Decision details

Advocacy - Children's Services

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Fe wnaeth Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Plant geisio awdurdod i ddechrau Cytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RCT) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (Merthyr) i reoli a goruchwylio comisiynu gwasanaeth rhanbarthol Cwm Taf ar gyfer gwasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol (IPA) a gwasanaeth Ymwelwyr Annibynnol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc cymwys.

 

Adroddodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i ddarparu Gwasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc cymwys, yn enwedig Plant Mewn Gofal, Plant mewn Angen a'r Plant hynny sy'n cael eu hamddiffyn.  Nododd fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu 'Dull Cenedlaethol' tuag at Eiriolaeth Plant yn seiliedig ar gomisiynu rhanbarthol, darpariaeth Cynnig Gweithredol o ran eiriolaeth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc cymwys, ac opsiwn i gynnwys gwasanaeth Ymwelwyr Annibynnol ategol.  Er mwyn parhau i gydymffurfio, fe wnaeth Gwasanaeth Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc ei gwneud yn ofynnol i gael newid mewn comisiynu rhanbarthol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.  Nodon fod Cwm Taf ar hyn o bryd yn derbyn gwasanaeth gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol fel eu darparwr a'u bod yn ail-dendro i'r gwasanaeth hwn ddechrau o fis Ebrill 2019.  Mae'r cynnig yn cynnwys IAA rhanbarthol gyda chaffael gwasanaethau ar y cyd yn dechrau o 1af Ebrill 201 gyda RCT yn gweithredu fel y Prif Awdurdod ar gyfer yr ymarfer caffael rhanbarthol, gyda swyddogion BCBC yn ymwneud â'r broses dendro a'r panel gwerthuso.   

 

Fe wnaeth yr Arweinydd groesawu cynnwys y Gwasanaeth Ymwelwyr Annibynnol ar gyfer

plant yn yr ymarfer caffael. 

DATRYSWYD:           Fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo'r cynnig i ddechrau Cytundeb Rhyng-Awdurdod gyda RCT a Merthyr, a nodi y bydd cymeradwyaeth i ddyfarnu contract y gwasanaeth Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol ac Ymwelwyr Annibynnol yn cael ei geisio drwy Bwerau Dirprwyedig (o dan Gynllun Dirprwyo BCBC) unwaith mae'r broses caffael a gwerthuso wedi'i chwblhau.

Dyddiad cyhoeddi: 06/02/2019

Dyddiad y penderfyniad: 18/12/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/12/2018 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: