewn cymdogaeth 20 munud.

 

Ymatebodd Rheolwr y Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu mai un o'r egwyddorion sylfaenol wrth baratoi cynllun hirdymor yw bod ymgysylltiad sylweddol ag asiantaethau allanol. Roedd y Bwrdd Iechyd yn un o'r ymgyngoreion allweddol ac roeddent yn gwbl wybodus ac yn rhan lawn o'r broses.

 

Dywedodd fod cefnogaeth eang ar gyfer mwy o deithio llesol fel budd iechyd ar raddfa genedlaethol ehangach.

Dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi na fyddai'r Cysyniad yn berthnasol i bawb. Fodd bynnag, roedd manteision iechyd yn gysylltiedig â mwy o deithio llesol a gellir gweithredu nod y safleoedd preswyl newydd a'r safleoedd strategol newydd drwy'r seilwaith hwnnw fel bod gan breswylwyr ddewis. Roedd y safleoedd newydd ar gyrion aneddiadau ac felly nid mor bell â hynny o ganol trefi. Os a phan fo'r angen, byddai gan breswylwyr fynediad at hybiau trafnidiaeth gyhoeddus a chyflogaeth yng nghanol y trefi hynny neu yn yr ardaloedd cyfagos trwy ddefnyddio dulliau teithio llesol.

 

Mewn perthynas â'r cwestiwn ar dai fforddiadwy o fewn y cymdogaethau 20 munud, ymatebodd Rheolwr y Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu nad oedd yn rhan uniongyrchol o'r egwyddor cymdogaeth 20 munud. Roedd tai mewn termau cynllunio, yn benodol tai fforddiadwy yng nghyd-destun cynllunio, yn cael eu rheoli drwy'r system cynllunio defnydd tir.

Awgrymodd y gallai fod yn gymysgedd o eiddo rhentu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSL), a chynlluniau prynu â chymorth.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu na allai Cynllunio reoli prisiau tai, maent yn darparu'r seilwaith, h.y. y tir a'r mecanweithiau i sicrhau graddau t? fforddiadwy. Dywedodd mai rôl y system gynllunio oedd dyrannu'r safleoedd, ac o fewn hynny, gallai ddyrannu canran o'r eiddo hynny i fod yn RSL neu'n rhai prynu â chymorth. Dywedodd fod y rheolaethau a grybwyllwyd y tu allan i'r maes Cynllunio ac yn rhan o gylch gwaith y tîm tai sy'n gweithio gyda'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

 

Gofynnodd yr un aelod, mewn perthynas ag ymateb Rheolwr y Gr?p, faint o fewnbwn a dderbyniwyd gan y Bwrdd Iechyd, gan gyfeirio at enghreifftiau i ategu ei chwestiwn.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod y bwrdd Iechyd yn ymgyngoreion a'u bod yn cyfrannu at y cynllun datblygu. Er y gallai Cynllunio ddarparu'r dynodiadau a safleoedd defnydd tir, dywedodd mai mater i'r bwrdd iechyd oedd sut roeddent yn dymuno gweithredu.

 

Diolchodd aelod i'r Arweinydd am fynd i'r afael â'r mater o ledaenu gwybodaeth ffug ar y cyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â'r cysyniad o'r cymdogaethau 20 munud.

 

Canmolodd y cysyniad a dywedodd ei fod yn chwilio am sicrwydd y byddai'r hyn sy'n cael ei gyflawni ar y diwedd yn cyd-fynd â phwrpas y cysyniad. Aeth ymlaen i ddyfynnu enghreifftiau a holi :

 

·         A fydd hi’n bosibl dwyn Datblygwyr Eiddo i gyfrif pan nad yw rhannau hanfodol o gynlluniau datblygu yn cael eu darparu yn ymarferol.

 

·         Sut roedd y Cyngor yn mynd i ddefnyddio'r cyfle hwnnw i uwchraddio cymunedau presennol.

 

Ymatebodd Rheolwr y Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod heriau o ran dal Datblygwyr Eiddo yn atebol, fodd bynnag, roeddent yn dysgu sut i ddatblygu safleoedd mwy ac roedd polisïau cynllunio cenedlaethol gwell i helpu i sicrhau hynny. Yn ogystal â hyn, roedd yr adran yn archwilio cytundebau Adran 106 llymach. Soniodd fod tir wedi bod ar gael yn hanesyddol, ar gyfer cyfleusterau iechyd, ond nid oedd gweithwyr iechyd proffesiynol fel meddygon a deintyddion wedi dod ymlaen i ddarparu eu gwasanaethau ac roedd yr awdurdod lleol yn ddibynnol ar Fyrddau Iechyd a Byrddau Datblygu eraill o safbwynt uwchraddio cyfleusterau.

 

Cyfeiriodd aelod at enghraifft o ardal o fewn ei fwrdeistref a gofynnodd sut y byddai'r awdurdod yn gwarantu diogelwch y llwybrau teithio llesol trwy sicrhau bod coed ac ardaloedd parciau mewn tir heb ei fabwysiadu yn cael eu cynnal.

 

Ymatebodd Rheolwr y Gr?p, y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu gan ddweud ei fod yn deall y pryderon a godwyd a dim ond ar agweddau sy'n ymwneud â'i faes gwasanaeth y llwyddodd i wneud sylw ac na fyddai'n gallu cynghori ar feysydd a phrosesau gwasanaeth eraill.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol fod modd cymryd enghreifftiau yn ymwneud â meysydd penodol oddi ar-lein a'u trafod. Eglurodd unwaith y bydd ardal wedi mynd drwy'r broses fabwysiadu a'r datblygwr wedi bodloni'r gofynion, bod ardal y gwasanaeth yn cymryd drosodd y gwaith o gynnal llwybrau.

 

Gofynnodd aelod am y posibilrwydd o gymhorthdal teithio ar fysiau.

 

Ymatebodd Rheolwr y Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, er y gellir defnyddio Adran 106 yn ddamcaniaethol i sybsideiddio teithio ar fysiau dan y Cynllun Datblygu Lleol presennol, nid oedd hyn wedi'i godi o'r blaen. Yr drefn arferol fyddai defnyddio Adran 106 tuag at welliannau seilwaith y Priffyrdd, darparu addysg, darparu cartrefi fforddiadwy.

 

Gofynnodd aelod beth oedd wedi'i wneud i wella'r gwasanaethau bws yn unol â threfi 20 munud a'r cysyniad o deithio llesol.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p, Cynllunio a Datblygu fod gwasanaethau bysiau yn fater cenedlaethol yn hytrach na mater asiantaeth-benodol. Gall yr awdurdod adeiladu ar y sail y bydd yna wasanaethau bysiau felly bydd gan bob un o'r safleoedd newydd seilwaith bysiau. Dywedodd hefyd er eu bod nhw'n gallu darparu'r seilwaith, nad oedd gan yr Awdurdod unrhyw reolaeth dros sut mae bysiau'n cael eu hariannu a sut mae gwasanaethau'n gweithredu.

 

Mynegodd un aelod bryderon am lwybrau teithio llesol a gofyn pa ystyriaeth oedd i'r rhai llai symudol a fyddai'n wynebu heriau i fynd ar hyd llwybrau dynodedig.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol a'r Cadeirydd eu sicrwydd bod y rhaglen teithio llesol gwerth miliynau o bunnoedd yn cael ei hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ac yn cynnwys gofyniad allweddol, e.e. gostwng cyrbau a mesurau eraill sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio. Nid yw'r llwybr yn cael ei ddatblygu ar ei ben ei hun ac mae angen iddo fod yn rhan o rwydwaith, gan y byddent yn gostus ac yn gyfyngedig i'w gweithredu.

 

Gofynnodd aelod a fyddai'r Cyngor yn dadansoddi potensial rhwydwaith o lonydd gwledig un-trac sydd eisoes ar waith. Gan fod y lonydd mewn bodolaeth ers cannoedd o flynyddoedd lawer, gellir eu cynnwys yn y rhwydwaith teithio llesol heb fawr ddim buddsoddiad ychwanegol, os oes angen, pe baent yn cael eu cyflwyno dan y rhaglen lonydd tawel

 

Ymatebodd Rheolwr y Gr?p, Cynllunio a Datblygu nad oedd y cysyniad yn cael ei hyrwyddo'n eang drwy Gymru ac nad oedd yn credu ei fod wedi symud ymlaen i gam polisi cynllunio cenedlaethol. Soniodd na ddylid ei gymryd yn ganiataol bod llwybr bob amser yn addas gan eu bod yn ddibynnol ar arwahanu. Os oedd angen datblygu lonydd tawel ar gyfer teithio llesol a bod angen cyllid, yna roedd disgwyl i'r llwybrau gael eu ehangu i ganiatáu traffig a chynnydd. Ar ôl ehangu llwybrau maen nhw'n dod yn debycach i briffordd na lôn. Dywedodd fod materion fel tirfeddiannaeth a draenio yn dod gyda hynny.

 

Dywedodd fod y cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallai'r Awdurdod ei wneud mewn gwirionedd ond sicrhaodd yr aelod nad oedd hynny'n golygu nad oedd yn bosibl yn y dyfodol ac y gellid ei drin fel dewis arall.

 

Tynnodd aelod sylw'r pwyllgor at dudalen 39 o'r adroddiad mewn perthynas â chysylltiadau trafnidiaeth da a dyfynnu enghraifft o'r tir i'r dwyrain o Ben-coed, lle'r oedd yn ymddangos bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn anghyson. Holodd pa gynlluniau oedd ar waith i ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i'r trigolion hynny mewn cymuned sy’n byw mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd.

 

Ymatebodd Rheolwr y Gr?p, Cynllunio a Datblygu y bydd y safleoedd newydd yn cynnwys seilwaith fel safleoedd bysiau. Fodd bynnag, roedd mater ehangach darpariaethau trafnidiaeth gyhoeddus y tu allan i gylch gwaith yr awdurdod a'r cynllun datblygu.

 

Gofynnodd aelod, mewn perthynas â'r cyfeiriad blaenorol at ddefnydd a chynllunio Tir, am y lleoedd disgyblion ychwanegol a ddyfarnwyd gan Ysgol Gynradd Pen-coed gan y bydd 60 o leoedd newydd yn arwain at dagfeydd o amgylch ardal yr ysgol. Holodd yr Aelod a fyddai strydoedd ysgol yn cael eu gweithredu i helpu plant i gael mynediad i'r ysgol yn ddiogel, hyrwyddo teithio llesol a lleihau llygredd.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol ei fod yn gweld agweddau cadarnhaol y cysyniad, fodd bynnag, roedd yna lefydd lle na fyddai'n gweithio yn ymarferol. Er enghraifft, pe bai'r ysgol ar brif ffordd, gan arwain at draffig a achosir gan bobl yn mynd a dod i'r gwaith, ni fyddai'r cynllun yn addas. Mae ysgolion yn y fwrdeistref lle gallai fod yn addas. Byddai angen cymharu budd cysyniad stryd ysgol yn erbyn y buddsoddiad sydd ei angen i weithredu cynllun o'r fath.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor Tref a Chymuned yn nodi'r adroddiad.

                                      

 

Dyddiad cyhoeddi: 13/09/2023

Dyddiad y penderfyniad: 29/08/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/08/2023 - Fforwm Cyngor Tref a Chymuned

Dogfennau Cefnogol: