Decision details

Ysgol Egin a Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg Porthcawl

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad er mwyn:

 

           manylu ar ganlyniad y broses o arfarnu opsiynau ar gyfer darparu ysgol egin a gofal plant cyfrwng Cymraeg ar gyfer ardal Porthcawl; a

           gofyn am gymeradwyaeth i ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol egin a darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg i ardal Porthcawl ar dir ar safle Ysgol Gynradd Porthcawl.

 

Er mwyn rhoi cefndir, dywedodd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi rhyddhau £30m ledled Cymru ym mis Mawrth 2018 ar gyfer prosiectau a oedd yn ymrwymo i gefnogi a thyfu'r defnydd o'r Gymraeg ym maes addysg. Byddai'r cyllid hwn yn cynorthwyo cyflawni ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Roedd archwiliad digonolrwydd gofal plant o leoliadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi nodi bylchau yn y ddarpariaeth hanfodol hon. Yn sgil y bylchau hyn, ynghyd â diffyg gofal plant cyfrwng Cymraeg, penderfynwyd canolbwyntio cynigion Pen-y-bont ar Ogwr ar ofal cofleidiol, gofal plant a sesiynol cyfrwng Cymraeg.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Porthcawl wedi'i nodi ymhlith y pedwar lleoliad allweddol a fyddai'n elwa ar ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg. Ystyriwyd y byddai cyfleusterau o'r fath yn y lleoliadau strategol hyn yn helpu i gefnogi’r pontio o ofal plant i addysg gynradd cyfrwng Cymraeg. Gwnaethpwyd cais llwyddiannus am arian i Lywodraeth Cymru am ddarpariaeth o'r fath mewn rhai ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys Porthcawl.

 

Aeth ymlaen drwy gynghori bod gwerthusiad o opsiynau wedi canfod mai tir ar safle presennol Ysgol Gynradd Porthcawl oedd y lleoliad mwyaf addas ar gyfer ysgol egin a chyfleuster gofal plant. Er mwyn gwneud yn iawn am y tir a ddefnyddir ar gyfer y cyfleuster newydd, byddai cae pob tywydd yn cael ei ddarparu yn Ysgol Gynradd Porthcawl.

 

Mae'r ysgol egin arfaethedig yn 'ddosbarth cychwyn' gyda 30 o leoedd meithrin cyfwerth ag amser llawn, a 30 o leoedd derbyn, yn ôl y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd.

 

Y bwriad oedd gweithredu a rheoli egin-ddarpariaeth gan Ysgol y Ferch o'r Sg?r, ac y byddai disgyblion yn pontio i'r ysgol honno ym Mlwyddyn 1 i gwblhau eu haddysg gynradd; hynny yw, nes i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gael ei sefydlu ym Mhorthcawl yn rhan o fand o'r rhaglen moderneiddio ysgolion yn y dyfodol, a gymeradwyodd y Cabinet mewn egwyddor yn flaenorol.

 

Bydd gan y cyfleuster gofal plant arfaethedig le ar gyfer 16 o leoedd gofal plant amser llawn (32 rhan- amser), ynghyd â 6 lle ar gyfer darpariaeth 0 i 2 sy'n cynnig gofal llawn o adeg geni o bosib i bedair oed. Roedd hyn yn cynnwys darpariaeth ar ôl ysgol a gwyliau, i gynnig gofal cofleidiol llawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Y bwriad oedd y bydd darparwr preifat yn gweithredu'r cyfleuster hwn.

 

Nodwyd Porthcawl yn flaenorol fel lleoliad allweddol a fyddai'n elwa ar ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg. Ystyriwyd y byddai cyfleusterau o'r fath yn helpu i gefnogi’r pontio o ofal plant i addysg gynradd cyfrwng Cymraeg.

 

Ar hyn o bryd amcangyfrifwyd y bydd y ddarpariaeth newydd yn agor ym mis Ionawr 2025 os bydd y cynnig yn mynd rhagddo i'w gwblhau.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Addysg ei bod yn braf iawn bod y cynnig hynod gyffrous hwn yn parhau i gamu ymlaen. Mae presenoldeb Cymraeg cryf ym Mhorthcawl, a bydd yr ysgol egin newydd hon yn parhau i atgyfnerthu pwysigrwydd y Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol yn ei chyfanrwydd. 

 

Ychwanegodd y bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar faint o bobl ifanc sy'n astudio addysg Gymraeg yn yr ardal ac, yn hollbwysig hefyd, yn helpu i gryfhau'r cysylltiadau pontio.

 

Holodd yr Aelod Cabinet - Adfywio a fyddai lleoedd  parcio ceir ar gael yn yr ysgol, ac atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai Asesiad Trafnidiaeth Llawn yn cael ei gynnal er mwyn gweithredu’r hyn yr ystyrir ei fod yn addas i leihau effaith y datblygiad.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Cymunedau yn falch o weld y byddai cae pob tywydd yn cael ei ddarparu yn yr ysgol gan obeithio y gallai'r gymuned ehangach ddefnyddio hwn y tu allan i amser ysgol yn ogystal ag ar gyfer disgyblion yno.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, y byddai'r ysgol newydd yn targedu carbon sero net, yn unol ag agenda Carbon Niwtral y Cyngor.

 

Daeth yr Arweinydd i'r casgliad y byddai cyfleuster gofal plant yn yr ysgol hefyd, a oedd yn braf ei nodi.

 

PENDERFYNWYD:                Bod y Cabinet yn rhoi caniatâd i ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol Egin a darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ar gyfer ardal Porthcawl ar dir ar safle Ysgol Gynradd Porthcawl.

Dyddiad cyhoeddi: 23/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/12/2022 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: