Decision details

Deddf Tai (Cymru) 2014

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth adroddiad i dynnu sylw at y newidiadau a wnaed i ddeddfwriaeth digartrefedd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r categori Angen Blaenoriaeth newydd, ac i geisio cymeradwyaeth y Cabinet mewn perthynas â chymhwyso'r 'prawf bwriadoldeb' i'r categori newydd hwnnw.

 

Yn unol â deddfwriaeth, dywedodd fod Deddf Tai (Cymru) 2014 (y Ddeddf), yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i gynorthwyo'r rhai sydd dan fygythiad digartrefedd o fewn 56 diwrnod drwy gymryd pob cam rhesymol i atal/lleddfu digartrefedd. Ceir dyletswydd i atal digartrefedd o dan y Ddeddf ni waeth a oes gan yr ymgeisydd gysylltiad lleol â Phen-y-bont neu a yw'r ymgeisydd yn fwriadol ddigartref. Mae'r rhai sy'n gwneud cais digartrefedd, ond sydd heb gysylltiad lleol, yn cael cyngor a chymorth yn unig gan y Cyngor oni bai, er enghraifft, eu bod yn ffoi rhag trais/cam-drin domestig.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth, os na lwyddir i atal digartrefedd, fod dyletswydd i leddfu digartrefedd yr ymgeisydd ac i gymryd pob 'cam rhesymol' i wneud hynny.

 

Cyflwynodd y Ddeddf newidiadau hefyd o ran sut i gymhwyso'r 'prawf bwriadoldeb'. Cafodd Llywodraeth Cymru wared ar y prawf bwriadoldeb ar gyfer pob teulu â phlant hyd yn oed os canfyddir eu bod yn fwriadol ddigartref. Dywedodd fod cafeat i hyn, sef y byddai’n berthnasol dim ond os nad ydynt wedi'u canfod yn fwriadol ddigartref yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf. Amlinellwyd y diffiniad o fwriadol ddigartref ym mharagraff 3.5 o'r adroddiad.

 

Roedd paragraff 3.6 o'r adroddiad yn rhestru'r gwahanol gategorïau digartrefedd a ystyrir gan y Cyngor o dan feini prawf penodol a gwmpesir gan ddeddfwriaeth a/neu a gytunwyd gan y Cabinet mewn cyfarfod blaenorol.

 

Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth ymhellach fod y Ddeddf hefyd yn nodi 10 categori o aelwydydd oedd i'w hystyried ag angen blaenoriaeth.  Ystyrir Angen Blaenoriaeth ar gyfer darparu llety dros dro a'r ddyletswydd ddigartrefedd derfynol i sicrhau llety parhaol.

 

Ar ddechrau pandemig Covid-19, cyflwynodd Llywodraeth Cymru (LlC) ymagwedd 'Cynnwys Pawb' at ddigartrefedd, a chyfarwyddodd awdurdodau lleol nad oedd neb i fod heb lety oherwydd y gorchymyn iechyd cyhoeddus sy’n gwneud pawb ag Angen Blaenoriaeth. Felly, ataliwyd y prawf bwriadoldeb i ymateb i'r sefyllfa frys ar y pryd gan arwain at fwy o niferoedd yn cael llety dros dro mewn gwestai, llety Airbnb ac ati.

 

Er na fydd rhai aelwydydd yn cael eu hystyried yn rhan o gr?p angen blaenoriaeth, byddant yn dal i gael yr un cymorth er na fyddant yn gymwys i gael llety dros dro.

 

Gwnaethpwyd y newidiadau presennol a weithredwyd gan LlC gyda'r bwriad o adolygu'r Ddeddf gyfan yn y dyfodol ac felly cynigir bod y Cyngor yn cymhwyso'r diffiniad bwriadoldeb i'r categori newydd o aelwydydd 'Digartref ar y Stryd' tan y bydd hyn yn digwydd.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol, hyd yn oed pe bai unigolion yn ceisio bod yn fwriadol ddigartref, y byddai'r Cyngor gyda'i bartneriaid yn dal i ofalu amdanynt a cheisio eu perswadio i sicrhau rhyw fath o lety. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn hawdd, gan nad oedd rhai pobl ddigartref yn dymuno cael eu rhoi mewn llety. Cymhlethwyd y sefyllfa hon gan y ffaith bod gan rai o'r bobl hyn broblemau/anghenion iechyd cymhleth iawn.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Partneriaethau fod llety dros dro ar gael i'r rhai ar y strydoedd a chynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod gan y rhai sy'n cysgu ar y stryd rywle i fynd, yn enwedig yn y tywydd rydym bellach yn ei gael.  Cafwyd cymorth hefyd gan Dîm Ymyrraeth Cysgu Allan i'r perwyl hwn.

 

Dywedodd Aelod Cabinet - Cenedlaethau'r Dyfodol y gallai unrhyw un â phryderon ynghylch pobl sy'n cysgu ar y stryd roi gwybod am yr achosion hyn i StreetLink.

 

Cwblhaodd yr Arweinydd y ddadl ar yr eitem hon, drwy atgoffa'r rhai oedd yn bresennol nad oedd 98.7% o bobl mewn cymdeithas am wneud eu hunain yn fwriadol ddigartref.   

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Cabinet yn cymeradwyo bod y Cyngor yn cymhwyso'r 'prawf bwriadoldeb' i'r categori newydd o aelwydydd 'Digartref ar y Stryd' ac yn cyhoeddi ei fwriad i wneud hynny yn unol â chyfeiriad Llywodraeth Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 23/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/12/2022 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: