Decision details

Consultation on Community Recycling Centres

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar y posibilrwydd o gau tair Canolfan Ailgylchu Gymunedol (CRC) am un diwrnod yr wythnos ac i'r Cabinet nodi y byddai canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei adrodd i'r Cabinet maes o law. Eglurodd fod cwestiynau ar gyfer yr ymgynghoriad yn cael eu paratoi ac y byddai'r ymgynghoriad yn dechrau ym mis Ebrill ac yn para am 12 wythnos. Byddai costau'r ymgynghoriad yn cael eu talu o'r cyllidebau presennol.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet Cymunedau, fel rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth 2023, fod Cynnig i Leihau'r Gyllideb o £50,000 wedi'i gynnwys mewn perthynas â chyllideb y Gwasanaethau Gwastraff. Er mwyn cyflawni'r arbedion hyn, byddai angen cau pob Canolfan Ailgylchu Gymunedol am un diwrnod gwaith yr wythnos. Byddai'r ymgynghoriad hwn yn llywio trafodaethau gyda'r darparwr presennol o ran y diwrnodau mwyaf priodol. Ychwanegodd y byddai gweithredu yn ddiweddarach yn y flwyddyn felly byddai'n anodd cyflawni'r arbediad o £50,000 yn y flwyddyn gyntaf.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd am fanylion ynghylch lle roedd y tri safle a’r gost wrth beidio ag agor Canolfan Ailgylchu Gymunedol y Pîl oherwydd yr oedi gyda’r drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Cymunedol fod y canolfannau ailgylchu gymunedol ym Mrynmenyn, Maesteg a Llandudwg . Roedd y sefyllfa gyda Chanolfan Ailgylchu Gymunedol y Pîl yn rhwystredig. Roeddent yn mynd trwy broses hirwyntog gyda’r contractwr presennol a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gael y drwydded a oedd yn angenrheidiol i allu gweithredu ar y safle hwnnw. Roedd mân bethau technegol wedi ei atal rhag agor hyd yma, ac roedd y broses yn parhau. Nid oedd ganddo fanylion y costau wrth law ond byddai'n darparu manylion yn dilyn y cyfarfod. Yr effaith fwyaf oedd eu bod yn dal i orfod talu am rentu safle Llandudwg oherwydd nad oedd yn eiddo i'r Cyngor.

 

Cytunodd yr Arweinydd ei bod yn siomedig eu bod yn dal i aros am y drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac y byddai’n ysgrifennu eto at Gyfoeth Naturiol Cymru oherwydd ar wahân i’r drwydded, roedd y safle’n barod i’w agor. O ran yr ymgynghoriad, roedd yn bwysig i'r cyhoedd wybod na fyddai penwythnosau'n cael eu dewis oherwydd pa mor brysur yw’r Canolfannau Ailgylchu Gymunedol ar benwythnos. Y farn bresennol oedd y byddai Canolfannau Ailgylchu Gymunedol yn cau ar wahanol ddiwrnodau o'r wythnos, felly saith niwrnod yr wythnos, byddai o leiaf dau o'r Canolfannau Ailgylchu Gymunedol ar agor ac am y rhan fwyaf o'r dyddiau, byddai'r tri ar agor.

 

PENDERFYNWYD : Cymeradwyodd y Cabinet ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i gau pob Canolfan Ailgylchu Gymunedol un diwrnod yr wythnos.

Nododd y Cabinet y byddai canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei adrodd i'r Cabinet maes o law.

Dyddiad cyhoeddi: 23/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 11/04/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/04/2023 - Cabinet

Dogfennau Cefnogol: