Decision details

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 a 2022-23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor

Statws: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23, a oedd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2019-23, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2019-20 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018-19 i 2028-29. 

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi cael ei harwain yn sylweddol gan flaenoriaethau’r Cyngor, ac er y bu gostyngiadau o flwyddyn i flwyddyn, bod Cyllid Allanol Cyfanredol (AEF) wedi golygu bod angen cwtogi’r gyllideb yn sylweddol iawn ar draws meysydd gwasanaeth.  Mae’r Cyngor yn parhau i gyflawni swyddogaeth arwyddocaol iawn yn yr economi leol; mae’n gyfrifol am wariant gros blynyddol o oddeutu £400 miliwn, ac ef yw’r cyflogwr mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cyngor fod y Cynllun Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo ochr yn ochr â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-23.  Mae’r ddwy ddogfen yn cyd-fynd â’i gilydd, sy’n golygu bod modd gwneud cysylltiadau penodol rhwng blaenoriaethau’r Cyngor a’r adnoddau a fwriadwyd i’w cefnogi. 

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn amlinellu’r egwyddorion a’r tybiaethau manwl sy’n sbarduno cyllideb a phenderfyniadau gwario’r Cyngor, a’r cyd-destun ariannol y mae’r Cyngor yn gweithredu ynddo, ac yn lliniaru unrhyw risgiau a phwysau ariannol wrth symud ymlaen, ar yr un pryd â manteisio ar unrhyw gyfleoedd a allai godi. 

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro Drosolwg Ariannol Corfforaethol i’r Cabinet a dywedodd y bydd cyllideb gros y Cyngor oddeutu £420 miliwn ac mai’r gyllideb refeniw net a gynlluniwyd ar gyfer 2019-20 yw £270.809 miliwn.  Amlinellodd y Cyd-destun Ariannol Strategol a dywedodd wrth y Cyngor fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi’i gosod yng nghyd-destun cynlluniau gwariant economaidd a chyhoeddus y DU, a blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.  Yn dilyn cyhoeddi’r setliad llywodraeth leol dros dro ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £550 miliwn ychwanegol yn ystod y tair blynedd nesaf, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu penderfynu sut i wario’r dyraniad hwn.  Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd becyn o gynigion cyllido ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol, a fyddai’n cael eu cynnwys yn y gyllideb derfynol.  Derbyniodd y Cyngor ei setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2018, a oedd yn golygu gostyngiad 0.1% mewn Cyllid Allanol Cyfanredol, neu £258,000, i’r Cyngor hwn.  Gwrthbwyswyd hyn gan gyfrifoldebau newydd, ac amcangyfrifwyd mai’r gwir effaith i’r Cyngor fyddai gostyngiad o £1.182 miliwn neu -0.61% o gymharu â 2018-19, ac mai’r gwir sefyllfa i’r Cyngor hwn fyddai gostyngiad o -1.07% neu £2.07 miliwn. 

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod Cyllideb Refeniw derfynol 2019-20 yn cynnwys cynnydd 5.4% yn y Dreth Gyngor yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a adroddwyd i’r Cabinet ym mis Tachwedd 2018, yr ystyriwyd ei fod yn angenrheidiol i ariannu’r pwysau sylweddol sy’n wynebu’r Cyngor, yn enwedig pwysau sylweddol o ran cyflogau, prisiau a phensiynau. 

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro ar gymhariaeth rhwng y gyllideb a’r alldro rhagamcanol ar 31 Rhagfyr 2018, gan ddweud mai’r sefyllfa ragamcanol gyffredinol oedd tanwariant o £5.312 miliwn, yn cynnwys tanwariant net o £592,000 ar Gyfarwyddiaethau a thanwariant net o £6.642 miliwn ar gyllidebau corfforaethol, a wrthbwyswyd gan gronfeydd wrth gefn net newydd wedi’u clustnodi o £1.922 miliwn.  Dywedodd fod y sefyllfa hon yn well na’r disgwyl gan fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grantiau untro yn ddiweddar tuag at y costau sy’n gysylltiedig â chynnal gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, a thuag at gyflogau athrawon ar gyfer 2018-19.  Rhan Pen-y-bont ar Ogwr o’r grantiau oedd £620,528 ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a £718,701 ar gyfer cyflogau athrawon.  Heb y rhain, byddai’r tanwariant net wedi bod yn £3.973 miliwn.  Dywedodd hefyd fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael ei hadolygu’n rheolaidd a’i diwygio wrth i wybodaeth ychwanegol ddod ar gael, a bod y manylion ar gyfer blynyddoedd i ddod yn cael eu datblygu dros gyfnod y strategaeth. 

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wybod i’r Cyngor am ganlyniad yr ymgynghoriad ar y gyllideb, sef ‘Ffurfio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr 2018’, a dderbyniodd 5,288 o ryngweithiadau.  O fewn y rhain, roedd 2,677 wedi cwblhau arolwg, sef 44% yn fwy na’r llynedd.  Diolchodd hefyd i’r Panel Ymchwilio a Gwerthuso’r Gyllideb am helpu i hwyluso’r broses cynllunio’r gyllideb, a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, a arweiniodd at wneud cyfres o argymhellion gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i’w hystyried gan y Cabinet.

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y senarios cwtogi’r gyllideb, a dywedodd mai’r senario fwyaf tebygol oedd gostyngiad posibl o £35.181 miliwn yn y gyllideb net yn ystod cyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  Amlygodd hefyd y cynnydd cyfredol mewn perthynas â nodi cynigion ar gyfer cwtogi’r gyllideb.  Bydd nifer o gynigion ar gyfer 2020-21 ymlaen yn gofyn am ragor o wybodaeth a dadansoddi, ac nid ydynt wedi’u datblygu’n ddigon da i gael eu cynnwys ar hyn o bryd. 

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cyngor am y gofyniad i’r gyllideb net gyflawni ei swyddogaethau, a ariannwyd o setliad Llywodraeth Cymru ac incwm y Dreth Gyngor, a fyddai’n golygu bod angen cynnydd 5.40% yn y Dreth Gyngor.  Yn ogystal, rhoddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wybod i’r Cyngor am bwysau cyflogau, prisiau a demograffeg, a bod cynnydd amcangyfrifedig o 43% yng nghyfraddau cyfraniad y cyflogwr at bensiynau athrawon, a fyddai’n arwain at gost blwyddyn lawn o oddeutu £3.5 miliwn.  Mae chwyddiant prisiau wedi cael ei ddyrannu i gyllidebau gwasanaeth ac mae’n cynnwys cynnydd cytundebol mewn costau bwyd, darpariaeth gofal cymdeithasol ac ymrwymiadau eraill. 

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro, yn dilyn setliad gwell na’r disgwyl yn 2018-19, fod cyllidebau ysgolion wedi’u diogelu rhag y targed effeithlonrwydd blynyddol arfaethedig o 1%, o ystyried y pwysau a ragwelir ar gyllidebau’r Cyngor yn y blynyddoedd i ddod.  Fodd bynnag, yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ym mis Tachwedd 2018 yngl?n â chyllid ychwanegol, a’r setliad terfynol gwell a gafwyd, ynghyd â chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ac argymhellion y Pwyllgorau Craffu, mae cyllidebau ysgolion wedi cael eu diogelu unwaith eto rhag y gostyngiad effeithlonrwydd 1% yn 2019-20.

 

Soniodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro am y pwysau cyllidebol sy’n dod i gyfanswm o £2.191 miliwn, sef pwysau na ellir eu hosgoi a newidiadau cytundebol.  Roedd cynigion cwtogi’r gyllideb o £7.621 miliwn wedi cael eu hamlygu o gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol i gyflawni cyllideb gytbwys.  Byddai ffioedd a thaliadau’n cael eu cynyddu yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr o leiaf (ar y gyfradd gyffredinol, sef 2.1% ar hyn o bryd) plws 1%. 

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wybod i’r Cabinet am sefyllfa Cronfeydd Wrth Gefn y Cyngor, ac y byddai’r symudiad a ragwelir hyd at 31 Mawrth 2019 ar Gronfeydd Wrth Gefn wedi’u Clustnodi yn ostyngiad cyffredinol o £10.925 miliwn.  Byddai adolygiad arall yn cael ei gynnal ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol, a’r symudiad a ragwelir mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2019-20 yw £7.891 miliwn.       

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y Rhaglen Gyfalaf a’r Strategaeth Cyllido Cyfalaf ar gyfer 2018-19 i 2028-29, a ddatblygwyd yn unol ag egwyddorion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Strategaeth Gyfalaf arfaethedig, ac sy’n adlewyrchu setliad cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.  Cyllid cyfalaf o £7.665 miliwn, y darperir £3.938 miliwn ohono trwy fenthyca a gefnogir heb ei neilltuo a’r gweddill o £3.727 miliwn fel grant cyfalaf cyffredinol.  Mae hyn yn cynnwys rhan 2019-20 (£30 miliwn) o’r £100 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf cyffredinol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn y setliad dros dro.  Mae’r Cyngor eisoes wedi derbyn £2.215 miliwn fel ei ran o’r dyraniad £50 miliwn ar gyfer 2018-19.  Amlinellodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro y dyraniadau arfaethedig ar gyfer cyllid cyfalaf.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor hefyd fod y gyfradd ymyrryd ar gyfer cyllido Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion o dan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol wedi cynyddu o 75% i 80%, ac y byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyllido ysgolion Band B.        

 

Wrth gymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, dywedodd y Dirprwy Arweinydd mai cyllid yw’r hyn sy’n cadw’r sefydliad yn fyw a dywedodd fod y cynigion yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi bod yn destun ymgynghoriad ehangach nag erioed.  Dywedodd fod gofyniad i ariannu cynnydd 43% mewn cyfraniadau pensiwn athrawon, a bod yr awdurdod yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU er mwyn i’r Trysorlys ariannu’r cynnydd hwn.  Diolchodd i’r Panel Ymchwilio a Gwerthuso’r Gyllideb am ei waith ar y broses cynllunio’r gyllideb.  Dywedodd fod angen i’r Cyngor gynyddu’r Dreth Gyngor 5.4% i ariannu pwysau cyllidebol ychwanegol ac i dalu am ddiffyg £7.62 miliwn mewn cyllid.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu am wneud nifer o argymhellion yngl?n â’r gyllideb, ac i’r Panel Ymchwilio a Gwerthuso’r Gyllideb trawsbleidiol am ei ymgysylltiad amhleidiol ac adeiladol a oedd wedi helpu i ffurfio’r gyllideb.  Dywedodd y bwriedir gwario £4.5 miliwn o’r cynnydd £4.6 miliwn yn y Dreth Gyngor ar ysgolion.  Dywedodd hefyd fod pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gorfod cynyddu’r Dreth Gyngor i ariannu gwasanaethau rheng flaen. 

 

Mynegodd Aelod o’r Cyngor bryder bod £4.6 miliwn o arbedion wedi’u categoreiddio’n risg uchel neu’n risg ganolig, sef £1.9 miliwn, y mae 25% ohono’n risg uchel gyda chynlluniau nad ydynt wedi’u datblygu’n llawn, a £2.7 miliwn, y mae 35% ohono’n risg ganolig gyda chynlluniau sy’n cael eu datblygu ond y ceir amheuaeth yngl?n â’u darparu, sy’n arwain at £4.6 miliwn o arbedion, y bernir bod 60% ohonynt yn cynrychioli risg.  Dywedodd yr Aelod fod y Cyngor eisoes yn rhagweld y bydd angen £7.9 miliwn o’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol i ariannu’r Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, ac os na ddarperir yr arbedion, yr achos gwaethaf yw y bydd angen i’r Cyngor ddefnyddio £12.5 miliwn o’r cronfeydd wrth gefn, gan adael £24.2 miliwn ar ôl, sef 2 flynedd yn unig o gronfeydd wrth gefn.  Aeth yr Aelod ymlaen i ddweud y bydd y sefyllfa hon yn ei gwneud hi’n anodd ceisio dod o hyd i arbedion ychwanegol.  Fodd bynnag, yn y byd corfforaethol, ni fyddai’n dderbyniol cael cynllun lle mae 25% o arbedion yn rhai risg uchel a 35% yn rhai risg ganolig, a bod 10% sy’n risg uchel ac 20% sy’n risg ganolig yn fwy derbyniol.  Nid oedd yr Aelod o’r farn bod gan y Cyngor gyllideb gytbwys.  Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor mewn sefyllfa debyg i’r llynedd, ond ei fod yn rhagweld tanwariant eleni, yn yr un modd â’r flwyddyn flaenorol.  Dywedodd y byddai Cronfeydd Wrth Gefn Cyfalaf yn cael eu defnyddio ac nid Cronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol.  Rhoddodd wybod i’r Cyngor y byddai’r broses o gynllunio ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf yn dechrau’n syth ac y byddai camau’n cael eu cymryd i sicrhau bod risgiau’n cael eu rheoli.  Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cyngor nad oedd 25% o risgiau uchel yn sefyllfa ddelfrydol, ond y gallai’r risg mewn perthynas â MREC newid yn gyflym.  Dywedodd fod gan y Cyngor hanes da o gyflawni arbedion.      

 

Dywedodd Aelod o’r Cyngor fod y gostyngiad yn y ddarpariaeth feithrin yn cael ei ystyried trwy ostyngiadau o £817,000 yn y gyllideb yn 2020/21 a £584,000 yn 2021/22, a holodd ba bryd y bydd ymgynghoriadau’n dechrau yngl?n â hyn fel y bydd y cynigion hynny’n risg werdd ac isel yn y flwyddyn nesaf.  Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru yngl?n â pharhad addysg feithrin ac y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar addysg feithrin.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal pleidlais gofnodedig ar y cynigion a gynhwyswyd yn yr adroddiad, ond yn gyntaf, roedd angen pleidlais electronig i weld a oedd consensws o Aelodau o blaid hyn.

 

Felly, cynhaliwyd pleidlais electronig, a’i chanlyniad oedd:-

 

O blaid (pleidlais gofnodedig)                Yn erbyn               Ymatal

 

49                                                           3                         0

 

Derbyniwyd y bleidlais dros bleidlais gofnodedig ac felly fe’i cynhaliwyd, a’i chanlyniad oedd:-

 

O blaid                                      Yn erbyn             Ymatal

 

32                                             11                       10       

 

PENDERFYNIAD:   Cymeradwyodd y Cyngor Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23, gan gynnwys cyllideb refeniw 2019-20 a Rhaglen Gyfalaf 2018-19 i 2028-29, ac yn arbennig, cymeradwyodd yr elfennau penodol canlynol:

 

·       Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23;

·       Y Gofyniad Cyllideb Net o £270,808,634 yn 2019-20;

·      Treth Gyngor Band D ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o £2,470.87 ar gyfer 2019-20;

·       Cyllidebau 2019-20 fel y’u dyrannwyd yn unol â Thabl 9 ym mharagraff 3.3 y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig;

  Y Rhaglen Gyfalaf 2018-19 i 2028-29, a atodwyd i’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn Atodiad G.

Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2019

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/02/2019 - Cyngor

Dogfennau Cefnogol: